Pam Gwahardd Cyflwyniadau Hwyr neu Ymgeisiau Newydd ar ôl y Dyddiad Cyflwyno?

Gall hyfforddwyr osod dyddiad ac amser cyflwyno ar asesiad. Mae'r profiad Ultra yn derbyn ac yn marcio cyflwyniadau hwyr a dderbynnir ar ôl y dyddiad cyflwyno. Ond, gan ddibynnu ar y sefyllfa, efallai bydd hyfforddwyr eisiau gorfodi dyddiad cyflwyno a/neu derfyn amser ar asesiad. Mewn rhai achosion, nid yw'r dyddiad cyflwyno yn ddyddiad cau llym, ond mae'r terfyn amser yn llym. Mewn achosion eraill, mae'r terfyn amser yn llai pwysig, ond mae rhaid i'r myfyrwyr gwblhau'r asesiad erbyn dyddiad penodol. Efallai bydd adegau pan fydd gorfodi'r dyddiad cau a'r terfyn amser yn bwysig.

Mae'r gosodiadau 'Gwahardd Cyflwyniadau Hwyr' yn eich galluogi i orfodi dyddiad cau llym ac atal cyflwyniadau hwyr. Caiff ymgeisiau sydd ar y gweill ac ymgeisiau wedi'u cadw eu cyflwyno'n awtomatig ar y dyddiad cyflwyno a bydd myfyrwyr yn derbyn derbynneb cyflwyniad drwy e-bost. Caiff cymwysiadau a nodwyd eu cydnabod i sicrhau ni roddir myfyrwyr ag anghenion cydnabyddedig dan anfantais

Sylwer y bydd dewis "Gwahardd cyflwyniadau hwyr" yn galluogi "Gwahardd ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cau" yn awtomatig. Ond gallwch hefyd alluogi'r opsiwn "Gwahardd ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno" ar ei ben ei hun

Mae hyn yn cefnogi senario lle dylai fod gan fyfyrwyr yr holl amser sydd ar gael ar brawf a amserir os ydynt yn dechrau'r prawf cyn y dyddiad cyflwyno. Yn y senario hwn, rydym yn cymryd bod y dyddiad cyflwyno yn llai pwysig na'r terfyn amser. Mae hyn yn golygu y gall myfyriwr barhau i weithio ar unrhyw ymgais a gadwyd cyn y dyddiad cyflwyno. Mae hyn yn cefnogi senario lle terfir ar y myfyriwr yn ystod yr asesiad. Caiff cyflwyniadau myfyrwyr sy'n cyflwyno ymgais ar ôl y dyddiad cau eu marcio fel eu bod yn hwyr.

I alluogi naill opsiwn na'r llall, dewiswch eicon Gosodiadau yr asesiad a dewiswch Gwahardd Cyflwyniadau Hwyr neu Gwahardd Ymgeisiau Newydd Ar Ôl y Dyddiad Cyflwyno dan Manylion a Gwybodaeth.

Gwahardd Cyflwyniadau Hwyr

Gallwch wahardd cyflwyniadau hwyr ar gyfer achosion lle mae'n bwysig i chi fel hyfforddwr orfodi'r dyddiad cyflwyno. Caiff ymgeisiau sydd ar y gweill ac ymgeisiau wedi'u cadw eu cyflwyno'n awtomatig ar y dyddiad cyflwyno a bydd myfyrwyr yn derbyn derbynneb cyflwyniad drwy e-bost.

Caiff cymwysiadau a nodwyd eu cydnabod i sicrhau ni roddir myfyrwyr ag anghenion cydnabyddedig dan anfantais.

Senario enghreifftiol

Mae hyfforddwr yn gosod prawf un awr a amserir, i'w gyflwyno erbyn 6:00 PM heddiw, lle gwaherddir cyflwyniadau hwyr. Pan fydd myfyrwyr yn cyrchu'r prawf, rhoddir gwybod iddynt ni allant gyflwyno gwaith, neu wneud unrhyw ymgeisiau cyflwyno newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno.

  • Bydd gan fyfyrwyr sy'n dechrau ar ymgais cyn 5:00 PM heddiw yr awr gyfan o'r terfyn amser sydd ar gael.
  • Ni fydd gan fyfyrwyr sy'n dechrau ar ymgais ar ôl 5:00 PM heddiw yr awr gyfan o'r terfyn amser sydd ar gael. Er enghraifft, bydd gan fyfyrwyr sy'n dechrau'r prawf am 5:15 PM ddim ond 45 munud i gwblhau'r prawf.
  • Caiff ymgeisiau nad ydynt wedi'u cyflwyno ar ôl y dyddiad cyflwyno am 6:00 PM eu cyflwyno'n awtomatig ar y dyddiad cyflwyno.
  • Nid oes modd dechrau unrhyw ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno am 6:00 PM.
  • Gall myfyrwyr â chymwysiadau barhau i weithio ar ôl y dyddiad cyflwyno. Ni chaiff eu hymgais ei gyflwyno'n awtomatig.

Cyfyngiadau:

Nid yw "Gwahardd cyflwyniadau hwyr" yn gweithio ar y cyd gyda:

  • Adolygiad gan gyfoedion
  • Cyflwyniadau grŵp
  • Cyflwyniadau all-lein
  • Offer LTI

Gwahardd Ymgeisiau newydd ar ôl y Dyddiad Cyflwyno

Dewiswch y gosodiad hwn i atal myfyrwyr rhag dechrau ymgais newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. 

Gyda'r gosodiad hwn, bydd gan fyfyrwyr yr holl amser sydd ar gael ar brawf a amserir os ydynt yn dechrau'r prawf cyn y dyddiad cyflwyno. Yn y senario hwn, rydym yn cymryd bod y dyddiad cyflwyno yn llai pwysig na'r terfyn amser. Mae hyn yn golygu y gall myfyriwr barhau i weithio ar unrhyw ymgais a gadwyd cyn y dyddiad cyflwyno. Bydd y gosodiad hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gyflwyno asesiadau'n hwyr os ydynt wedi dechrau eu hymgais cyn y dyddiad cyflwyno, ond bydd yn eu hatal rhag dechrau ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno.

Senario enghreifftiol

Mae hyfforddwr yn gosod prawf un awr a amserir, i'w gyflwyno erbyn 6:00 PM heddiw, lle gwaherddir ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. Pan fydd myfyrwyr yn cyrchu'r prawf, rhoddir gwybod iddynt ni allant greu ymgais cyflwyno newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. Marcir ymgeisiau sydd ar y gweill neu ymgeisiau wedi'u cadw a gyflwynir ar ôl y dyddiad cyflwyno fel eu bod yn hwyr.

  • Bydd gan fyfyrwyr sy'n dechrau ar ymgais cyn 5:59 PM heddiw yr awr gyfan o'r terfyn amser sydd ar gael.
  • Caiff cyflwyniadau myfyrwyr sy'n cyflwyno ymgais ar ôl 6:00 PM heddiw eu marcio fel eu bod yn hwyr.
  • Ni all myfyrwyr ddechrau ymgeisiau newydd ar ôl 6:00 PM.
  • Gall myfyrwyr â chymwysiadau barhau i weithio ar ôl y dyddiad cyflwyno ac ni chaiff eu ymgeisiau eu marcio fel eu bod yn hwyr.

Cyfyngiadau:

Nid yw'r gosodiad "Gwahardd ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno" a alluogwyd ar ei ben ei hun yn gweithio gyda:

  • Adolygiad gan gyfoedion
  • Cyflwyniadau all-lein
  • Offer LTI