Mewngofnodi i Blackboard Learn
Efallai na fydd eich sefydliad yn caniatáu i chi newid eich gwybodaeth bersonol, cyfrinair neu osodiadau drwy Blackboard Learn. Oherwydd bod Blackboard Learn yn aml yn rhannu data gyda systemau eraill ar y campws, fel swyddfa'r cofrestrydd, efallai y bydd yn angenrheidiol i chi sicrhau bod eich gwybodaeth yr un peth ymhob man. Yn yr achos hwn, bydd gan eich sefydliad wahanol ffordd i newid eich gwybodaeth. Cysylltwch â'ch sefydliad i ddysgu mwy.
Rydw i eisiau allgofnodi.
Dewiswch Allgofnodi ar waelod y rhestr.
Os yw'ch sefydliad yn defnyddio dull cyflwyno'ch hun unwaith i ddilysu defnyddwyr yn Blackboard Learn, bydd neges ychwanegol yn ymddangos pan fyddwch yn allgofnodi. Gyda'r dull cyflwyno'ch hun unwaith, gallwch ddefnyddio nifer o raglenni ar ôl i chi fewngofnodi i un yn unig. Mae'r rhaglenni wedi'u gosod i ymddiried yn ei gilydd ac i rannu'ch dilysiad mewn un sesiwn. Er enghraifft, mae'n bosibl y bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddefnyddio'ch cyfrif Google i fewngofnodi i Learn. Os ydych eisoes wedi mewngofnodi i Google ar eich porwr cyfredol, bydd Learn yn eich mewngofnodi'n awtomatig hefyd.
Os byddwch yn allgofnodi o sesiwn cyflwyno'ch hun unwaith, bydd Blackboard Learn yn gofyn a ydych eisiau diweddu'r holl sesiynau perthnasol neu barhau. Os na fyddwch yn gwneud unrhyw beth, bydd y system yn diweddu pob sesiwn ymhen dwy funud. Os ydych eisiau parhau â'ch sesiwn, bydd angen i chi fewngofnodi eto er diogelwch.
Rwyf wedi fy nghloi allan o fy nghyfrif. Sut ydw i'n ei ddatgloi?
Er eich diogelwch, efallai bydd y system yn eich cloi allan os ydych wedi rhoi’ch enw defnyddiwr na chyfrinair yn anghywir ormod o weithiau neu os yw'r broses mewngofnodi yn cymryd rhy hir.
Efallai bydd eich sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif os ydych yn ailosod eich cyfrinair. Dewiswch Wedi Anghofio’ch Cyfrinair? neu Wedi anghofio’ch cyfrinair? a dilynwch y cyfarwyddiadau i ailosod eich cyfrinair a datgloi eich cyfrif.
Os nad yw’ch sefydliad yn caniatáu i chi ddatgloi eich cyfrif, bydd angen i chi aros nes bod y cyfnod cloi yn dod i ben neu cysylltwch â desg gymorth TG eich sefydliad i ddatgloi’ch cyfrif. Os nad ydych yn gwybod sut i gysylltu â'r ddesg gymorth, chwiliwch ar y we am enw eich sefydliad + desg gymorth, neu edrychwch ar eich tudalen mewngofnodi am ddolen gymorth neu fanylion cyswllt.
Rhybudd amser yn dod i ben
Bydd y sesiwn yn dod i ben pan fyddwch yn segur am fwy na 3 awr. Gallai hyn ddigwydd oherwydd nad yw'r porwr yn anfon data i Learn. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys pan rydych yn:
- awduro postiad Bwrdd Trafod,
- awduro cyflwyniad Aseiniad yn y golygydd testun yn Learn, neu
- creu Eitem o Gynnwys.
Bydd rhaid i chi fewngofnodi eto i barhau i ddefnyddio Learn. Os byddwch yn cadw tudalen neu'n dewis botwm, bydd y sesiwn yn adnewyddu a bydd yn weithredol am 3 awr ychwanegol.
Byddwch yn gweld rhybudd 6 munud cyn i chi gael eich allgofnodi. Caewch y rhybudd i barhau i fod yn weithredol.
Os roeddech oddi wrth eich cyfrifiadur am gyfnod hir, ni fydd modd i chi estyn eich sesiwn. Pan fyddwch yn cau'r rhybudd, byddwch yn dychwelyd i'r dudalen bresennol yn lle mynd i'r dudalen mewngofnodi. Mae hyn yn caniatáu i chi gopïo unrhyw beth rydych wedi'i awduro cyn iddo gael ei golli. Cewch eich ailgyfeirio at y dudalen mewngofnodi pan fyddwch yn clicio ar unrhyw ddolen neu fotwm ar y dudalen.