Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.
Creu cynnwys newydd ar gyfer eich cwrs gan ddefnyddio'r integreiddiad OneDrive
Creu dogfen gwmwl a blannwyd
Er mwyn dechrau defnyddio OneDrive, dylai eich gweinyddwr fod wedi cofrestru'r offeryn LTI OneDrive ar gyfer Learn Ultra yn y Panel Gweinyddydd.
Mae'r integreiddiad LTI ar gyfer OneDrive ar gael i chi yn Learn Ultra. Os yw wedi'i alluogi, bydd y llif gwaith newydd a sythweledol hwn yn caniatáu i chi ychwanegu ffeiliau o OneDrive at:
- Eich ardal Cynnwys y Cwrs
- Modiwlau Dysgu
- Ffolderi
Efallai bydd angen i chi fewngofnodi i gyfrif Microsoft i weld a dewis ffeiliau. Ar ôl ychwanegu'r ffeil OneDrive, gallwch ei hailenwi o fewn y cwrs. Gallwch hefyd osod a all myfyrwyr ei gweld.
Sut i ychwanegu ffeiliau o OneDrive yn eich cwrs
- Yn eich tudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen ac wedyn dewiswch yr opsiwn Creu. Bydd y panel Creu Eitem yn agor. Dewiswch Dogfen Gwmwl a Blannwyd.
- Os nad ydych wedi mewngofnodi i Microsoft, efallai bydd angen gwneud hynny cyn symud ymlaen. Defnyddiwch wybodaeth eich cyfrif Microsoft arferol a dilynwch y cyfarwyddiadau a ddarparwyd.
- Unwaith eich bod wedi mewngofnodi, byddwch yn gweld eich lle OneDrive, lle gallwch ddewis y ffeil yr hoffech ei hychwanegu at eich cwrs.
- Bydd y ffeil yn ymddangos ar dudalen y cwrs fel cynnwys newydd. Gallwch ddechrau defnyddio'r ffeil. I newid enw'r ffeil a gosod gweladwyedd, dewiswch y ffeil o'r rhestr Cynnwys y Cwrs: Ar ôl i chi newid y teitl a'r gweladwyedd, gallwch addasu cynnwys y ffeil drwy ddewis yr opsiwn Sgrin Lawn yng nghornel de isaf y sgrin: Gallwch olygu'r ffeil fel y dymunwch:
Bydd gan eich myfyrwyr wedd darllen-yn-unig o'r ffeil yn y cwrs.
Mae opsiynau LTI eraill sydd eisoes yn bodoli yn parhau i fod heb eu newid:Content Market, Llyfrau ac Offer a'r Golygydd Testun Cyfoethog.
Creu cydweithrediad cwmwl
Er mwyn dechrau defnyddio OneDrive, dylai eich gweinyddwr fod wedi cofrestru'r offeryn LTI OneDrive ar gyfer Learn Ultra yn y Panel Gweinyddydd.
Mae dogfennau cydweithredol yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr gael ymgysylltu â myfyrwyr eraill yn ogystal â chynnwys y cwrs. Fel hyfforddwr, gallwch greu dogfen gydweithredol Microsoft OneDrive yn Ultra.
Y mathau o ffeiliau a gefnogir ar gyfer dogfennau newydd yw:
- Microsoft Word
- Microsoft Excel
- Microsoft PowerPoint
Yn eich tudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen ac wedyn dewiswch yr opsiwn Creu. Bydd y panel Creu Eitem yn agor. Dewiswch Cydweithrediad Cwmwl.
Efallai bydd angen i chi fewngofnodi i gyfrif Microsoft i barhau.
Bydd panel newydd yn agor a gallwch ddechrau dogfen gydweithredol newydd. Dewiswch y math o ffeil rydych eisiau ei greu neu dewiswch ddogfen sydd eisoes yn bodoli i ddechrau gyda hi fel templed. Wedyn, gallwch ychwanegu enw ar gyfer y ddogfen newydd a disgrifiad, i arwain aseiniad eich myfyrwyr.
Ar gyfer dogfennau cydweithredol, pan fyddwch yn neilltuo myfyriwr fel cydweithredwr, byddant yn gweld botwm Golygu. Gall y myfyriwr ddewis Golygu i ddechrau cydweithio ar y ffeil. Efallai bydd angen iddynt fewngofnodi â chyfrif Microsoft i olygu'r ddogfen.
Bydd unrhyw ffeiliau sydd eisoes yn bodoli sydd wedi cysylltu â OneDrive yn aros heb eu newid. Bydd y ffeiliau hynny yn parhau i fod yn rhai darllen yn unig.