Lansio Blackboard Collaborate o Mac
Mae'r pynciau cymorth hyn yn rhoi manylion am y Lansiwr Blackboard Collaborate sydd ar gael yn fersiynau 4.4 a'n hwyrach o Floc Adeiladu Blackboard Collaborate.
Gall yr offer hyn eich helpu i gychwyn arni gyda Collaborate ar Mac. Dysgu sut i osod y lansiwr, ymuno â sesiwn Collaborate a chwarae recordiadau o sesiynau.
Gosod y lansiwr ar Mac
- Ar dudalen Manylion yr Ystafell, dewiswch Ymuno â'r Ystafell neu dewiswch ddolen recordiad o'r tabl Recordiadau. Bydd Blackboard Collaborate yn eich annog i lawrlwytho gosodwr y lansiwr.
- Lawrlwytho'r Lanswir yn y ffenestr naid Eich tro cyntaf i ddefnyddio Blackboard Collaborate?. Os mai dyma'ch tro cyntaf yn defnyddio'r lansiwr, dewiswch
- Os ydych eisoes wedi gosod y lansiwr, efallai na fydd eich porwr yn ei ganfod, a byddwch yn cael eich annog i lawrlwytho'r lansiwr. Gall hyn ddigwydd os clirioch eich cache a briwsion y tro diwethaf wnaethoch gau eich porwr, defnyddio pori diogel neu breifat, neu ddefnyddio porwr gwahanol. Os mai dyma'r achos, nid oes angen i chi ail-lwytho'r gosodiad eto. Dewiswch Lansio Blackboard Collaborate nawr i sgipio'r lawrlwthiad, yna agorwch eich ffeil .collab
- Mae ffenestr naid yn eich atgoffa i osod y lansiwr. Peidiwch â dewis Iawn eto. Byddwch yn gwneud hyn ar ôl i chi osod y lansiwr.
- Mae'n bosibl y bydd Java'n gofyn am eich caniatâd i'w rhedeg. Er mwyn osgoi'r cam hwn yn y dyfodol, dewiswch Rhedeg bob tro ar y safle hwn.
-
Pan fydd ffeil y gosodwr BlackboardCollaborateLauncher-Mac.zip wedi'i lawrlwytho'n llawn, datgywasgwch y ffeil i osod y lansiwr.
- Mae Safari yn datgywasgu'r ffeil yn awtomatig ac yn gosod y lansiwr.
- Yn Firefox a Chrome, agorwch y ffeil ZIP yn eich ffolder Lawrlwythiadau i ddatgywasgu a gosod y lansiwr.
Mae'n bosibl bydd eich porwr yn gofyn i chi am ba raglen i'w defnyddio i agor y ffeil ZIP. Os felly, dewiswch yr Offeryn Archifo yn System/Library/CoreServices. Os yw eich porwr hefyd yn gofyn i chi agor y ffeil .collab, peidiwch â gwneud hynny tan eich bod wedi gosod y lansiwr.
Pan fyddwch yn datgywasgu'r lansiwr gan ddefnyddio'r Gronfa Archif, mae'n bosib y byddwch yn gweld y gwall "Methu ehangu BlackboardCollaborateLauncher-Mac.zip i mewn i Lawrlwythiadau. (Gwall 2 - Dim ffeil neu gyfeiriadur o'r fath.)". Mae'n golygu bod y broses o lawrlwytho'r gosodiad yn anghyflawn. Bydd hyn yn digwydd os byddwch yn colli eich cysylltiad yn ystod y broses o lawrlwytho. Lawrlwythwch y gosodiad ffeil ZIP eto.
Yn ddiofyn, mae'r lansiwr yn aros yn ffolder y Lawrlwythiadau. Pan fyddwch yn agor eich sesiwn neu recordiad ar ffurf ffeil .collab, mae Blackboard Collaborate yn rhoi'r opsiwn i chi symud y lansiwr i'ch ffolder Rhaglenni.
Os ydych yn cael trafferth gyda'r broses o osod y lansiwr, edrychwch ar erthygl Sail Wybodaeth Collaborate, Setting Mac OS X File Associations to open Blackboard Collaborate Launcher.zip files.
- Yn y ffenestr naid, dewiswch Iawn i gadarnhau eich bod wedi gosod y lansiwr.
- Agorwch meeting.collab i ymuno â'ch sesiwn neu play.collab i chwarae'ch recordiad. Os nad ydych yn gweld proc i wneud hynny, agorwch y ffeil yn eich ffolder Lawrlwythiadau.
Ymuno â sesiynau neu chwarae recordiad
- I ymuno â sesiwn, dewiswch Ymuno â'r Ystafell ar dudalen Manylion yr Ystafell. I chwarae recordiad, dewiswch ddolen yn nhabl Recordiadau.
- Gall Collaborate eich procio i wneud gwahanol bethau os ydych yn ddefnyddiwr newydd neu'n un sy'n dychwelyd.
- Os mai dyma'ch tro cyntaf yn defnyddio Lansiwr Blackboard Collaborate: Lawrlwythwch a gosod y lansiwr.
- Os ydych wedi gosod Lansiwr Blackboard Collaborate: Agorwch y ffeil meeting.collab.
- Os ydych wedi gosod y lansiwr ond bod Blackboard Collaborate yn eich annog i'w lawrlwytho: Dewiswch Lansio Blackboard Collaborate nawr.
- Bydd eich porwr yn eich annog i agor y ffeil .collab. Mae sut rydych yn agor y ffeil yn dibynnu ar ba borwr rydych yn ei ddefnyddio.
- Mae Firefox yn gofyn beth hoffech ei wneud gyda'r ffeil .collab Dewiswch Agor gyda ac yna Lansiwr Blackboard Collaborate o'r gwymplen. Os does dim cwymplen, dewiswch Dewis ac agorwch eich ffolder Lawrlwythiadau i ddewis Lansiwr Blackboard Collaborate.
- Mae Internet Explorer yn gofyn beth hoffech ei wneud gyda'r ffeil .collab Dewiswch Agor.
- Mae Chrome yn lawrlwytho'r ffeil .collab ac yn ei chyflwyno ar waelod ffenestr eich porwr. Dewiswch enw'r ffeil i'w agor.
Os ydych eisiau i ffeiliau eich sesiynau yn y dyfodol i agor yn awtomatig, dewiswch Agor ffeiliau o'r math hwn bob tro o'r ddewislen ac yna agorwch y ffeil.
- Os mai dyma yw eich tro cyntaf i ddefnyddio y lansiwr, mae eich system weithredu'n gofyn i chi ei agor. Dewiswch Agor.
- Bydd Blackboard Collaborate yn eich procio i symud i lansiwr i'r ffolder Rhaglenni. Er bod hyn ddim yn angenrheidiol, bydd gwneud hyn yn eich helpu i gadw gwell trefn ar eich ffolder Lawrlwythiadau.
Dewiswch Peidiwch â dangos y neges hon eto er mwyn i chi beidio â gweld y deialog hwn y tro nesaf i chi lansio Blackboard Collaborate.
Bydd sesiwn Blackboard Collaborate yn agor.
Agor ffeiliau .collab yn awtomatig
I agor ffeiliau .collab yn awtomatig y tro nesaf y byddwch yn lansio Blackboard Collaborate, defnyddiwch Chrome fel eich porwr.
Pan fyddwch yn lawrlwytho eich ffeil .collab, bydd Chrome yn dangos y ffeil ar waelod ffenestr eich porwr. Agorwch y ddewislen a dewiswch Agor ffeiliau o'r math hwn bob tro, yna agorwch y ffeil .collab i lansio'ch sesiwn neu i chwarae'ch recordiad. Y tro nesaf y byddwch yn lawrlwytho ffeil .collab, mae’n lansio Blackboard Collaborate yn awtomatig.