Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Baneri Cwrs

Gall hyfforddwyr a gweinyddwyr uwchlwytho delwedd i fod yn faner y cwrs mewn cyrsiau yn Learn. Mae baner y cwrs hefyd yn ymddangos yng ngwedd grid y dudalen Cyrsiau yn llywio sylfaenol Learn.

Mae gan faneri cwrs lawer o ddefnyddiau:

  • Gwella golwg tudalennau glanio'r Wedd Cwrs Ultra
  • Darparu hunaniaeth weledol ar gyfer eich cwrs ar gyfer myfyrwyr sy'n ddysgwyr gweledol
  • Cael cysondeb rhwng yr hyn mae'r llywio sylfaenol yn ei ddangos a'r cwrs ei hun
  • Helpu eich myfyrwyr i adnabod eich cwrs a dod o hyd i fanylion y cwrs

Gall eich sefydliad ddewis cyfyngu hyfforddwyr rhag golygu baner y cwrs.

Mae'r pynciau ar y dudalen hon yn cynnwys:


Cyrchu opsiynau baneri cwrs

Mae tair ffordd o gael mynediad at banel opsiynau baneri cwrs.

1. Ym mhrif dudalen eich cwrs, ewch i Delwedd y Cwrs yn y ddewislen Manylion a Gweithrediadau.

Image of the Details & Actions sidebar with Course Image highlighted

2. Yng ngwedd grid llywio sylfaenol Learn, hofranwch dros y ddelwedd a dewiswch y tri dot sy'n ymddangos. Gallwch nawr ddewis Golygu Delwedd o'r ddewislen.

Image of the Courses page of the base navigation. The Introductions to Humanities course has the ellipse menu open and Edit is in the dropdown

3. Ym mhrif dudalen eich cwrs, dewiswch yr eicon pensil ar y faner.

Image of a course with a banner image of clouds with a blue square around the panel icon in the top right

Gosod baner ar gyfer eich cwrs

1. Dewiswch ddelwedd sy'n ddeniadol ac ystyrlon ar gyfer eich cwrs. Y maint lleiaf ar gyfer delwedd y faner yw 1200 x 240 picsel.

2. Dewiswch yr eicon delwedd ar frig panel opsiynau baneri cwrs. Gallwch nawr uwchlwytho delwedd. Cefnogir fformatau JPEG a PNG.

Os yw'ch sefydliad wedi troi'r nodwedd ymlaen, gallwch hefyd chwilio am ddelweddau stoc o Unsplash. Rhowch eiriau allweddol i chwilio catalog Unsplash.

Image of the Display Settings panel, with the window up for uploading an image

3. Mae rhagolwg o'r ddelwedd yn ymddangos. Dewiswch Nesaf i barhau. Gallwch ddewis yr eicon sbwriel os ydych eisiau canslo'r uwchlwytho.

The Insert Image window, showing a preview of a clouds

4. Rhowch y ddelwedd yn ei lle. Gallwch addasu lefel nesáu/pellhau'r ddelwedd gan ddefnyddio llithrydd a dewis a llusgo'r rhannau o'r ddelwedd a fydd yn faner y cwrs. Dewiswch Cadw i barhau.

The Insert Image window, showing a slider with a purple dot below the preview of clouds

5. Mae'r ddelwedd yn cael ei huwchlwytho i'ch cwrs. Gall gymryd ychydig eiliadau i'r ddelwedd lwytho, gan ddibynnu ar eich cysylltiad â'r rhyngrwyd.

Image of the Display Settings Panel, showing the cloudy sky course banner image above the different setting options

6. Mae baner y cwrs yn cael ei throi ymlaen yn awtomatig ar gyfer eich cwrs. Os ydych eisiau diffodd baner y cwrs, dewiswch y llithrydd Baner Cwrs i'w diffodd.

7. Mae baneri cwrs yn cael eu marcio'n awtomatig fel delweddau addurnol, sy'n cuddio'r faner rhag myfyrwyr sy'n defnyddio technolegau cynorthwyol. Os ydych eisiau i'r holl fyfyrwyr wybod cynnwys y ddelwedd, dad-ddewiswch Marcio'r ddelwedd fel un addurnol. Rhowch ddisgrifiad o'r ddelwedd yn y maes Testun amgen.

8. Dewiswch Cadw i droi baner y cwrs ymlaen ar gyfer eich cwrs.


Tynnu delwedd baner cwrs

Os ydych eisiau tynnu baner y cwrs, dewiswch y llithrydd dan Baner Cwrs yn y panel ar gyfer opsiynau baneri cwrs. Bydd y ddelwedd yn dal i fod ar gael i'w defnyddio ar gyfer eich cwrs.

Gallwch hefyd ddewis yr eicon sbwriel i dynnu'r ddelwedd. Pan fyddwch yn tynnu'r ddelwedd, bydd gosodiadau eich baner cwrs yn dychwelyd i'r rhagosodiad.


Meintiau a argymhellir

  • Nid yw delweddau â thestun yn cynyddu nac yn lleihau'n dda.
  • Ar gyfer baneri, mae'r lled gweladwy a argymhellir yn amrywio o 950 i 1200 o bicseli. Mae'r uchder gweladwy a argymhellir yn amrywio o 150 i 240 o bicseli.
  • Ar gyfer cardiau cyrsiau, mae'r uchder gweladwy a argymhellir yn 240 o bicseli bob amser. Mae'r lled gweladwy yn amrywio o 550 i 1100 o bicseli.
  • Cadwch y prif gynnwys yn y canol, ar 550 x 150 o bicseli o faner 1200 x 240 o bisceli, i sicrhau gweladwyedd. Efallai caiff unrhyw beth y tu allan i'r ardal 550 x 150 o bicseli ganolog ei docio ar wahanol feintiau sgrin ar gyfer cerdyn y cwrs neu'r faner.
  • Mae delweddau haniaethol neu ddelwedd gyda ffocws yn y canol yn gweithio'n orau fel baner, oherwydd amrywioldeb tocio.

*A ddarparwyd yn garedig gan Stephanie Richter, aelod o'n Cymuned Blackboard.