Ynghylch cofrestru defnyddwyr

Mae'r dudalen Defnyddwyr yn rhestru'r holl ddefnyddwyr sydd wedi'u cofrestru ar eich cwrs ac yn caniatáu i chi reoli eu gosodiadau. Mewn sawl achos, mae eich sefydliad yn trin cofrestriadau cwrs ar gyfer myfyrwyr cofrestredig ac yn rheoli eu cyfrifon.

Os yw'ch sefydliad yn ei ganiatáu ac yn darparu'r caniatâd priodol, gallwch ychwanegu neu ddileu defnyddwyr yn ogystal â newid cyfrineiriau, rolau, gwybodaeth broffil ac argaeledd ar eich cwrs.

Cyrchwch y dudalen Defnyddwyr o'r Panel Rheoli yn yr adran Defnyddwyr a Grwpiau.

Gallwch gofrestru defnyddwyr mewn tair ffordd. Mae'r opsiynau hyn ar gael yn newislen Ymrestru Defnyddiwr neu yn opsiwn Swp Cofrestru.

  • Creu Defnyddiwr: Crëwch ddefnyddwyr a chofrestrwch nhw'n awtomatig.
  • Canfod Defnyddwyr i'w Cofrestru: Cofrestru defnyddwyr sydd â chyfrif presennol ar y system .
  • Swp Cofrestru: Ymrestru defnyddwyr lluosog ar unwaith a phennu rôl cwrs iddynt.

Creu defnyddwyr

Mae eich sefydliad yn rheoli gallu hyfforddwyr i greu defnyddwyr newydd.

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangach yr adran Grwpiau a Defnyddwyr a dewiswch Defnyddwyr.
  2. Ar y dudalen Defnyddwyr, cyrchwch y ddewislen Cofrestru Defnyddiwr a dewiswch Creu Defnyddiwr.
  3. Ar y dudalen Creu Defnyddiwr, darparwch yr wybodaeth ofynnol ac unrhyw wybodaeth bersonol berthnasol arall.
  4. Dewiswch Rôl ac Argaeledd ar gyfer y defnyddiwr.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

I sefydliadau sydd â systemau gwybodaeth lluosog, gall creu defnyddwyr ddigwydd mewn system wybodaeth wahanol a gyrchir trwy ddolen ar frig y tudalen hwn.

Caiff gwybodaeth am ddefnyddwyr ei storio ym mhroffil defnyddiwr. Eich sefydliad sy'n rheoli pa rai o feysydd data'r proffil defnyddiwr fydd yn ymddangos i ddefnyddwyr a pha rai y gall defnyddwyr eu golygu.


Canfod defnyddwyr i'w cofrestru

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangach yr adran Grwpiau a Defnyddwyr a dewiswch Defnyddwyr.
  2. Ar y dudalen Defnyddwyr, cychwch y ddewislen Cofrestru Defnyddiwr a dewiswch Canfod Defnyddwyr i'w Cofrestru.
  3. Teipiwch enw defnyddiwr neu dewiswch Pori i chwilio am ddefnyddwyr. Dim ond defnyddwyr nad ydynt eisoes wedi'u cofrestru ar eich cwrs fydd yn cael eu hadnabod wrth chwilio am ddefnyddwyr.
  4. Dewiswch neu deipiwch cynifer o enwau defnyddiwr ag sydd eu hangen. Gwahanwch enw defnyddwyr lluosog gyda choma.
  5. Dewiswch Rôl ac Argaeledd Cofrestru ar gyfer y defnyddiwr.
  6. Dewiswch Cyflwyno.

Gallwch hefyd chwilio am ddefnyddwyr yn ôl enw cyntaf, cyfenw ac e-bost.

Defnyddwyr a Leolwyd: Mae canlyniadau chwilio'n arddangos hyd at 25 o enwau ar dudalen. Bydd canlyniadau gyda dros 25 o ddefnyddwyr yn dangos y defnyddwyr ar fwy nag un tudalen. Ni allwch gofrestru defnyddwyr lluosog sy'n ymddangos ar dudalennau lluosog. Yn lle, dewiswch ddefnyddwyr i'w cofrestru o dudalen unigol a dewiswch Cyflwyno. Gwnewch y chwiliad eto i ddewis mwy o ddefnyddwyr i'w cofrestru.

Argaeledd: Ni allwch gofrestru defnyddwyr sydd wedi'u pennu'n Heb Fod Ar Gael gan eich sefydliad. Ni fydd defnyddwyr sydd wedi'u cofrestru ar eich cwrs, yr ydych wedi'u pennu'n Heb Fod Ar Gael, yn gweld eich cwrs ar y tab Fy Nghyrsiau ac ni fydd ganddynt fynediad i'ch cwrs. Mae angen i chi osod y cwrs i Ar Gael ar gyfer y myfyrwyr hyn fel y gallant weld eu bod wedi'u cofrestru ar eich cwrs.


Swp cofrestru defnyddwyr

Mae Swp Cofrestru Defnyddwyr yn ychwanegu defnyddwyr lluosog at eich cwrs ac yn aseinio rôl iddynt. Bydd defnyddwyr nad ydynt yn bodoli ar y system yn cael eu creu ar y system a'u hychwanegu at eich cwrs. Diffinnir data defnyddwyr mewn ffeil swp sy'n rhaid ei chreu y tu allan i'r system. Mae golygyddion testun a Microsoft Excel yn offer creu cyffredin.

Mae'ch sefydliad yn rheoli a allwch swp cofrestru defnyddwyr.

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangach yr adran Grwpiau a Defnyddwyr a dewiswch Defnyddwyr.
  2. Ar y dudalen Defnyddwyr, dewiswch Swp Cofrestru Defnyddwyr.
  3. Dewiswch Pori i leoli'r ffeil swp a dewiswch Math o Amffinydd, os oes angen.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Ffurfweddu'r ffeil swp

Mae'n rhaid i’r ffeil swp gynnwys un cofnod fesul llinell yn unig. Mae'n rhaid i bob maes gael ei wahanu gydag amffinydd a'i gwmpasu gan ddyfynodau.

Mae ffeiliau .CSV (comma separated value) wedi'u creu gan Microsoft Excel yn ychwanegu dyfynodau o gwmpas pob maes yn awtomatig.

Mae’n rhaid i feysydd ymddangos yn y drefn ganlynol ar gyfer cofnod pob defnyddiwr.Mae'r meysydd sydd wedi'u marcio â seren yn ofynnol.

Username*, Last Name*, First Name*, Email, Password*, Course Role*, Student ID, Middle Name, Job Title, Department, Company, Street 1, Street 2, City, State / Province, Zip / Postal Code, Country, Work Phone, Home Phone, Work Fax, Mobile Phone, Website, Course Availability, Other Name, Suffix, Title

Ni allwch newid cofnod defnyddiwr trwy'r broses Swp Cofrestru. Os yw'r system yn cydnabod yr enw defnyddiwr, prosesir y cofrestru heb newid data'r defnyddiwr. Unwaith bod y system yn cydnabod enw defnyddiwr, prosesir rôl ac argaeledd cwrs yn unig. Anwybyddir gwybodaeth arall ar gyfer cofnod y defnyddiwr.

Gallwch adael y meysydd opsiynol yn wag. Mae'r maes Username yn gwahaniaethu llythrennau bach/mawr. Os adewch y maes Password yn wag, bydd cyfrinair y defnyddiwr yr un peth â'i enw defnyddiwr. Mae angen cwmpasu gwerth Password gwag â dyfynodau. Ar gyfer Course Availability, cynhwyswch I ar gyfer Ie ac N ar gyfer Na. Mae defnyddwyr ar gael mewn cwrs yn ddiofyn, ond gallwch reoli hyn o fewn y cwrs.

Ynghylch ffeiliau swp

Ffeiliau TXT yw ffeiliau swp a all ddal llawer iawn o wybodaeth i'w lwytho i fyny i'r system. Mae pob swp yn cynnwys cyfarwyddiadau penodol ar greu ffeil swp. Mae'r safonau ffeil swp hyn yn gyffredinol:

  • Mae'n rhaid i bob ffeil fod o fath o ffeil a gefnogir, naill ai TXT (plain text) neu CSV (comma-separated values).

    Mae fersiynau Microsoft Excel 2003 ac yn hwyrach yn mewnosod dyfyniadau dwbl ym mhob maes os cedwir y daflen waith fel ffeil CSV.

  • Mae'n rhaid i bob ffeil fod mewn fformat DOS. Rhaid i ffeiliau mewn fformat MAC neu UNIX gael eu trosi i fformat DOS.
  • Mae'n rhaid amgáu pob maes mewn dyfynodau dwbl. Er enghraifft: "John"
  • Os oes dyfynodau yn ymddangos mewn maes, defnyddiwch nod dianc i ddangos nad yw’r nod nesaf yn cofnodi diwedd y maes. Y nod clirio yw ôl-slaes (\). Er enghraifft: "\"LLYSENW\""
  • Mae'n rhaid i bob maes gael ei wahanu gydag un o’r amffinyddion canlynol: atalnod, colon, neu dab. Wrth ddewis AWTO, dim ond un math o amffinydd all gael ei ddefnyddio ymhob ffeil swp. Er enghraifft: "John","Smith" neu " "John":"Smith"
  • Rhaid i bob recordiad fod ar linell ar wahân. Er enghraifft:

    "John","Smith"

    "Samantha","Baker"

  • Peidiwch â chynnwys llinellau gwag rhwng cofnodion. Bydd y llinell wag yn cael ei phrosesu ac yn dychwelyd gwall.
  • Mae Blackboard yn argymell nad yw pob ffeil swp yn cynnwys mwy na 500 o gofnodion oherwydd cyfyngiadau terfyn amser sy'n gysylltiedig â'r rhan fwyaf o borwyr.

Rhestrwch bob defnyddiwr mewn cwrs

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangach yr adran Grwpiau a Defnyddwyr a dewiswch Defnyddwyr.
  2. Ar y dudalen Defnyddwyr, dewiswch Ewch. Mae pob defnyddiwr yn ymddangos.

    Gallwch lawrlwytho'r rhestr ar ffurf taenlen. I ddysgu mwy, gweler Gweithio All-lein gyda Data Gradd.

  3. Ar y Panel Rheoli, ehangwch y Ganolfan Radd a dewiswch Canolfan Radd Lawn.
  4. Pwyntiwch at Gweithio heb Gysylltu a dewiswch Lawrlwytho.
  5. Dewiswch y colofnau rydych am eu lawrlwytho. Caiff y rhestr o fyfyrwyr ei gynnwys yn awtomatig.
  6. Dewiswch Cyflwyno ac arbedwch y ffeil.

Dileu defnyddwyr o gwrs

Pan fyddwch yn dileu defnyddwyr o'ch cwrs, mae'r weithred yn barhaol ac ni ellir ei gwrthdroi. Mae'r holl wybodaeth sy'n gysylltiedig â'r defnyddiwr, megis gwybodaeth y Ganolfan Raddau, gwybodaeth ar asesiadau ac aseiniadau, ac ystadegau cwrs yn cael ei dileu. Nid yw postiadau bwrdd trafod, negeseuon wedi'u derbyn a negeseuon e-bost yn cael eu dileu. Ni all defnyddwyr wedi'u dileu a'u gwybodaeth gyfatebol gael eu hadfer i'ch cwrs. Fodd bynnag, gallwch ail-ymrestru defnyddiwr a ddilëwyd yn eich cwrs heb unrhyw ddata cysylltiedig.

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangach yr adran Grwpiau a Defnyddwyr a dewiswch Defnyddwyr.
  2. Ar y dudalen Defnyddwyr, dewiswch y blychau ticio drws nesaf i'r defnyddwyr rydych eisiau eu dileu o'ch cwrs.
  3. Dewiswch Dileu Defnyddwyr o'r Cwrs.
  4. Mae ffenestr naid yn eich rhybuddio bod y weithred yn derfynol. Dewiswch Iawn i ddileu'r defnyddiwr.

Neu, gallwch ddileu defnyddwyr un ar y tro:

  1. Ar y dudalen Defnyddwyr, cyrchwch ddewislen defnyddiwr a dewiswch Dileu Defnyddwyr o'r Cwrs.
  2. Mae ffenestr naid yn eich rhybuddio bod y weithred yn derfynol. Dewiswch Iawn i ddileu'r defnyddiwr.

Rheoli gosodiadau i ddefnyddwyr

Cyrchir yr opsiynau hyn mewn dewislen defnyddiwr:

  • Golygu: Diweddaru gwybodaeth bersonol am ddefnyddiwr.
  • Newid Cyfrinair y Defnyddiwr: Newid cyfrinair. Bydd defnyddiwr yn derbyn hysbysiad e-bost am y newid.
  • Newid Rôl y Defnyddiwr ar y Cwrs: Dewiswch rôl i ddefnyddiwr. Mae'r gosodiad hwn yn effeithio dim ond ar y cwrs rydych yn ei ddysgu.
  • Newid Rôl y Defnyddiwr ar y Cwrs: Gosodwch argaeledd defnyddiwr i Ydy neu Nac ydy. Mae'r gosodiad hwn yn effeithio dim ond ar y cwrs rydych yn ei ddysgu. Mae argaeledd yn ymddangos yn y golofn ar y dde ar y dudalen Defnyddwyr.
  • Tynnu Defnyddwyr o'r Cwrs: Defnyddiwch yr opsiwn hwn i ddileu defnyddwyr. Byddwch yn cael eich ysgogi i gadarnhau'r dilead.

Opsiynau ymrestru

Gallwch addasu sut mae myfyrwyr yn cofrestru ar gyfer eich cwrs.

  1. Newidiwch Modd Golygu i ON.
  2. Ar y Panel Rheoli, ewch ati i ehangu’r adran Addasu a dewiswch Opsiynau Cofrestru.
  3. Dewiswch yr opsiynau ymrestru priodol.
    • Hyfforddwr/Gweinyddwr y System: Mae'r opsiwn hwn yn rhoi rheolaeth o'r broses cofrestru i'r hyfforddwr neu weinyddwr Blackboard yn eich sefydliad. Dewiswch y blwch ticio i greu dolen er mwyn i fyfyrwyr e-bostio cais am gofrestru at hyfforddwr y cwrs. Mae’r ddolen hon yn ymddangos yng nghatalog y cwrs.
    • Hunan-gofrestru: Mae'r opsiwn hwn yn caniatáu i fyfyrwyr gofrestru eu hun ar eich cwrs.
      • Defnyddiwch y meysydd dyddiad i osod Dyddiad Dechrau, Dyddiad Gorffen neu’r ddau i reoli’r amserlen pan all myfyrwyr hunan-gofrestru. Os na fyddwch yn dewis dyddiadau, gall myfyriwr hunan gofrestru ar unrhyw adeg, oni bai eich bod yn gwneud eich cwrs heb fod ar gael neu bod dyddiadau parhad y cwrs wedi mynd heibio.
      • Gallwch ddefnyddio Cod Mynediad i ddilysu'r broses hunan-gofrestru. Mae cod mynediad yn darparu rhywfaint o reolaeth dros bwy all a phwy sy'n methu hunan-gofrestru yn eich cwrs, ond y myfyriwr sy'n gyfrifol am gychwyn a chwblhau'r broses ymrestru.