Mae pecynnau iaith yn sicrhau bod Blackboard Learn yn cydweddu ag iaith a normau cymdeithasol cynulleidfaoedd gwahanol. Gwneir dewisiadau am becynnau iaith ar lefel y system, cwrs neu sefydliad, ac ar lefel y defnyddiwr.

Tair lefel o becynnau iaith

Lefel y system

Mae'ch sefydliad yn diffinio un pecyn iaith fel pecyn diofyn y system. Mae’r pecyn iaith hwn yn ymddangos os na ddewisir pecyn iaith arall ar lefel y cwrs neu’r defnyddiwr.

Lefel y cwrs

Yn y profiad Gwreiddiol, gallwch osod pecyn iaith sy’n wahanol i’r un diofyn, fel bod pob defnyddiwr mewn cwrs yn gweld yr un pecyn iaith. Er enghraifft, os ydych yn addysgu dosbarth Sbaeneg, efallai byddwch eisiau dewis Sbaeneg fel yr iaith a ddangosir ar lefel y cwrs. Ni all hyfforddwyr osod ieithoedd cwrs penodol yn Ultra ar hyn o bryd.

Lefel y defnyddiwr

Caiff unigolion ddewis becyn iaith, oni bai bod pecyn iaith wedi ei ddewis drostynt eisoes.

Ni chaiff enwau personoledig ar feysydd cynnwys ac adnoddau eu newid wrth osod pecyn iaith newydd. Mae'r gwerthoedd hyn yn aros yr un peth ar gyfer pob pecyn iaith. Caiff yr enwau diofyn yn y system eu cyfieithu ac maen nhw'n ymddangos yn wahanol ym mhob pecyn iaith.


Dewiswch becyn iaith

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Priodweddau.
  2. Ar dudalen Properties dewiswch iaith ar ddewislen Pecyn Iaith.
  3. Dewiswch Gorfodi'r Pecyn Iaith fel bod y cwrs bob tro yn ymddangos yn yr iaith honno.
  4. Dewiswch Cyflwyno.

Os na ddewiswch becyn iaith ar gyfer cwrs, bydd y cwrs yn ymddangos yn newis iaith y defnyddiwr. Os nad yw’r defnyddiwr wedi dewis pecyn iaith, bydd iaith ddiofyn y system yn cael ei defnyddio.


Meysydd Cwrs nad effeithir arnynt gan ddewisiadau pecyn iaith.

Fel arfer, bydd y Panel Rheoli yn ymddangos yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer cwrs, ac nid yn yr iaith a ddewisodd y defnyddiwr. Bydd rhai rhannau o gwrs yn ymddangos yn iaith ddiofyn y system neu yn yr iaith a ddewisodd y defnyddiwr, yn hytrach nag yn yr iaith a ddewiswyd ar gyfer y cwrs cyfan. Ni fydd y tudalennau hyn yn ymddangos yn y pecyn iaith ar gyfer y cwrs a ddewiswyd:

  • Panel Rheoli > Gwybodaeth Cwrs > Golygu Eitem, Copïo Eitem, Ychwanegu Eitem, Dileu Eitem
  • Panel Rheoli > Copïo Ffeiliau i'r Casgliad o Gynnwys
  • Panel Rheoli > Bwrdd Trafod > Ychwanegu Fforwm
  • Panel Rheoli > Cyhoeddiadau > Derbynneb cadarnhau

Pan fyddwch yn defnyddio iaith o’r dde i'r chwith, ni newidir cyfeiriad rhifau Saesneg byth. Er enghraifft, bydd rhywbeth fel A58B265 yn aros yr un peth yn ieithoedd o'r chwith i'r dde ac o'r dde i'r chwith. Ni fydd dyddiadau, slaesau na rheolyddion cyfryngau yn newid cyfeiriau, ond bydd bariau sgrolio a chyfeiriolion yn newid cyfeiriau neu leoliad.

Pa un yw’n galendr Hijri neu Gregori, os ysgrifennir y calendr yn Saesneg gyda rhifau Saesneg, bydd y calendr yn arddangos o'r chwith i'r dde. Fodd bynnag, os yw’r calendr yn Arabeg, mae’r calendr yn newid cyfeiriad a’i arddangosir o'r dde i'r chwith.