Uchafbwyntiau Terminoleg rhwng Learn Gwreiddiol a Learn Ultra

Mae gan rai o'r nodweddion rydych wedi'u defnyddio yn y wedd Gwreiddiol enwau gwahanol a gwelliannau newydd yn Ultra. Yn seiliedig ar eich adborth, rydym wedi creu canllaw i chi gael dysgu am y derminoleg newydd a manteision defnyddio Ultra.

Mae'r mathau o nodweddion ar y dudalen hon yn cynnwys:

Cynnwys

Mae'r tabl hwn yn cyfateb therminoleg yn y wedd Gwreiddiol i'r wedd Ultra, gan gynnwys yr hyn sy'n newydd rhwng y wedd Gwreiddiol ac Ultra
GwreiddiolUltraBeth sy'n Newydd?
Tudalen WagDogfen
  • Gall hyfforddwyr blannu ffeiliau a'u gosod i gael eu dangos yn fewnol a/neu ganiatáu eu lawrlwytho.
  • Gall hyfforddwyr greu dogfennau â'r golygydd cynnwys cyfoethog, uwchlwytho ffeiliau gan ddefnyddio llifoedd gwaith llusgo a gollwng, neu ddefnyddio golygydd HTML cadarn ar gyfer achosion defnyddio uwch.
  • Gall hyfforddwyr blannu integreiddiadau trydydd parti yn hawdd gan fanteisio ar LTI i wella'r profiad dysgu.
  • Gall hyfforddwyr alluogi sgyrsiau sy'n caniatáu i fyfyrwyr drafod y cynnwys.
  • Gellir galluogi Olrhain Cynnydd ar Ddogfennau er mwyn i chi allu gweld yn hawdd pa fyfyrwyr sydd wedi eu gweld.
  • Gall hyfforddwyr ddefnyddio Olrhain Cynnydd ar Ddogfennau i anfon negeseuon yn gyflym at fyfyrwyr yn seiliedig ar eu hymgysylltiad â'r cynnwys.
Ffolder CynnwysFfolder 
Dolen GwrsDolen Gwrs 
FfeiliauFfeiliau
  • Gellir ffurfweddu ffeiliau i gael eu gweld yn unig, lawrlwytho yn unig, neu weld a lawrlwytho.
  • Gellir galluogi Olrhain Cynnydd ar Ffeiliau er mwyn i chi allu gweld yn hawdd pa fyfyrwyr sydd wedi eu gweld.
  • Gall hyfforddwyr ddefnyddio Olrhain Cynnydd ar Ffeiliau i anfon negeseuon yn gyflym at fyfyrwyr yn seiliedig ar eu hymgysylltiad â'r cynnwys.
Modiwl DysguModiwl Dysgu
  • Gall myfyrwyr lywio'n hawdd i'r eitem nesaf neu'r eitem flaenorol.
  • Gall myfyrwyr weld nifer yr eitemau y mae angen iddynt eu cwblhau a'r eitemau y maent wedi'u cwblhau hyd yn hyn.
  • Gall hyfforddwyr bersonoli Modiwlau Dysgu trwy uwchlwytho neu ddewis mân-lun personol.
  • Gall hyfforddwyr orfodi dysgu dilyniannol, gan sicrhau bod myfyrwyr yn gweithio trwy eitemau yn y drefn gywir.
Cynllun GwersModiwl Dysgu

EitemDogfen
  • Gall hyfforddwyr blannu ffeiliau a'u gosod i gael eu dangos yn fewnol a/neu ganiatáu eu lawrlwytho.
  • Gall hyfforddwyr greu dogfennau â'r golygydd cynnwys cyfoethog, uwchlwytho ffeiliau gan ddefnyddio llifoedd gwaith llusgo a gollwng, neu ddefnyddio golygydd HTML cadarn ar gyfer achosion defnyddio uwch.
  • Gall hyfforddwyr blannu integreiddiadau trydydd parti yn hawdd gan fanteisio ar LTI i wella'r profiad dysgu.
  • Gall hyfforddwyr alluogi sgyrsiau sy'n caniatáu i fyfyrwyr drafod y cynnwys.
  • Gellir galluogi Olrhain Cynnydd ar Ddogfennau er mwyn i chi allu gweld yn hawdd pa fyfyrwyr sydd wedi eu gweld.
  • Gall hyfforddwyr ddefnyddio Olrhain Cynnydd ar Ddogfennau i anfon negeseuon yn gyflym at fyfyrwyr yn seiliedig ar eu hymgysylltiad â'r cynnwys.
Maes LlafurDogfen

Dolen WeDolen We 

Asesiadau

Tabl yn cymharu terminoleg ar gyfer asesiadau rhwng Learn Gwreiddiol a Learn Ultra
GwreiddiolUltraBeth sy'n Newydd?
AseiniadauAseiniadau
  • Gall hyfforddwyr labelu aseiniadau fel rhai ffurfiannol i helpu i osod disgwyliadau dysgwyr.
  • Mae gan hyfforddwyr brofiad awduro cyson wrth greu aseiniadau a phrofion.
Bwrdd TrafodTrafodaeth
  • Gall hyfforddwyr a myfyrwyr weld yn hawdd nifer yr atebion ac ymatebion y mae pob cyfranogwr wedi'u gwneud yn y drafodaeth.
  • Gall hyfforddwyr a myfyrwyr hidlo'r drafodaeth yn hawdd yn ôl cyfranogwr.
  • Gall hyfforddwyr adnabod yn hawdd pa fyfyrwyr sydd heb gymryd rhan ac anfon neges atynt.
DyddlyfrauDyddlyfrau 
Hunanasesiadau ac Asesiadau gan GyfoedionAseiniadau
  • Gall hyfforddwyr alluogi adolygiadau gan gyfoedion ar aseiniadau heb orfod defnyddio math o asesiad ar wahân.
ProfionProfion
  • Gall myfyrwyr guddio'r amserydd ar brofion i leihau tynnu sylw myfyrwyr.
  • Gall myfyrwyr weld y nifer o gwestiynau y maent wedi'u cwblhau a'r nifer o gwestiynau sy'n weddill.
  • Gall myfyrwyr hidlo cwestiynau yn ôl math neu glod ychwanegol i gefnogi eu harferion cymryd prawf.
  • Gall hyfforddwyr greu sawl tudalen i grwpio cwestiynau gyda'i gilydd. Gall y tudalennau fod wedi'u trefnu ar hap i helpu i leihau problemau o ran uniondeb academaidd.
  • Gall hyfforddwyr wirio gwreiddioldeb cyflwyniadau cwestiynau Traethawd â SafeAssign.
  • Mae gan hyfforddwyr fynediad i fath o gwestiwn Man Poeth sy'n fwy hygyrch ac yn cefnogi opsiynau amlddewis ac amlateb.

Offer

Tabl yn cymharu terminoleg ar gyfer offer yn Learn Ultra â Learn Gwreiddiol
GwreiddiolUltraBeth sy'n Newydd?
Rhyddhau AddasolAmodau Rhyddhau
  • Gall hyfforddwyr addasu amodau rhyddhau yn hawdd heb orfod gadael tudalen cynnwys y cwrs.
CyhoeddiadauCyhoeddiadau
  • Bydd myfyrwyr yn gweld ffenestr naid pan fyddant yn agor cwrs am y tro cyntaf os oes cyhoeddiad newydd.
  • Gall hyfforddwyr weld nifer y myfyrwyr sydd wedi gweld y cyhoeddiad.
  • Mae cyhoeddiadau wedi'u lleoli'n gyfleus ar frig y cwrs i wella gwelededd.
PresenoldebPresenoldeb 
CalendrCalendr 
CysylltiadauRhestr 
Casgliad o GynnwysCasgliad o Gynnwys 
Content MarketContent Market 
Rheoli DyddiadauSwp-olygu
  • Gall hyfforddwyr olygu dyddiadau yn gyflym, addasu gwelededd eitemau, neu ddileu eitemau.
  • Gall hyfforddwyr addasu eitemau heb ddyddiadau cyflwyno.
Rhestr TermauDogfen
  • Gall hyfforddwyr blannu ffeiliau a'u gosod i gael eu dangos yn fewnol a/neu ganiatáu eu lawrlwytho.
  • Gall hyfforddwyr greu dogfennau â'r golygydd cynnwys cyfoethog, uwchlwytho ffeiliau gan ddefnyddio llifoedd gwaith llusgo a gollwng, neu ddefnyddio golygydd HTML cadarn ar gyfer achosion defnyddio uwch.
  • Gall hyfforddwyr blannu integreiddiadau trydydd parti yn hawdd gan fanteisio ar LTI i wella'r profiad dysgu.
  • Gall hyfforddwyr alluogi sgyrsiau sy'n caniatáu i fyfyrwyr drafod y cynnwys.
  • Gellir galluogi Olrhain Cynnydd ar Ddogfennau er mwyn i chi allu gweld yn hawdd pa fyfyrwyr sydd wedi eu gweld.
  • Gall hyfforddwyr ddefnyddio Olrhain Cynnydd ar Ddogfennau i anfon negeseuon yn gyflym at fyfyrwyr yn seiliedig ar eu hymgysylltiad â'r cynnwys.
NodauNodau a Safonau 
NegeseuonNegeseuon
  • Bydd hyfforddwyr a myfyrwyr yn gweld dangosydd negeseuon heb eu darllen pan fyddant yn agor cwrs os oes ganddynt negeseuon heb eu darllen.
  • Gall hyfforddwyr orfodi anfon copi e-bost at dderbynyddion i sicrhau bod myfyrwyr yn gweld cyfathrebiadau pwysig.
  • Gall hyfforddwyr atal atebion i negeseuon sydd i fod i fod yn gyfathrebiad unffordd.
PortffoliosPortffolios 
Dangosfwrdd PerfformiadTab Gweithgarwch Cwrs
  • Gall hyfforddwyr osod rhybuddion yn seiliedig ar nifer y diwrnodau ers i fyfyriwr gael mynediad i'w gwrs ddiwethaf a/neu os yw ei radd yn is na chanran benodol.
  • Gall hyfforddwyr weld myfyrwyr sydd â rhybuddion yn seiliedig ar ddyddiad eu mynediad diwethaf a'u gradd gyffredinol yn y cwrs.
Cronfeydd CwestiynauBanciau Cwestiynau 
Canolfan DargadwTab Gweithgarwch Cwrs
  • Gall hyfforddwyr osod rhybuddion yn seiliedig ar nifer y diwrnodau ers i fyfyriwr gael mynediad i'w gwrs ddiwethaf a/neu os yw ei radd yn is na chanran benodol.
  • Gall hyfforddwyr weld myfyrwyr sydd â rhybuddion yn seiliedig ar ddyddiad eu mynediad diwethaf a'u gradd gyffredinol yn y cwrs.
CyfarwyddiadauCyfarwyddiadau 
SafeAssignSafeAssign
  • Gall Cwestiynau Traethawd ar Brofion bellach gael eu gwirio gan SafeAssign.
WikisDogfen Gydweithredol
  • Integreiddio â Microsoft Office a Google Docs.
  • Gall myfyrwyr ddod yn gyfarwydd â rhaglenni y byddant yn eu defnyddio mewn amgylchedd gwaith.
  • Gellir cydweithio a golygu dogfennau o fewn y cwrs.