Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Gallwch greu rheolau i ddefnyddio lliw gyda'r celloedd yn y Ganolfan Raddau, naill ai drwy radd neu statws. Mae lliw yn y Ganolfan Raddau yn darparu dangosyddion gweladwy i'ch helpu i ddehongli gwybodaeth yn gyflym. Er enghraifft, gallwch ddefnyddio melyn i dynnu sylw at eitemau graddedig gyda sgorau sy'n methu fel bod myfyrwyr a cholofnau sydd angen sylw yn amlwg.
Galluogi a chymhwyso codiau lliw
- Yn y Ganolfan Raddau, ewch i'r ddewislen Rheoli a dewis Codau Lliwiau Graddio.
- Ar y dudalen Codau Lliwiau Graddio, dewiswch y blwch ticio ar gyfer Galluogi Codau Lliwiau Graddio.
- Yn yr adran Opsiynau Codau Lliw, gallwch berfformio'r tasgau hyn:
- Ar gyfer pob Statws Graddio, dewiswch yr eicon saeth yn pwyntio i lawr yn y golofn Lliw'r Cefndir i ddefnyddio'r blwch Dewis Lliwiau.
- Yn y blwch Dewis Lliwiau, dewiswch liw a dewiswch Defnyddio i'w gadw.
- Yn yr adran Amrediadau Gradd, gallwch berfformio'r tasgau hyn:
- Dewiswch Ychwanegu Meini Prawf i greu rheol lliw.
- Yn y ddewislen Meini Prawf, dewiswch Rhwng, Mwy na, or Llai na.
- Teipiwch ganran yn y blwch neu flychau.
- Ar gyfer Lliw'r Cefndir a Testun, dewiswch yr eicon saeth yn pwyntio i lawr i fynd i'r blwch Dewis Lliwiau.
- Dewiswch liw a dewiswch Defnyddio i'w gadw.
- Dewiswch Ychwanegu Meini Prawf i greu maes Amrediadau Gradd ychwanegol. Os ydych yn creu rheol sy'n cynnwys rhywfaint o'r un wybodaeth â rheol arall, mae'r system yn creu rhybudd er mwyn i chi allu golygu eich meini prawf.
- Dewiswch Cyflwyno.
Mae'r dudalen Canolfan Raddau yn ymddangos gyda neges llwyddiant. Mae lliwiau sy'n seiliedig ar eich rheolau'n ymddangos yn y celloedd a affeithiwyd.
Rheoli codau lliw graddio
Gallwch ddewis troi codio ymlaen neu i ffwrdd neu olygu'r rheolau lliw a greoch. Ar ôl i chi alluogi codio lliw, mae'r swyddogaeth Cuddio/Dangos y Codau Lliw yn ymddangos yn y Ganolfan raddau.
Mewn unrhyw olwg o'r Ganolfan Raddau, dewiswch Cuddio'r Codau Lliw i ddileu pob lliw a ddiffiniwyd o'r celloedd. Cedwir y rheolau lliw. Dewiswch Dangos y Codau Lliw i ailgymhwyso'r lliw a ddiffiniwyd i'r celloedd dan sylw.
Golygu codau lliwiau graddio
Gallwch olygu'r codau rydych yn eu dewis neu ddileu meini prawf sydd eisoes yn bodoli. Gallwch hefyd greu meini prawf ychwanegol.
- O'r ddewislen Rheoli, dewiswch Codau Lliwiau Gradd.
- Ar y dudalen Codau Lliwiau Gradd, cliriwch y blwch ticio ar gyfer Galluogi Codau Lliwiau Gradd er mwyn dileu'r holl liw a ddiffiniwyd o'r celloedd yn y Ganolfan Raddau. Mae'r rheolau lliw rydych yn eu creu'n aros ar y dudalen Codau Lliwiau Gradd a gallwch eu hailgymhwyso. Pan fyddwch yn analluogi codio lliw, ni fydd unrhyw swyddogaeth ar gyfer dangos neu guddio codio lliw'n ymddangos yn Ganolfan Raddau.
- Dewiswch liw newydd neu dewiswch yr eicon Ailosod i ddileu rheol lliw.
- Golygu meini prawf Amrediadau Gradd sydd eisoes yn bodoli. Gallwch ragweld eich dewisiadau lliw yn y golofn Rhagolwg o'r Dangosydd.
- Dewiswch Dileu Meini Prawf i ddileu'r meini prawf sy'n bodoli eisoes. Mae'r weithred yn derfynol. Dewiswch Iawn yn y ffenestr neidio i ddilysu'r dileu.
- Dewiswch Ychwanegu Meini Prawf i greu maes Amrediadau Gradd ychwanegol.
- Dewiswch Cyflwyno.