Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Wrthi’n adeiladu cwricwlwm? Nid oes angen dechrau o'r dechrau.
Mae creu cynnwys ar gyfer eich cyrsiau yn cymryd amser a chynllunio meddylgar. Os ydych yn addysgu nifer o gyrsiau sy'n defnyddio cynnwys tebyg, efallai y byddwch am gopïo eitemau cynnwys a ffolderi rhwng cyrsiau i helpu i arbed amser. Yn Golwg Cwrs Ultra, gallwch gopïo cynnwys o gyrsiau eraill rydych yn eu haddysgu, fel nad does rhaid i chi ddechrau â llech wag.
Gallwch adeiladu'ch rhestr o gynnwys yn gyflym i gopïo o gwrs arall. Gallwch ddewis copïo darnau lluosog o gynnwys ar draws eich cyrsiau, gan gynnwys yr holl gynnwys yn eich cyrsiau. Dechreuwch o'r dudalen Cynnwys y Cwrs.
Mae’r wybodaeth hon yn berthnasol i fudiadau hefyd.
Mathau o gynnwys a gefnogir
Gallwch wirio a yw'r nodweddion neu fathau o gynnwys rydych yn eu haddysgu yn: cael eu cefnogi gan declyn Trosi Cwrs, ymddangos yn y Copi Cynnwys Gronynnol neu a ydynt yn copïo wrth greu Copi Gronynnol o gyrsiau eraill rydych yn eu haddysgu:
NODWEDD NEU FATH O GYNNWYS | Yn cael eu cefnogi gan declyn Trosi Cwrs | Yn ymddangos yn y Copi Cynnwys Gronynnol U | Yn cael eu copïo wrth greu copi Cynnwys Gronynnol |
---|---|---|---|
Modiwl Dysgu | YDY | YDY | YDY |
Pecyn Cynnwys (SCORM) | YDY | YDY | YDY |
Ffolder Cynnwys | YDY | YDY | YDY |
Eitem | YDY | NAC YDY | YDY |
Ffeil | YDY | YDY | YDY |
Sain | YDY | YDY | YDY |
Delwedd | YDY | YDY | YDY |
Fideo | YDY | YDY | YDY |
Dolen We | YDY | YDY | YDY |
Profion | YDY | YDY | YDY |
Aseiniadau | YDY | YDY | YDY |
Trafodaethau | YDY | YDY | YDY |
Grwpiau | YDY | NAC YDY | NAC YDY |
Defnyddwyr | YDY | NAC YDY | NAC YDY |
Cyhoeddiadau | YDY | NAC YDY | NAC YDY |
Presenoldeb | YDY | NAC YDY | NAC YDY |
Nodau | YDY | NAC YDY | YDY |
Dyddlyfrau | YDY | YDY | YDY |
Cyfarwyddiadau | YDY | NAC YDY | YDY |
SafeAssign | YDY | NAC YDY | YDY |
Cronfeydd | YDY | NAC YDY | NAC YDY |
Llyfr Graddau | YDY | NAC YDY | YDY |
Ni chefnogir offer LTI.
Dewiswch gynnwys i’w gopïo
Gallwch gopïo'r holl gynnwys neu ddewis eitemau unigol o'r cyrsiau eraill rydych yn eu haddysgu. Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen a dewiswch Copïo Cynnwys. Neu, agorwch y ddewislen i'r dde uwchben y rhestr cynnwys. Dewiswch Copïo Cynnwys. Mae'r panel Copïo Cynnwys yn agor.
Nid yw'r opsiwn Copïo Cynnwys ar gael ar gyfer cyrsiau ym modd rhagolwg Ultra. Gallwch ond gopïo cynnwys o gyrsiau eraill yn y Wedd Cwrs Ultra.
Ni chynhwysir data presenoldeb wrth ichi gopïo cwrs i gwrs newydd neu gwrs presennol.
Rhagor am bresenoldeb a chopïo cynnwys
- Yn y panel Copïo Cynnwys, bydd pob un o'ch cyrsiau yn ymddangos yn y rhestr Eich Cyrsiau a Mudiadau. Os ydych yn addysgu nifer o gyrsiau, gallwch chwilio i ddod o hyd i gyrsiau yn ôl enw neu ID cwrs.
- Adeiladwch eich rhestr o gynnwys i’w gopïo:
- Dewiswch flwch nodi cwrs i gopïo ei holl gynnwys i’r cwrs presennol.
- Dewiswch enw cwrs i archwilio ei gynnwys a dewiswch y blychau nodi wrth ymyl y ffolderi a'r eitemau rydych am eu copïo.
- Gwneud y ddau! Gallwch gopïo'r holl gynnwys o un cwrs ac ychydig o eitemau oddi wrth un arall. Defnyddiwch yr opsiwn Copïo Cynnwys i gopïo cynnwys o fwy nag un cwrs ar y tro.
- Yn yr adran Eitemau a Ddewiswyd ar waelod y panel, dewiswch Gweld Popeth i adolygu’ch dewisiadau a chlirio'r blychau ticio nesaf at unrhyw eitemau nad ydych eisiau eu copïo.
- I fynd yn ôl i'r rhestr o gyrsiau a mudiadau, dewiswch yr X nesaf at Eitemau a Ddewiswyd yn y bar du ar frig y panel.
Mae blychau ticio yn ymddangos yn wahanol pan fyddwch yn dewis cyrsiau cyfan neu un neu fwy o eitemau mewn cwrs. Mae marc ticio yn dangos eich bod wedi dewis y cwrs cyfan i’w gopïo. Mae llinell yn dangos eich bod wedi dewis rhai darnau o gynnwys mewn cwrs. Pan fyddwch yn gweld yr eitemau mewn cwrs, dewiswch yr eicon llyfr i agor dewislen i lywio’n ôl i’r rhestr o’ch cyrsiau a mudiadau.
Barod i gopïo? Ar ôl ichi gwblhau eich detholiadau, dewiswch Copïo'r Cynnwys a Ddetholwyd ac mae'r copïo yn dechrau. Mae dangosyddion statws ar y dudalen Cynnwys y Cwrs yn dangos y cynnydd. Mae neges lwyddiant yn ymddangos pan fydd y weithred yn cwblhau. Ychwanegir y cynnwys a gopïwyd at ddiwedd y rhestr gynnwys.
Problemau ac eithriadau wrth gopïo cynnwys
Os yw'r system yn profi problemau ynghylch copïo cynnwys, mae adroddiad gwall yn ymddangos ar frig y dudalen Cynnwys y Cwrs. Dewiswch Gweld Manylioni ddysgu rhagor ynghylch pam na wnaeth y cynnwys gopïo.
Ar y panel Manylion Copïo, gallwch weld a yw'r problemau'n gysylltiedig â chysylltedd eich gweinyddwr neu'r cynnwys ei hun. Dewiswch gofnod i weld pam na chafodd yr eitem ei gopïo'n llwyddiannus.
Gosodiadau gwelededd yng nghopi’r cynnwys
Pan fyddwch yn copïo cynnwys cwrs cyfan, caiff y gosodiadau gweladwyedd eu cadw pan ychwanegir y cynnwys at y cwrs newydd. Er enghraifft, mae cynnwys cudd yn y cwrs a gopïwyd wedi'i guddio yn y cwrs y gwnaethoch ei gopïo iddo. Mae'r cynnwys wedi'i osod i Wedi’i Guddio rhag myfyrwyr os ydych yn copïo eitemau unigol i'ch cwrs.
Adolygwch bob eitem sydd wedi'i chopïo er mwyn sicrhau y gall myfyrwyr weld y cynnwys rydych am ei ddangos.