Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Mae'r ffrwd gweithgarwch sy'n cael ei diweddaru'n barhaus yn cofnodi'r holl weithrediadau yn eich cyrsiau.

Gallwch weld beth sy'n newydd yn eich holl gyrsiau a neidio'n syth i weithgareddau'r cwrs o'r rhestr! Nid oes angen i chi gloddio trwy'r system neu golli cyflwyniadau gan fyfyrwyr. Rydych yn gweld rhestr wedi’i blaenoriaethu sy’n berthnasol i chi.

  • Dilyn y postiadau diweddaraf ar drafodaethau a raddir wrth iddynt ddigwydd. Ni ellir gweld postiadau ar drafodaethau nad ydynt yn cael eu graddio.
  • Nodwch faint o gyflwyniadau sy'n barod i'w graddio. Gallwch gyrchu gwaith a gyflwynwyd o'r newydd o'r ffrwd hefyd. 
  • Derbyn nodiadau atgoffa am ddigwyddiadau a chyfarfodydd personol.
  • Gallwch fwynhau trosolwg o weithgareddau'r cwrs a mynediad uniongyrchol i eitemau cwrs.
  • Hidlo'ch gwedd. Defnyddiwch y ddewislen Hidlo a dewiswch Dangos y Cyfan, Aseiniadau a Phrofion neu Graddau ac Adborth.

Rydym wedi cyfuno llawer o nodweddion hysbysu i'ch helpu i ddod o hyd i'r wybodaeth a dargedir y mae ei hangen arnoch. Dros amser, bydd ein system yn mynd hyd yn oed yn glyfrach ac yn eich helpu i ddeall pa eitemau sydd fwyaf sensitif neu hollbwysig o ran amser.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa dudalen rydych yn ymweld ag yn gyntaf ar ôl i chi fewngofnodi.

Video: Activity Stream


Watch a video about the activity stream

The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.


Video: Activity Stream shows how to access the activity stream and which items appear.


Categorïau’r ffrwd gweithgarwch

Caiff eitemau'r Ffrwd gweithgarwch eu grwpio ym mhedwar categori i'w gwneud yn haws i chi sganio'r rhestr:

Pwysig: Bydd myfyrwyr yn gweld aseiniadau, profion a thrafodaethau graddedig hwyr sydd angen eu sylw ar frys. Mae’r nifer o eitemau a ddangosir yn yr adran hon yn cyfrannu at y cyfrif a ddangosir gan y Ffrwd Gweithgarwch yn y rhestr lle mae’ch enw yn ymddangos. Os byddwch yn diystyru eitem yn yr adran hon, ni fyddwch yn gallu ei weld eto hyd yn oed os ydych yn allgofnodi ac yn mewngofnodi eto. Pan fyddwch yn diystyru eitem yn y ffrwd, nid yw hyn yn effeithio ar y cynnwys gwreiddiol. Y cwbl rydych yn gwneud yw tynnu'r hysbysiad o'r ffrwd gweithgarwch.

Ar ddod: Gweld eich pum prif ddigwyddiad sy'n digwydd yn y saith niwrnod nesaf. Dewiswch Dangos Mwy am restr gyflawn. Nid yw'r adran hon yn ymddangos os nad oes gennych ddigwyddiadau sydd ar ddod.

Heddiw: Gweld popeth sy'n digwydd ac sy'n ddyledus yn y 24 awr nesaf, gan gynnwys cyhoeddiadau ar draws y sefydliad am hysbysiadau a diweddariadau brys. Os ychwanegoch gyhoeddiadau cwrs, maent yn ymddangos yma neu yn yr adran Diweddar ar gyfer myfyrwyr.

Diweddar: Os nad ydych wedi mewngofnodi am dipyn, gallwch weld eitemau ffrwd a oedd yn yr adran Heddiw yn flaenorol dros y saith niwrnod diwethaf. Mae myfyrwyr bob amser yn gweld nodiadau atgoffa am waith sy'n hwyr yn yr adran Pwysig.


Panel Gosodiadau Hysbysiadau

Ar eich tudalen Ffrwd Gweithgarwch, dewiswch yr eicon Gosodiadau Frwd i agor y panel Gosodiadau Hysbysiadau. Gallwch gyrchu'r gosodiadau hyn o'ch tudalen broffil hefyd.

Mae'r system hysbysiadau ymlaen trwy'r amser yn y profiad Ultra. Gallwch ddewis pa hysybysiadau rydych yn eu derbyn am weithgarwch ym mhob un o'ch cyrsiau Gwreiddiol ac Ultra:

Ffrwd gweithgarwch: Dewiswch ba weithgareddau sy'n ymddangos ar dudalen eich Ffrwd.

  • E-bost: Os ydych eisiau derbyn hysbysiadau e-bost, ychwanegwch gyfeiriad e-bost at eich tudalen proffil. Yna, dewiswch ba mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau derbyn hysbysiadau.
  • Negeseuon testun: Os oes gan eich sefydliad gyfrif Blackboard Connect gallwch dderbyn negeseuon testun ar eich ffôn symudol. Mae ond angen i chi ychwanegu’ch rhif ffôn at eich tudalen proffil. Wedyn dewiswch ba mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau derbyn hysbysiadau.

    Mae angen cyfrif Blackboard Connect ar eich sefydliad er mwyn defnyddio hysbysiadau neges destun. Cysylltwch â Blackboard Support os oes angen cymorth arnoch.

  • Hysbysiadau gwthio: Os ydych am dderbyn hysbysiadau gwthio, dewiswch pa mor aml ac am ba weithgareddau rydych am dderbyn hysbysiadau. Bydd negeseuon yn ymddangos ar eich dyfais symudol os ydych wedi gosod Blackboard Instructor.

Rhagor am eich tudalen proffil.

Rhagor am osod eich hysbysiadau