Ynglŷn â gosodiadau hysbysiadau

Ar banel Gosodiadau Hysbysiadau eich tudalen Gweithgarwch, gallwch ddewis pa hysbysiadau rydych yn eu cael am weithgareddau yn eich cyrsiau. 

  • Ffrwd: Dewiswch ba weithgareddau sy'n ymddangos yn eich ffrwd. 
  • E-bost: Os rydych eisiau cael hysbysiadau e-bost, ychwanegwch gyfeiriad e-bost at eich tudalen proffil. Wedyn, dewiswch ba mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau cael hysbysiadau. 
  • Hysbysiadau gwthio: Os rydych eisiau cael hysbysiadau gwthio, dewiswch pa mor aml ac am ba weithgareddau rydych eisiau cael hysbysiadau. Bydd negeseuon yn ymddangos ar eich dyfais symudol os rydych wedi gosod yr ap symudol.

Dewis sut a phryd rydych yn cael hysbysiadau

Gallwch ddewis pa fathau o hysbysiadau rydych yn eu cael a sut maent yn cael eu danfon i chi. 

Ar eich tudalen Gweithgarwch, dewiswch yr eicon Gosodiadau i agor y panel Gosodiadau Hysbysiadau. Gallwch gyrchu'r gosodiadau hyn o'ch tudalen broffil hefyd.

The Settings icon on the top right of the activity page, highlighted in blue

Hysbysiadau'r ffrwd

Chi sy'n rheoli pa weithgareddau sy'n ymddangos yn eich ffrwd. Dewiswch dab Gosodiadau Hysbysiadau'r Ffrwd.

Notification Settings panel, with the Stream notifications selected

Mae hysbysiadau am ddyddiadau cyflwyno ac eitemau sy'n barod i'w graddio bob tro'n ymddangos yn eich ffrwd. 

Dewiswch ba hysbysiadau rydych yn eu cael am weithgareddau ym mhob un o'ch cyrsiau: 

  • Cynnwys newydd 
    • Ychwanegwyd asesiad 
    • Ychwanegwyd cynnwys 
  • Eitemau graddadwy newydd 
  • Graddau sydd angen eu cysoni 
  • Rhybuddion myfyrwyr 
    • Os yw data gweithgarwch ar gael, adnabod y sawl sy'n cymryd rhan neu a allai fod angen cymorth arnynt 
    • Os yw data graddau ar gael, cymharu graddau â lefelau gweithgarwch 
  • Trafodaeth newydd 
  • Gweithgarwch trafodaeth 
    • Gweithgarwch ar fy ymatebion 
    • Gweithgarwch ar ymatebion rwyf wedi'u hateb 
    • Ymatebion gan hyfforddwyr 
    • Ymatebion ar gyfer trafodaethau a ddilynir 
    • Atebion ar gyfer trafodaethau a ddilynir 
  • Digwyddiad calendr newydd 
  • Cwrs neu fudiad newydd 
  • Gweithgarwch blogiau 
    • Postiwyd cofnod blog 
    • Golygwyd cofnod blog 
    • Postiwyd sylw blog 
  • Gweithgarwch dyddlyfrau 
    • Postiwyd cofnod dyddlyfr 
    • Golygwyd cofnod dyddlyfr 
    • Postiwyd sylw dyddlyfr 
  • Gweithgarwch Wiki
    • Crëwyd tudalen Wiki 
    • Golygwyd tudalen Wiki 
    • Postiwyd sylw Wiki 

Gallwch ddewis cael pob hysbysiad neu ddim ond rhai hysbysiad o fath penodol. Cliriwch yr holl flychau os nad ydych eisiau cael e-byst am y gweithgareddau yn y rhestr.

Hysbysiadau e-bost

Dewiswch dab Gosodiadau Hysbysiadau E-bost.

Notification Settings panel, with Email notifications selected

Os nad ydych wedi ychwanegu cyfeiriad e-bost at eich tudalen Proffil, ni fyddwch yn gweld unrhyw opsiynau yn nhab Gosodiadau Hysbysiadau E-bost.

Ni fydd gweithgareddau mudiadau yn sbarduno hysbysiadau e-bost.

Dewiswch ba mor aml rydych eisiau cael e-byst ar gyfer gweithgareddau ym mhob un o'ch cyrsiau:

  • Anfon e-bost ataf ar unwaith: Derbyn hysbysiad unigol ar gyfer pob gweithgarwch dewiswch chi o'r rhestr.
  • E-bostiwch fi unwaith y diwrnod: Caiff yr holl hysbysiadau eu casglu a'u hanfon unwaith y diwrnod ar amser a bennir gan eich sefydliad.

Yn y rhestr ar gyfer yr opsiynau Anfon e-bost ataf ar unwaith , dewiswch ba hysbysiadau rydych eisiau eu cael: 

  • Gweithgarwch trafodaeth 
    • Gweithgarwch ar fy ymatebion 
    • Gweithgarwch ar ymatebion rwyf wedi'u hateb 
    • Ymatebion gan hyfforddwyr 
    • Ymatebion ar gyfer trafodaethau a ddilynir 
    • Atebion ar gyfer trafodaethau a ddilynir 
  • Eitemau graddadwy newydd 
  • Negeseuon newydd 
  • Ychwanegwyd cynnwys newydd 
  • Dyddiadau cyflwyno newydd ac ar y gweill 
  • Eitemau hwyr 
  • Cyrsiau newydd sydd ar gael

Yn y rhestr ar gyfer yr opsiynau E-bostiwch fi unwaith y diwrnod , dewiswch ba hysbysiadau rydych eisiau eu cael: 

  • Eitemau graddadwy newydd 
  • Negeseuon newydd 
  • Negeseuon trafodaeth newydd 
  • Ychwanegwyd cynnwys newydd 
  • Dyddiadau cyflwyno newydd ac ar y gweill 
  • Eitemau hwyr 
  • Cyrsiau newydd sydd ar gael 

Cliriwch yr holl flychau os nad ydych eisiau cael e-byst am y gweithgareddau yn y rhestr.

Cyrsiau a adferwyd

Pan gaiff un o becynnau'ch cwrs ei adfer, byddwch yn derbyn e-bost gyda manylion am nifer yr eitemau newydd. Dewiswch y ddolen i fynd i'ch cwrs.

Hysbysiadau neges destun

Mae hysbysiadau neges destun ar gael os yw'ch sefydliad wedi defnyddio'r Gwasanaeth Connect SMS cyn 3 Awst 2023. Os yw hyn yn wir, mae hysbysiadau neges destun yn parhau i gael eu cynnig ac mae gosodiadau hysbysiadau neges destun presennol yn parhau i fod ar waith.

Dysgu mwy am hysbysiadau neges destun

Hysbysiadau gwthio

Anfonir hysbysiadau gwthio i ddyfais symudol lle rydych wedi gosod ap symudol Blackboard. Gallwch reoli pa hysbysiadau gwthio sy’n cael eu hanfon at eich dyfais symudol yn y moddau hyn:

  • Blackboard ar y we: Mewngofnodwch i Blackboard mewn porwr gwe a llywio i’ch tudalen Gweithgarwch. Dewiswch yr eicon Gosodiadau. O'r panel Gosodiadau Hysbysiadau, dewiswch y tab Gosodiadau Hysbysiadau Gwthio.
  • Ap symudol Blackboard: Ym mhrif ddewislen yr ap, dewiswch Gosodiadau. Rheoli eich gosodiadau hysbysiadau gwthio yn seiliedig ar eich dyfais.

Dewiswch ba hysbysiadau gwthio rydych eisiau eu cael am weithgareddau yn eich cyrsiau:

  • Cynnwys a thrafodaethau newydd 
  • Ymatebion newydd mewn trafodaethau 
    • Gan yr hyfforddwr yn unig 
    • Gan bawb 

Cliriwch yr holl flychau os nad ydych eisiau cael hysbysiadau gwthio am y gweithgareddau yn y rhestr.