Llywio syml

O'r adeg y byddwch yn mewngofnodi, bydd gennych fynediad at y nodweddion craidd yn y ddewislen lle mae'ch enw yn ymddangos. Gallwch ddychwelyd i'r ddewislen yn hawdd o le bynnag ydych chi - hyd yn oed os ydych chi mewn cwrs. Bydd y ddewislen yn ymddangos o'r tu ôl i'r haenau eraill sydd gennych ar agor.

Pan rydych yn dethol unrhyw ddolen o'r ddewislen, fe welwch wedd gyffredinol ar draws pob un o'ch cyrsiau. Er enghraifft, mae Graddau yn dangos eich holl dasgau graddio wedi'u trefnu yn ôl cwrs. Nid oes angen llywio i bob cwrs i weld beth sydd yn barod ar gyfer graddio.

Y pethau y gallwch eu gwneud!

Tudalen y Sefydliad: Dod o hyd i wybodaeth am eich sefydliad.

Proffil: Dewiswch eich enw yn y rhestr a gwnewch newidiadau i'ch persona ar-lein.

Ffwrd Gweithgarwch: Gweld y gweithrediadau diweddaraf ar gyfer eich cyrsiau.

Cyrsiau: Llywio i gyrsiau blaenorol, cyfredol a'r rhai i ddod.

Mudiadau: Cael mynediad at y mudiadau rydych yn eu harwain neu rydych yn aelod ohonynt.

Calendr: Gweld digwyddiadau cwrs a dyddiadau dyledus ar gyfer pob un o'ch cyrsiau.

Negeseuon: Gweld ac anfon negeseuon ar ym mhob un o'ch cyrsiau Ultra.

Graddau: Gweld beth sydd angen graddio ar draws pob un o'ch cyrsiau.

Offer: Cael mynediad at swyddogaethau cyffredinol sydd y tu allan i'ch cyrsiau megis portffolios neu'r Casgliad o Gynnwys.