Macmillan Learning
Mae Blackboard a Macmillan Learning wedi dod ynghyd i ddarparu mynediad di-dor i gynnwys LaunchPad Macmillan, Writer's Help 2.0, Sapling Learning a SaplingPlus yn uniongyrchol o fewn llwyfan Blackboard Learn. Gydag Integreiddiad Macmillan, gallwch deilwra'ch cyrsiau i adlewyrchu'ch amcanion addysgu penodol a gwella cyfranogiad myfyrwyr. Gallwch ddewis y cynnwys ansawdd uchel y mae ei angen arnoch, ei deilwra i ddiwallu anghenion pob cwrs, a'i aseinio ar lefel y bennod ac ased o fewn cwrs Blackboard Learn.
Bydd yr integreiddiad hwn yn gweithio ar fersiwn Blackboard Learn 9.1 SP 10 a fersiynau hŷn.
Nodweddion a manteision
- Mynediad difwlch: Mae mewngofnodi unwaith yn unig yn ei wneud yn fwy cyfleus i chi a'ch myfyrwyr fewngofnodi ar gyfer pob adnodd cwrs.
- Un llyfr graddau, a gaiff ei ddiweddaru’n awtomatig: Mae graddau ar gyfer pob aseiniad ac asesiad Macmillan yn postio'n awtomatig i Ganolfan Raddau Blackboard Learn, gan roi un cyrchfan i chi a'ch myfyrwyr i fonitro perfformiad dosbarth.
- Dolenni dyfnion: Mae swyddogaethau cysylltu ar lefelau penodau ac asedau'n galluogi i chi gysylltu â'r cynnwys Macmillan sy'n cyfateb i anghenion penodol eich cwrs, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad hawdd i'r adnoddau addysgu iawn ar yr amser iawn.
- Llifoedd gwaith cyfarwydd: Mae mynediad i gynnwys Macmillan o fewn ardal cynnwys y cwrs yn ei gwneud yn hawdd dod o hyd i gynnwys a’i fabwysiadu yn eich llif gwaith Blackboard Learn brodorol.
- Preifatrwydd data myfyrwyr: Mae gwybodaeth myfyrwyr yn parhau'n ddiogel trwy gydymffurfio'n llawn â safonau preifatrwydd myfyrwyr, fel Deddf Hawliau a Preifatrwydd Addysg Teuluoedd (FERPA).
Cynnyrch Dysgu Integredig Macmillan
- Macmillan LaunchPad: Mae cynnwys e-lyfrau, fideos, animeiddiadau, cwisiau LearningCurve addasol Macmillan, a mwy - wedi'u curadu a'u trefnu er mwyn eu haseinio'n hwylus, gan arwain at gynnwys llyfr-penodol uwchraddol mewn rhyngwyneb defnyddiwr blaengar.
- Writer's Help 2.0: Adnodd ysgrifennu ar-lein cadarn gyda swyddogaethau chwilio a chynnwys rhyngweithiol pwerus sy'n hawdd i hyfforddwyr ei integreiddio yn eu cyrsiau.
- Sapling Learning: Wedi'i greu gan ac ar gyfer addysgwyr, mae gwaith cartref ar-lein Sapling Learning yn gyrru llwyddiant myfyrwyr gyda chefnogaeth addysgwyr un-i-un ac offer i arbed amser.
- SaplingPlus: Mae SaplingPlus yn cynnwys gwaith cartref ar-lein Sapling Learning ynghyd ag offer asesu cyn y dosbarth (megis holi addasol LearningCurve), e-lyfr llawn, ac adnoddau dysgu ac addysgu ychwanegol.
Dechrau arni
Gall eich gweinyddwr alluogi Bloc Adeiladu Partner Cloud sy'n cynnwys integreiddiad Macmillan Learning am ddim. Pan fydd Bloc Adeiladu Partner Cloud ar gael a Macmillan Integration wedi'i ffurfweddu, gallwch ychwanegu cynnwys Macmillan at eich cyrsiau Blackboard Learn. Mewn ardal gynnwys, dewiswch Content Market o'r ddewislen Cynnwys Partneriaid. Dewiswch Macmillan Learning o'r ddewislen cynnwys cyhoeddwyr sydd ar gael.
Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio ychwanegu cynnwys Macmillan, fe gewch eich ysgogi i gofrestru neu fewngofnodi i'ch cyfrif Macmillan i gysylltu'ch cwrs Macmillan â'ch cwrs Blackboard Learn. Gan symud ymlaen, bydd y cydgysylltiad hwn yn darparu cofrestru unwaith yn unig i chi a'ch myfyrwyr yn y cwrs, mynediad uniongyrchol i gynnwys Macmillan, a chydamseru graddau â Chanolfan Raddau Blackboard Learn.
Cychwyn arni gyda'r integreiddiad LaunchPad yn Blackboard Learn
Cychwyn arni gyda Writer's Help 2.0 yn Blackboard Learn
Manteisio ar gymuned LaunchPad a Sapling
Cael syniadau am sut i ddefnyddio LaunchPad a Sapling Learning yn fwy effeithiol, siarad â'ch cydweithwyr am beth sy'n gweithio (a beth sy ddim), a chael gweld gwelliannau i'r cynnyrch yn gyntaf.
Ymweld â Gweminarau ar Alw Macmillan
Cyrchu cymorth technegol Macmillan Learning
Cwestiynau am eich cyfrif, cofrestru neu gefnogaeth gyfadran gyffredinol? Mae aelod o dîm cymorth Macmillan Learning wrth law i helpu.
Cysylltu â chefnogaeth Macmillan Learning
Cysylltwch â'ch cynrychiolydd Macmillan Learning
Angen cymorth i ddod o hyd i'r deunyddiau cwrs iawn? Mae eich cynrychiolydd Macmillan Learning yn barod i'ch helpu gyda beth bynnag y mae ei angen arnoch.