Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Ynghylch cyfnodau graddio

Gallwch greu cyfnodau graddio i grwpio colofnau Canolfan Raddau gyda’i gilydd yn ôl cyfnod o amser, megis tymor, semester, neu chwarter. Gallwch greu cyfnodau graddio i grwpio colofnau gyda’i gilydd yn ôl nodwedd a rennir, megis pob colofn i’w graddio ar gyfer prosiect grŵp. I greu cyfnod graddio ac ystod dyddiadau, gallwch ddewis gosodiad i gysylltu’r holl golofnau presennol yn awtomatig gyda dyddiadau dyledus sy’n digwydd yn yr ystod dyddiadau.

Yn ddiofyn, nid oes gan y Ganolfan Raddau unrhyw gyfnodau graddio. Gallwch gysylltu unrhyw golofn gydag un cyfnod graddio ac eithrio colofnau defnyddwyr. Gallwch greu cynifer o gyfnodau graddio ag y mynnwch.

Gallwch ddefnyddio cyfnodau graddio i berfformio'r tasgau hyn:

  • Hidlo eich gwedd o’r Ganolfan Raddau. Er enghraifft, gallwch weld y cyfnod graddio chwarter cyntaf a colofnau perthnasol yng ngrid y Ganolfan Raddau yn unig.
  • Cyfrifo Graddau. Er enghraifft, gallwch greu colofn cyfanswm sy’n cyfrifo gradd ar gyfer y colofnau yn y chwarter cyntaf.
  • Dewis gwedd gall. Mae gwedd gall yn wedd sy'n canolbwyntio ar y Ganolfan Raddau sy’n dangos y colofnau’n unig sy'n cyd-fynd â set o feini prawf. Er enghraifft, gallwch greu gwedd gall sydd ond yn dangos colofnau sy'n gysylltiedig â “Chwarter 1.”
  • Creu adroddiad. Gallwch greu adroddiad sy'n dangos ystadegau perfformiad ar gyfer yr holl golofnau mewn cyfnod graddio.

Creu cyfnodau graddio

Ni ellir cysylltu colofnau gyda mwy nag un cyfnod graddio. Bydd cyfnod graddio newydd ei greu sydd â’r un amrediad dyddiadau neu amrediad dyddiadau sy’n gorgyffwrdd yn gwrthwneud gosodiadau cyfnod graddio presennol. Bydd yr holl golofnau a oedd yn gysylltiedig â'r cyfnod graddio cyfredol yn cael eu cysylltu â'r un newydd.

  1. Yn y Ganolfan Raddau, ewch ati i gyrchu’r ddewislen Rheoli a dewis Cyfnodau Graddio.
  2. Ar y dudalen Cyfnodau Graddio, dewiswch Creu Cyfnodau Graddio a theipiwch enw a disgrifiad dewisol.
  3. Dewiswch y Dyddiadau Cyfnod Graddio.
    • Dewiswch Dim i gysylltu colofnau gyda’r cyfnod graddio â llaw. Er enghraifft, gallwch greu cyfnod graddio o’r enw “Prosiect Grŵp”. Yn hwyrach, gallwch gysylltu’r colofnau ar gyfer y prosiect â llaw.
    • Dewiswch Ystod a theipio ystod dyddiad i gysylltu colofnau sydd â dyddiad dyledus o fewn yr ystod hwnnw. Rhaid bod gan bob cyfnod graddio ddyddiadau unigryw.
  4. Mae gennych chi’r opsiwn i ddewis y blwch ticio ar gyfer Cysylltu Colofnau i gysylltu’r holl golofnau presennol â dyddiad dyledus yn yr ystod dyddiad. Pan fyddwch yn creu colofnau newydd sy’n disgyn yn yr ystod dyddiad hwnnw, rhaid i chi gysylltu’r colofnau â llaw gyda’r cyfnod graddio.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Didoli, golygu a dileu cyfnodau graddio

Ar y dudalen Cyfnodau Graddio, gallwch ddidoli, golygu a dileu cyfnodau graddio. I drefnu colofn, dewiswch y pennawd. Os ceir nifer o gyfnodau graddio, dewiswch Dangos y Cyfan i arddangos y cyfan ar un dudalen. Dewiswch Golygu Tudalennu i newid nifer yr eitemau i'w gweld fesul tudalen.

I olygu neu ddileu cyfnod graddio, cyrchwch ei ddewislen a dewis Golygu neu Ddileu. Mae’r holl golofnau Canolfan Raddau sy’n gysylltiedig â chyfnod graddio a ddilëwyd wedi ei ailosod ac nid ydynt yn cael eu cysylltu â chyfnod graddio.

Gallwch newid yr ystod dyddiad ar gyfer cyfnod graddio a dewis y blwch ticio Cysylltu Colofnau. Bydd pob un o'r colofnau presennol gyda dyddiadau cyfatebol i’r ystod dyddiad newydd yn cael eu cysylltu â’r cyfnod graddio.


Gweld cyfnod graddio a chysylltu colofnau

Yn y Ganolfan Raddau, gallwch weld y colofnau sy'n gysylltiedig â chyfnod graddio mewn dwy ffordd. Gallwch hidlo gwedd y Ganolfan Raddau a dewis cyfnod graddio. Hefyd gallwch weld pob cyfnod graddio a cholofnau cysylltiedig ar y dudalen Trefnu Colofnau. Gallwch symud un neu fwy colofn i gyfnod graddio, gwahanol gyfnod graddio, neu ddim gyfnod graddio. Ewch i'r dudalen o ddewislen Rheoli.

Os na chysylltwyd colofnau yn awtomatig gyda cyfnod graddio yn seiliedig ar ddyddiadau dyledus, gallwch gysylltu colofnau â llaw ar y dudalen Trefnu Colofnau. Hefyd gallwch olygu gosodiadau'r golofn. Er enghraifft, gallwch greu cyfnod graddio ar gyfer prosiect grŵp a chysylltu'r colofnau perthnasol.