Cyn i chi gychwyn arni

I gael profiad gwych yn Blackboard Learn gyda JAWS®, mae angen i chi wybod rhai pethau.

Gosod Modd Ffurflenni Awtomatig i'r Modd â Llaw

Pan mae modd ffurflenni awtomatig wedi'i osod yn ddiofyn, sef yn "Awtomatig", bydd gosod saeth dros faes golygu, blwch cyfuniad neu reoliad arall yn ei ffocysu'n awtomatig ac yn troi modd ffurflenni ymlaen. Gan fod tudalennau Blackboard yn llawn cynnwys, yn aml mae angen adolygu cynnwys tudalen fesul llinell. Am y rheswm hwn, gosodwch y Modd Ffurflenni Awtomatig i'r Modd â Llaw.

  1. Agorwch eich porwr a llwythwch Blackboard Learn.
  2. Pwyswch Insert + V i agor y deialog Gosodiadau Sydyn.
  3. Teipiwch Modd Ffurflenni Awtomatig yn y maes chwilio a phwyswch Tab i ffocysu'r rhestr o ganlyniadau. Dylai Modd Ffurflenni Awtomatig ymddangos fel y canlyniad cyntaf. Caiff hwn ei osod yn awtomatig yn ddiofyn.
  4. Pwyswch y Bylchwr tan fod JAWS yn cyhoeddi ei bod wedi ei osod i'r Modd â Llaw.
  5. Pwyswch Enter ddwywaith i roi'r newidiadau ar waith a chau'r deialog.

Dechreuwch JAWS cyn lansio eich porwr

Mae'n rhaid lansio JAWS cyn agor y porwr. Os nad ydych yn gwneud hynny, efallai byddwch yn cael y problemau hyn.

  • Gwallau wrth wasgu'r bysell frys i ddolenni rhestri (Insert + 7), meysydd ffurflenni (Insert + F5), penawdau (Insert + F6) ac ati
  • Ni allwch ddefnyddio'r saethau i fyny ac i lawr i fynd trwy gynnwys gyda chyrchwr rhithwir y cyfrifiadur

I drwsio hyn, caewch bob ffenestr y porwr ac ail-agorwch Blackboard Learn. Dylai JAWS gymryd cynnwys y dudalen a dylai'r rhestri o elfennau weithio fel arfer.


Canfod penawdau, dolenni a rheoliadau ffurflenni

Os nad ydych yn gyfarwydd gyda gorchmynion llywio HTML JAWS, argymhellwn eich bod yn darllen y dogfennau perthnasol yn adran gymorth JAWS.

Y gorchmynion hyn fydd mwyaf defnyddiol wrth i chi ddefnyddio Blackboard Learn:

  • Pwyswch fysell H a Shift + H i symud rhwng y penawdau ar dudalen.
  • Pwyswch Insert + F7 er mwyn i JAWS restru dolenni.
  • Pwyswch Insert + F5 ar gyfer rheoliadau ffurflenni.
  • Pwyswch Insert + F6 i weld rhestr o benawdau. Dechreuwch deipio enw pennawd i ddod o hyd iddo yn sydyn o fewn y rhestr.

    Enghraifft: Teipiwch "Fy nghwrs" i ddod o hyd i bennawd Fy Nghyrsiau a phwyswch Enter i fynd iddo.

  • Pwyswch CTRL + F i ddod o hyd i destun ar dudalen yn sydyn. Teipiwch destun megis "Fy Nghwrs" yn neialog Chwilio JAWS sy'n ymddangos a phwyswch Enter. Bydd JAWS yn chwilio am ddigwyddiad nesaf y testun hwnnw ac yn neidio iddo.

Darganfod beth gallwch ei wneud ar dudalen

Defnyddiwch fysell Tab a bysellau Shift + Tab i symud rhwng dolenni, rheoliadau ffurflenni a chynnwys eraill ar dudalen y gellir gweithredu arno. Mae Blackboard Learn wedi rhoi testun cyfarwyddiadol ni ellir gweithredu arno yn nhrefn y Tabiau. Os byddwch yn pwyso Tab ac yn cyrraedd eitem sy'n dechrau gyda geiriau sy'n gyfarwyddiadol eu natur, cyfarwyddiadau yw'r rhai hyn ac ni allwch weithredu arnynt.

Enghraifft: Pwyswch 'Cyflwyno' i greu'r prawf

Parhewch i bwyso Tab i ddod o hyd i'r rheoliad rydych yn edrych am.

Os byddwch yn clywed rôl elfen ar ôl tabio iddi (dolen, botwm, blwch ticio, golygu, Blwch Cyfuniad, ac ati), yna gallwch ryngweithio gyda'r elfen honno yn yr un modd ag y byddech yn gwneud gydag unrhyw raglen arall.


Analluogi'r Modd Ffurflenni

Mae JAWS yn galluogi'r Modd Ffurflenni pan mae'n credu bydd angen i chi nodi testun, adolygu testun neu drin rheoliad. Byddwch yn clywed bib uchel yn cyhoeddi bod y Modd Ffurflenni wedi'i galluogi.

Bydd angen i chi ddiffodd Modd Ffurflenni er mwyn adolygu testun ar dudalen gan ddefnyddio'r saethau i fyny ac i lawr.

I ddiffodd y modd ffurflenni, pwyswch y bysell Plws ar y pad rhifau. Os ydych wedi galluogi Modd y Gliniadur, pwyswch Caps Lock + hanner colon.


Modd Rhaglenni.

Wrth ffocysu ar reoliadau'r Golygydd Cynnwys Cyfoethog, mae JAWS yn mynd i mewn i'r Modd Rhaglenni. Mae hyn yr un peth â'r Modd Rhaglenni, heblaw am y ffaith y bydd angen i chi bwyso NumPad Plus ddwywaith i adael. Y tro cyntaf i chi bwyso Plws, byddwch yn clywed "Modd Rhaglen." Pwyswch Plws eto cyn i JAWS gorffen dweud y gair "Rhaglen." Mae JAWS yn analluogi'r Modd Ffurflenni er mwyn i chi allu adolygu cynnwys tudalen.


Dewislenni

Rhestr fertigol o eitemau sy'n ymddangos ar ôl galluogi dolen yw dewislenni. Defnyddiwch y saethau i fyny ac i lawr i symud trwy'r rhestr hon. Mae'n bwysig talu sylw i'r cyd-destun oherwydd nad oes gan eitemau dewislenni rôl dolen. Wrth ffocysu arnynt, eu henwau yw'r unig beth a fydd yn cael ei ddweud ar lafar.

Mae pwyso Tab tra bod dewislen ar agor yn cau'r ddewislen.

Os byddwch yn agor dewislen ac yn penderfynu eich bod wedi dewis y ddolen anghywir, pwyswch Tab i ddiystyru'r ddewislen. Fodd bynnag, mae JAWS fel arfer yn gadael Modd Ffurflenni ymlaen.


Dewislen y Cwrs

Mae Dewislen y Cwrs yn cynnwys dolenni i neidio i'r Ganolfan Raddau, asesiadau, wikis, blogiau, grwpiau, fforymau trafod, cyhoeddiadau, ac ati.

Gallwch ddod o hyd i'r ddewislen hon dan bennawd lefel 2 yn Newislen y Cwrs.


Blychau ticio

Mae'n bosib y bydd JAWS yn adrodd statws wedi ticio neu heb ei dicio blwch ticio mewn modd rhyfedd.

  • Ar rai tudalennau, mae JAWS yn cyhoeddi "Wedi ticio. Heb ei dicio." ar ôl pwyso'r bylchwr i dicio blwch ticio.
  • Pan mae bysell y bylchwr yn dad-dicio blwch ticio, bydd JAWS yn cyhoeddi "Heb ei dicio. Heb ei dicio."

Os nad ydych yn siŵr o statws blwch ticio neu unrhyw reolydd arall, pwyswch Insert + Tab i'w ailadrodd.


Golygyddion testun cyfoethog

Mae mwyafrif y meysydd golygu aml-linell yn caniatáu fformatio testun. Mae'r rhain yn cynnwys sylwadau, disgrifiadau, ac ati. Mae'r rheolyddion i fformatio testun wedi'u cynnwys mewn bar offer.

Gallwch redeg ar draws y rheoliadau hyn wrth ddefnyddio'r saethau i fynd trwy bob tudalen. Mae llawer ohonynt. Pwyswch Tab i neidio i lawr i'r maes golygu, lle bydd modd i chi roi cynnwys.

Nid yw testun a nodir mewn maes ffurflen yn cael ei darllen allan yn awtomatig gan ddarllenydd sgrin. Defnyddiwch y gorchmynion darllen safonol: Pwyswch INSERT + saeth i'r dde neu'r chwith i ddarllen nodau/geiriau. Pwyswch ALT + bysell saeth i ddarllen y frawddeg nesaf/flaenorol. Pwyswch CTRL + bysellau saethau i ddarllen paragraffau. Gallwch hefyd dabio allan o'r maes a defnyddio SHIFT + TAB i fynd yn ôl iddo. Dylai hynny achosi i JAWS ddechrau darllen y cynnwys.