Rydym wedi creu rhestr o dermau ar gyfer hyfforddwyr sy’n newydd i Blackboard Learn.

Ardal gynnwys: Cynwysyddion lefel uchaf sy’n trefnu ac yn storio cynnwys cwrs, fel nodiadau darlith, aseiniadau a phrofion. Gallwch drefnu’ch maes cynnwys yn ôl wythnos, uned, pennod, gwers neu bwnc hefyd. Rydych yn ychwanegu dolenni at feysydd cwrs ar y ddewislen cwrs.

Pwynt mynediad y cwrs: Yr ardal mae’r myfyrwyr yn ei weld pan fyddant yn mynd i mewn i’ch cwrs. Y pwynt mynediad diofyn i'r cwrs yw'r Hafan ac mae'n cynnwys modiwlau sy'n tynnu sylw myfyrwyr at weithgarwch yn eich cwrs Ar y Panel Rheoli, gallwch newid y pwynt mynediad— dewiswch faes sy’n ymddangos ar y ddewislen cwrs.

Dewislen y cwrs: Mae’r ddewislen cwrs yn banel sy’n ymddangos ar ochr chwith y ffenestr cwrs. Mae defnyddwyr yn clicio ar fotymau neu ddolenni testun i weld holl gynnwys y cwrs, adnoddau unigol, dolenni gwe, dolenni cwrs a thudalennau modiwl.

Panel Rheoli: Rydych chi’n dod o hyd i bob un o’r nodweddion ar gyfer rheoli cyrsiau trwy’r dolenni yn y Control Panel Mae’r Panel Rheoli i’w weld o dan y ddewislen cwrs, ac mae ond ar gael i ddefnyddwyr sydd ag un o’r rolau cwrs diffiniedig hyn: hyfforddwr, cynorthwyydd addysgu, marciwr, adeiladwr cwrs, neu weinyddwr. O’r Panel Rheoli gallwch fynd i’r Ganolfan Raddau, a phenderfynu ar arddull eich cwrs a pha adnoddau cwrs ddylai fod ar gael i’ch myfyrwyr.

Dirprwyo graddio: Gallwch bennu defnyddwyr penodol yn eich cwrs i raddio setiau penodol o gyflwyniadau aseiniadau myfyrwyr. Mae rolau sydd â breintiau graddio'n ôl rhagosodiad yn cynnwys hyfforddwr, cynorthwyydd addysgu, a graddiwr. Gelwir y defnyddwyr sy’n eich helpu i raddio yn raddwyr dirpwyedig a byddant yn darparu graddau dros dro. Mae graddwyr dirprwyedig yn dilyn yr un camau graddio â chi. Fodd bynnag, bydd y grŵp o ymgeisiau aseiniadau a welir ganddynt yn seiliedig ar yr opsiynau a ddewiswch. Ar ôl i bob graddiwr a ddirprwyir roi graddau ac adborth, mae un neu ragor o raddwyr terfynol yn adolygu'r graddio i benderfynu ar radd derfynol neu ei chysoni.

Modd Golygu: Pan fydd Modd Golygu YMLAEN, bydd modd gweld pob un o swyddogaethau’r hyfforddwr, fel Adeiladu Cynnwys mewn maes cynnwys a dewisiadau dewislen. Pan fydd Modd Golygu wedi ei DDIFFODD, byddwch yn gweld yr un dudalen ag y mae’r myfyrwyr yn ei gweld yn y bôn. Bydd y Modd Golygu yn ymddangos i’r defnyddwyr hynny sy’n hyfforddwyr, cynorthwywyr addysgu, adeiladwyr cwrs a gweinyddwyr.

Canolfan Raddau: Gweld yr holl waith cwrs sy’n berthnasol i’r cwrs rydych chi ynddo. Caiff y Ganolfan Raddau ei phoblogi â myfyrwyr pan fyddant wedi cael eu hymrestru ar eich cwrs. Gallwch farcio gwaith cwrs, rheoli eitemau a rhedeg adroddiadau.

Dadansoddiad eitem: Mae dadansoddiad eitemau yn darparu ystadegau am berfformiad cyffredinol, ansawdd profion a chwestiynau unigol. Mae'r data hyn yn eich helpu i adnabod cwestiynau a allai fod yn wahaniaethwyr gwael o berfformiad myfyrwyr. 

Dewislen: Trwy gydol Blackboard Learn, mae gan yr eitemau hynny mae’r defnyddiwr wedi gweithredu arnynt ddewislen ar eu cyfer. I weld y ddewislen, symud eich cyrchwr dros deitl yr eitem a chliciwch ar y saeth sy’n pwyntio i lawr. Mae’r ddewislen yn cynnwys opsiynau ar gyfer llawer o elfennau yn Blackboard Learn, fel eitemau cynnwys, dolenni ar y ddewislen cwrs, neu golofnau yn y Ganolfan Raddau. Mae’r opsiynau ar y ddewislen yn amrywio yn ôl yr elfen a rôl y defnyddiwr.

Modiwlau: Gall modiwlau ymddangos ar dab Fy Sefydliad neu ar y tudalennau modiwlau cwrs rydych yn eu hychwanegu i gyrsiau, fel y dudalen hafan. Mae modiwlau yn cynnwys gwybodaeth am beth sy’n digwydd yn eich cyrsiau, ac mae’n bosibl y bydd gennych fynediad at adnoddau a ddefnyddir yn gyffredin. Ymhlith yr esiamplau o fodiwlau mae Fy Nghyoeddiadau, Beth sy'n Newydd, a'r Gyfrifiannell.

Fy Ngraddau: Ar dudalen Fy Ngraddau, gall myfyrwyr weld yr holl waith cwrs a graddau ar gyfer y cwrs y maent ynddo. Ar ôl ichi fynd i dudalen Fy Ngraddau y myfyrwyr, defnyddiwch fotymau’ch porwr i fynd yn ôl i wybodaeth yr hyfforddwr.

Cronfa gwestiynau: Gallwch ddefnyddio cronfeydd i greu profion ac arolygon. Gallwch hefyd allgludo a mewngludo cronfeydd i'w defnyddio mewn profion mewn cyrsiau eraill. 

Set o gwestiynau: Gallwch ddefnyddio setiau o gwestiynau wrth greu profion. Gallwch ddewis sawl cwestiwn rydych eu heisiau yn y set. Caiff y cwestiynau eu dewis ar hap bob tro i fyfyriwr gymryd y prawf. Yn y Wedd Cwrs Ultra, trosir setiau cwestiynau yn gronfeydd cwestiynau.

Bloc ar hap: Pan fyddwch yn creu prawf, gallwch ddefnyddio blociau ar hap er mwyn sicrhau bod pob myfyriwr yn derbyn fersiwn gwahanol o'r prawf. Mae blociau ar hap yn tynnu cwestiynau o gronfeydd yn unig, felly mae rhaid i chi greu o leiaf un gronfa gwestiynau yn gyntaf.