Mae Gosodiadau Cwrs yn caniatáu i chi addasu eich cwrs i ddiwallu eich anghenion chi ac anghenion eich myfyrwyr. Mae Gosodiadau Cwrs yn ymddangos yng nghornel dde uchaf cwrs Ultra os oes gan y defnyddiwr freintiau i weld neu reoli gosodiadau.

View of top portion of a Blackboard Ultra course titled Introduction to Technical Writing, which has a colorful course banner ranging from blue to orange. The Course Settings option at the top right of the screen is highlighted in blue.

Mae'r gosodiadau'n cynnwys:


Mynediad i Gwrs

Os oes gennych y breintiau priodol gan weinyddwr Blackboard eich sefydliad, gallwch reoli nifer o feysydd sy'n ymwneud â mynediad eich cwrs ar gyfer myfyrwyr.

Rheoli Hyd Cwrs

Mae Hyd Cwrs yn diffinio’r cyfnod y gall myfyrwyr ryngweithio â chwrs ynddo. Caniateir i fyfyrwyr gael mynediad at rai cyrsiau trwy'r amser. Mae gan gyrsiau eraill gyfyngiadau er mwyn i fyfyrwyr ddim ond cael mynediad atynt am gyfnod penodol yn unig. Mae hwn yn cael ei bennu gan y gosodiadau Hyd Cwrs
Yn ogystal â gweinyddwyr system, gallwch chi (neu unrhyw ddefnyddiwr sydd â'r breintiau cywir, fel cynorthwywyr dysgu) addasu gosodiadau hyd cwrs ar gyfer eich cyrsiau Ultra.
Dewiswch Gosodiadau Cwrs yng nghornel dde uchaf eich cwrs Ultra. Mae'r gosodiadau Hyd Cwrs yn ymddangos fel cwymplen sy'n cynnwys y gosodiadau hyn: 

  • Parhaus. Dim cyfyngiad ar fynediad.
  • Cyfyngu yn ôl dyddiadau. Nodi dyddiadau ac amseroedd dechrau neu orffen mynediad myfyrwyr neu'r ddau opsiwn.
  • Cyfyngu yn ôl nifer y diwrnodau o gofrestru. Dewiswch nifer y diwrnodau ar ôl cofrestru pan na fydd modd i fyfyriwr gael mynediad at gwrs mwyach.
  • Cyfyngu yn ôl dyddiadau dechrau a gorffen y tymor cysylltiedig. Mae'r opsiwn hwn dim ond yn ymddangos pan fo tymor wedi'i ddiffinio ar gyfer y cwrs.

Ni all myfyrwyr gael mynediad at gyrsiau wedi'u cau beth bynnag yw hyd y cwrs. Nid yw cyrsiau wedi'u cau yn ymddangos yn y Catalog Cyrsiau.

Rheoli Mynediad i Gwrs

Gallwch reoli gosodiadau cyflwr mynediad i gwrs trwy'r dudalen Gosodiadau Cwrs.

  • Cau'r Cwrs. Pan fyddwch yn dewis cau cwrs, bydd yn parhau i ymddangos yn y rhestr o gyrsiau, ond ni all myfyrwyr gael mynediad ato. Pan na ddewisir Cau Cwrs, bydd y cwrs yn agored, a gall myfyrwyr gael mynediad ato. Enw'r swyddogaeth hon yn flaenorol oedd Agored/Preifat a chafwyd hyd iddi yn y panel Manylion a Gweithrediadau.
  • Cwblhau'r Cwrs. Pan fydd y cwrs wedi'i gwblhau, gall myfyrwyr gyrchu'r cynnwys ond ni allant gymryd rhan. Ar ben hynny, ni allwch wneud unrhyw newidiadau ar ôl i'r cwrs gael ei gwblhau mwyach.

Ar frig eich cwrs, wrth ochr Gosodiadau'r Cwrs, bydd dangosydd yn dangos Agored, Wedi Cau, neu Cyflawn yn seiliedig ar gyflwr y cwrs. Mae'ch myfyrwyr hefyd yn gweld y dangosydd hwn ar frig y cwrs.

Hefyd, gall hyfforddwyr gyrchu Gosodiadau'r Cwrs o'r dudalen Cyrsiau. O'r ddewislen tri dot, gall yr hyfforddwr ddewis Gosodiadau'r Cwrs.

Courses page with menu options appearing over a course card that show an option to go to Course Settings

Nodyn i weinyddwyr

Mae'n rhaid bod gan ddefnyddwyr freintiau Rôl System neu Rôl Cwrs priodol i reoli Mynediad i Gwrs.

  • Braint i gyrchu'r panel Gosodiadau Cwrs: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Priodweddau
  • Braint i addasu Hyd Cwrs: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Priodweddau, Hyd
  • Braint i gau/agor cwrs: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Priodweddau, Argaeledd
  • Braint i farcio cwrs fel ei fod wedi'i gwblhau (gyda'r gallu i ddad-wneud y newid): Newid Statws Cwblhau (ymlaen/i ffwrdd)
  • Braint i farcio cwrs fel ei fod wedi'i gwblhau (heb y gallu i ddad-wneud y newid): Newid Statws Cwblhau Rhannol (ymlaen)

Rheoli offer cwrs

Gallwch reoli gwahanol offer gan ddefnyddio Gosodiadau Cwrs. Mae ffurfweddiad offer sefydliadol/nod yn gosod a allwch alluogi neu analluogi offeryn.

Dewiswch Gosodiadau Cwrs yng nghornel dde uchaf eich cwrs Ultra. Gallwch reoli:

  • Offeryn Rhestr. Os yw gweiynddwr eich system wedi galluogi'r opsiwn hwn, gallwch ganiatáu i fyfyrwyr weld y rhestr trwy ddewis y botwm toglo. Gallwch hefyd reoli a all myfyrwyr gyrchu gwelededd y rhestr ar dudalen y Rhestr ei hun. Os na chaniateir i hyfforddwyr ffurfweddu gosodiadau, mae'r opsiwn hwn yn ymddangos yn y modd gweld yn unig.
  • Offeryn negeseuon. Os yw gweinyddwr eich system wedi galluogi'r opsiwn hwn, gallwch reoli a yw'r offeryn Negeseuon yn weladwy yn eich cwrs. I'w wneud yn weladwy, dewiswch yr opsiwn Caniatáu negeseuon cwrs. Pan fydd wedi'i ddiffodd, anfonir negeseuon drwy e-bost yn unig. Os na chaniateir i hyfforddwyr ffurfweddu gosodiadau, mae'r opsiwn hwn yn ymddangos yn y modd gweld yn unig. 

Nodyn i weinyddwyr

Mae'n rhaid bod gan ddefnyddwyr freintiau Rôl System neu Rôl Cwrs priodol i reoli Offer Cwrs. Mae dim ond modd rheoli yr offeryn Rhestr mewn cwrs os yw'n cael ei ganiatáu gan y gosodiadau yn y Panel Gweinyddydd > Offer.

  • Braint i gyrchu'r panel Gosodiadau Cwrs: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Priodweddau
  • Braint i addasu offer cwrs: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Argaeledd Offer
  • Ar gyfer Negeseuon: Mae Negeseuon Cwrs YMLAEN fel offer Cwrs a Mudiad yn ddiofyn. Gall gweinyddwyr addasu'r gosodiadau argaeledd a Chwmpas Newid trwy ddatgloi'r botwm clo yn y gosodiad hwn. Am fwy o wybodaeth, ewch i'r dudalen Gweinyddwyr am Negeseuon

Rheoli Gwelededd Myfyrwyr

Defnyddiwch y gosodiad Gwelededd Myfyrwyr i guddio neu ddangos myfyrwyr sydd wedi datgofrestru. 

Gyda'r opsiwn hwn ymlaen, cuddir myfyrwyr o'r ardaloedd hyn yn y llyfr graddau: 

  • Tudalen Graddau 
  • Tudalen Myfyrwyr 
  • Rhestr myfyrwyr cyfrifiad 
  • Rhestr myfyrwyr eitemau graddadwy 
  • Tab Cyflwyniadau asesiad 
  • Tab Gweithgarwch Myfyriwr ar gyfer asesiad 

 

Rheoli dosbarth rhithwir

Mae gennych yr opsiwn i droi ymlaen neu ddiffodd mynediad myfyrwyr i Class Collaborate. Pan fyddwch yn ei ddiffodd, ni fydd yn ymddangos yn yr ardal Manylion a Gweithrediadau i unrhyw un yn y cwrs. Os na chaniateir i hyfforddwyr ffurfweddu gosodiadau, mae'r opsiwn hwn yn ymddangos yn y modd gweld yn unig.

Ar gyfer gweinyddwyr: Mae'r nodwedd hon ar gael ar gyfer pob cwrs Ultra. Mae'r gosodiad hwn dim ond yn ymddangos ar gyfer sefydliadau sydd ag integreiddiad Class Collaborate gweithredol yn unig. Mae'n rhaid bod gan ddefnyddiwr fynediad i banel gosodiadau'r Cwrs gyda'r fraint hon: Panel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Priodweddau a Phanel Rheoli Cwrs/Mudiad (Addasu) > Braint Argaeledd Offer ar gyfer adran yr Ystafell ddosbarth rithwir. 


Llyfr Graddau Meistrolaeth - Gosodiadau Gwelededd

Os yw gweinyddwr system wedi galluogi argaeledd y tab Meistrolaeth ar lefel y sefydliad, gall hyfforddwyr ffurfweddu argaeledd y tab Meistrolaeth ar lefel cwrs.

Mae'r gosodiad tab nodau Meistrolaeth ar gyfer hyfforddwyr yn pennu a yw'r tab Meistrolaeth ar gael i hyfforddwyr yn eu cwrs. Mae'r gosodiad tab nodau Meistrolaeth ar gyfer myfyrwyr yn pennu a yw'r tab Meistrolaeth ar gael i fyfyrwyr yn eu cwrs.

Os yw'r ffurfweddiadau ar gyfer y tab Meistrolaeth yn Gosodiadau'r Cwrs yn y modd darllen-yn-unig, mae gweinyddwr system wedi diffodd argaeledd y tab Meistrolaeth ar lefel y sefydliad.