Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Mae fforwm yn ardal o'r bwrdd trafod lle mae cyfranogwyr yn trafod pwnc neu grŵp o bynciau cysylltiedig. O fewn pob fforwm, mae myfyrwyr yn gallu creu trywyddion lluosog. Mae trywydd yn cynnwys y cyhoeddiad cychwynnol a'r holl atebion iddo. Gallwch greu fforymau ac edeifion er mwyn trefnu trafodaethau i mewn i unedau neu bynciau sy'n gysylltiedig â'r cwrs.
Creu fforwm
Panel Rheoli > Offer y Cwrs > Bwrdd Trafod > Creu Fforwm
Dewiswch y bwrdd trafod lle rydych eisiau creu'r fforwm, a bydd yr opsiwn Creu Fforwm yn ymddangos.
Mae gosodiadau fforymau yn eich caniatáu i ddefnyddio trafodaethau mewn gwahanol ffyrdd. Er enghraifft, i reoli fforwm yn llawn, mae angen i chi creu pob edefyn, cymedroli, a graddio’r postiadau. Ar gyfer trafodaeth a arweinir gan fyfyrwyr, dylech ganiatáu i fyfyrwyr greu edefynnau a phostiadau newydd yn ddienw.
- Teipiwch enw a chyfarwyddiadau dewisol neu ddisgrifiad. Ar brif dudalen y bwrdd trafod, bydd y disgrifiad yn ymddangos ar ôl enw'r fforwm.
Bydd disgrifiad y fforwm yn ymddangos pan fydd myfyrwyr yn creu trywydd a phan fyddant yn dod ar draws trywydd gyda'r gosodiad postio yn gyntaf. Yn aml, fe ddefnyddir disgrifiadau fforymau fel prociau ac maen nhw'n weladwy lle mae myfyrwyr yn postio.
- Yn adran Argaeledd Fforwm, dewiswch Ie.
Gallwch greu fforymau ymlaen llaw a gosod yr argaeledd i Na tan eich bod eisiau i'r drafodaeth gychwyn.
- Dewiswch y blychau ticio Arddangos Ar Ôl ac Arddangos Hyd i alluogi'r dewisiadau dyddiad ac amser. Mae cyfyngiadau dangos yn effeithio ar bryd mae'r fforwm yn ymddangos.
- Dewiswch Gosodiadau'r Fforwm yn seiliedig ar eich anghenion penodol.
Gweld Trywyddion/Ymatebion: Er mwyn hyrwyddo gwreiddioldeb, creadigrwydd ac amrywiaeth o ymatebion, gallwch ddewis Rhaid i gyfranogwyr greu trywydd er mwyn gweld trywyddion eraill yn y fforwm hwn, sef gosodiad postio yn gyntaf. Rhaid i fyfyrwyr ymateb cyn y gallant ddarllen postiadau eu cyd fyfyrwyr. Yn y Golwg Safonol, mae pawb yn gallu gweld yr holl edeifion a grëwyd yn flaenorol yn y fforwm.
Gradd: Gallwch greu fforwm neu edefyn a raddir ac fe grëir colofn yn awtomatig yn y Ganolfan Raddio.
Dewiswch Graddio Fforwm Trafod a theipiwch werth pwyntiau er mwyn gwerthuso perfformiad cyfranogwyr mewn fforwm.
Os ydych yn gosod y pwyntiau posibl i rif nad yw’n gyfan, efallai nid aseinir graddau llythrennau yn gywir.
Dewiswch Graddio Edeifion i werthuso perfformiad cyfranogwyr ym mhob trywydd.
Os ydych yn graddio postiadau a'ch bod eisiau cadw'r postiadau fel yr oeddent ar yr adeg o raddio, cliriwch y blwch ticio Caniatáu i'r Awdur Olygu ei Bostiadau a Gyhoeddwyd yng ngosodiadau Creu a Golygu.
Os ydych yn galluogi graddio ar gyfer y fforwm, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Dangos y cyfranogwyr gyda statws angen graddio a dewiswch nifer y postiadau o'r ddewislen. Mae rhoi'r gosodiad hwn ar waith yn dangos eicon Angen Graddio yn y Ganolfan Raddau ac yn rhoi'r postiadau yn y ciw ar dudalen Angen Graddio ar ôl i fyfyrwyr wneud y nifer gofynnol o bostiadau. Os byddwch yn dewis opsiwn graddio a DDIM yn dewis y blwch ticio, ni fydd eicon Angen Graddio yn ymddangos yn y Ganolfan Raddau ac ni fydd postiadau'n ymddangos ar dudalen Angen Graddio.
Os byddwch yn dewis tri phostiad o'r ddewislen a bod myfyriwr yn cyflwyno dau, bydd eicon ar waith yn ymddangos yng nghell y Ganolfan Raddau a'r bwrdd trafod tan i'r nifer gofynnol o bostiadau gael eu cyflwyno/
Dyddiad Dyledus a Chyfeireb: Pan fyddwch yn galluogi graddio, gallwch ddarparu Dyddiad Dyledus. Defnyddir dyddiadau dyledus i drefnu a neilltuo eitemau graddadwy i gyfnodau graddio yn y Ganolfan Raddio. Caiff postiadau wedi’u graddio a wneir ar ôl y dyddiad dyledus eu marcio'n HWYR ar dudalen Manylion Graddau yn y Ganolfan Raddau ac ar dudalen Angen Graddio.
Pwyntiwch at Ychwanegu Cyfarwyddyd i agor y ddewislen ac i gysylltu cyfarwyddyd i'w ddefnyddio i raddio.
Tanysgrifio: Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr danysgrifio i'r fforwm hwn neu i drywyddion o fewn y fforwm. Bydd myfyrwyr sy'n tanysgrifio i fforwm neu drywydd yn derbyn hysbysiadau pan fydd unrhyw weithgarwch.
Creu a Golygu: Dewiswch allu myfyriwr i greu a golygu o fewn y fforwm.
Opsiynau Ychwanegol: Caniatáu myfyrwyr i dagio neu roi sgôr i bostiadau o fewn y fforwm.
- Dewiswch Cyflwyno.
Ar dudalen y Bwrdd Trafod, bydd y fforwm newydd yn ymddangos ar waelod y rhestr.
Gosodiadau fforwm a awgrymir
Gallwch reoli ymddygiad fforymau mewn bwrdd trafod yn y ffyrdd hyn:
Creu fforymau cymdeithasol effeithiol. Caniatewch i fyfyrwyr bostio'n ddienw heb boeni am radd wrth iddynt ddod i arfer â thrafodaethau.
Monitro ansawdd ac ymddygiad. Neilltuo cymedrolwr i adolygu pob post cyn ei wneud yn gyhoeddus.
Caniatáu i fyfyrwyr reoli'r drafodaeth. Caniatáu i fyfyrwyr olygu, dileu, a graddio postiadau. Gallwch hefyd ganiatáu i fyfyrwyr greu trywyddion newydd a chyfeirio'r drafodaeth.
Cadw trefn da ar y fforwm a'i defnyddio i werthuso perfformiad myfyrwyr. Dewis yr opsiynau graddio a chymedroli Er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn canolbwyntio ar y trywyddion cyfredol, peidiwch â chaniatáu creu trywyddion newydd.
Caniatáu i awduron olygu eu postiadau a gyhoeddwyd. Gallwch gloi'r trywydd ar ôl graddio er mwyn i awduron methu â newid eu postiadau.
Hyrwyddo gwreiddioldeb ac amrywiaeth syniadau. Gallwch greu fforymau "postio yn gyntaf". Rhaid i fyfyrwyr ymateb cyn allant ddarllen ac ymateb i bostiadau eu cyd-ddisgyblion.
Mae rhai gosodiadau ni allwch eu dewis gyda'i gilydd. Er enghraifft, os ydych yn graddio fforymau neu drywyddion, ni chaniateir postiadau dienw. Hefyd, os ydych chi'n galluogi graddio trywyddion, nid yw aelodau'n gallu creu trywyddion newydd.
Gweld fforwm
Pan fyddwch yn agor fforwm, bydd rhestr o edefynnau yn ymddangos. Pan fo'n bosib, defnyddiwch y briwsion bara i lywio i dudalen flaenorol. Os ydych yn defnyddio swyddogaeth 'yn ôl' yn eich porwr, efallai byddwch yn gweld gwallau llwytho tudalen.
- O fewn fforwm, gallwch greu trywyddion, graddio cyfraniadau fforymau, casglu trywyddion a chwilio cynnwys.
- Defnyddiwch y blychau ticio i ddewis un neu fwy o drywyddion a pherfformio gweithrediadau fel Casglu neu Dileu.
- Dewiswch deitl edefyn i ddarllen y postiadau. Mae'r teitlau mewn print trwm yn cynnwys postiadau nad ydynt wedi'u darllen eto.
- Gallwch weld trywyddion fforwm trwy weld rhestr neu mewn golwg goeden, gyda'r postiadau i gyd wedi'u rhestru yn dilyn pob teitl trywydd.
I weld fforwm a'r trywyddion ynddo, dewiswch enw'r fforwm ar dudalen y Bwrdd Trafod. Gallwch weld cynnwys y fforwm naill ai ar ffurf rhestr neu ar ffurf coeden. Mae’r dewis hwn yn weithredol nes byddwch yn ei newid. Gallwch ei newid ar unrhyw adeg. Newidiwch y wedd ar y dudalen fforwm, yn y gornel dde uchaf.
Ar ffurf rhestr
Mae'r Ffurf Rhestr yn cyflwyno'r trywyddion mewn fformat tabl. Mae edeifion sy'n cynnwys unrhyw bostiadau heb eu darllen yn ymddangos mewn teip trwm. Yn seiliedig ar y gosodiadau wnaethoch chi wrth greu'r fforwm, mae gwahanol swyddogaethau yn ymddangos. Er enghraifft, os ydych chi wedi caniatáu tagio, bydd swyddogaeth Tagiau yn ymddangos. Os ydych wedi galluogi tanysgrifio drwy e-bost ar gyfer y fforwm, bydd swyddogaeth Tanysgrifio yn ymddangos.
I drefnu colofn, dewiswch bennawd y golofn.
Dewiswch y blwch ticio nesaf at drywydd i ddewis eitem o ddewislen Gweithrediadau'r Trywydd. Gallwch ddewis edefynnau lluosog neu ddewis y blwch ticio yn y pennyn i ddethol pob edefyn. Dewiswch o blith y gweithrediadau hyn:
- Marcio trywyddion fel wedi'u darllen neu heb eu darllen.
- Gosod neu glirio baneri. Mae llumanau yn nodi edefynnau ar gyfer sylw yn hwyrach.
- Golygu statws y trywyddion a ddewiswyd
- Tanysgrifio neu ddad-dadnysgrifio i hysbysiadau e-bost ar gyfer postiadau newydd a wnaed mewn trywyddion a ddewiswyd, os yw'r nodwedd hon wedi'i halluogi.
Ar ffurf coeden
Mae Ffurf Coeden yn dangos negeseuon cychwynnol y trywydd a'r ymatebion i'r negeseuon hynny. Ar ffurf coeden, gallwch greu trywyddion, casglu neu ddileu postiadau.
Ehangwch a chrebachwch edefynnau gyda’r eiconau plws a minws nesaf at y teitlau. Os bydd neges dechrau edefyn yn cynnwys postiadau heb eu darllen, bydd teitl dechrau yr edefyn yn ymddangos mewn testun trwm. Defnyddiwch swyddogaethau Cwympo'r Cyfan ac Ehangu'r Cyfan i guddio neu weld yr holl bostiadau ym mhob trywydd.
Dewiswch y blwch ticio nesaf at drywydd a dewiswch eitem o ddewislen Gweithrediadau'r Neges. Gallwch ddewis edefynnau lluosog neu ddewis y blwch ticio yn y pennyn i ddethol pob edefyn.
Caniatáu hysbysiadau e-bost ar gyfer postiadau newydd mewn trafodaeth
Os byddwch caniatáu tanysgrifio, gall myfyrwyr ddewis derbyn hysbysiadau e-bost ar gyfer postiadau neu ymatebion newydd. Gallwch ganiatáu i fyfyrwyr danysgrifio i fforwm cyfan neu i edefynnau penodol mewn fforwm.
- Ar dudalen y Bwrdd Trafod, agorwch ddewislen y fforwm a dewiswch Golygu.
- Ar y dudalen Golygu'r Fforwm, dewiswch yr opsiynau Tanysgrifio:
- Caniatáu i aelodau danysgrifio i drywyddion: Gall myfyrwyr ddewis trywyddion penodol o fewn y fforwm.
- Caniatáu i aelodau danysgrifio i fforwm: Gall myfyrwyr danysgrifio i bob trywydd o fewn y fforwm.
- Cynnwys corff y postiad yn yr e-bost: Yn dangos y testun neges a dolen i ateb y neges yn yr hysbysiad e-bost.
- Cynnwys dolen i'r postiad: Yn dangos dolen i’r neges yn yr hysbysiad e-bost.
- Dewiswch Cyflwyno.