Ynghylch dogfennau hygyrch

Mae cynnwys sy'n cael ei greu yn Blackboard gan ddefnyddio'r golygydd cynnwys yn cael ei fformatio'n awtomatig mewn HTML, gan ddilyn safonau hygyrchedd. Gallwch gysylltu â chynnwys neu dynnu gwybodaeth o ffynonellau eraill gan ddefnyddio'r golygydd cynnwys neu offer eraill Learn. Nid yw cynnwys rydych chi'n ei ychwanegu fel atodiad neu ffeil sydd wedi'i chysylltu trwy ddolen yn cael ei fformatio'n awtomatig. Gwnewch yn siŵr bod eich myfyrwyr yn gallu darllen eich atodiadau a'ch ffeiliau sydd wedi'u cysylltu trwy ddolen ac yn gallu rhyngweithio â nhw, drwy sicrhau eu bod yn hygyrch. Pan fydd eich dogfen yn cael ei fformatio gan ddefnyddio arddulliau a thagiau, bydd yn hygyrch i'ch defnyddwyr sy'n dibynnu ar dechnoleg gynorthwyol (darllenwyr sgrin)

Mae gan ddogfennau hygyrch strwythur sy'n seiliedig ar elfennau arddull neu dagiau. Mae'r strwythur hwn yn darparu hierarchaeth gwybodaeth. Mae'r wybodaeth bwysicaf yn cael ei nodi fel lefel uchel yn y ddogfen, ac mae gwybodaeth ategol yn cael ei nodi fel lefelau is. Mae gan ddarluniadau, graffiau a thablau sy'n ymddangos mewn dogfen dagiau penodol sy'n seiliedig ar ba fath o wybodaeth y maent yn ei chyfleu.

Mae darllenwyr sgrin yn defnyddio tagiau i gyfleu hierarchaeth gwybodaeth mewn dogfen i ddefnyddwyr er mwyn iddynt ddeall trefn y deunydd. Mae tagiau hefyd yn cael eu defnyddio i ddarparu gwybodaeth arall i ddefnyddwyr fel disgrifiadau o gynnwys gweledol a threfn y data mewn tablau.

Ychwanegu strwythur at ddogfennau gan ddefnyddio arddulliau a thagiau yn ystod y broses ysgrifennu yw'r modd cyflymaf, mwyaf dibynadwy o greu dogfennau hygyrch. Mewn bron pob achos, bydd arddulliau a thagiau a ychwanegir mewn rhaglen fel Microsoft© Word yn cael eu trosglwyddo pan fyddwch yn cadw'r ddogfen mewn fformat arall megis Adobe PDF neu HTML.

Defnyddio dogfennau mewn Learn

Mae sawl maes yn Learn yn caniatáu i chi ychwanegu dogfennau, gan gynnwys tudalennau cynnwys, aseiniadau a phrofion. Fformatiwch unrhyw ffeiliau y byddwch yn eu rhannu yn eich dosbarth gan ddefnyddio arddulliau a thagiau. Bydd hyn yn sicrhau bod eich holl fyfyrwyr yn gallu cymryd rhan lawn, pa bynnag dechnoleg y byddant yn ei defnyddio i ddarllen dogfennau.

Anogwch eich myfyrwyr i fformatio dogfennau y maent yn eu cyfnewid mewn grwpiau ac ar gyfer aseiniadau grŵp a chyflwyniadau grŵp gan ddefnyddio arddulliau a thagiau. Mae hyrwyddo hygyrchedd ymhlith eich myfyrwyr yn codi ymwybyddiaeth ac yn cynyddu cyrhaeddiad, dargadwad a bodlonrwydd myfyrwyr.


Gwneud dogfennau Microsoft©Word yn hygyrch

Defnyddiwch benawdau

MS Word styles dialog

Crëwch strwythur penawdau cyson yn Word trwy ddefnyddio arddulliau. Mae hyn yn wahanol i ddim ond newid main y ffont neu wneud y ffont yn fras. Gosodwch eich arddulliau dogfen neu defnyddiwch un o dempledi sy'n cael ei gynnwys ar Microsoft Word. Yn Word 2007 a 2010, dewiswch floc o destun i'w newid ac wedyn dewiswch yr arddull briodol o'r bar offer. Mae gan fersiynau gwahanol o Word ffyrdd ychydig yn wahanol o gyrchu a gosod arddulliau, felly defnyddiwch yr help yn eich fersiwn chi am gyfarwyddiadau penodol.

Fel rheol gyffredinol, peidiwch â defnyddio mwy nag un Pennawd 1 <H1> ar dudalen. Mae'r tag <H1> yn adnabod y lefel wybodaeth uchaf yn strwythur y ddogfen. Defnyddir Pennawd 1 ar gyfer teitlau penawdau, penawdau prif adrannau a rhaniadau eraill sy'n cynrychioli'r lefel uchaf o wybodaeth. Defnyddiwch Bennawd 2 <H2> a phenawdau rhifau llai i adnabod yr is-lefelau gwybodaeth yn eich dogfen.

Wrth ychwanegu tagiau pennawd, byddwch yn gyson a chofiwch gynnwys pob lefel yn yr hierarchaeth ble fo'n briodol i adlewyrchu trefn y ddogfen. Cofiwch fod P2 yn dod ar ôl P1, yna P3 a P4. Peidiwch â mynd o P1 i P4 at ddibenion fformatio yn unig. Yn hytrach, newidiwch eich arddull ar gyfer pob pennawd er mwyn newid y ffordd y mae'n edrych.

Testun amgen ar gyfer delweddau

Mae darllenwyr sgrin yn defnyddio testun amgen i ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr am ddelweddau. Yn y rhan fwyaf o fersiynau Word, de-gliciwch ar ddelwedd a dewiswch Fformatio'r Llun... yn y blwch deialog, dewiswch yr opsiwn Testun Amgen, ac wedyn teipiwch eich testun amgen. Byddwch yn benodol ac yn gryno er mwyn i ddefnyddwyr ddeall beth sy'n cael ei ddisgrifio'n gyflym. Mae gan wahanol fersiynau Word ffyrdd ychydig yn wahanol o gofnodi testun amgen, felly defnyddiwch yr help yn eich fersiwn chi er mwyn cael cyfarwyddiadau penodol.

Mae gan Word 2010 ddau faes testun, Teitl a Disgrifiad. Teipiwch eich testun amgen yn y blwch Disgrifiad fel bod y testun amgen yn cael ei drawsnewid i'r fformat newydd pan fyddwch yn trawsnewid dogfennau Word i PDF neu HTML. Nid yw teitlau'n cael eu trosi'n fformatau eraill, felly byddai'n rhaid i chi eu cofnodi eto yn y fformat newydd.

Tablau data

Mewn dogfennau hygyrch, nid yw tablau'n cael eu defnyddio i fformatio cynllun ar dudalen, oherwydd mae'n anodd i ddarllenwyr sgrin ddeall saernïaeth y wybodaeth a beth sy'n cael ei gyflwyno. Dim ond i gyflwyno data y defnyddir tablau. Er mwyn i ddarllenwyr sgrin ddehongli data mewn tabl er mwyn i ddefnyddwyr ddeall sut mae'r data'n cael ei drefnu, rhaid i'r darllenydd sgrin allu nodi pa gelloedd sy'n rhan o'r rhes pennawd a pha gelloedd sy'n cynnwys data. Gallwch nodi bod rhes yn ailadrodd ar dop pob tudalen yn y ddewislen Priodweddau Tabl yn Word. Pan fydd yn cael ei gadw ar ffurf PDF, mae'r rhes gyntaf yn cael ei gweld fel pennawd tabl. Os gedwir y ffeil Word ar ffurf HTML, nid yw penawdau'r tabl yn cael eu cadw. Yn lle hynny, mae’r celloedd yn cael eu tagio fel <thead>. Mae celloedd data yn cael eu tagio fel <tbody>.

Pan fyddwch yn trosi HTML o Word, gallwch olygu'ch dogfen HTML gan ddefnyddio golygydd testun neu ap arall megis Adobe Dreamweaver i ychwanegu tagiau tabl penodol. Defnyddiwch <th> i dagio penynnau tabl, <tr> i adnabod dechrau pob rhes newydd, a <td> i dagio celloedd sy'n cynnwys data. Gweler yr enghraifft ganlynol. Yn anffodus, nid oes modd tagio'r elfennau unigol hyn yn Word.

<thead>
        <tr>
            <th>Column Header 1</th>
            <th>Column Header 2</th>
        </tr>

</thead>
<tbody>
        <tr>
            <td>data tabl yng ngholofn 1</td>
            <td>data tabl yng ngholofn 2</td>
        </tr>
</tbody>

Mae'n hawdd creu dolenni yn Word drwy ludo'r URL llawn ar dudalen. Pan fyddwch yn pwyso'r bylchwr neu'r fysell Enter, bydd Word yn creu dolen yn awtomatig. Newidiwch y testun yn y ddolen i rywbeth disgrifiadol oherwydd efallai na fydd yr URL sy'n cael ei greu'n awtomatig yn gwneud fawr o synnwyr i ddarllenydd sgrin. Os ydych chi'n creu dogfen Word a fydd yn cael ei hargraffu yn ogystal â'i darllen yn electronig, ystyriwch gynnwys yr URL a'r ddolen ddisgrifiadol yn y testun.

Gwirydd Hygyrchedd Word 2010 Windows

Os ydych chi'n defnyddio Windows, mae gan Word 2010 Wirydd Hygyrchedd parod. Mae hwn yn adnodd da i'ch helpu i adnabod a thrwsio problemau hygyrchedd. Cyrchwch y Teclyn Gwirio Hygyrchedd o Ffeiliau > Gwybodaeth > Gwirio am Broblemau > Gwirio Hygyrchedd.


Gwneud dogfennau PDF yn hygyrch

Mae PDF (fformat dogfen gludadwy) yn safon agored ar gyfer fformatio dogfennau. Mae PDF yn creu ffeiliau sy'n edrych yr un fath pan maen nhw'n cael eu hargraffu neu eu cyfnewid yn electronig. Pan fyddwch yn rhannu ffeil PDF, gall bron pawb ei darllen gan ddefnyddio meddalwedd Adobe Reader® am ddim neu'r ap Adobe Reader symudol.

Mae'r rhan fwyaf o ffeiliau PDF wedi'u trosi o raglen megis Microsoft © Word. Mae nifer o raglenni ac ategolion yn gallu creu ffeiliau PDF, ond does dim llawer sy'n creu ffeiliau PDF wedi'u tagio. Mae tagiau PDF yn darparu strwythur cudd a chynrychiolaeth destunol o gynnwys PDF er mwyn i ddarllenydd sgrin allu ei ddarllen. Mae tagiau PDF yn debyg i dagiau HTML ac arddulliau Word.

Adobe Acrobat yw'r rhaglen wreiddiol ar gyfer creu dogfennau PDF a throsi dogfennau eraill yn PDF. Mae gormod o wahanol gyfuniadau o feddalwedd awduro a throswyr PDF i ddisgrifio pob un o dan y pwnc hwn. Os ydych chi'n trosi ffeil Word yn PDF, ac eich bod wedi creu ffeil Word hygyrch gan ddefnyddio tagiau pennawd, testun amgen ar gyfer graffeg, ac ati, gall Office 2010 greu PDFs wedi'u tagio. Hefyd, gallwch lawrlwytho ategyn Adobe, PDFMaker, a'i osod i greu ffeiliau PDF o Word. Os ydych chi'n defnyddio fersiynau cynharach Office, rhaid i chi gael yr ategyn i greu ffeiliau PDF wedi'u tagio.

Os ydych yn defnyddio'r ategyn Adobe, dewiswch Save as Adobe PDF o'r ddewislen Ffeil. Yn y blwch deialog PDFMaker, dewiswch Galluogi Hygyrchedd ac Ail-lifo gydag Adobe PDF wedi'i dagio o'r tab Gosodiadau. Os ydych yn defnyddio'r swyddogaeth cadw frodorol, dewiswch Cadw fel PDF. Cyn i chi gadw'r ffeil, dewiswch Opsiynau, ac yna dewiswch Tagiau strwythur dogfen er mwyn hygyrchedd.

Mae gan Adobe Acrobat X a fersiynau diweddarach wirydd hygyrchedd sy'n sganio'ch PDF ac yn tynnu eich sylw at unrhyw broblemau. Bydd y gwirydd hygyrchedd yn eich helpu chi i gywiro unrhyw broblemau. Gallwch hefyd gywiro codio tablau gan ddefnyddio TouchUp Reading Order Table Editor Acrobat. I ddysgu mwy am ddefnyddio Adobe Acrobat i greu ffeiliau hygyrch, ewch i Adobe.com a chwiliwch am "accessibility."