Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r profion ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra, ond ni ellir gweld arolygon a gyflwynir yn ddienw ar hyn o bryd.
Cyflwyno prawf i fyfyriwr.
Os nad oedd myfyriwr yn gallu cyflwyno prawf ond cwblhaodd y gwaith, gallwch gyflwyno'r ymgais er mwyn graddio'r ymgais.
- Yn y Ganolfan Raddau, lleolwch y gell sy'n arddangos yn yr eicon cynnydd.
- Cyrchwch ddewislen y gell a dewiswch Gweld Manylion Gradd.
- Ar y dudalen Manylion Gradd, dewiswch Gweld Ymgais.
- Sicrhewch fod yr atebion wedi eu cadw.
Os caiff cwestiynau lluosog eu dynodi â Dim Ateb, gallwch glirio’r ymgais. Mae’n rhaid i’r myfyriwr ailsefyll y prawf.
- Dewiswch Gwybodaeth y Prawf i ehangu’r adran.
- Os ydych chi'n fodlon gydag ymgais prawf y myfyriwr, dewiswch Cyflwyno Ymgais.
- Dewiswch Iawn i gadarnhau cyflwyno’r cais.
Clirio Ymgais Prawf
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i’r adran gymorth “Ultra” am gymorth ynghylch clirio ymgeisiau.
Os bydd gan fyfyriwr broblem dechnegol neu mae angen ymgais arall arno, gallwch glirio’r ymgais prawf. Caiff y gwaith a gyflwynwyd ei glirio o’r Ganolfan Raddau a gall y myfyriwr ailsefyll y prawf.
- Cyrchwch yr adran Gwybodaeth y Prawf fel a fanylwyd yn yr adran flaenorol.
- Ar y dudalen Manylion Gradd, dewiswch Clirio Ymgais.
- Dewiswch Iawn i gadarnhau a dileu’r ymgais.
- Ar y ddolen Hanes Graddau, cofnodir yr weithred yn "Cliriwyd yr Radd Ymgais." Yn y Ganolfan Raddau, nid oes gradd neu eicon yn ymddangos yng nghell prawf y myfyriwr.
Log Cyrchu Prawf
Gall hyfforddwyr a defnyddwyr eraill y rhoddir caniatâd iddynt weld Log Cyrchu ymgeisiau prawf am restr o adegau o ryngweithiadau myfyrwyr amrywiol gyda’r prawf. Mae'r cofnod yn gallu helpu cadarnhau a yw myfyriwr wedi cychwyn prawf neu a gafodd broblemau yn ystod prawf.
- Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Canolfan Raddau a dewiswchProfion.
- Lleolwch y gell ar gyfer prawf y myfyriwr rydych am ei ymchwilio.
Mae'n rhaid i'r gell gynnwys naill ai gradd neu’r eicon Angen Graddio i gynhyrchu log cyrchu. Os cyflwynoch chi brawf ar gyfer y myfyriwr, ni chaiff log cyrchu ei gynhyrchu oni bai fod y myfyriwr wedi dewis Cadw Pob Ateb.
- Cyrchwch ddewislen y gell a dewiswch Ymgais.
- Ar y dudalen Gradd Prawf, ehangwch yr adran Gwybodaeth y Prawf.
- Dewiswch Log Cyrchu.
Mae’r Log Cyrchu yn dangos rhestr fanwl o’r holl ryngweithiadau a gafodd y myfyriwr gyda’r prawf yn yr ymgais hwnnw. Mae'r log yn dangos yr amser y dechreuwyd y prawf, pryd y cadwyd pob cwestiwn, a phryd y cafodd ei gyflwyno.
Gellir dehongli bwlch anarferol mewn gweithgaredd fel problem cysylltu os yw'r myfyriwr yn dweud bod hyn wedi digwydd. Fodd bynnag, ni all y system ddweud yr hyn a achosodd y bwlch amser. Gall y system ond dangos y cafwyd bwlch amser.
Byddwch yn ymwybodol y gall yr amser a dreuliwyd ar gwestiwn gynnwys amser y treuliodd myfyriwr yn edrych ar gwestiynau eraill cyn cadw'r ateb hwnnw.
ULTRA: Clirio'r ymgeisiau ac ychwanegu eithriadau
Ddim yn gyfarwydd i chi? Neidiwch i’r adran gymorth “Gwreiddiol” am gymorth ynghylch clirio ymgeisiau.
Pan fydd amgylchiadau arbennig yn codi, bydd gennych ddau opsiwn i wella problemau cyflwyno. Gallwch glirio ymgais prawf neu ychwanegu eithriad i'r asesiad.
Clirio ymgais
Os dewiswch, gallwch glirio ymgais prawf myfyriwr. Caiff y cyflwyniad ei glirio o’r llyfr graddau a gall y myfyriwr ailsefyll y prawf.
Eithriadau asesiadau
Gallwch roi eithriad i fyfyriwr unigol ar brawf penodol. Mae eithriad yn cynnwys ymgeisiau ychwanegol neu fynediad estynedig, hyd yn oed os yw'r prawf wedi'i guddio o fyfyrwyr eraill. Mae eithriad yn diystyru'r ddau osodiad sydd wedi'u gosod ar gyfer pawb arall ar gyfer y prawf penodol hwnnw yn unig.
Video: Grant Assessment Exceptions
ULTRA: Watch a video about assessment exceptions
The following narrated video provides a visual and auditory representation of some of the information included on this page. For a detailed description of what is portrayed in the video, open the video on YouTube, navigate to More actions, and select Open transcript.
Video: Grant assessment exceptions shows how to allow an exception on a specific test or assignment to an individual student.