Beth yw storfa cwmwl?

Gallwch uwchlwytho ffeiliau i apiau gwe sydd yn cael eu cynnal ar y “cwmwl” ac nid ar eich cyfrifiadur, megis OneDrive®.

Storir eich ffeiliau ar weinyddion diogel ar-lein sydd wedi'u diogelu rhag damweiniau a firysau. Os bydd rhywbeth yn digwydd i’ch cyfrifiadur neu ffôn, ni fydd yn rhaid i chi ofni colli’r ffeiliau sydd wedi eu cadw arnyn nhw. Gallwch gael mynediad at eich ffeiliau a storir ar y cwmwl ar unrhyw ddyfais sydd wedi ei gysylltu â’r rhyngrwyd.

Trwy gydol eich cwrs,, gallwch gysylltu â sawl ap gwe lle storir eich ffeiliau yn syth bin. Mae Blackboard Learn yn defnyddio gwasanaeth integreiddio’r cwmwl sy’n sicrhau mynediad rhwydd at sawl ap gwe o un man.


Cysylltu â storfa cwmwl am y tro cyntaf

Pan fyddwch yn cael mynediad at eich storfa ar y cwmwl am y tro cyntaf, bydd yn rhaid i chi ddewis yr ap gwe rydych am gysylltu ag ef:

  • OneDrive
  • Blwch
  • OneDrive ar gyfer Business

    Os oes gennych gyfrif OneDrive sefydliadol, defnyddiwch OneDrive for Business.

  • Dropbox
  • Google Drive™

Nesaf, mewngofnodwch i’r ap a chaniatewch i wasanaeth integreiddio’r cwmwl gysylltu â’ch ap gwe.

Gallwch ddefnyddio eich cyfrif sefydliad yn ogystal â chyfrifon personol i fewngofnodi i'r gwasanaeth ac uwchlwytho ffeiliau. Ond, ni chefnogir 'cyfrifon wedi'u storio' yn Learn bellach. Rydym yn parhau i gefnogi cyfrifon OneDrive for Business a chyfrifon Google Workspace (Google GSuite yn flaenorol).

Learn ultra cloud storage allow access to Google drive

Yn ffenestr naid y storfa cwmwl, byddwch yn gweld eich ffeiliau ar gyfer yr ap gwe a ddewiswyd. Gallwch:

  • Dad-ddewis ffeiliau, Canslo neu ddewis y botwm X yn y gornel dde uchaf i ganslo a mynd yn ôl i'r rhestr o wasanaethau sydd ar gael.
  • Dewis ffeil o'r ffolderi sydd ar gael.
  • Allgofnodi.

Pan fyddwch yn dewis ffeil o'r rhestr drwy ddewis y blwch ticio o'i blaen, bydd y botwm Dewis yn ymddangos. Mae'r rhif ar y botwm yn cynrychioli'r nifer o ffeiliau a ddewiswyd. Dewiswch y botwm hynny i gadarnhau eich dewis.

Bydd rhagolwg o'r ffeil rydych wedi'i dewis, a gallwch ddewis Mewngludo i gadarnhau eich dewis ac ychwanegu'r ffeil at eich eitem o gynnwys, neu gallwch ddewis y botwm Canslo i fynd yn ôl i'r ffeil ffolder. Gallwch ganslo eich dewis drwy ddewis eicon X yng nghornel dde uchaf y ffeil.

Ar ôl mewngludo'r ffeil, bydd yn ymddangos fel rhan o'r eitem o gynnwys rydych yn ei chreu neu ei golygu, a gallwch fwrw ymlaen i greu'r eitem.

Learn Ultra shows the flow to create a new item using a file imported from Cloud Storage

Cael mynediad at storfa cwmwl yn eich cwrs

Gallwch gyrchu'ch ffeiliau mewn storfa cwmwl yn y meysydd cwrs hyn:

  • Tudalen Cynnwys y Cwrs
  • Tudalennau creu dogfennau, profion ac aseiniadau
  • Trafodaethau, dyddlyfrau, negeseuon a sgyrsiau
  • Panel Manylion a Gweithrediadau, os alluogwyd ac ar ôl cysylltu eich cyfrif.

Gall myfyrwyr gyrchu storfa cwmwl ar gyfer eu haseiniadau, profion, trafodaethau, dyddlyfrau, negeseuon a sgyrsiau.

Cyrchu storfa cwmwl mewn dogfen

Ar dudalen dogfen newydd, dewiswch Uwchlwytho o Storfa Cwmwl.

Os ydych wedi ychwanegu cynnwys, dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen. Dewiswch Storfa Cwmwl.

Gallwch hefyd gyrchu storfa cwmwl o'r ddewislen Mewnosod cynnwys yn y golygydd.

Rhagor am gael mynediad at storfa cwmwl ar y dudalen Cynnwys y Cwrs

Rhagor am gael mynediad at storfa cwmwl o aseiniad


Ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl

Pan fyddwch yn ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl, bydd y system yn gwneud copïau o'r ffeiliau yn eich cwrs. Nid yw'r ffeiliau wedi eu cysylltu. Ni fydd unrhyw newid a wnewch i ffeil o fewn eich cwrs yn berthnasol i'r ffeil yn y storfa cwmwl.

  1. Yn yr adran Atodi Ffeiliau, dewiswch Pori Gwasanaeth y Cwmwl.
  2. Yn ffenestr naid y storfa cwmwl, dewiswch raglen gwe o'r ddewislen a dewiswch un ffeil neu ragor. Neu, cliciwch ar deitl ffolder i weld ei gynnwys a’i ddewis. Gallwch ddewis ffeil ZIP — pecyn o ffeiliau cywasgedig. Bydd ffeiliau ZIP yn parhau i fod yn ffeiliau cywasgedig ar ôl i chi eu hychwanegu. Mae myfyrwyr yn dewis y ffeil ZIP i'w lawrlwytho i'w cyfrifiaduron ac yn ei dadsipio i gyrchu'r cynnwys.
  3. Bydd y botwm Dewis yn dangos y nifer o ffeiliau a ddewiswyd (e.e. Dewis 2) i chi a bydd yn caniatáu i chi fwrw ymlaen â'r broses.
  4. Bydd rhagolwg o'r ffeiliau a ddewiswyd yn ymddangos. Dewiswch Mewngludo i ychwanegu'r ffeiliau at yr eitem o gynnwys fel atodiadau.
    Learn Ultra import files using the Cloud Storage Service

Gallwch olygu'r gosodiadau ar gyfer y ffeiliau a ychwanegoch. Dewiswch ffeil yn y golygydd ac wedyn dewiswch yr eicon Golygu Atodiad yn y rhes o swyddogaethau'r golygydd. Gallwch ychwanegu Enw Arddangos a Thestun Amgen. Mae testun amgen yn disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenyddion sgrin neu'n ymweld â thudalennau gwe gyda delweddau wedi'u diffodd.

A purple pencil that lets you edit files within questions.

Hefyd gallwch ddewis p'un ai i fewnosod y ffeil fel dolen yn y golygydd neu i fewnosod y ffeil yn uniongyrchol fel ei bod yn ymddangos yn unol â chynnwys arall rydych wedi'i ychwanegu.

Rhagor ar ychwanegu a golygu ffeiliau

Storfa cwmwl a chyfrifiaduron a rennir

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan eraill, dilëwch eich cwcis a data gwefannau ar ôl i chi allgofnodi. Trwy wneud hyn, ni all defnyddwyr eraill gael mynediad at ffeiliau sydd wedi eu cadw ar eich storfa cwmwl.