McGraw-Hill Education

Mae Blackboard wedi dod ynghyd mewn partneriaeth â McGraw-Hill Education i ddarparu mynediad di-dor i gynnwys digidol McGraw-Hill yn uniongyrchol yn eich cwrs Blackboard Learn, gan wneud cyflwyno'ch cwrs yn haws ac yn fwy cyfleus, gan arbed eich amser. a'ch helpu i greu profiad cwrs sydd hyd yn oed yn well ar gyfer eich myfyrwyr.

Mae'r integreiddiad hwn yn gweithio gyda Blackboard Learn Fersiwn 9.1 SP 4 ac yn hwyrach.


Nodweddion a manteision

  • Mynediad difwlch: Mae mewngofnodi unwaith yn unig yn ei wneud yn fwy cyfleus i chi a'ch myfyrwyr fewngofnodi ar gyfer pob adnodd cwrs.
  • Un llyfr graddau, a gaiff ei ddiweddaru’n awtomatig: Mae graddau ar gyfer yr holl aseiniadau McGraw-Hill Connect yn postio'n awtomatig i Ganolfan Raddau Blackboard Learn, gan ddarparu un gyrchfan i chi a'ch myfyrwyr fonitro perfformiad dosbarth.
  • Dolenni uniongyrchol i gynnwys: Mae swyddogaethau cysylltu dwfn yn galluogi i chi gysylltu â'r cynnwys McGraw-Hill Connect sy'n cyfateb i anghenion penodol eich cwrs, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad hawdd i'r adnoddau addysgu iawn ar yr amser iawn.
  • Llifoedd gwaith cyfarwydd: Mae mynediad i gynnwys McGraw-Hill Connect o fewn ardal cynnwys y cwrs yn ei wneud yn hawdd i chi ddod o hyd i gynnwys a'i addasu o fewn eich llif gwaith Blackboard Learn brodorol.
  • Preifatrwydd data myfyrwyr: Mae gwybodaeth myfyrwyr yn parhau'n ddiogel trwy gydymffurfio'n llawn â safonau preifatrwydd myfyrwyr, fel Deddf Hawliau a Preifatrwydd Addysg Teuluoedd (FERPA).

Cynnyrch McGraw-Hill Education integredig

  • McGraw-Hill Connect®: llwyfan ddysgu flaenllaw sydd wedi'i dylunio i wella dysgu, gan gynnig un gyrchfan i fyfyrwyr a hyfforddwyr ar gyfer yr holl gynnwys cwrs, nodweddion dysgu addasol sy'n teilwra'r profiad i fyfyrwyr, mewnwelediad dwfn i berfformiad myfyrwyr ac awgrymiadau ar sut i wella, a banciau aseiniad a chwis.
  • MH Campus: Mae MH Campus yn integreiddio'ch holl gynnyrch digidol gan McGraw-Hill Education gydag LMS eich ysgol i ddarparu mynediad cyflym a hwylus i gynnwys ac offer dysgu sydd ymysg y goreuon o'r fath. Adeiladu cwrs digidol effeithiol, cofrestru myfyrwyr yn hwylus a darganfod pa mor bwerus y gall addysg ddigidol fod.
  • SimNet® ar gyfer Office 2016: Ers 1999, mae hyfforddwyr wedi bod yn defnyddio SIMnet i fesur canlyniadau myfyrwyr mewn rhith amgylchedd Microsoft® Office. Ar-lein erbyn hyn heb ddim byd i'w osod, gall myfyrwyr ymarfer ac astudio eu sgiliau adref neu yn labordy'r ysgol. At hynny, mae'r adnodd hwn yn ddatrysiad cwrs delfrydol ond hyd yn oed yn fwy gwerthfawr gan y gall cael ei ddefnyddio y tu hwnt i'r cwrs ar gyfer astudio personol.
  • ALEKS: Mae ALEKS yn cyflwyno profiad dysgu unigol sy'n mesur beth mae pob myfyriwr yn ei wybod, ddim yn ei wybod, ac yn fwyaf parod i ddysgu gan ddefnyddio ei beiriant deallusrwydd artiffisial. Mae ALEKS yn cynnig profiad dysgu unigryw ac effeithiol i wella llwyddiant myfyrwyr mewn mathemateg.

Dechrau arni

Mae Bloc Adeiladu McGraw-Hill Connect yn dod fel rhan o Blackboard Learn, ond mae'n rhaid iddo gael ei ffurfweddu gan eich sefydliad cyn y gallwch eu ddefnyddio. Pan fydd y Bloc Adeiladu wedi'i ffurfweddu, gallwch ychwanegu cynnwys McGraw-Hill at eich cyrsiau Blackboard Learn. Mewn ardal gynnwys, dewiswch Content Market o'r ddewislen Cynnwys Partneriaid. Dewiswch McGraw-Hill Education o'r ddewislen cynnwys cyhoeddwyr sydd ar gael.

Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio ychwanegu cynnwys McGraw-Hill, fe gewch eich ysgogi i gofrestru neu fewngofnodi i'ch cyfrif McGraw-Hill. O hyn ymlaen, bydd y cysylltiad hwn yn darparu mewngofnodi sengl ar eich cyfer, ac ar gyfer eich myfyrwyr ar y cwrs, mynediad uniongyrchol i gynnwys McGraw-Hill, a chydamseru graddau â Chanolfan Raddau Blackboard.

Offer cymorth

Yn y ddewislen Offer Cwrs, dewiswch McGraw-Hill Higher Education i weld yr offer cymorth hyn:

  • Diagnosteg: Gweld y manylion technegol ar gyfer yr offeryn McGraw-Hill Higher Education yn eich cwrs. Gallwch hefyd brofi'r ymddygiad lansio.
  • Gwybodaeth Cofrestr: Gweld enw defnyddiwr a rôl pob person a gofrestrwyd ar y cwrs.
  • Datgysylltu Colofnau'r Ganolfan Raddau ar gyfer Dilead Posibl: Defnyddiwch yr offeryn hwn i ddileu'r cysylltiad rhwng colofnau graddau a chynnwys McGraw-Hill Higher Education. Os ydych wedi copïo cwrs gyda chynnwys McGraw-Hill Higher Education neu tynnwyd y cynnwys mewn ffordd arall, efallai dewch ar draws gwall os fyddwch yn ceisio dileu'r colofn graddau cysylltiedig. Mae'r offeryn hwn yn helpu cywiro'r broblem.

Ymuno â'r Gymuned Connect

Mae'r Gymuned Connect yn dod â chyfadrannau ar draws y wlad ynghyd i drafod pynciau pwysig, ateb cwestiynau, a rhannu arfer gorau.

Ymweld â'r gymuned Connect


Cyrchu cefnogaeth dechnegol McGraw-Hill

Cwestiynau am eich cyfrif, cofrestru neu gefnogaeth gyfadran gyffredinol? Mae aelod o Grŵp Profiad Cwsmeriaid McGraw-Hill wrth law i helpu.

Cysylltu â Grŵp Profiad Cwsmeriaid McGraw-Hill


Cysylltu â'ch cynrychiolydd McGraw-Hill Education

Chwilio am fwy o wybodaeth am Connect neu gynnyrch McGraw-Hill arall? Mae eich cynrychiolydd Technoleg Ddysgu McGraw-Hill ar gael i helpu.

Dod o hyd i'ch cynrychiolydd McGraw-Hill Education