Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.
Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Trosi ffontiau ac arddulliau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog
Pan fyddwch yn trosi cwrs o'r Wedd Cwrs Gwreiddiol i'r Wedd Cwrs Ultra, bydd lliwiau ffont, meintiau a theuluoedd yn cael eu symleiddio i gynnig set o opsiynau wedi'u curadu. Mae hyn yn cadw'r dewisiadau a wnaethoch yn eich Cwrs Gwreiddiol ac yn cadw hygyrchedd yn eich cwrs Ultra ar yr un pryd. Er enghraifft, roedd yr opsiynau diderfyn ar gyfer lliwiau ffontiau yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol yn golygu nad yw llawer o'r dewisiadau lliwiau yn hygyrch i rai defnyddwyr. Mae'r broses trosi i'r Wedd Cwrs Ultra yn sicrhau hygyrchedd ac amrywiaeth o opsiynau yn y Golygydd Cynnwys Cyfoethog.
Trosi lliwiau ffontiau o'r Wedd Cwrs Gwreiddiol i'r Wedd Cwrs Ultra
Mae gan y Wedd Cwrs Ultra set wedi'i churadu o liwiau testun i sicrhau darllenadwyedd: du, llwyd, porffor, glas, a gwyrdd. Yn ystod y broses trosi, rydym yn tynnu lliwiau testun heb eu cefnogi. Mae'r testun hwn yn troi yn ddu. Rydym yn tynnu lliwiau testun heb eu cefnogi yn ystod y broses trosi o:
- Cyhoeddiadau
- Trafodaethau
- Aseiniadau
- Dogfennau
- Dyddlyfrau
- Grwpiau a Setiau o Grwpiau
- Profion a Mathau o Gwestiynau
Trosi maint testun o'r Wedd Cwrs Gwreiddiol i'r Wedd Cwrs Ultra
Mae gan y Wedd Cwrs Ultra set wedi'i churadu o feintiau testun i sicrhau cysondeb a lleihau glanhau wrth drosi. Yn ystod y broses trosi, rydym yn cadw llawer o feintiau testun ac yn trosi meintiau eraill yn faint tebyg yn ôl y rhesymeg yn y tabl isod.
Os yw maint y testun yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol yn hafal i | Mae maint y testun yn cael ei osod yn y Wedd Cwrs Ultra yn |
---|---|
10 picsel neu lai |
10 picsel |
11 neu 12 picsel |
12 picsel |
rhwng 13 ac 16 picsel |
14 picsel |
rhwng 17 a 21 picsel |
18 picsel |
rhwng 22 a 30 picsel |
24 picsel |
rhwng 31 a 42 picsel |
36 picsel |
43 picsel neu fwy |
48 picsel |
Mae meintiau yn cael eu cadw wrth drosi testun sy'n gysylltiedig â'r eitemau canlynol:
- Cyhoeddiadau
- Trafodaethau
- Aseiniadau
- Dogfennau
- Dyddlyfrau
- Grwpiau a Setiau o Grwpiau
- Profion a Mathau o Gwestiynau
Trosi teuluoedd ffontiau
Mae gan y Wedd Cwrs Ultra set wedi'i churadu o deuluoedd ffontiau i sicrhau cysondeb a lleihau glanhau yn ystod y broses trosi. Yn ystod y broses trosi, rydym yn cadw llawer o deuluoedd ffontiau ac yn trosi teuluoedd eraill yn ôl y rhesymeg yn y tabl isod.
Teulu ffont yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol | Ffont a osodir yn y Wedd Cwrs Ultra |
---|---|
Arial |
Arial |
Comic Sans MS |
Comic Sans MS |
Courier New |
Courier New |
Times New Roman |
Times New Roman |
Verdana |
Verdana |
Pob teulu ffont arall |
Open Sans |
Mae teuluoedd ffontiau yn cael eu cadw wrth drosi testun sy'n gysylltiedig â'r eitemau canlynol:
- Cyhoeddiadau
- Trafodaethau
- Aseiniadau
- Dogfennau
- Dyddlyfrau
- Grwpiau a Setiau o Grwpiau
- Profion a Mathau o Gwestiynau