Gallwch ddefnyddio unrhyw theori neu fodel wrth ddysgu’ch cwrs ar lein gyda Blackboard Learn, oherwydd ei fod yn agored, hyblyg ac yn canolbwyntio ar gyrhaeddiad myfyrwyr.

P'un a ydych yn newydd i hyfforddiant ar-lein neu'n newydd i Blackboard Learn, gallwch ddechrau gyda'r hanfodion ac ychwanegu ato dros amser. Dechreuwch gydag wythnos neu ddwy o ddeunyddiau ac ychwanegu rhagor yn nes ymlaen. Mae'r broses hon yn eich helpu i gael myfyrwyr i gymryd rhan wrth i chi ddatblygu a mireinio'r rhan nesaf o ddeunyddiau.

Rydym wedi llunio gwybodaeth am hanfodion creu cyrsiau ar gyfer hyfforddwyr Blackboard Learn newydd. Rydym eisiau eich helpu i adeiladu'r cwrs sylfaenol i'ch rhoi ar ben ffordd. Wrth i chi ddod yn fwy cyfforddus yn gweithio ynLearn, gallwch ychwanegu mwy at eich cyrsiau.

Efallai y bydd myfyrwyr yn poeni am gyrsiau ar-lein hefyd. Gallwch eu helpu i deimlo'n gyfforddus yn y ffyrdd canlynol:

Gall addysgu ar-lein fod yn llethol ar y dechrau, ond rydym yma i chi! Ar ôl i chi gwblhau’r camau sylfaenol hyn, bydd gennych gwrs sy'n barod ar gyfer myfyrwyr!


Dewiswch sut rydych am i’ch cwrs edrych

Y cam cyntaf yw penderfynu pa wedd cwrs y byddwch yn creu eich cwrs ynddi—y Wedd Cwrs Gwreiddiol neu’r Wedd Cwrs Ultra. Rhennir ein dogfennaeth gymorth yn ôl gwedd, felly beth am ddysgu sut i adnabod pa wedd sydd gennych!

Dod o hyd i'ch cyrsiau

Gwedd Cwrs Ultra

Yn y Wedd Cwrs Ultra, dewiswch yr arwydd plws ar dudalen Cynnwys y Cwrs lle bynnag rydych eisiau creu cynnwys. Mae holl gynnwys eich cyrsiau'n ymddangos ym mhrif ran y dudalen. Pan fyddwch yn agor darn o gynnwys, mae'n llithro allan mewn haen ar ben tudalen Cynnwys y Cwrs. Caewch yr haenau i ddychwelyd i le roeddech yn flaenorol yn eich cwrs.

Rhagor am y Wedd Cwrs Ultra

Instructor view of the Course Content page

Rhestr chwarae fideos: Dechrau arni gyda'r Wedd Cwrs Ultra

Gwedd Cwrs Gwreiddiol

Mae dewislen y cwrs yn ymddangos ar ochr chwith eich ffenestr. Rydych chi’n creu dolenni ar ddewislen y cwrs i gyflwyno adnoddau a deunyddiau i fyfyrwyr. Yr ardal ar ôl dewislen y cwrs yw’r Panel Rheoli. Gallwch gael mynediad i’r Ganolfan Raddau a’ch ystorfa ffeiliau, a dewis pa adnoddau gwrs i'w defnyddio. Mae cynnwys yn ymddangos yn y brif ffenestr ar y dde i ddewislen y cwrs.

Rhagor o wybodaeth am y Wedd Cwrs Gwreiddiol

Rhestr chwarae fideos: Dechrau arni gyda'r Wedd Cwrs Gwreiddiol


Calendr y cwrs

Mae'r calendr yn arddangos gwedd gyfun o holl ddigwyddiadau calendr eich sefydliad, cwrs, cyfundrefn, a phersonol. Gallwch edrych ar ddigwyddiadau yn ôl diwrnod, wythnos neu fis. Defnyddiwch galendr y cwrs i roi dyddiadau i fyfyrwyr ar gyfer digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.

Mae digwyddiadau calendr cwrs yn ymddangos i bob aelod o’r cwrs. Gallwch gynnwys eitemau fel profion sydd ar ddod, dyddiadau cyflwyno ar gyfer aseiniadau, neu ddarlithoedd arbennig. Mae eitemau cwrs sydd â dyddiadau cyflwyno yn ymddangos yn awtomatig yng nghalendr y cwrs. Gallwch ychwanegu eitemau nad ydynt yn cael eu graddio, megis tasgau, at galendr eich cwrs â llaw. Hyfforddwyr yn unig sy’n gallu creu digwyddiadau calendr cwrs.

Rhagor am y calendr


Ychwanegu maes llafur

Mae'ch maes llafur yn gweithredu fel eich offeryn cynllunio cwrs. Gallwch ddarparu manylion am strwythur eich cwrs, safonau cymryd rhan, a hyd yn oed yr ymddygiad ar-lein cymdeithasol rydych yn ei ddisgwyl yn eich ystafell ddosbarth rithwir. Mae'ch maes llafur yn gweithredu fel contract rhyngoch chi a'ch myfyrwyr. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y dyddiadau cyflwyno ar gyfer aseiniadau a phrofion a chysylltu'r dyddiadau hynny â chalendr y cwrs.

Rhagor am ychwanegu maes llafur


Gweld rhestr o fyfyrwyr

Mae rhestr eich cwrs yn dangos rhestr chwiliadwy o’r defnyddwyr a gofrestrwyd ar eich cwrs i chi. Yn y Ultra Wedd Cwrs, gallwch anfon negeseuon at unrhyw un sy'n gysylltiedig â'ch cwrs. Os yw eich sefydliad yn caniatáu i chi ei wneud, gallwch gofrestru defnyddwyr ar eich cwrs.

Rhagor am y rhestr


Cyfathrebu a rhyngweithio â myfyrwyr

Cyhoeddiadau

Mae cyhoeddiadau'n ffordd ddelfrydol o bostio gwybodaeth sy'n sensitif o ran amser ac sy'n hanfodol i lwyddiant cwrs. Gallwch ychwanegu cyhoeddiadau i roi gwybod i'ch myfyrwyr am y mathau hyn o weithgareddau cwrs:

  • Dyddiadau dychwelyd aseiniadau a phrosiectau
  • Newidiadau i'ch maes llafur
  • Cywiriadau neu eglurhadau deunyddiau
  • Amserlenni arholiadau

Rhagor am gyhoeddiadau

Negeseuon

Mae negeseuon cwrs yn gyfathrebiadau preifat a diogel seiliedig ar destun sy’n digwydd o fewn eich cwrs a rhwng aelodau’r cwrs. Mae'n rhaid i chi fod wedi mewngofnodi i gwrs er mwyn darllen ac anfon negeseuon cwrs. Mae negeseuon yn darparu ffordd hawdd o anfon nodiadau atgoffa, cwestiynau cyflym a rhyngweithiadau cymdeithasol yn eich cwrs.

Gall eich sefydliad ddewis peidio â chaniatáu i fyfyrwyr ateb neu greu negeseuon yn eu cyrsiau. Pan fydd y gosodiad hwn wedi’i droi ymlaen, gall myfyrwyr ond ddarllen negeseuon a anfonir atynt gan rolau eraill, megis hyfforddwyr a chynorthwywyr addysgu.

Rhagor am negeseuon

Trafodaethau

Mae trafodaethau ar-lein yn darparu rhai manteision unigryw. Gan fod myfyrwyr yn gallu cymryd amser i ystyried cyn cyhoeddi syniadau, efallai y gwelwch sgyrsiau mwy ystyrlon. Gallwch arsylwi wrth i fyfyrwyr arddangos eu dealltwriaeth o’r deunydd a chywiro gamsyniadau.

Gallwch ymestyn eich oriau swyddfa a chysylltu â myfyrwyr yn amlach yn ystod yr wythnos ac felly mae dysgu yn barhaus. Efallai byddwch hefyd yn cynnwys pwnc "Holi ac Ateb" lle gall myfyrwyr fynd os oes ganddynt broblemau. Efallai bydd myfyrwyr hefyd yn mwynhau pwnc "Cyflwyniadau" er mwyn iddynt allu dysgu mwy am eu cyd-fyfyrwyr a chi.

Rhagor am drafodaethau

Rhagor am greu cwestiynau trafodaeth effeithiol


Creu aseiniadau

Gydag aseiniadau, gallwch greu gwaith cwrs a rheoli'r graddau ac adborth ar gyfer pob myfyriwr ar wahân. Yn seiliedig ar wedd eich cwrs, gallwch greu aseiniadau mewn meysydd cynnwys, modiwlau dysgu, cynlluniau gwers, a ffolderi. Pan fyddwch yn creu aseiniad, caiff colofn raddio ei chreu'n awtomatig.

Rhagor am aseiniadau


Creu profion

Gallwch ychwanegu profion wrth ochr y cynnwys arall sydd ei angen ar fyfyrwyr wrth iddynt baratoi. Defnyddiwch brofion ar-lein yn union fel y gwnewch yn eich ystafell ddosbarth wyneb yn wyneb i fesur gwybodaeth a chynnydd myfyrwyr. Yn seiliedig ar wedd eich cwrs, gallwch ddewis opsiynau ar gyfer sgorio, adborth, delweddau, credyd ychwanegol, a sut mae cwestiynau'n cael eu dangos i fyfyrwyr.

Atgoffwch eich myfyrwyr fod angen iddynt ddefnyddio cysylltiad â gwifren pan fyddant yn sefyll profion. Mae cysylltiadau diwifr yn fwy tueddol o gael poblemau rhwydwaith.

Eisiau cael adborth gan eich myfyrwyr yn unig? Yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol, gallwch greu arolwg yn debyg i sut rydych yn creu prawf, ond nid yw arolygon yn cael eu graddio. Defnyddiwch nhw i gasglu mewnwelediad ac adborth gan eich myfyrwyr!

Rhagor am brofion ac arolygon


Ychwanegu cynnwys ychwanegol

Yn eich cyrsiau Blackboard, gallwch ychwanegu amrywiaeth o gynnwys yn ogystal â'ch profion ac aseiniadau. Gallwch ychwanegu darlithoedd ar-lein, ffeiliau amlgyfrwng a dolenni at wefannau a chyfryngau cymdeithasol.

Rhagor ynghylch y mathau o gynnwys y gallwch eu hychwanegu

Rhagor am ychwanegu ffeiliau, delweddau, fideo a sain

Gallwch ddewis cuddio neu ddangos eich cynnwys yn seiliedig ar amodau—ar union ddyddiad, tan ddyddiad penodol, neu yn ystod cyfnod wedi'i ddiffinio. Pan fyddwch yn cuddio cynnwys, gallwch greu, golygu a newid y cynnwys ac wedyn ei ryddhau pan fyddwch yn barod. Wedyn, gall myfyrwyr ryngweithio â deunyddiau'r cwrs.

Pryd gallwn i ddefnyddio amodau rhyddhau?

Enghraifft: Efallai byddwch yn dangos yr wythnos gyntaf o gynnwys yn unig ac yn cuddio'r gweddill wrth i chi weithio arno. Mae'r broses hon yn eich helpu i gael myfyrwyr i gymryd rhan wrth i chi fireinio deunyddiau'r wythnos nesaf.

Enghraifft: Rydych eisiau i fyfyrwyr symud ymlaen i'r eitem nesaf dim ond ar ôl iddynt gael B neu'n uwch.

Rhagor ynghylch rhyddhau cynnwys


Hanfodion graddio

Mae graddau'n cael eu neilltuo'n awtomatig ar gyfer profion ar-lein nad oes ganddynt unrhyw gwestiynau y mae angen eu graddio â llaw, fel cwestiynau Traethawd. Rydych yn graddio aseiniadau â llaw o'r rhyngwyneb graddio.

Rhagor am y rhyngwyneb graddio

Rhagor am neilltuo graddau

Rhagor am raddio trafodaethau


Darparu adborth

Efallai eich bod eisoes wedi gweld sut i roi adborth mewn profion ac aseiniadau, ond a oeddech yn gwybod y gallwch recordio adborth sain a fideo ar gyfer eich myfyrwyr? Gall cyrsiau ar-lein fod yn gyfleus, ond yn aml mae angen i hyfforddwyr ddod o hyd i ddulliau newydd o ennyn diddordeb eu myfyrwyr heb gael sgyrsiau wyneb yn wyneb. Os na allwch gwrdd â myfyrwyr all-lein, gallwch ddefnyddio recordiadau sain a fideo i ddarparu rhyngweithiadau mwy personol â'ch myfyrwyr.

Rhagor am adborth


Olrhain Cynnydd

Gallwch ddefnyddio olrhain cynnydd fel offeryn i fyfyrwyr gael cadw llygad ar eu cynnydd mewn cwrs. Fel hyfforddwr, gallwch droi olrhain cynnydd ymlaen ar gyfer eich cyrsiau unwaith bod y gweinyddwr wedi'i alluogi ar gyfer eich sefydliad. 

Rhagor am Olrhain Cynnydd


Adnoddau ychwanegol

Efallai byddwch yn profi heriau gwahanol wrth addysgu ar-lein o'u cymharu â'ch cyrsiau wyneb yn wyneb. Rydym wedi creu rhai adnoddau ychwanegol i chi a allai fod yn ddefnyddiol wrth i chi adeiladu'ch cynnwys ar-lein.

Camau sylfaenol ar gyfer dechrau arni

Arferion gorau rhyngweithio ar-lein

Diogelu eich hunaniaeth ar-lein

Arferion gorau cyflwyno cynnwys ar-lein

Gwneud eich cwrs Learn yn hygyrch