Mae cyrsiau ar-lein rhagorol yn dechrau gyda chynnwys rhagorol a gyflwynir mewn ffordd sy'n isafu rhwystrau i ddealltwriaeth.
Gall ddyluniad cynnwys effeithiol greu arddangosfa sy'n ennyn mwy o ddiddordeb ar gyfer deunydd eich cwrs. Gall cynnwys a ddylunnir yn dda helpu eich cynnwys i ddiwallu'r anghenion hyn:
- Rhwyddineb dysgu: Pa mor gyflym mae Myfyriwr yn gallu llywio trwy'ch cwrs tra'n dysgu'r deunydd?
- Effeithlonrwydd defnyddio: Ar ôl i fyfyrwyr ymgyfarwyddo â strwythur eich cwrs, pa mor gyflym gallan nhw gyflawni tasgau?
- Boddhad goddrychol: Faint mae myfyrwyr yn mwynhau gweithio drwy eich deunydd cwrs?
- Rhwyddineb defnyddio: A all defnyddwyr sydd â lefelau gwahanol o allu, profiad, gwybodaeth, sgiliau iaith, caledwedd, neu lefel canolbwyntio ddefnyddio eich cwrs heb broblem?
- Hygyrchedd: Rydych eisiau i bobl sydd ag anableddau dderbyn yr un lefel o wybodaeth, gwasanaethau a defnydd y mae pobl heb anableddau'n ei ddefnyddio. A yw'ch cwrs yn gyfartal i bawb?
Gall cynllun effeithiol hefyd fod yn gynllun syml ac uniongyrchol. Gall cynnwys syml a chryno blesio'n esthetaidd ac yn dal i gael effaith.
Mae angen cynllun cwrs sydd wedi'i ddylunio'n dda. Mae'n rhaid i chi ystyried nid dim ond y dyluniad gweledol, ond hefyd arddull ysgrifennu, tôn, trefniad gwybodaeth, a hygyrchedd.
Canolbwyntio ar hygyrchedd
Wrth i chi baratoi'ch cynnwys ar gyfer cwrs ar-lein, cadwch mewn cof fod gan fyfyrwyr anghenion amrywiol. Efallai na fydd gan y mwyafrif o'ch dosbarth unrhyw ffurf ar anabledd corfforol. Ond, efallai bydd un o'ch myfyrwyr yn ddall, byddar, neu'n profi anhawster wrth ganolbwyntio.
Meddai Tim Berners-Lee, dyfeisiwr y We Fyd-eang, "Pŵer y we yw ei chyffredinoldeb. Mae mynediad gan bawb beth bynnag eu hanabledd yn un o'r agweddau hanfodol." Ni ddylai'ch cwrs ar-lein fod yn wahanol mewn unrhyw ffordd.
Mae Blackboard yn ymroddedig i raglenni hygyrch, gan sicrhau bod yr amgylchedd ei hun mor hygyrch â phosib i'r holl ddefnyddwyr.
Gallwch ddilyn nifer o ganllawiau syml a darparu'r un lefel o hyfforddiant i bawb.
- Gwnewch yn siŵr fod dyluniad eich gwybodaeth yn gadarn ac yn rhesymegol.
- Cadwch y cynllun yn glir ac yn syml. Defnyddiwch yr un cynllun ar gyfer cynifer o dudalennau â phosib i helpu ei wneud yn rhagweladwy.
- Defnyddiwch dechnoleg dalen arddull raeadrol (CSS). Mae dalennau arddull yn gwahanu cynnwys rhag strwythur tudalen, gan wneud tudalennau gwe'n fwy hygyrch i bobl sy'n defnyddio darllenyddion sgrîn neu feddalwedd pori arbenigol. Mae dalennau arddull yn helpu rheoli golwg y dudalen.
- Dewiswch gyfuniadau lliw cyferbyniad uchel ar gyfer testun, cefndiroedd a graffeg. Cadwch gefndiroedd yn syml. Mae gwyn yn gweithio orau gyda lliw tywyll ar gyfer cynnwys testun.
- Ychwanegwch destun amgen sy'n disgrifio delweddau ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenyddion sgrîn neu ymweld â thudalennau gwe gyda delweddau wedi'u diffodd. Ychwanegwch destun amgen ar gyfer pob delwedd, gyda dau eithriad:
- Mae'r testun o gwmpas y ddelwedd yn cyfleu ystyr y ddelwedd
- Nid oes angen y ddelwedd ar gyfer deall, megis bwled
- Crëwch ddolenni sy'n arwyddocaol heb eu cynnwys amgylchynol. Osgowch ddolenni gyda thestun amwys, fel "cliciwch yma"
- Defnyddiwch HTML wedi'i lunio'n unol â manylebau W3C. Gwiriwch eich tudalennau yn erbyn safonau W3C. Yn ddelfrydol, dewch o hyd i bobl sydd ag anableddau i brofi'ch cwrs a darparu adborth. Gallwch ddefnyddio'r offeryn hygyrchedd ar-lein hwn neu offer eraill:
- O grewyr y gwirydd hygyrchedd A-Checker, mae'r offeryn UI Options yn darparu ffordd o wella defnyddioldeb, hyblygrwydd a hygyrchedd gwefan drwy roi ffordd o addasu a rheoli agweddau gwefan heb angen defnyddio meddalwedd neu offer ychwanegol.
- Mae WAVE Accessibility Tool yn offeryn am ddim ar y we sy'n galluogi chi i werthuso hygyrchedd eich cynnwys gwe'n gyflym ac yn effeithiol.
Ysgrifennu ar gyfer y we
Pan fyddwch yn paratoi'ch cynnwys ar gyfer eich cwrs ar-lein, efallai y byddwch yn gweld bod gennych ddeunyddiau presennol yr ydych eisiau eu hymgorffori o fewn Blackboard Learn. Er mwyn uchafu dysgu'r myfyrwyr, mae'n debygol y bydd angen i chi wneud ychydig o olygu er mwyn cael y rhain yn barod ar gyfer y we.
Mae darllen ar-lein yn go wahanol i ddarllen deunydd argraffedig. Mewn arolwg ym 1997 a gynhaliwyd gan Jakob Nielson, nododd ymchwilwyr fod tuag 80% o'u defnyddwyr profi'n sganio tudalennau gwe. 16% yn unig sy'n darllen y cynnwys air am air.
Dangosodd yr astudiaeth hefyd fod y rhan fwyaf o ddefnyddwyr yn darllen mewn ffurfiant "F" bras. Yn gyntaf, maent yn darllen ar draws rhan uchaf y tudalen. Nesaf, maent yn neidio i lawr sawl llinell ac yn sganio'n llorweddol am yr eildro, gan ddilyn hyn gyda sgimio fertigol ochr chwith y tudalen.
Beth allwch chi ei ddysgu o arferion darllen ar-lein defnyddwyr y prawf? Yn gyntaf, rhowch yr wybodaeth bwysicaf yn y ddau baragraff cyntaf. Os nad yw myfyrwyr yn darllen ymhellach, o leiaf y byddant wedi gweld y prif gysyniadau rydych eisiau eu cyfleu. Mae'n bosib y bydd myfyrwyr ag anawsterau gwybyddol yn stopio darllen ar ryw bwynt yn y dudalen a byddant yn buddio os yw'r wybodaeth wedi'i strwythuro yn y modd hwn.
Mae'r tabl hwn yn rhestru mwy o ganllawiau o wefan Jakob Nielson.
Canllaw | Disgrifiad |
---|---|
Cynorthwyo sganio tudalennau |
|
Crëwch baragraffau sydd wedi'u strwythuro'n dda |
|
Lleihewch y cyfrif geiriau |
|
Amlygwch eiriau allweddol |
|
Defnyddiwch dôn sgwrsiol |
|
Cynlluniau effeithiol
Tra bod fformat testun yn unig yn bwysig o ran rhwyddineb darllen, mae dyluniad a chynllun tudalennau hefyd yn dylanwadu ar effeithiolrwydd eich cynnwys.
Defnyddiwch yr egwyddorion hyn wrth i chi ddylunio'ch tudalennau:
- Defnyddiwch dudalennau clir a syml. Defnyddiwch ddigon o fannau gwyn i wahanu paragraffau, delweddau ac elfennau tudalen eraill er mwyn osgoi llethu darllenwyr.
- Defnyddiwch baragraffau yn null blociau. Gadewch ofod rhwng pob paragraff a pheidiwch â mewnoli'r llinell gyntaf.
- Byddwch yn gyson. Creu rhagweladwyedd gyda chynlluniau sy'n ailadrodd elfennau dylunio o dudalen i dudalen. Defnyddiwch yr un ffontiau, lliwiau ac arddulliau pennawd ar bob tudalen i helpu myfyrwyr i deimlo'n gyfforddus a dod o hyd i wybodaeth yn gyflymach.
- Defnyddiwch benawdau. Rhowch dalpiau o wybodaeth a gwnewch eich tudalennau'n haws eu sganio.
- Defnyddiwch gynllun lliwiau cyson. Peidiwch â defnyddio mwy na phum lliw. Mae arlliwiau gwahanol o'r un wawr, gyda un neu ddau o liwiau acen, yn gynllun effeithiol. Defnyddiwch liwiau sy'n uchafu darllenadwyedd. Os oes amheuaeth, defnyddiwch ddu ar wyn.
Gwella gyda graffeg
Gallwch ddefnyddio graffeg i wella cynnwys arall neu fel elfennau unigol. Gall graffeg ddarparu gwybodaeth werthfawr wedi'i dylunio mewn siartiau, lluniau diagramau, enghreifftiau. Gall delweddau gynorthwyo llywio gyda'r defnydd o faneri neu ddarparu ciwiau gweledol i helpu'r myfyriwr i ymaddasu i'r cwrs gan ddefnyddio eiconau.
Gall graffeg a ddylunnir yn dda helpu myfyrwyr yn y ffyrdd a ganlyn:
- Llywio a lleoli mathau gwahanol o wybodaeth trwy gliwiau gweledol.
- Dehongli gwybodaeth sy'n anodd ei deall.
- Ffurfio modelau meddyliol gweledol o'r deunyddiau sydd wedi'u hesbonio yn y testun.
- Deall y berthynas rhwng syniadau neu gysyniadau'n well.
- Defnyddiwch graffeg am reswm a nid dim ond oherwydd eu bod yn edrych yn dda. Nid ydych eisiau i ddyluniad fod yn drech na'r cynnwys, na chynyddu amser lawrlwytho'n ddiangen.
Mae’r rhestr hon yn cynnwys rhai rheoli sylfaenol ar gyfer defnyddi delweddau:
- Defnyddiwch y fformat cywir. Mae'n rhaid i chi gadw eich lluniau mewn fformat parod i'r we. Yn gyffredinol, defnyddiwch fformat PNG ar gyfer graffeg syml, fel logos, siartiau, a lluniau. Mae fformat JPG fel arfer yn well ar gyfer lluniau a delweddau gyda chysgodau neu raddiant. Mae'r fformat JPG yn caniatáu cywasgu ffeil yn well hefyd—gall ffeil 1500 kb leihau i 150 kb—ond gall hyn leihau ansawdd y ddelwedd. Dewiswch y fformat gorau er mwyn cael delwedd o well ansawdd a ffeiliau o faint llai.
- Byddwch yn ofalus gydag animeiddiadau. Gall animeiddiadau fod yn effeithiol dros ben pan fyddwch eisiau dangos cysyniadau ac egwyddorion ond yn aml maent yn cael eu gorddefnyddio. Gwnewch yn siŵr nad yw'r animeiddiadau'n tynnu sylw o'r deunydd, a'ch bod yn cael caniatâd i'w defnyddio.
- Osgowch ddelweddau cefndir. Defnyddiwch gefndir gwyn neu welw solet gyda thestun tywyll yn lle delweddau cefndir. Mae cyferbyniad uchel rhwng testun a chefndir yn haws ei darllen.
- Cadwch lygad ar faint y ffeil. Efallai bydd delweddau mawr a niferus yn edrych yn wych ar eich tudalen, ond byddant yn peri rhwystredigaeth i ddefnyddwyr sy'n gorfod aros i ddelweddau lwytho.
- Tociwch eich delweddau. Mae meintiau delwedd llai'n mwyafu effaith ac yn gostwng amser lawrlwytho.
Lleihau maint eich cwrs
Cadwch faint y cyrsiau rydych yn eu creu mewn cof - bydd eich gweinyddwr Blackboard yn ei werthfawrogi! Efallai bod gan eich sefydliad gyfyngiadau ar faint y cwrs. Gallwch isafu meintiau'r ffeiliau a uwchlwythir wrth i chi greu cynnwys i aros o fewn y terfyn ar gyfer y tymor cyfan. Gall yr argymhellion hyn eich helpu i arbed lle disg ar weinydd eich sefydliad. Efallai bod gan eich sefydliad bolisïau ychwanegol y mae angen i chi eu dilyn.
Fideo: Gallwch gysylltu â fideos yn hytrach na lawrlwytho'r ffeiliau fideo i'ch cwrs. Yn lle, lawrlwythwch eich fideos i™, Vimeo, neu weinydd cyfryngau gwahanol ar y campws ac wedyn cysylltwch â nhw o fewn eich cwrs. Byddwch yn wyliadwrus o reolau eiddo deallusol. Er enghraifft, efallai na fyddai'n gyfreithiol lletya fideo o National Geographic ar Vimeo, hyd yn oed os oes gennych drwydded i'w ddefnyddio mewn cwrs.
Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys: Chwiliwch am feintiau ffeil mawr a ffeiliau a ffolderau heb eu defnyddio y gallwch eu dileu.
Lleihau maint ffeiliau: Cyn uwchlwytho ffeiliau, ceisiwch leihau eu maint:
- Ffeiliau Microsoft Office: Defnyddiwch yr offer sydd ar gael o fewn Microsoft Office i leihau maint ffeiliau cyflwyniadau sleidiau a ffeiliau Word. Mae'r opsiwn Lleihau Maint y Ffeil wedi'i leoli yn y ddewislen Ffeil. Gallwchgadw ffeiliau fel PDF cyn eu huwchlwytho hefyd, sydd yn aml yn gwneud fersiynau llai, darllen-yn-unig o'r ffeiliau.
- Delweddau: Defnyddiwch raglen graffeg i newid maint delweddau i'w gweld ar y sgrîn cyn eu huwchlwytho. Hefyd, gallwch ddefnyddio gwasanaeth ar-lein fel Shrink Pictures neu picresize®.
- Sain: Defnyddiwch feddalwedd i ailsamplo neu docio ffeiliau sain i leihau eu maint.