Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.
Os caniateir hynny, gallwch reoli a oes mynediad i'ch cwrs gan y rolau gwestai ac arsyllwr ai peidio. Hefyd mae gennych reolaeth dros gynnwys y gallant ei weld. Rhaid i'ch sefydliad greu'r cyfrifon a chysylltu arsylwyr â myfyrwyr.
Gall gwesteion mewn cwrs gynnwys darlithwyr gwadd, darpar fyfyrwyr, neu ddefnyddwyr eraill nad ydynt yn cymryd rhan yn uniongyrchol yn eich cwrs.
Fel arfer, caiff arsylwyr eu pennu i ddilyn defnyddwyr penodol yn Blackboard Learn heb ryngweithio gyda'r system. Gall arylwyr weld eich cwrs a dilyn cynnydd myfyrwyr. Hefyd, o'ch cwrs, gallwch anfon rhybuddion e-bost i arsylwyr yn ôl yr angen.
Ar ôl mewngofnodi, mae arsylwyr yn cyrchu gwybodaeth am eu myfyrwyr cysylltiedig ar y Dangosfwrdd Arsylwyr y gellir ei gyrchu ar y tab Fy Sefydliad yn y panel Offer.
Caniatáu mynediad gwesteion ac arsylwyr
- Newidiwch Modd Golygu i ON.
- Ar y Panel Rheoli, ewch ati i ehangu’r adran Addasu a dewiswch Opsiynau Cofrestru.
- Ar y dudalen Mynediad Gwesteion ac Arsylwyr, dewiswch Ie ar gyfer Caniatáu Gwesteion a Caniatáu Arsylwyr.
Addasu mynediad gwesteion ac arsylwyr
Ar ôl i chi ganiatáu mynediad gwesteion ac arsylwyr yn eich cwrs, gallwch benderfynu pa gynnwys maen nhw’n ei gweld mewn dwy ffordd:
- Rydych yn rheoli mynediad at y nodweddion unigol y mae eich sefydliad wedi caniatáu i westeion ac arsylwyr eu gweld.
- Rydych yn dewis pa eitemau dewislen cwrs y gall gwesteion ac arsylwyr eu gweld.
Gall eich sefydliad ganiatáu neu wrthod mynediad i arsylwyr at nodweddion penodol cyrsiau, megis ardaloedd cynnwys ac offer.
Mae gosodiadau'r system yn diystyru gosodiadau'r cwrs wrth gyfyngu ar fynediad. Os nad yw'r system yn caniatáu mynediad gwestai i offeryn, ni all gwesteion sydd wedi cofrestru ar gwrs gael caniatâd mynediad i'r offeryn ar lefel y cwrs.
Mynediad nodweddion unigol
Gallwch roi mynediad gwestai ac arsyllwr i nodweddion unigol nad ydynt yn cael eu gwrthwneud ar lefel y system. Mae'r nodweddion yn weladwy (darllen yn unig) ond ni all gwesteion ac arsyllwyr eu defnyddio pan fydd caniatâd ganddynt i fod yn eich cwrs.
- Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Argaeledd yr Offer.
- Ar y dudalen Argaeledd Offeryn, gallwch ddewis neu glirio blychau ticio i reoli mynediad gwesteion ac arsylwyr. Nid oes gosodiadau argaeledd gan offer gyda’r eicon Ddim ar Gael yn y system y gallwch eu newid.
Mae'r tabl yn rhestru'r offer sydd naill ai heb fod ar gael ar lefel y system i westeion yn ogystal ag arsyllwyr, neu ar gael yn unig i rôl yr arsyllwr. Gall eich sefydliad beidio â chaniatáu argaeledd ar gyfer offeryn penodol yn y rhestr hon ar gyfer rôl yr arsyllwr.
Offeryn | Ddim ar Gael i Rolau Gwestai nac Arsylwyr |
---|---|
Profion | Ie |
Blogiau | Ie |
Cydweithio | Ie |
Bwrdd Trafod | Ie |
E-bost | Ddim ar gael i rôl gwestai |
Grwpiau | Ie |
Dyddlyfrau | Ie |
Negeseuon | Ie |
Fy Ngraddau | Ddim ar gael i rôl gwestai |
Rhestr | Ddim ar gael i rôl gwestai |
Cyfarwyddiadau | Ie |
Tasgau | Ddim ar gael i rôl gwestai |
Mynediad dewislen cwrs
Rydych chi angen dewis pa eitemau dewislen cwrs y gall gwesteion ac arsylwyr eu cyrchu. Ni all gwesteion ac arsylwyr weld y rhan fwyaf o'r eitemau ar ddewislen y cwrs hyd nes y byddwch yn caniatáu mynediad. Ni allwch ganiatáu i westeion ac arsylwyr gyrchu rhai eitemau, fel trafodaethau, blogiau, a dyddlyfrau.
Agorwch y ddewislen ar gyfer eitem i wneud dewis. Ar ôl i chi ganiatáu mynediad i eitem, gallwch wrthod mynediad yn yr un ddewislwn.