Hysbysiadau am weithgarwch cwrs

Mae tudalennau modiwlau'n dangos hysbysiadau ar gyfer y cwrs rydych ynddo. Derbyn hysbysiadau awtomatig pan fydd gweithgarwch yn eich cyrsiau:

  • Fy Blackboard: Mae tudalen Diweddariadau yn dangos hysbysiadau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau ac mae tudalen Postiadau yn dangos cynnwys newydd mewn trafodaethau, blogiau, dyddlyfrau a wikis.
  • Negeseuon e-bost, testun neu llais: Os yw'ch sefydliad yn caniatáu, gallwch dderbyn hysbysiadau e-bost, testun a llais.
  • Modiwlau'r Hafan: O fewn cwrs, mae modiwlau yn dangos hysbysiadau ar gyfer y cwrs hwnnw yn unig.
  • Hysbysiadau gwthio ap symudol Blackboard: Os yw'ch sefydliad yn defnyddio ap Blackboard neu ap Blackboard Instructor, gallwch gael hysbysiadau a fydd yn ymddangos ar sgrin eich dyfais.
  • Dangosfwrdd Hysbysiadau: Mae’n bosibl y bydd y Dangosfwrdd Hysbysiadau yn ymddangos ar dab Fy Sefydliad fel modd arall o well hysbysiadau ar gyfer pob un o’ch cyrsiau. Gall eich sefydliad ailenwi'r tabiau.

Eich sefydliad sy'n rheoli a yw'r hysbysiadau wedi'u galluogi a'r gosodiadau y mae defnyddwyr yn gallu eu rheoli.


Ynglŷn â gosodiadau hysbysiadau

Rheoli'r gosodiadau hysbysiadau ar gyfer pob un o'ch cyrsiau. O'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, dewiswch Gosodiadau ac yna dewiswch Golygu Gosodiadau Hysbysiadau.

Eich sefydliad sy'n rheoli a yw'r opsiynau hyn ar gael. Os yw'ch sefydliad wedi diffinio gosodiadau hysbysiadau, caiff y gosodiadau hyn eu defnyddio yn hytrach na'ch gosodiadau personol.

  1. Golygu Gosodiadau Cyffredinol: Dewiswch fformat eich e-bost - neges unigol ar gyfer pob hysbysiad neu grynhoad dyddiol - a'r amserlen atgoffa ar gyfer dyddiadau dyledus.
  2. Swp-olygu Gosodiadau Hysbysiadau: Newidiwch y gosodiadau hysbysiad ar gyfer pob un o'ch cyrsiau ar unwaith. Gallwch ddewis pa hysbysiadau rydych eu derbyn a'r modd o'u cyflwyno.
  3. Golygu Gosodiadau Cwrs Unigol: Newidiwch y gosodiadau hysbysiad ar gyfer cwrs unigol.
  4. Golygu Gosodiadau Sefydliad Unigol: Newidiwch y gosodiadau hysbysiad ar gyfer cyfundrefn unigol.

Hysbysiadau cyffredinol

Gyda'r gosodiadau cyffredinol, gallwch ddewis a ydych am dderbyn hysbysiadau ar e-bost ac os ydych eisiau cael eich atgoffa am ddyddiadau dyledus.

  1. O'r ddewislen nesaf at eich enw ym mhennyn y dudalen, dewiswch Gosodiadau ac yna dewiswch Golygu Gosodiadau Hysbysiadau.
  2. Ar dudalen Golygu Gosodiadau Hysbysiadau, dewiswch Golygu Gosodiadau Cyffredinol.
  3. Ar dudalen Gosodiadau Cyffredinol, gallwch ddewis derbyn e-bost ar gyfer pob hysbysiad neu e-bost dyddiol yn crynhoi holl hysbysiadau'r diwrnod hwnnw.
    • Negeseuon Unigol: Anfonir e-byst ar gyfer pob hysbysiad. Nodwch fod nifer y negeseuon trafodaeth heb eu darllen, postiadau blog a chofnodion dyddlyfr bob tro'n cael eu hanfon fel e-bost crynhoad dyddiol.
    • E-bost Crynhoad Dyddiol: Caiff yr holl hysbysiadau eu casglu a'u hanfon unwaith y diwrnod ar amser a bennir gan eich sefydliad.
  4. Dewiswch Ie i osod atgoffwr dyddiad dyledus a dewiswch sawl diwrnod cyn y dyddiad dyledus yr hoffech gael eich hysbysu. Caiff yr atgoffwr e-bost hwn ei anfon fel crynhoad ar ffurf e-bost neu fel e-byst unigol, yn seiliedig ar yr opsiwn dewiswch chi.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Dewis sut a phryd rydych yn cael hysbysiadau

Gallwch ddewis pa fathau o hysbysiadau a dderbyniwch a sut rydych eisiau eu derbyn.

Change settings in Original Experience interface
  1. O'r ddewislen nesaf at enw ym mhennyn y dudalen, dewiswch Gosodiadau ac yna dewiswch Golygu Gosodiadau Hysbysiadau.
  2. Ar dudalen Golygu Gosodiadau Hysbysiadau, dewiswch y ddolen ar gyfer Cyrsiau rwy'n eu cymryd neu Cyrsiau rwy'n eu dysgu yn adran Swp-olygu Gosodiadau Hysbysiadau i newid gosodiadau pob cwrs ar unwaith.

    Neu, gallwch wneud newidiadau ar gyfer cyrsiau unigol. Dewiswch enw cwrs yn adran Golygu Gosodiadau Cwrs Unigol. Mae tudalen Gosodiadau Hysbysiadau Cyfredol yn ymddangos ac yn darparu'r un opsiynau.

  3. Ar dudalen Newid Gosodiadau, gwiriwch fod Cyrchfan eich Hysbysiadau yn gywir. Gallwch wneud newidiadau yn eich Gwybodaeth Bersonol.
  4. Yn adran Gosodiadau, dewiswch sut yr hoffech i'ch hysbysiadau gael eu hanfon atoch. Dewiswch y blwch ticio ar ben pob colofn i dderbyn yr holl hysbysiadau a ddewiswyd gennych yn yr un modd. Cliriwch y blwch ticio ar gyfer unrhyw hysbysiad dydych chi ddim eisiau ei derbyn.
    • Dangosfwrdd: Yn ddiofyn, mae pob math o hysbysiad yn ymddangos yn nhudalennau Diweddariadau a Postiadau Fy Blackboard ac yn hafan y cwrs. Maen nhw hefyd yn ymddangos yn y Dangosfwrdd Hysbysiadau os oes gan eich sefydliad fynediad at nodweddion ymrwymiad cymunedol.
    • Symudol: Mae'r golofn hon yn ymddangos os yw'ch sefydliad wedi galluogi ap Blackboard neu ap Blackboard Instructor. Dewiswch ba hysbysiadau gwthio rydych eisiau iddynt ymddangos ar eich dyfais symudol. Mae hysbysiadau gwthio yn ymddangos ar sgrin eich dyfais hyd yn oed os nad ydych yn agor yr ap. Gallwch dderbyn yr hysbysiadau hyn:
      • Cyhoeddiad ar gael
      • Eitem Gynnwys ar Gael
      • Cwrs neu Gyfundrefn Ar Gael
      • Graddiwyd yr Eitem
      • Prawf Ar Gael
      • Prawf i'w Gyflwyno
      • Prawf Wedi Mynd Heibio i Ddyledus
  5. E-bost, Neges destun, a Testun-i-lais: Anfonir negeseuon hysbysu e-bost, neges destun a thestun-i-lais gyda'r wybodaeth ddarparoch chi yn eich gwybodaeth bersonol.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Troir hysbysiadau e-bost, symudol, SMS a thestun-i-lais i ffwrdd yn ôl rhagosodiad. Os nad ydych yn gweld colofn ar gyfer y dull hysbysu, nid yw'r opsiwn hwnnw ar gael yn eich sefydliad.

Mae angen i chi ddewis Crynhoad E-bost Dyddiol yn eich gosodiadau hysbysiadau cyffredinol er mwyn dewis hysbysiadau e-bost ar gyfer yr eitemau hyn:

  • Nifer y negeseuon trafodaeth heb eu darllen
  • Nifer y postiadau blog heb eu darllen
  • Nifer y cofnodion dyddlyfr heb eu darllen

Hysbysiadau neges destun a thestun-i-lais

Mae'n bosib bod hysbysiadau neges destun a thestun-i-lais ar gael yn eich sefydliad. Cyflwynir y mathau o negeseuon hyn gan system Blackboard Learn bob 20 munud yn ôl rhagosodiad. Gall eich sefydliad osod amserlen gyflwyno er mwyn i chi beidio ag anfon neu dderbyn negeseuon yng nghanol y nos. Mae unrhyw negeseuon y byddwch yn eu creu y tu allan i'r amserlen gyflwyno yn cael eu cadw tan i'r amser anfon nesaf gychwyn.

  • Gyda negeseuon testun, gall hyfforddwyr anfon negeseuon o gwrs Blackboard Learn i ffonau symudol eich myfyrwyr. Mae angen i chi gychwyn neges cyn bod myfyrwyr yn gallu ateb.
  • Mae testun-i-lais yn darllen hysbysiadau allan a anfonir at eich ffôn. Mae’r opsiwn hwn ar gael yn unig pan fydd pecyn iaith rhagosodedig y system wedi’i osod i'r Saesneg neu'r Sbaeneg.

Os yw'ch sefydliad wedi gosod negeseuon testun a thestun-i-lais, caiff y nodweddion eu rhestru ar eich tudalen Golygu Gosodiadau Hysbysiadau. Rhaid i chi roi rhif ffôn symudol ar eich Gwybodaeth Bersonol a thanysgrifio i negeseuon testun a thestun-i-lais yn eich gosodiadau hysbysiadau.


Mathau o hysbysiad

Mae Blackboard Learn yn eich hysbysu pan mae'r digwyddiadau hyn yn digwydd, os byddwch yn gosod y math o hysbysiad i Ymlaen yn ardal Golygu Gosodiadau Hysbysiadau:

  • Cyhoeddiad ar gael
  • Aseiniad Ar Gael
  • Aseiniad yn Ddyledus neu Wedi Mynd Heibio i Ddyledus
  • Angen Graddio'r Aseiniad
  • Angen Graddio'r Blog
  • Eitem Gynnwys ar Gael
  • Cwrs ar Gael
  • Derbyniwyd Neges y Cwrs
  • Terfynau Meddal Cwota'r Cwrs
  • Angen Graddio Fforwm y Bwrdd Trafod
  • Angen Graddio Llinyn y Bwrdd Trafod
  • Eitem I'w Graddio'n Ddyledus
  • Angen Graddio'r Dyddlyfr
  • Angen Cysoni
  • Manylion Rheol y Ganolfan Gadw
  • Arolwg Ar Gael
  • Arolwg yn Ddyledus neu'n Hwyr
  • Cyflwynwyd yr Arolwg
  • Prawf Ar Gael
  • Prawf yn Ddyledus neu'n Hwyr
  • Angen Graddio'r Prawf
  • Postiadau Blog Heb eu Darllen
  • Cofnodion Dyddlyfr Heb eu Darllen
  • Negeseuon Bwrdd Trafod Heb eu Darllen
  • Angen Graddio Wiki

Digwyddiadau sy'n tynnu hysbysiadau

Caiff hysbysiad eitem ei dileu os oes un o'r pethau hyn yn digwydd:

  • Caiff eitem cwrs ei dileu.
  • Trefnir nad yw cwrs ar gael.
  • Cyrhaeddir dyddiad gorffen eitem cwrs.
  • Mae myfyriwr yn cyflwyno'r prawf, arolwg, neu aseiniad a gynhyrchodd hysbysiad eitem ar gael.
  • Mae hyfforddwr yn graddio'r eitem a gynhyrchodd hysbysiad angen graddio.
  • Nid yw rheolau rhyddhau addasol eitem cwrs bellach yn cael eu bodloni gan y myfyriwr.
  • Caiff hysbysiad am argaeledd eitem ei dileu ar ôl iddo gael ei marcio fel adolygwyd - ar gyfer eitem cwrs gydag adolygu wedi'i galluogi.
  • Os darllenir postiadau trafodaeth, cofnodion blog a chofnodion dyddlyfr heb eu darllen.
  • Nid yw myfyriwr bellach yn bodloni meini prawf rheol y Ganolfan Dargadw.
  • Os yw eitem wedi pasio ei hyd fel y pennwyd gan osodiadau gweinyddwr - y gosodiad diofyn yw 120 diwrnod.