Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i Wedd Cwrs Ultra yn unig.

Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i brofiad Ultra yn unig.

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae aseiniadau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Creu aseiniad

Mae aseiniadau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.

Gallwch greu aseiniadau ynghyd â mathau eraill o gynnwys. Gall myfyrwyr gael gafael ar eu gwaith wrth ymyl y cynnwys fydd ei angen arnynt, pryd bynnag y bydd ei angen arnynt. Gallwch greu aseiniad grŵp hefyd a’i ryddhau i un grŵp neu fwy yn eich cwrs.

Mwy ar greu aseiniadau ar gyfer grwpiau o fyfyrwyr

Mae croeso i chi arbrofi! Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld yr hyn ychwanegwch nes i chi wneud eich aseiniadau yn weladwy.

The Course Content page is open with the plus sign selected, the "Create" button clicked and the "Assignment" button highlighted.

Ar dudalen Cynnwys y Cwrs, dewiswch yr arwydd plws lle bynnag rydych eisiau ychwanegu aseiniad. Yn y ddewislen, dewiswch Creu i agor y panel Creu Eitem a dewiswch Aseiniad. Bydd y dudalen Aseiniad Newydd yn agor.

Gallwch ehangu neu greu ffolder ac ychwanegu aseiniad hefyd.

Wrth greu aseiniad, caiff eitem llyfr graddau ei chreu yn awtomatig.

Ar ôl i chi bostio graddau aseiniad, gall myfyrwyr weld eu sgorau ar eu tudalen graddau neu yn y ffrwd gweithgarwch. Gallant hefyd gael mynediad at aseiniad, eu cyflwyniadau, eich adborth, cyfarwyddiadau, a'u graddau o'r ddolen i'r aseiniad ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

 

Gosodiadau tudalen Aseiniad Newydd

Gwahaniaethu rhwng Aseiniadau a Phrofion yn Ultra

Mae Aseiniadau a Phrofion (wedi'u grwpio dan Asesiadau ym mhanel Eitemau Cynnwys y Cwrs) yn rhannu'r un rhyngwyneb defnyddiwr a'r un opsiynau. Mae llawer o opsiynau yn y gosodiadau wedi'u troi ymlaen neu eu diffodd yn seiliedig ar a oes o leiaf un cwestiwn yn yr asesiad.

Yn ymarferol, mae hyfforddwyr yn defnyddio'r asesiadau hyn yn wahanol. Er enghraifft, efallai byddwch yn creu aseiniadau â chyfarwyddiadau yn gofyn i fyfyrwyr gyflwyno ffeil i gael gradd. Mewn prawf, gall myfyrwyr ateb cyfres o gwestiynau rydych wedi'u hychwanegu at yr asesiad.

Er mwyn gwahaniaethu rhwng aseiniadau a phrofion, ac i amlygu llifau gwaith sydd â chwestiynau a'r rhai sydd hebddynt, bydd trafod aseiniadau yn pwysleisio llif gwaith heb gwestiynau wedi'u hychwanegu ato. Gallwch ychwanegu cwestiynau at eich aseiniad yn hawdd os hoffech wneud hynny.

I gael disgrifiad o lif gwaith sy'n cynnwys cwestiynau, ewch i Creu Profion.

Y dudalen Aseiniad Newydd

Mae tair cydran y gallwch eu haddasu ar y dudalen aseiniad newydd.

  • ychwanegu cynnwys aseiniad
  • rheoli a all myfyrwyr weld yr aseiniad
  • rhoi gosodiadau'r aseiniad ar waith
Image of new assignment page with boxes drawn around three areas to customize assignment: 1. Create content, 2. Student visibility, and 3. Assignments settings

Darparwch deitl disgrifiadol er mwyn i fyfyrwyr allu dod o hyd i'r aseiniad yn hawdd ymysg cynnwys eich cwrs. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, bydd y teitl yn ymddangos fel y ddolen mae myfyrwyr yn ei dewis i weld y deunyddiau. Os nad ydych yn ychwanegu teitl, bydd "Aseiniad Newydd" a'r dyddiad yn ymddangos yn y rhestr o gynnwys. Os nad ydych yn ychwanegu cynnwys, ni fydd yr aseiniad yn ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs.

Ychwanegu Cynnwys Aseiniad

Dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen i ychwanegu testun, ffeiliau, a chwestiynau.

Image of component to create assignment content with box drawn around plus sign button

Gallwch ychwanegu ffeiliau a thestun, megis cyfarwyddiadau, at yr aseiniad. Gallwch hefyd ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl, megis OneDrive® a Google Drive™. Mae'r opsiynau hyn i'w cael tuag at waelod y ddewislen ychwanegu cynnwys aseiniad.

Image of menu to add assignment content with box around non-question options

I gael gwybodaeth am ychwanegu cwestiynau, ewch i Creu Profion.

Gwelededd Aseiniad

Image of assignment visibility component displaying option menu

Nid yw myfyrwyr yn gallu gweld aseiniad nes i chi ddewis ei ddangos. Gallwch greu'ch holl gynnwys ymlaen llaw a dewis beth rydych chi eisiau i fyfyrwyr ei weld yn seiliedig ar eich amserlen. Gallwch hefyd bennu amodau argaeledd yn seiliedig ar ddyddiad, amser a pherfformiad ar eitemau eraill yn llyfr graddau’r cwrs. Ar y dudalen Cynnwys y Cwrs, gall myfyrwyr weld pryd rydych wedi trefnu i'r aseiniad ymddangos.

Gosodiadau Aseiniad

Mae ochr dde y dudalen yn amlinellu Gosodiadau Aseiniad. Er mwyn dewis a defnyddio gosodiadau, dewiswch yr eicon Gosodiadau i agor panel newydd.

Gweld cymwysiadau. Os oes gan fyfyrwyr yn eich cwrs gymwysiadau, byddant yn ymddangos yn yr adran Gosodiadau Aseiniad. Gallwch osod cymwysiadau ar gyfer myfyrwyr a’u heithrio rhag gofynion cwrs penodol, megis dyddiadau cyflwyno aseiniadau a therfynau amser. I addasu cymwysiadau, ewch i'r Rhestr ac agorwch ddewislen myfyriwr. Gallwch hefyd gael mynediad atynt o'r dudalen Cyflwyniad neu'r Llyfr Graddau.

Rhagor ar gymwysiadau

Image of Assignment Settings menu with box drawn around Accommodations display and Settings icon

Wrth ddewis eich gosodiadau, dewiswch y botwm Cadw ar waelod y panel pan fyddwch wedi gorffen.

Manylion a Gwybodaeth

Mae'r adran Manylion a Gwybodaeth yn darparu opsiynau ar gyfer cyflwyno aseiniad.

Image of Details & Information section of Assignment Settings panel

Rhowch ddyddiad cyflwyno. Mae dyddiadau cyflwyno yn ymddangos yn y calendr ac yn y ffrwd gweithgarwch. Mae cyflwyniadau hwyr i’w gweld â label Hwyr yn llyfr graddau’r cwrs. Gallwch wahardd myfyrwyr rhag cyflwyno gwaith ar ôl y dyddiad cyflwyno. Anogwch fyfyrwyr i adolygu beth y dylent ei gyflwyno nawr a beth sydd ar ddod er mwyn iddynt allu gofyn cwestiynau cyn gynted â phosibl.

Gwahardd cyflwyniadau hwyr. Gorfodi dyddiad cyflwyno llym ac atal cyflwyniadau hwyr. Cyflwynir ymgeisiau sydd ar y gweill a'r rhai sydd wedi'u cadw yn awtomatig ar y dyddiad cyflwyno. Bydd myfyrwyr yn derbyn derbynneb cyflwyniad drwy e-bost. Caiff cymwysiadau wedi'u nodi eu parchu.

Os yw myfyrwyr wedi cyflwyno ymgeisiau, ni allwch newid y dyddiad cyflwyno i ddyddiad yn y gorffennol. Os yw'r dyddiad cyflwyno wedi bod, ni allwch ddewis y gosodiad Gwahardd cyflwyniadau hwyr.

Gwahardd ymgeisiau newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. Atal myfyrwyr rhag dechrau ymgais newydd ar ôl y dyddiad cyflwyno. Caiff cymwysiadau wedi'u nodi eu parchu. 

Caniatáu sgyrsiau dosbarth. Beth os oes gan eich myfyrwyr gwestiynau am aseiniad? Gallwch ganiatáu sgyrsiau o fewn aseiniad, ac mae unrhyw yn gallu cyfrannu. Wrth i'r sgwrs ddatblygu, mae ond yn ymddangos gyda'r aseiniad perthnasol.

Rhagor am sgyrsiau

Casglu cyflwyniadau all-lein. Efallai y byddwch am raddio gwaith myfyrwyr nad yw'n galw ar fyfyrwyr i uwchlwytho cyflwyniad. Er enghraifft, gallwch ychwanegu graddau at eich llyfr graddau ar gyfer cyflwyniadau llafar, prosiectau ffair gwyddoniaeth, perfformiadau actio, a gwaith celf a ddarperir yn bersonol.

Rhagor am gasglu cyflwyniadau all-lein

Asesiadau ffurfiannol. Eu prif ddiben yw monitro dysgu myfyrwyr a rhoi adborth ar unwaith sy'n gallu cael ei ddefnyddio i wella dysgu a gwella perfformiad myfyrwyr. Mae asesiadau ffurfiannol yn eich helpu chi a'ch myfyrwyr i adnabod cryfderau ac unrhyw ardaloedd lle mae angen datblygiad ychwanegol. 

Rhagor am asesiadau ffurfiannol

Opsiynau Cyflwyniad

Os oes gan eich aseiniad gwestiynau, mae Opsiynau Cyflwyniad yn caniatáu i chi reoli sut dangosir cynnwys yr aseiniad i fyfyrwyr.

Am ragor o fanylion am opsiynau yn Opsiynau Cyflwyniad, ewch i Creu Profion.

Graddio a Chyflwyniadau

Mae Graddio a Chyflwyniadau yn darparu opsiynau ar gyfer math yr aseiniad a'r meini prawf graddio.

Image of top half of Grading & Submissions section of Assignment Settings panel

Newid categori’r graddau. Gallwch newid categori gradd aseiniad i fod yn rhan o un o'r categorïau personol y llyfr graddau y byddwch yn eu sefydlu yn eich cwrs. Gallwch greu categorïau newydd i bersonoli sut caiff gwaith cwrs ei grwpio yn eich cwrs. Gall categorïau personol fod yn ddefnyddiol pan fyddwch yn gosod y radd gyffredinol.

Pennu nifer yr ymgeisiau. Gallwch ganiatáu i'ch myfyrwyr gyflwyno mwy nag un ymgais o aseiniad. Pan fyddwch chi’n dewis caniatáu ymgeisiau lluosog, gallwch chi hefyd ddewis sut caiff y radd derfynol ei chyfrifo.

Dewiswch y sgema graddio. O ddewislen Graddio gan ddefnyddio, dewiswch sgema graddio sydd eisoes yn bodoli megis Pwyntiau. Gallwch newid y sgema graddio ar unrhyw adeg a chaiff y newid ei ddangos i fyfyrwyr ac yn eich llyfr graddau.

Gosod y Nifer mwyaf o bwyntiau. Ychwanegu gwerth rhifol rhwng 0 a 99,999 ar gyfer eich aseiniad. Os byddwch yn gadael y maes hwn yn wag, bydd y rhif yn 100 yn ddiofyn.

Galluogi graddio dienw. Pan fyddwch yn creu asesiad heb gwestiynau, gallwch alluogi graddio dienw. Caiff enwau'r myfyrwyr eu cuddio wrth i chi raddio. Gallwch ddim ond ychwanegu testun a ffeiliau at aseiniadau a raddir yn ddienw.

Rhagor am raddio dienw

Image of bottom half of Grading & Submissions section of Assignment Settings panel

Galluogi graddio cyfochrog. Mae graddio cyfochrog yn neilltuo dau raddiwr fesul myfyriwr. Gallwch alluogi graddio cyfochrog a neilltuo graddwyr wrth greu aseiniad. Gallwch hefyd alluogi graddio cyfochrog ar ôl i fyfyrwyr gyflwyno’u gwaith. Mae’r system yn neilltuo graddwyr o'ch dewis ar hap fel bod gan bob myfyriwr ddau raddiwr ar gyfer yr aseiniad. Dosbarthir y baich gwaith graddio yn gyfartal rhwng y graddwyr. Gall graddwyr ddim ond agor cyflwyniadau y myfyrwyr a neilltuwyd iddynt. Mae hyfforddwyr neu gysonwyr yn pennu'r graddau terfynol ar gyfer myfyrwyr.

Rhagor am raddio cyfochrog

Galluogi adolygu gan gyfoedion. Mae adolygu gan gyfoedion yn caniatáu i fyfyrwyr adolygu gwaith eu cyd-fyfyrwyr drwy werthusiad sy'n seiliedig ar feini prawf. Dewiswch Dewis gosodiadau cyfoedion i neilltuo'r nifer o adolygiadau fesul myfyriwr, dyddiad cyflwyno'r asesiad, a dyddiad cyflwyno'r adolygiad gan gyfoedion.

Rhagor am adolygu gan gyfoedion

Mae opsiynau graddio cyfochrog ac adolygu gan gyfoedion wedi'u hanalluogi ar gyfer asesiad sy'n cynnwys cwestiynau. Nid oes modd galluogi graddio cyfochrog ac adolygu gan gyfoedion ar yr un pryd. 

Galluogi gradd yr asesiad. Cyhoeddi gradd myfyriwr yn awtomatig unwaith bod graddio wedi'i chwblhau. Diffoddwch y gosodiad os ydych eisiau rheoli cyhoeddi graddau â llaw.

Canlyniadau'r asesiad

Os oes gan eich aseiniad gwestiynau, mae Canlyniadau'r asesiad yn caniatáu i chi reoli sut mae myfyrwyr yn gweld adborth, sgoriau, ac atebion ar ôl cyflwyno eu gwaith.

Am ragor o fanylion am opsiynau yn Canlyniadau'r asesiad, ewch i Creu Profion.

Diogelwch asesiad

Mae Diogelwch Asesiad yn darparu offer i ddiogelu'r aseiniadau rydych yn eu creu.

Image of Assessment security section of Assignment Settings panel

Ychwanegu cod mynediad. Gallwch ddosbarthu cod mynediad i reoli pan fydd myfyrwyr yn cyflwyno aseiniad. Cynhyrchir codau mynediad ar hap gan y system. Gallwch hefyd ychwanegu cod mynediad at aseiniad grŵp.

Rhagor am godau mynediad

Cyrchu Respondus. Mae Respondus® yn offeryn trydydd parti y gallwch ei ddefnyddio i greu, rheoli ac argraffu profion yn Blackboard. Dewiswch y ddolen i lansio'r offeryn.

Rhagor am Respondus

Rhagor am Asesiad a Oruchwylir

Offer Ychwanegol

Mae Offer Ychwanegol yn darparu nifer o opsiynau ychwanegol i bersonoli eich aseiniad. 

image of Additional tools section of Assignment Settings panel

Ychwanegu terfyn amser. Gall terfyn amser gadw myfyrwyr ar y trywydd iawn ac yn canolbwyntio ar yr aseiniad. Mae gan bob myfyriwr gyfnod cyfyngedig i gyflwyno'r gwaith. Caiff yr ymgeisiau ar yr aseiniad eu cadw a'u cyflwyno'n awtomatig pan ddaw'r amser i ben. Gallwch hefyd ganiatáu i fyfyrwyr weithio ar ôl y terfyn amser. Gallwch ddim ond ychwanegu terfynau amser at aseiniadau unigolion (nid aseiniadau grŵp).

Ychwanegu cyfarwyddyd graddio. Mae cyfarwyddyd yn offeryn sgorio ar gyfer gwerthuso gwaith a raddir. Gall defnyddio cyfarwyddiadau eich helpu i werthuso gwaith a gyflwynir gan fyfyrwyr yn seiliedig ar feini prawf allweddol rydych yn eu diffinio. Gallwch greu cyfarwyddyd newydd neu gysylltu cyfarwyddyd sydd eisoes yn bodoli.  Gallwch ddim ond ychwanegu cyfarwyddyd at aseinad heb gwestiynau.

Ychwanegu nodau a safonau. Gallwch alinio aseiniad ag un neu fwy o nodau. Gallwch chi a'ch sefydliad ddefnyddio nodau i fesur cyflawniad myfyrwyr ar draws rhaglenni a chwricwla. Gallwch hefyd alinio cwestiynau unigol â nodau.

Gwneud aseiniad grŵp. Gallwch greu aseiniad ar gyfer un grŵp o fyfyrwyr neu ragor. Yn rhagosodedig, byddwch yn pennu gradd i bob grŵp fel cyfanrwydd, ond gallwch newid gradd unigol aelod o grŵp.

Galluogi SafeAssign. Gallwch ddefnyddio SafeAssign i wirio am lên-ladrad posibl yng nghyflwyniadau myfyrwyr. Gallwch alluogi'r Adroddiad Gwreiddioldeb SafeAssign ar unrhyw adeg, hyd yn oed ar ôl i fyfyrwyr ddechrau eu cyflwyniadau. Fodd bynnag, bydd cyflwyniadau dim ond yn cael eu gwirio pan fydd SafeAssign wedi'i alluogi.

Ychwanegu disgrifiad dewisol. Bydd y disgrifiad yn ymddangos gyda theitl yr aseiniad ar dudalen Cynnwys y Cwrs. Dyma le y gallwch roi mwy o wybodaeth am yr aseiniad i fyfyrwyr. Hyd mwyaf disgrifiad yw 750 nod. Bydd rhybudd yn ymddangos dan faes y disgrifiad pan fydd 75 nod neu lai yn weddill.

Image of Description field of Assignment Settings panel with example descriptive text

Os byddwch yn mynd dros yr hyd mwyaf, bydd rhybudd yn nodi faint o nodau dros y tefryn yr ydych. Ni fydd modd cadw'r disgrifiad nes bod eich testun dan yr hyd mwyaf.

Image of Description field of Assignment Settings panel with example descriptive text that exceeds maximum character length

Ychwanegu ffeiliau a blociau testun at aseiniadau

Dewiswch yr arwydd plws i agor y ddewislen lle bynnag rydych eisiau ychwanegu cwestiynau, testun neu ffeil. Gallwch ychwanegu cynifer o flociau testun a ffeiliau ag y mynnwch,

The assignment space is open with 1) a True/False question created, 2) an Essay question created, and 3) the plus sign clicked and the "Add text" option selected.

Ychwanegu blociau testun. Dewiswch Ychwanegu testun i agor y golygydd. Gallwch gynnwys cyfarwyddiadau ar gyfer adran o'r aseiniad neu destun cyflwyniadol ar gyfer ffeil sain neu ddelwedd. Gallwch hefyd ludo testun o ddogfen Word.

Gallwch hefyd ddefnyddio’r golygydd i blannu delweddau ac atodi ffeiliau ynghyd â’ch testun.

Os byddwch yn creu aseiniad sy'n cynnwys blociau testun yn unig, gallwch newid y Sgôr uchafswm eich hun yn Gosodiadau'r Aseiniad.

Ychwanegu ffeiliau. Dewiswch Ychwanegu ffeil leol i bori am ffeil ar eich cyfrifiadur. Eich sefydliad sy'n rheoli uchafswm maint y ffeil y gallwch ei huwchlwytho. Ni allwch ychwanegu ffolder o ffeiliau.

Ychwanegu ffeil o’r Storfa Cwmwl. Gallwch gysylltu ar unwaith â sawl ap gwe lle rydych yn storio’ch ffeiliau, megis One Drive. Bydd y ffeiliau a ychwanegwch yn gopïau. Os ydych am olygu ffeil a gedwir ar eich storfa cwmwl, bydd angen i chi uwchlwytho copi newydd ohono i’ch cwrs. Os yw’ch porwr yn ei ganiatáu, bydd ffeiliau cyfryngau yr ydych yn eu hychwanegu o’r storfa cwmwl yn cael eu dangos yn fewnol.

Rhagor am storfa cwmwl

Opsiynau gwylio ffeil amlgyfrwng

Opsiynau gwylio ffeil amlgyfrwng

Os yw'ch porwr yn ei chaniatáu, mae ffeiliau amlgyfrwng yr ychwanegwch yn ymddangos yn fewnol yn ddiofyn. Os nad yw'ch porwr yn gallu arddangos ffeil amlgyfrwng yn fewnol, mae'n ymddangos fel atodiad. Bydd ffeiliau y byddwch chi'n eu hychwanegu o storfa cwmwl yn ymddwyn yn yr un modd.

Caiff delweddau sy’n ymddangos yn fewnol eu hymgorffori mewn bloc 768 picsel ger y torbwyntiau mwyaf. Yr agosaf yw'r delweddau i'r maint hwnnw, y lleiaf o badin sy'n ymddangos o'u hamgylch.

Ewch i ddewislen ffeil amlgyfrwng a dewiswch Golygu.

I olygu testun amgen neu ymddygiad arddangos y ffeil, dewiswch y ffeil yn y golygydd ac wedyn dewiswch yr eicon Golygu Atodiad.

Yn ffenestr Golygu Priodweddau'r Ffeil, gallwch ddewis sut mae'ch fideo, ffeil sain neu ddelwedd yn ymddangos yn yr asesiad: yn fewnol neu fel atodiad: Er enghraifft, gallwch chi arddangos ffeiliau mawr iawn fel atodiadau y gall myfyrwyr eu lawrlwytho. Galwch olygu enwau ffeiliau ar gyfer ffeiliau a ddangosir fel atodiadau.

Gallwch hefyd ychwanegu testun amgen i ddisgrifio'r delweddau ychwanegwch chi. Mae testun amgen yn disgrifio'r ddelwedd ar gyfer pobl sy'n defnyddio darllenyddion sgrin neu'n ymweld â thudalennau gwe gyda delweddau wedi'u diffodd.

Ar gyfer ffeiliau fideo a sain sy’n ymddangos yn fewnol, gall myfyrwyr chwarae, oedi a rheoli'r sain. Ar gyfer ffeiliau fideo, gall myfyrwyr weld y fideo mewn sgrin lawn.

Gweld ffeiliau amlgyfrwng fel atodiadau

Ar gyfer ffeiliau amlgyfrwng sy'n ymddangos fel atodiadau, mae myfyrwyr yn cyrchu'r ddewislen ac yn dewis Rhagolwg o'r Ffeil neu Lawrlwytho'r Ffeil Wreiddiol. Mae gan hyfforddwyr yr opsiynau ychwanegol o symud, golygu a dileu.

Rhagor am olygu ffeiliau o fewn cwestiynau


Ychwanegu amserydd

Gallwch ychwanegu terfyn amser at aseiniad yng Ngwedd Cwrs Ultra. Mae terfyn amser yn gallu cadw myfyrwyr ar y trywydd cywir ac yn canolbwyntio ar yr aseiniad gan fod gan bob person gyfnod penodedig o amser i gyflwyno'u gwaith. Caiff yr ymgeisiau ar yr aseiniad eu cadw a'u cyflwyno'n awtomatig pan ddaw'r amser i ben.

Gallwch hefyd ganiatáu i fyfyrwyr weithio ar ôl y terfyn amser. Mae amser ychwanegol yn caniatáu i fyfyrwyr ailgysylltu os ydynt yn colli cysylltiad yn ystod eu hymgeisiau. Gallwch ganiatáu amser ychwanegol i weld a yw'r amser ychwanegol osodoch chi'n ddigon i fyfyrwyr gwblhau'r aseiniad. Pan fyddwch yn graddio aseiniadau, gallwch weld faint o amser ychwanegol ddefnyddiodd pob myfyriwr i gwblhau'r aseiniad. Os ydych wedi cynnwys cwestiynau, gallwch hefyd weld pa gwestiynau cafodd eu hateb o fewn y terfyn amser cychwynnol. Mae myfyrwyr hefyd yn gweld y wybodaeth yma pan maen nhw'n cael mynediad at eu haseiniadau graddedig.

Ar hyn o bryd, ni allwch ychwanegu terfyn amser at aseiniadau grŵp.


Golygu, aildrefnu a dileu aseiniadau

Gallwch wneud newidiadau i aseiniadau cyfredol a newid lle maen nhw'n ymddangos ar eich tudalen Cynnwys y Cwrs. Byddwch yn ymwybodol, os byddwch yn newid aseiniad sydd eisoes yn bodoli y gall myfyrwyr gael mynediad ato, mae'n bosib bod rhai myfyrwyr wedi dechrau ar eu cyflwyniadau. Ni allwch newid y sgema graddio os ydych eisoes wedi dechrau graddio.

Pwyswch ar eicon Symud yn rhes aseiniad a'i symud i leoliad newydd. Gallwch hefyd symud aseiniad i mewn i ffolder.

Yn rhes aseiniad, agorwch y ddewislen i ddewis y swyddogaethau Golygu a Dileu.

The Course content section is open with 1) an assignment selected, 2) the "Move" icon clicked and highlighted, and 3) the dropdown list with the options to edit, reorder, or delete assignments on screen.

Gallwch ddefnyddio'ch bysellfwrdd i symud aseiniad.

  1. Tabiwch i eicon Symud eitem.
  2. Pwyswch Enter i alluogi’r modd symud.
  3. Defnyddiwch y bysellau saethau i ddewis lleoliad.
  4. Pwyswch Enter i ollwng yr eitem yn y lleoliad newydd.

Dileu aseiniadau

Gallwch ddileu aseiniad o'ch cwrs ac os does dim cyflwyniadau gan fyfyrwyr, bydd yr eitem hefyd yn cael ei dileu yn y llyfr graddau. Ar gyfer aseiniadau sydd â chyflwyniadau, bydd rhaid i chi gadarnhau eich bod eisiau tynnu'r aseiniad, yr holl gyflwyniadau a graddau o'ch cwrs yn barhaol.

Neu, gallwch guddio'r aseiniad rhag myfyrwyr er mwyn cadw'r cyflwyniadau a'r sgoriau yn y Llyfr Graddau. Ni all myfyrwyr gael mynediad at aseiniadau cudd ar dudalen Cynnwys y Cwrs neu ar eu tudalennau graddau hyd yn oed os ydych wedi graddio cyflwyniadau.

 

Llywio rhyngwyneb aseiniad 

Gallwch lywio'r tabiau ar frig asesiad rydych wedi'i greu i gael mynediad hawdd at wybodaeth fel: 
 

  • Cynnwys a gosodiadau 
  • Cyflwyniadau 
  • Gweithgarwch Myfyrwyr 
Tab navigation in Assessments

Aseiniadau a'r ffrwd gweithgarwch

Pan fyddwch yn creu aseiniad ac yn ei wneud yn weladwy i fyfyrwyr, byddant yn cael gwybod yn eu ffrydiau gweithgarwch.

New assignment notification displayed in the activity stream of the Student's view.

Ar ôl i chi bostio graddau aseiniad, mae myfyrwyr yn gallu dewis Gweld eich gradd i ddangos eu graddau. Bydd unrhyw adborth a ddarparwch yn ymddangos ar ôl teitl yr aseiniad.

The activity stream of the Student's view is open with the "View my grade" button clicked and an example grade highlighted.

Byddwch yn gweld rhybudd yn y ffrwd pan fydd gennych gyflwyniadau i'w graddio. Dewiswch deitl yr aseiniad i ddechrau graddio ar dudalen cyflwyniadau'r aseiniad.

New submission ready to grade notification displayed in the activity stream of the Instructor's view.

Rhagor am y ffrwd gweithgarwch


Casglu cyflwyniadau all-lein

Gallwch greu asesiadau sy'n ymddangos ar dudalen Cynnwys y Cwrs nad ydynt yn gofyn i fyfyrwyr uwchlwytho cyflwyniadau. Gallwch ychwanegu cyfarwyddiadau, ffeiliau, cyfarwyddyd, a nodau fel y gall myfyrwyr baratoi ar gyfer y gwaith all-lein. Gallwch hefyd alluogi sgyrsiau, ond ni allwch chi ychwanegu cwestiynau neu raddio'n ddienw.

Enghreifftiau o waith all-lein:

  • Cyflwyniadau llafar
  • Prosiectau ffair gwyddoniaeth
  • Perfformiadau actio
  • Gwaith celf wedi'i gyflwyno'n bersonol
  • Ymarferion adeiladu tîm wyneb yn wyneb, trafodaethau panel a thrafodaethau

Efallai y bydd hyfforddwyr sy'n addysgu cyrsiau hybrid yn canfod mai'r math hwn o asesiad yw'r mwyaf defnyddiol. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio cyfarwyddyd i raddio cyflwyniad mewn dosbarth wrth i fyfyriwr gyflwyno. Nid oes angen cymryd nodiadau neu ychwanegu sgôr wedyn.

Pan fyddwch yn creu asesiad, gallwch ddewis casglu cyflwyniadau heb gyswllt yn y panel gosodiadau. Pan fydd myfyrwyr yn agor y math hwn o asesiad, fe'u hysbysir na allant gyflwyno gwaith ar-lein. Os byddwch yn creu grwpiau i gasglu cyflwyniadau all-lein, bydd myfyrwyr yn gallu gweld aelodau eu grŵp.

The Assignment page is open with 1) the Assignment settings panel on screen and 2) the "Collect submissions offline" option clicked and highlighted.

Ar gyfer cyflwyniadau a gesglir all-lein, ni allwch ganiatáu ymgeisiau lluosog, caniatáu terfyn amser neu ddefnyddio SafeAssign.

Ar gyfer graddau sy'n mynnu bod myfyrwyr yn bresennol y tu allan i'r dosbarth, megis ar gyfer siaradwr gwadd neu daith maes, gallwch chi ychwanegu cyfarfodydd at y nodwedd bresenoldeb.

Rhagor ar ychwanegu cyfarfod

Graddio cyflwyniadau heb gyswllt

Pan rydych yn barod i raddio cyflwyniadau heb gyswllt, agorwch y dudalen gyda'r rhestr o gyflwyniadau o dudalen yr asesiad neu o'r Llyfr Graddau. Dewiswch enw myfyriwr i agor panel Creu Ymgais, rhowch ddyddiad ac amser y cyflwyniad, a chadwch eich newidiadau.

The Submission list page is open with 1) a student name selected and 2) the Create Attempt panel opened with the submission date and time option on screen.

Ar dudalen cyflwyniadau y myfyriwr, gallwch bennu gradd a defnyddio cyfarwyddyd os ydych wedi cysylltu un.

Student's submission page is open and the view for assigning grades is displayed.

Beth mae myfyrwyr yn ei weld?

Gall myfyrwyr weld yr asesiad ochr yn ochr â'r cynnwys arall ar dudalen Cynnwys y Cwrs ac ar eu tudalennau graddau cyffredinol a chwrs. Bydd myfyrwyr yn cael eu hysbysu bod dim modd iddynt gyflwyno gwaith ar-lein. Gallant gyrchu gwybodaeth arall, megis y cyfarwyddiadau a chyfeireb os ydych wedi ychwanegu un. Gall myfyrwyr gymryd rhan yn y sgyrsiau ar yr asesiad os ydynt wedi'u galluogi.

The Course content panel from the Student's view is open with 1) an example assignment selected and 2) the "Grading rubric" and "Goals standards" options highlighted.

Rhagor am lif gwaith myfyrwyr