Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Gall gweinyddwyr system ddod o hyd i wybodaeth ar gyfer gosodiadau a ffurfweddu ar y dudalen Stiwdio Fideos ar gyfer Gweinyddwyr.

Mae Stiwdio Fideos yn offeryn sain/fideo i'ch helpu i greu profiad dysgu sy'n fwy atyniadol i fyfyrwyr. Mae'r datrysiad ysgafn ac integredig iawn yn rhoi'r gallu i ddefnyddwyr recordio neu uwchlwytho recordiadau sain a fideo o fewn dogfennau.

Mae angen trwydded bremiwm er mwyn defnyddio Stiwdio Fideos. I gael gwybod a oes gennych fynediad, cysylltwch â'ch gweinyddwr Blackboard. Ar y dudalen hon, dysgwch sut mae:


Defnyddio Stiwdio Fideos

Ychwanegu recordiad

Mae Stiwdio Fideos ar gael ar gyfer dogfennau uwch, i greu ffeiliau sain a fideo o gamera, recordiad sain, neu o recordiadau sgrin. Gallwch hefyd uwchlwytho ffeiliau sain a fideo. I gael gwybodaeth am greu dogfennau, ewch i'n tudalen help Creu Dogfennau.

Mewn Dogfen uwch a grëwyd, yn yr opsiynau ar gyfer Dewis math o gynnwys i ychwanegu bloc dewiswch Sain/Fideo.

Adding a content block in enhanced Document

Mewn bloc cynnwys Sain/Fideo, mae'r opsiynau'n cynnwys:

  • Camera
  • Sain
  • Sgrin
  • Sain a Sgrin
  • Uwchlwytho o ddyfais

Gallwch ddewis y ddyfais a ddefnyddir i recordio fideo a sain. Trwy ddewis opsiynau'r gwymplen ar gyfer y camera, y meicroffon, a'r sgrin, gallwch ddewis o unrhyw ddyfeisiau cysylltiedig ar eich cyfrifiadur.

Woman speaking in Video Studio recording. Device selection options highlighted.

Os rydych yn creu recordiad, dewiswch Dechrau Recordio. Mae cyfrif i lawr tair eiliad cyn i'r recordio ddechrau. Gallwch oedi, ailddechrau, ail-wneud, neu orffen y recordiad yn ôl yr angen.

Instructor getting ready to record a video

Ar ôl i chi orffen y recordiad, mae'r broses uwchlwytho yn dechrau. Yn ystod y cyfnod hwn, gallwch weld rhagolwg o'r canlyniad, golygu'r teitl ac ychwanegu disgrifiad. Dewiswch Cadw i ychwanegu'r sain neu fideo at y ddogfen.

Uploading an enhanced document video with options to edit title and description

Gallwch olygu teitl recordiad neu ffeil a uwchlwythwyd ar ôl ei gadw yn y ddogfen. Dewiswch eicon y pensil yng nghornel chwith uchaf y bloc fideo.

Woman speaking in Video Studio recording. Title field highlighted.

Ar ôl dewis eicon y pensil, bydd y fideo a uwchlwythwyd yn flaenorol yn ymddangos yn y sgrin Uwchlwytho Fideo. Gallwch olygu'ch teitl.

Woman speaking in Video Studio recording. Title field highlighted.

Rhowch gynnig arall ar uwchlwythiad fideo a fethodd

Os rydych yn uwchlwytho ffeil yn Stiwdio Fideos ac mae'r broses uwchlwytho yn methu, gallwch ddewis Rhoi cynnig arall ar uwchlwytho yng nghornel dde uchaf y sgrin neu Rhoi cynnig arall arni wrth ochr bar cynnydd Uwchlwytho.

Ar gyfer gweinyddwyr: Mae'r galluoedd fideo newydd hyn yn gofyn am drwydded ar gyfer Stiwdio Fideos. Ni fydd y fideos a grëwyd gan ddefnyddio Stiwdio Fideos yn cyfrif tuag at eich hawl storio presennol. Defnyddir y breintiau canlynol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer y datrysiad Stiwdio Fideos:

  • Cwrs/Mudiad (Meysydd Cynnwys) > Creu Deunyddiau: I greu fideos. Mae'n cynnwys pob gweithrediad fel cadw, gorffen, gwirio Statws uwchlwytho Fideo. Nid oes ei angen er mwyn chwarae fideos.
  • Cwrs/Mudiad (Meysydd Cynnwys) > Dileu Deunyddiau: I ddileu fideos.

 


Rheoli dangos capsiynau a thrawsgrifiadau

Yn y Stiwdio Fideos, gallwch chi a'ch myfyrwyr reoli dangos capsiynau a thrawsgrifio.

Mae'r Stiwdio Fideos yn gwneud recordiadau'n fwy hygyrch trwy ddangos capsiynau'n awtomatig. I gefnogi gwahanol ddewisiadau dysgwyr, gall defnyddwyr unigol droi capsiynau ymlaen neu eu diffodd.  Er enghraifft, gall myfyriwr gau'r capsiynau a gynhyrchir yn awtomatig os nad yw eisiau eu gweld. I ddiffodd capsiynau, dewiswch fotwm y capsiynau wrth ochr y bar cynnydd ar waelod y fideo.

Woman speaking in Video Studio recording. Captions appear and the captions control button in the bottom panel of video is highlighted.

Mae'r Stiwdio Fideos hefyd yn cynhyrchu trawsgrifiad yn awtomatig ar gyfer recordiadau a grëwyd neu a uwchlwythwyd. Fel gyda chapsiynau, gall myfyrwyr reoli dangos y trawsgrifiad.

I weld y trawsgrifiad, dewiswch fotwm y trawsgrifiad wrth ochr y bar cynnydd ar waelod y fideo.

Woman speaking in Video Studio recording. Transcript appears on right side panel and the transcript control button in the bottom panel of video is highlighted.

Gall myfyrwyr weld y trawsgrifiad yn fewnol ac yn y modd sgrin lawn mewn Dogfennau pan ddangosir fideos sy'n dair a phedair colofn o led. Pan fydd fideos yn un neu ddwy golofn o led, bydd y trawsgrifiad yn cael ei ddangos yn y modd sgrin lawn.


Neidio ymlaen neu yn ôl mewn recordiad

Gallwch neidio i ran benodol o recordiad trwy ddewis stamp amser yn y trawsgrifiad. Dewiswch stamp amser penodol o'r trawsgrifiad, a bydd y recordiad yn chwarae o'r amser cyfatebol a ddewiswyd.

Er enghraifft, gall myfyriwr sy'n gwylio darlith a recordiwyd neidio ymlaen i ran benodol o'r fideo. Gall hefyd chwarae unrhyw ran o'r fideo eto trwy ddewis y stamp amser o'i ddewis yn y trawsgrifiad.

Video Studio screen with transcript. The cursor selects a timestamp on the transcript, and the video plays from the corresponding time.