Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.
Am gemâu graddio
Yn y Ganolfan Raddau, pan fydd eitem yn cael ei graddio, bydd sgôr rhif yn ymddangos yng nghelloedd y myfyrwyr yn ddiofyn. Gallwch ddewis dangos y graddau mewn ffyrdd eraill â sgemâu graddio. Mae sgema'n cymryd y pwyntiau a sgoriwyd ar gyfer eitem ac yn eu cymharu â chyfanswm y pwyntiau posibl eitem er mwyn cael canran. Caiff y ganran hon ei mapio i amrediad o sgoriau a bydd yn dangos gradd, fel llythyren (A, B, C) neu Llwyddo/Methu. Cyflwynir y wybodaeth hon ar ffurf tabl.
Mae’r Ganolfan Raddau yn cynnwys copi o sgema graddio diofyn sy'n seiliedig ar neilltuo llythrennau ar gyfer y canrannau. Efallai bydd eich sefydliad yn golygu'r sgema hwn er mwyn adlewyrchu sgema graddio cyffredinol a ddefnyddir ar gyfer pob cwrs. Mae’r sgema gradd yn seiliedig ar sgorau crai a neilltuir a gallai fod yn wahanol i’r graddau sydd wedi’u talgrynnu a ddangosir yng ngrid y Ganolfan Raddau.
Gallwch gysylltu'r sgema graddio diofyn ag un golofn neu fwy yn y Ganolfan Raddau. Pan fyddwch chi'n graddio eitemau, bydd gwerthoedd y radd (llythrennau) yn ymddangos yn y celloedd yng ngrid y Ganolfan Raddau ac i fyfyrwyr yn Fy Ngraddau.
Gallwch wneud y gwerth uchaf mewn sgema graddio yn uwch na 100%. Er enghraifft, os fydd myfyriwr yn cael 100% neu fwy, gallwch neilltuo A+ i'r sgoriau hynny.
Ar ôl ei greu, mae sgema graddio’n cael ei gynnwys fel opsiwn yn y dewislenni Dangosydd Cynradd a Dangosydd Eilaidd pan fyddwch yn creu ac yn golygu colofnau yn y Ganolfan Raddau.
Enghreifftiau o sgemâu
Sgema graddio llythrennau: Mewn cwis, sgôr rhif crai myfyriwr yw 100 allan o 100 pwynt posib. Mewn cynllun graddio lle mae canran o 87 i lai na 90 yn cyfateb i B+, bydd sgôr myfyriwr o 88 yn arwain at B+. Yng ngholofn Canolfan Graddau’r cwis, bydd B+ yn ymddangos. Os ydych chi'n rhyddhau graddau’r golofn i fyfyrwyr, mae graddau llythrennau’n ymddangos yn Fy Ngraddau.
Sgema graddio llythrennau: Ar gyfer aseiniad, sgôr rhif crai myfyriwr yw 78 allan o 100 pwynt posibl. Rydych chi'n creu sgema graddio yn seiliedig ar dermau, fel Rhagorol, Da iawn, Da, Gweddol, a Gwael. Mae sgôr myfyriwr o 78 yn arwain at derm Da. Yng ngholofn Canolfan Graddau’r cwis, bydd y term Da yn ymddangos. Os ydych chi'n rhyddhau graddau’r golofn i fyfyrwyr, mae’r termau testun yn ymddangos yn Fy Ngraddau.
Sgema graddio cromlin prawf: Rydych chi'n creu sgema graddio prawf ac yn ei gysylltu â phob colofn prawf. Rydych yn mynnu bod myfyrwyr yn cael 94% i gael A. Ond, ar gyfer un prawf penodol, rydych am wneud addasiadau oherwydd sgoriau isel. Gallwch gysylltu sgema graddio personol arall gyda cholofn y prawf hwnnw i adlewyrchu cromlin rydych eisiau ei defnyddio ar gyfer y sgorau is hynny. Yn y sgema hwn ar gyfer cromlin prawf, gall A fod yn gyfystyr â graddau a sgoriwyd rhwng 90% a 100%. Gallwch greu cynifer o sgemâu cromlin testun ag yr hoffech a’u cysylltu gyda’r colofnau priodol.
Creu sgemâu graddio
- Yn y Ganolfan Raddau, ewch ati i gyrchu’r ddewislen Rheoli a dewis Sgemâu Graddio.
- Ar y dudalen Sgemâu Graddio, dewiswch Creu Sgema Graddio a theipiwch enw a disgrifiad dewisol. Mae’r enw’n ymddangos ar y dudalen Sgemâu Graddio ac yn y ddewislen ar gyfer Dangosydd Cynradd a’r Dangosydd Eilaidd pan fyddwch chi’n creu neu’n golygu colofnau.
- Yn yr adran Mapio Sgema, bydd dwy res ddiofyn yn ymddangos gan ddangos amrediad o ganrannau. Gallwch olygu'r ddau amrediad er mwyn creu sgema Llwyddo/Methu personol.
Enghraifft: Llwyddo/Methu
Sgema Llwyddo/Methu Bydd Graddau wedi’u Sgorio Rhwng yn hafal i Bydd Graddau wedi’u rhoi gennych chi ar ffurf yn Cyfrifo fel 50% a 100% Llwyddo Llwyddo 75% 0% a llai na 50% Methu Methu 25% Gallwch greu mathau eraill o sgemâu graddio gyda’r opsiynau hyn:
- Dewiswch Mewnosod Rhes Newydd Yma: Gosodwch mwy o resi ar gyfer gwerthoedd ychwanegol. Er enghraifft, os ydych chi'n defnyddio A, B, C, D, ac F ar gyfer eich graddau, bydd angen pum rhes yn y tabl.
- Dewiswch Dileu Rhes i ddileu rhes o’r tabl. Rhaid i o leiaf un rhes aros.
- Yn y blychau Graddau wedi'u Sgorio Rhwng, teipiwch amrediad canrannau ar gyfer gwerthoedd y radd. Rhaid i'r amrediad canrannau ar gyfer gwerth pob gradd fod yn unigryw gan gychwyn gyda'r gwerth llai a restrir gyntaf. Hefyd, rhaid i'r gwerthoedd orgyffwrdd er mwyn osgoi bylchau a welir pan fydd sgôr yn disgyn rhwng dau rif mewn amrediad. Bydd amrediad o 80 - 90% yn cynnwys pob gradd hyd at, ond heb gynnwys 90%. Mae'r amrediad uchaf yn cynnwys 100% neu beth bynnag yw'r gwerth uchaf.
Ni allwch ddefnyddio'r symbol llinell doriad fel cofnod. Mae'r dash yn cynrychioli gwerth o sero.
Enghraifft:
A = 90 - 100%
B = 80 - 90%
C = 70 - 80%
D = 60 - 70%
F = 0 - 60%
- Yn y blychau Yn Hafal I, teipiwch gwerthoedd y radd:
- A, B, C, D, ac F
- 1, 2, 3, 4, a 5
- Llwyddo a Methu
- Boddhaol ac Anfoddhaol
- Rhagorol, Da iawn, Da, Gweddol, a Gwael
Ni chaniateir gwerthoedd gradd dyblyg.
- Yn y blwch Bydd yn Cyfrifo Fel, teipiwch werthoedd y ganran i'w defnyddio os byddwch yn nodi gradd eich hun. Rhaid i’r canrannau ddisgyn rhwng yr amrediad canrannau cyfatebol yn y golofn gyntaf. Er enghraifft, bydd graddau A (90 - 100%) rydych chi'n rhoi eich hun yn cael eu cyfrifo fel 95%. Ar gyfer eitem sydd â 100 pwynt posibl, os byddwch yn newid y sgema graddio o raddau llythrennau i sgoriau rhifau, bydd 95 yn ymddangos fel y radd yn y gell yn lle A.
- Dewiswch Cyflwyno.
Mwy ar greu sgemâu graddio gyda JAWS®
Golygu sgemâu graddio
Gallwch olygu sgema graddio sydd eisoes yn bodoli a chadw'r newidiadau yn eich cwrs. Er enghraifft, gallwch leihau’r canrannau sydd eu hangen i ennill y graddau llythyren. Mae sgemâu newydd a golygiadau i sgemâu cyfredol yn ymddangos yn y cwrs rydych chi ynddo yn unig.
Os ydych eisiau cadw'r sgema graddio diofyn, gallwch ei gopïo a golygu'r gwerthoedd. Gall eich sefydliad olygu'r sgema hwn er mwyn adlewyrchu sgema graddio cyffredinol yr hoffent i hyfforddwyr ei ddefnyddio.
Os yw eich sefydliad yn gwneud newidiadau ar ôl i chi olygu'r sgema graddio diofyn, ni fydd newidiadau eich sefydliad yn cael eu hadlewyrchu yn eich cwrs.
Wrth i chi olygu sgema, dechreuwch ar y brig a golygu'r gwerthoedd ar gyfer gwerth y radd gyntaf a symud i'r rhes nesaf. Wedyn, mewnosodwch neu ddilëwch rhesi. Os byddwch yn llywio i ran arall o'r cwrs cyn i chi arbed sgema graddio, collir unrhyw newidiadau nad oedd wedi eu cadw.
Os byddwch yn cysylltu sgema graddio â cholofnau yn y Ganolfan Raddau ac yn golygu'r sgema, bydd y newidiadau’n ymddangos yn awtomatig. Er enghraifft, gallwch olygu sgema graddio testun a newid Rhagorol i Uwch.
Copïo a dileu sgemâu graddio
Gallwch gopïo a dileu sgemâu graddio sydd eisoes yn bodoli yn y Ganolfan Raddau. Er enghraifft, os ydych am wneud mân newidiadau i'r sgema graddio llythrennau diofyn, gallwch ei gadw drwy wneud copi ohono a'i olygu. Ar y dudalen Sgemâu Graddio, cyrchwch ddewislen sgema a dewis Copïo neu Dileu.
Bydd sgema a gopïwyd yn ymddangos yn y rhestr gyda rhif wrth yr enw, megis Letter(2).
Gallwch ddileu'r sgema graddio llythrennau diofyn os nad ydych wedi'i gysylltu â cholofn yn y Ganolfan Raddau. Os nad oes sgema graddio llythyren yn bodoli, nid yw Llythyren yn opsiwn yn y ddewislen Dangosydd Cynradd neu Ddangosydd Eilaidd.
Os nad oes blwch ticio ar gael ar gyfer sgema, rydych chi wedi'i gysylltu â cholofn yn y Ganolfan Raddau ac ni allwch ei ddileu.
Sgemâu graddio cyswllt
Pan fyddwch yn creu neu'n golygu colofnau gradd, gallwch ddewis sgema graddio yn y dewislenni Dangosydd Cynradd neu Ddangosydd Eilaidd. Y sgema rydych chi’n ei ddewis fel y Dangosydd Cynradd yw’r gwerth gradd yn y Ganolfan Raddau a’r hyn mae myfyrwyr yn ei weld yn Fy Ngraddau. Mae’r Dangosydd Eilaidd yn ymddangos mewn cromfachau yn y Ganolfan Raddau yn unig, wrth ymyl y Dangosydd Cynradd. Nid yw myfyrwyr yn gweld y gwerth eilaidd.
- Cyrchwch ddewislen y golofn briodol a dewis Golygu Gwybodaeth Colofn.
- Ar y dudalen Golygu Colofn, gwnewch ddetholiad yn y ddewislen Dangosydd Sylfaenol. Os creoch unrhyw gynlluniau graddio wedi eu haddasu, maent yn ymddangos yn y rhestr. Bydd pum opsiwn diofyn yn ymddangos:
- Sgôr: Gradd rhifol yw’r gosodiad diofyn Os na fyddwch yn dewis, bydd y sgôr yn ymddangos yn y grid.
- Llythyren: Mae gradd llythyren yn ymddangos. Defnyddir sgema graddio diofyn i neilltuo graddau llythyren. Er enghraifft, mae sgôr o 21/30 yn cyfateb i 70% ac yn ymddangos fel C.
- Testun: Mae testun yn ymddangos yn y golofn pan fyddwch yn creu a chysylltu sgema graddio testun. Mae enghreifftiau o werthoedd testun yn cynnwys: Rhagorol, Da iawn, Da, Gweddol, a Gwael -NEU- Boddhaol ac Anfoddhaol. Os nad oes unrhyw sgema graddio testun yn bodoli, a’ch bod yn dewis yr opsiwn Testun, gallwch deipio testun yng nghelloedd y golofn. Os fyddwch yn dewis rhannu canlyniadau'r golofn â myfyrwyr yn Fy Ngraddau, byddant yn gweld y gwerthoedd testun ar gyfer eu graddau.
Pan fyddwch yn trosi sgôr rifol i destun heb greu sgema graddio testun a addasir, ac yna'n dychwelyd i sgorio rifol, mae gwerthoedd na ellir eu trosi'n arddangos sero ar ôl eu trosi. Os ydych am gynnwys testun fel graddau, rydym yn argymell eich bod yn creu sgema graddio testun ac yn ei gysylltu â'r colofnau priodol.
- Canran: Mae canran yn ymddangos. Er enghraifft, mae sgôr o 21/30 yn ymddangos fel 70%.
- Cyflawn/Anghyflawn: Pan fydd myfyriwr yn cyflwyno eitem, mae'r eicon Wedi’i Gwblhau yn ymddangos yn y golofn waeth beth fo’r sgôr a gyflawnwyd.
- Fel arall, gwnewch ddetholiad yn y ddewislen Dangosydd Eilaidd. Y gosodiad diofyn yw Dim. Mae’r un dewisiadau’n ymddangos yn y rhestr hon gyda’r eithriad o’r opsiwn a ddewiswyd fel y Dangosydd Cynradd a’r Testun. Nid yw’r opsiwn Testun diofyn yn ymddangos ar gyfer colofnau gradd gan na allwch olygu gwerth eilaidd o gell colofn gradd.
Ar gyfer hunan-asesiadau, ni allwch ddiffinio Dangosydd Eilaidd oherwydd fod y Dangosydd Cynradd yn Gyflawn/Anghyflawn.
- Dewiswch Cyflwyno.
Yng ngrid y Ganolfan Raddau, fe welwch y dangosydd gradd a ddewiswyd. Os na fyddwch yn dewis dangosydd gradd ar gyfer colofn, dim ond y sgôr ddiofyn fydd yn ymddangos.