Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael yn y Wedd Cwrs Gwreiddiol. Mae'r llyfr graddau ar gael i hyfforddwyr ar bob adeg yng Ngwedd Cwrs Ultra.
Am y Categorïau
Yn y Ganolfan Raddau, gallwch ddefnyddio categorïau i grwpio colofnau cysylltiedig gyda'i gilydd a threfnu'r data.
Gyda chategorïau, gallwch wneud y tasgau hyn:
- Hidlo eich gwedd o’r Ganolfan Raddau. Er enghraifft, gallwch weld colofnau aseiniad yn unig yng ngrid y Ganolfan Raddau.
- Cyfrifo Graddau. Er enghraifft, gallwch neilltuo pwysau i gategori pan fyddwch yn cyfrifo graddau terfynol gyda cholofn wedi'i phwysoli.
- Dewis gwedd gall. Mae gwedd gall yn wedd sy'n canolbwyntio ar y Ganolfan Raddau sy’n dangos y colofnau’n unig sy'n cyd-fynd â set o feini prawf. Er enghraifft, gallwch greu gwedd gall sydd ond yn dangos colofnau sy'n gysylltiedig â'r categori profion.
- Creu adroddiad. Gallwch greu adroddiad y mae modd ei argraffu, sy’n dangos ystadegau perfformiad ar gyfer pob colofn mewn categori penodol.
Wyth categori diofyn
Mae’r wyth categori hyn yn cael eu creu yn y Ganolfan Raddau yn ddiofyn:
- Aseiniad
- Blog
- Trafodaeth
- Dyddlyfr
- Nhw Eu Hunain a Chyfoedion
- Arolwg
- Prawf
- Wiki—pan fydd yr offeryn ar gael a’ch bod wedi creu wiki y gallwch ei raddio
Pan fyddwch yn creu eitem y gellir ei raddio o'r rhestr, bydd colofn graddau'n cael ei chreu'n awtomatig ar gyfer yr eitem yn y Ganolfan Raddau. Mae’r golofn yn cael ei chysylltu’n awtomatig â'r categori cywir.
Creu categorïau
Gallwch greu cynifer o gategorïau ag sydd eu hangen arnoch er mwyn trefnu eich data yn y Ganolfan Raddau. Mae'r dudalen Categorïau yn y Ganolfan Raddau yn dangos y categorïau diofyn a’r rhaid hynny rydych chi'n eu creu. Bydd rhes pob categori yn dangos disgrifiad dewisol a'r colofnau gradd sy'n gysylltiedig â'r categori hwnnw.
Wrth greu colofn gradd â llaw, gallwch ei chysylltu â chategori diofyn neu gategori penodol. Os na wnewch, bydd yn cysylltu’n ddiofyn â Dim Categori.
- Yn y Ganolfan Raddau, agorwch y ddewislen Rheoli a dewiswch Categorïau.
- Ar y dudalen Categorïau, dewiswch Creu Categori a theipiwch enw a disgrifiad dewisol.
- Dewiswch Cyflwyno.
I olygu neu ddileu categori a greoch, agorwch ei ddewislen. Nid oes modd i chi ddileu categori sydd â cholofnau cysylltiedig.
Gweld categori a chysylltu colofnau
Yn y Ganolfan Raddau, gallwch weld y colofnau sy'n gysylltiedig â chategori mewn dwy ffordd. Gallwch hidlo gwedd y Ganolfan Raddau a dewis categori. Mae'r colofnau sy'n gysylltiedig â'r categori yn ymddangos yn y grid. Mae'r wedd yn aros yn y Ganolfan Raddau tan i chi ei newid neu gau'ch porwr.
Hefyd gallwch weld pob categori a cholofnau cysylltiedig ar y dudalen Trefnu Colofnau. Gallwch symud un neu ragor o golofnau i gategori, i gategori gwahanol, neu ddim categori. Agorwch y dudalen o'r ddewislen Rheoli.
Os na wnaethoch gysylltu colofnau â chategori pan grëwyd ef, gallwch gysylltu colofnau â llaw ar y dudalen Trefnu Colofnau. Hefyd gallwch olygu gosodiadau'r golofn.