Graddau unigol neu un radd grŵp a rennir gan bob aelod?

Two ants carrying an apple.

Mae grŵp yn dîm. Ni waeth p'un a fyddwch yn aseinio myfyrwyr i grwpiau neu bod myfyrwyr yn dewis eu cymheiriaid tîm, y gobaith yw y bydd y mwyafrif o fyfyrwyr yn teimlo'n ymroddedig i nod cyffredin. Mae atebolrwydd unigol yn hanfodol er mwyn i grŵp weithio'n effeithiol a chynhyrchu canlyniadau gwerth chweil. Pan mae pob aelod o grŵp yn derbyn yr un radd, daw atebolrwydd personol yn fater.

Efallai y byddwch yn ei chael yn her i bennu graddau unigol ar gyfer prosiect grŵp. Mae rhai hyfforddwyr yn rhoi'r un radd i bob aelod ar gyfer eu haseiniad grŵp. Mae hyn yn gwaredu cystadlu o fewn y grŵp ac yn cadw'r ffocws ar weithio ar y cyd. I leihau pryderon myfyrwyr dros radd a rennir, byddwch yn siŵr bod y radd grŵp yn ganran fach yn unig o'u cyfanswm graddau.

Neu, gallwch ddefnyddio amrywiaeth o aseiniadau i raddio cyfraniad pob myfyriwr. Gallwch ofyn am werthusiadau gan gyfoedion ac adolygu sgôr prawf, arolygon ac aseiniadau ysgrifennu myfyriol pob aelod.


Manteision asesu gan gymheiriaid

Gydag asesu gan gymheiriaid, mae myfyrwyr yn cymryd rhan yn y broses werthuso. Maent yn sylwi ar ac yn barni gwaith pob aelod o'r grŵp. Gallwch ddefnyddio'r adborth i ychwanegu gradd cyfranogiad neu bwyntiau bonws i wobrwyo aelodau grŵp a gyflawnodd y gofynion a amlinellir.

Os yw aelodau grŵp yn ymwybodol ymlaen llaw y bydd yn rhaid iddynt raddi eu cymheiriaid, mae'n bosib y bydd myfyrwyr yn cael gwell ymdeimlad o gyfranogiad a chyfrifoldeb. Mae'n bosib y bydd y tîm yn creu cynnyrch terfynol o safon uwch ac yn dysgu mwy pan fyddant yn gwybod bod eu gwerthuswyr yn gweithio ochr yn ochr â nhw. Gallwch ddefnyddio asesu gan gymheiriaid fel rhan o'r broses gydweithio, ac nid dim ond fel arolwg a gyflwynir ar y diwedd pan nad oes unrhyw gyfle i wella'n bosib. Gallwch ofyn am wiriadau cyflym ynghylch sut mae'r broses cydweithio'n mynd.

Yn y pen draw, pan fyddwch yn aseinio gradd ar gyfer cyflawniad grŵp a chyfraniadau'r aelodau unigol, ystyriwch y cwestiynau hyn:

  • Sut mae'r grŵp wedi arfarnu ei lwyddiant a'i gilydd?
  • Ydy canlyniad y grŵp yn bodloni gofynion yr aseiniad?

Cyfarwyddiadau ac adroddiadau cynnydd

Darperwch gyfarwyddiadau, safonau, a chanllawiau cyn i fyfyrwyr asesu gwaith ei gilydd. Cymerwch yr amser i gwrdd yn rhithiol â phob tîm i drafod rolau tîm. Trafodwch sut rydych yn disgwyl i'r tîm gydweithio, pa mor aml y mae angen i gyfarfodydd ddigwydd, a sut mae'r gyfran asesu gan gymheiriaid yn effeithio ar eu graddau terfynol.

Gallwch ddefnyddio adroddiad cynnydd wythnosol syml i helpu aelodau grŵp i aros ar y trywydd cywir. Dylech gynnwys tri neu bedwar o'r cwestiynau hyn:

  • A gyflawnoch eich grŵp nodau'r wythnos?
  • A dreulioch ddigon o amser ar y gwaith grŵp?
  • Oedd pob aelod wedi cyfrannu'n gyfartal?
  • Oedd yr aelodau wedi gweithio'n dda gyda'i gilydd?
  • Beth arall a allech fod wedi ei gyfrannu i helpu eich tîm yr wythnos hon?
  • Beth arall a allai eraill fod wedi ei gyfrannu i helpu eich tîm yr wythnos hon?
  • Pwy gyfrannodd y mwyaf neu'r lleiaf yr wythnos hon?
  • Pa un agwedd o ddeinameg y tîm fyddech yn ei newid?
  • Beth yw'r tri pheth cadarnhaol ac un peth negyddol am eich profiad grŵp yr wythnos hon?

Rhagor am raddio aseiniadau grŵp

Rhagor am gyfarwyddiadau