Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Y Dangosfwrdd Hysbysiadau yw un ffordd mae'n bosib y byddwch yn gallu gweld hysbysiadau ar gyfer yr holl gyrsiau rydych yn eu dysgu neu rydych wedi cofrestru arnynt. Os yw'ch sefydliad yn ei defnyddio, mae'r Dangosfwrdd Hysbysiadau yn ymddangos fel dab eilaidd ar dab Fy Sefydliad.
Cyflwynir gwybodaeth mewn blychau o'r enw modiwlau, megis Fy Nghyhoeddiadau, Fy Nhasgau, Angen Sylw a Beth sy'n Newydd. Mae'r system yn cynhyrchu'r wybodaeth ym mhob modiwl.
Mathau o fodiwlau hysbysiadau
Yn ddiofyn, mae'r Dangosfwrdd Hysbysiadau yn dangos tri modiwl. Gallwch ychwanegu rhagor o fodiwlau.
- Angen Sylw: Yn dangos yr holl eitemau mewn cwrs sydd angen rhyw fath o ryngweithio. Mae hyfforddwyr, cynorthwywyr dysgu a graddwyr yn gweld cyflwyniadau myfyrwyr sydd angen eu graddio megis aseiniadau, profion, arolygon, postiadau trafodaeth a chofnodion dyddlyfr a blog. Mae cynorthwywyr dysgu a graddwyr yn gweld cyflwyniadau myfyrwyr sydd angen eu graddio megis aseiniadau, profion, arolygon, postiadau trafodaeth a chofnodion dyddlyfr a blog.
- Rhybuddion: Yn dangos rhybuddion dyledus hwyr a'r Ganolfan Dargadw ar gyfer pob cwrs. Mae hyfforddwyr, cynorthwywyr dysgu a graddwyr yn gweld y defnyddwyr ym mhob cwrs sydd ag eitemau dyledus hwyr ac sydd wedi creu rhybudd yn y Ganolfan Dargadw. Mae cynorthwywyr dysgu a graddwyr yn gweld y defnyddwyr ym mhob cwrs sydd ag eitemau dyledus hwyr ac sydd wedi creu rhybudd yn y Ganolfan Dargadw.
- Beth sy'n Newydd: Mae’n arddangos rhestr o eitemau newydd ym mhob cwrs a chyfundrefn berthnasol. Mae hyfforddwyr, cynorthwywyr dysgu a graddwyr yn gweld profion ac aseiniadau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno. Maen nhw hefyd yn gweld postiadau trafodaeth newydd, cofnodion dyddlyfr a blog a negeseuon cwrs. Mae myfyrwyr yn gweld postiadau newydd, negeseuon cwrs newydd, graddau newydd a bostiwyd a chynnwys newydd sydd ar gael. Mae cynorthwywyr dysgu a graddwyr yn gweld profion ac aseiniadau newydd sydd wedi cael eu cyflwyno. Maen nhw hefyd yn gweld postiadau trafodaeth newydd, cofnodion dyddlyfr a blog a negeseuon cwrs. Mae myfyrwyr yn gweld postiadau newydd, negeseuon cwrs newydd, graddau newydd a bostiwyd a chynnwys newydd sydd ar gael.
- Rhestr Tasgau: Yn dangos statws (Dyledus Hwyr/Dyledus) gwaith cwrs perthnasol. Mae myfyrwyr yn gweld eitemau graddedig sydd â dyddiadau dyledus arnynt mewn dau gategori - beth sy'n ddyledus hwyr a beth sy'n ddyledus yn y dyfodol. Darperir dolenni i eitemau cwrs perthnasol.
Diffodd hysbysiadau
Yn ddiofyn, mae hysbysiadau ymlaen ar gyfer y system. Os yw'ch sefydliad yn diffodd hysbysiadau, ni allwch eu troi ymlaen.
Os nad ydych chi eisiau derbyn hysbysiadau, gallwch ddiffodd un neu ragor ohonynt.
Mwy ar sut i weithio gyda modiwlau hysbysiadau
Gallwch ehangu, cwympo, neu agor pob modiwl mewn ffenestr newydd. Chi sy'n ychwanegu modiwlau newydd ac yn eu llusgo i'w hail-drefnu.
Gallwch ehangu pob eitem mewn modiwl i ddangos hysbysiadau unigol yr eitem. Ar gyfer yr offer cyfathrebu, dewiswch deitl yr hysbysiad i fynd yn syth i'r offeryn hwnnw. Mae gan bob hysbysiad ei dewislen ei hun.
Nodwedd | Gweithred ar gael |
---|---|
Dewislenni | Ehangu Popeth: Yn dangos yr holl eitemau mewn modiwl. Cwympo Popeth: Yn cwympo'r holl eitemau mewn modiwl. Diystyru Popeth: Mae'n tynnu allan yr holl hysbysiadau mewn modiwl. |
Golygu Gosodiadau Hysbysiadau | Yn y profiad Gwreiddiol yn unig, dewiswch ba hysbysiadau caiff eu hanfon atoch a sut. |
Personoli Tudalen | Newid y thema lliw. |
Dewislen pob hysbysiad | Gweld Manylion neu Agor: Ewch yn syth i ardal cwrs yr hysbysiad megis y Ganolfan Dargadw, trafodaethau neu'r Ganolfan Raddau i weld manylion yr hysbysiad. Adnewyddu: Gwiriwch am eitemau newydd, megis negeseuon trafodaeth, ers diweddariad diwethaf y modiwl. Diystyru: Derbyn hysbysiad o'r modiwl. Caiff yr hysbysiad ei dileu, ond mae'r eitem yn aros yn eich cwrs. |
Hafan
Yn ddiofyn, mae'ch cwrs Gwreiddiol yn cynnwys Hafan ar ddewislen y cwrs. Mae'r Hafan yn dudalen modiwl cwrs. Gallwch ailenwi neu ddileu'r dudalen hon, a chreu tudalennau modiwl cwrs eraill. Gallwch hefyd ddewis pa fodiwlau sy'n ymddangos.
Mae tudalennau modiwl cwrs yn cynnwys manylion am gynnwys newydd a dyddiadau dyledus ar gyfer y cwrs rydych chi ynddo.
Mae gosodiadau defnyddiwr ar gyfer hysbysiadau hefyd yn berthnasol i'r hysbysiadau sy'n ymddangos ar yr Hafan.