Mae Vital Source Technologies, darparwr e-werslyfrau blaenllaw y byd, a Blackboard wedi dod ynghyd mewn partneriaeth i gyflwyno holl fanteision VitalSource® Bookshelf® o fewn y llwyfan Blackboard Learn (ar gyfer 9.1, SP 8 ac yn hwyrach).
Mae adnoddau Vital Source ar gael yn Saesneg yn unig.
Fel partner strategol i gyhoeddwyr, systemau rheoli dysgu, a siopau llyfrau campws, mae Vital Source wedi bod wrthi'n cyflwyno profiad e-werslyfrau integredig ac wedi'i gydamseru ar draws amgylcheddau dyfais lluosog i sefydliadau ers dros ddeng mlynedd. Pan gaiff Vital Source ei integreiddio â chwrs Blackboard Learn, mae eu llwyfan e-werslyfrau blaenllaw ar gael yn uniongyrchol i hyfforddwyr. Mae gan Vital Source brofiad helaeth o ddarparu:
- Dosbarthu cynnwys byd-eang
- Atebion i broblem e-werslyfr dynodedig, addasedig
- Atebion cyfunedig i broblemau argraffu/digidol
- Dadansoddeg integredig gyda'ch systemau sefydliadol
- Adroddiad am ddefnydd hyfforddwr o fewn y cwrs
- Datblygiad cyfryngau a rhyngweithgaredd cyfoethog
Mae'r integreiddiad yn rhad ac am ddim i sefydliadau ac hyfforddwyr i'w ddefnyddio. Mynediad myfyrwyr at e-werslyfrau yn seiliedig ar y model trwyddedu Tuition Inclusive neu Student Choice.
Manteision Vital Source
- Symudol. Dyma'r tro cyntaf i chi a'ch myfyrwyr fedru cyrchu eu cyrsiau ac e-werslyfrau trwy Blackboard MobileTM Learn, sydd ar gael fel rhaglen frodorol ar ddyfeisiau iOS ac Android. Mae e-werslyfrau Bookshelf wedi'u ffurfweddu i weithio gyda'r dyfeisiau Apple iPhone®, Apple iPad®, Apple iPod Touch®, AndroidTM, ac Amazon Kindle Fire®, yn ychwanegol at fynediad ar-lein/trwy borwr.
- Eitemau a Gadwyd. Mae gennych chi a'ch sefydliadau'r cyfle i argymell opsiwn gwerslyfr cost is i fyfyrwyr.
- Eglurder. Bydd profiad dysgu gwell yn eich galluogi i gyfeirio myfyrwyr at union adran e-werslyfr. Mae hyn yn dileu unrhyw ddryswch gyda myfyrwyr am ddarlleniadau gofynnol, gan arwain at ymgysylltiad uwch mewn deunyddiau cwrs.
- Dewis. Mae gennych chi a'ch sefydliad fynediad i gatalog cyflawn o e-werslyfrau oherwydd Vital Source â'i gydweithrediad â thros 300 o gyhoeddwyr ar draws y byd.
Dechrau arni
Ar ôl i weinyddwr Blackboard Learn eich sefydliad osod, ffurfweddu a rhoi'r bloc adeiladu Bookshelf by VitalSource ar gael, gallwch ddechrau defnyddio'r integreiddiad yn eich cyrsiau. Gallwch gyrchu'r integreiddiad drwy Cynnwys Partner > Content Market mewn unrhyw faes cynnwys yn Blackboard Learn. Gallwch gyrchu Vital Source drwy'r opsiwn Offer Content Market yn y ddewislen Offer y Cwrs hefyd.
Mae'r adnoddau canlynol ar gael i'ch helpu i gychwyn arni.
Beth mae myfyrwyr yn ei brofi?
Gall myfyrwyr gyrchu e-werslyfrau VitalSource naill ai drwy Gyrsiau neu Fodiwlau Blackboard. I gychwyn arni, mae myfyrwyr yn dewis yr e-werslyfr(au) a/neu dolenni VitalSource rydych wedi'u plannu yn y cwrs. Gofynnir i'r myfyriwr baru eu cyfrifon defnyddiwr ac, ar gyfer modelau Dewis Myfyriwr, brynu'r e-werslyfr.