Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Ynglŷn â rhagolwg myfyriwr

Rydych am deimlo'n hyderus bod eich cwrs wedi'i gynllunio'n dda ac yn gweithredu fel y disgwyliwch - cyn i'ch myfyrwyr ei weld. Gyda rhagolwg myfyriwr, gallwch adolygu cynnwys y cwrs o safbwynt myfyriwr. Gallwch hefyd ddilysu ymddygiadau cwrs, megis rhyddhad amodol cynnwys a sut mae graddau yn ymddangos.

Tra’ch bod yn y modd rhagolwg myfyriwr, gallwch wneud y gweithgareddau myfyriwr hyn:

  • Cyflwyno aseiniadau
  • Sefyll profion
  • Creu blogiau a phostiadau trafod
  • Creu cofnodion dyddlyfr a wiki
  • Gweld offer myfyrwyr, fel Fy Ngraddau

Mae rhagolwg myfyriwr yn wahanol i Modd Golygu. Tra bod y Modd Golygu yn cuddio eich rheoliadau golygu a chynnwys dan amodau penodol, mae rhagolwg myfyriwr yn caniatáu i chi brofi eich cwrs fel y bydd eich myfyrwyr.


Mynd i fodd rhagolwg myfyrwyr

I fynd i mewn i fodd rhagolwg myfyrwyr, dewiswch yr eicon Mynd i Ragolwg Myfyriwr.

Mae rhagolwg myfyriwr yn creu cyfrif myfyriwr, a enwir yn gyfrif defnyddiwr y rhagolwg. Rydych wedi'ch mewngofnodi fel y defnyddiwr rhagolwg ac wedi cofrestru yn y cwrs presennol. Pan fyddwch yn mynd i fodd rhagolwg myfyriwr, mae'r bar rhagolwg myfyriwr yn ymddangos ar frig pob tudalen. Mae'r bar yn arddangos y testun "Mae modd Rhagolwg Myfyriwr YMLAEN" a’i fod â swyddogaethauGosodiadau a Gadael y Rhagolwg.

Mae modd rhagolwg myfyrwyr yn weithredol yn y cyrsiau ble rydych wedi ei galluogi yn unig. Rydych dal yn hyfforddwr yng ngweddill Blackboard Learn. Fodd bynnag, defnyddir yr un cyfrif defnyddiwr rhagolwg pan fyddwch yn mynd i fodd rhagolwg myfyriwr mewn mwy nag un cwrs.


Eich cyfrif defynddiwr rhagolwg

Pan fyddwch yn mynd i mewn i fodd rhagolwg myfyriwr a'ch bod wedi mewngofnodi yn eich cwrs gyda'r cyfrif defnyddiwr rhagolwg, bydd eich defnyddiwr rhagolwg yn ymddangos yng nghofrestr y cwrs. Mae'r defnyddiwr rhagolwg yn weladwy i bob myfyriwr sydd wedi cofrestru ar y cwrs. Gall myfyrwyr a gweinyddwyr adnabod eich cyfrif defnyddiwr rhagolwg yn hawdd iawn yn ôl yr enw. Y cyfenw yw eich cyfenw gyda'r ychwanegiad _PreviewUser a'r enw defnyddiwr yw eich enw defnyddiwr gyda'r ychwanegiad _previewuser.

Os ydych yn addysgu cwrs gyda hyfforddwr arall, bydd gan bob un ohonoch gyfrif defnyddiwr rhagolwg.

Fel defnyddiwr rhagolwg, caiff yr holl ddata sy'n gysylltiedig â'ch gweithgareddau eu cipio gan Blackboard Learn, megis aseiniadau a gyflwynwyd a phostiadau trafod. Mae myfyrwyr eraill yn gallu rhyngweithio â'ch defnyddiwr rhagolwg. Er enghraifft, gallant ateb eich postiadau fel pe baech yn fyfyriwr arall a gofrestrwyd ar y cwrs.


Gadael a dileu eich cyfrif defnyddiwr rhagolwg

Dewiswch Gadael Rhagolwg i adael y rhagolwg myfyriwr. Os fyddwch yn gadael y cwrs heb adael rhagolwg myfyriwr, pan fyddwch yn dychwelyd i'r cwrs, byddwch ym modd rhagolwg myfyriwr.

Pan fyddwch yn gadael rhagolwg myfyriwr, fe'ch gofynnir a hoffech gadw neu ddileu'r defnyddiwr rhagolwg a'r holl ddata cysylltiedig.

Dileu’r defnyddiwr rhagolwg a data

Rydym yn argymell eich bod yn dileu'r defnyddiwr rhagolwg a'r data cysylltiedig.

Yn y ffenest Gadael Rhagolwg Myfyriwr, dewiswch Dileu'r defnyddiwr rhagolwg a'r holl ddata (Argymhellir). Yn ôl eich dewis, dewiswch y blwch gwirio Peidiwch â gofyn imi. Bydd y cwrs yn cwblhau eich dewis yn awtomatig bob tro i chi adael y rhagolwg myfyriwr.

I newid y gosodiad hwn, dewiswch Gosodiadau yn y bar rhagolwg myfyriwr.

Pan fyddwch yn dileu'r defnyddiwr rhagolwg, caiff pob gweithgarwch a wneir neu a grëir gan y defnyddiwr rhagolwg ei dynnu o'r cwrs yn barhaol. Mae hyn yn cynnwys tynnu ceisiadau prawf, cyflwyniadau aseiniad, graddau, a phostiadau trafodaeth. Hefyd dilëir unrhyw ryngweithiad mae myfyriwr cofrestredig wedi’i gael â'r defnyddiwr rhagolwg, megis ymatebion i bostiadau trafodaeth y defnyddiwr rhagolwg. Caiff y defnyddiwr rhagolwg ei dynnu o'r cwrs. Os nad yw'r defnyddiwr wedi ei gofrestru ar gwrs arall, dilëir cyfrif y defnyddiwr rhagolwg.

Gallwch dynnu cyfrif y defnyddiwr rhagolwg o'r cwrs gyda dulliau cofrestru traddodiadol. Os gwnewch hyn, mae peth o'r gweithgarwch a wnaethpwyd neu a grëwyd fel y myfyriwr rhagolwg yn aros yn y cwrs ond bydd yn ddienw. Er enghraifft, cedwir postiadau trafodaeth ond bydd Dienw yn ymddangos yn lle'r enw.

Cadw'r defnyddiwr rhagolwg a data

Dewiswch Cadw'r defnyddiwr rhagolwg a phob data os oes angen ichi gadw'r defnyddiwr a'r data i weld sut mae gweithgarwch myfyriwr yn ei gyflwyno ei hun i chi fel yr hyfforddwr, megis cyfrifiadau gradd. Os fyddwch yn cadw'r data, bydd y cyfrif defnyddiwr rhagolwg yn ymddangos yng nghofrestr y cwrs, yn y Ganolfan Raddau ac unrhyw le arall lle rhyngweithioch fel y defnyddiwr hwnnw.

Pan fyddwch yn cadw'r cyfrif defnyddiwr rhagolwg, bydd y dot yng nghanol eicon Mynd i Ragolwg Myfyriwr yn troi'n wyrdd. Mae'r cyfrif defnyddiwr rhagolwg yn barod i'w defnyddio.

Os ydych yn rhedeg adroddiadau cwrs neu gasglu ystadegau, caiff eich rhifau eu sgiwio gan un neu fwy os fydd hyfforddwyr lluosog yn defnyddio'r rhagolwg myfyriwr. Hefyd, gall y myfyriwr rhagolwg ddrysu myfyrwyr sy'n rhyngweithio â'r myfyriwr hwn pan nid ydych ym modd rhagolwg myfyriwr i fonitro'r rhyngweithiad.