Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Gallwch ddewis pa offer sydd ar gael yn eich cwrs chi a phennu a all gwesteion ac arsyllwyr gael mynediad atynt. Er enghraifft, os na fyddwch yn defnyddio offeryn negeseuon y cwrs, sicrhewch nad yw ar gael. Ni all neb ei weld neu gael mynediad ato, gan eich cynnwys chi, nes y byddwch yn ei wneud ar gael eto. Ar y dudalen Argaeledd Offer, caiff offer sydd ar gael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor.

Gall eich sefydliad droi offer dethol i ffwrdd, gan sicrhau nad yw'r offer hynny ar gael i'w defnyddio yn eich cyrsiau. Gall eich sefydliad hefyd dynnu eich gallu i ddewis pwy sy'n gallu cyrchu offer dethol.

Ar gyfer yr offer a wnewch ar gael yn eich cwrs, gallwch ychwanegu dolenni atynt yn newislen y cwrs ac mewn ardaloedd cwrs. Os byddwch yn ychwanegu ardal Offer i ddewislen eich cwrs, bydd myfyrwyr yn gweld yr holl offer rydych wedi eu gwneud ar gael ar un dudalen.

Mwy ar yr ardal offer


Gosodiadau Argaeledd Offer

Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Argaeledd yr Offer. Dewiswch neu gliriwch flychau ticio'r offer rydych am eu defnyddio yn eich cwrs a pha ddefnyddwyr fydd yn cael cyrchu'r offer hyn.

  • Ar gael: Mae'r offeryn ar gael trwy gydol eich cwrs ac mae ar agor i'r holl ddefnyddwyr sydd â rôl sy'n eu caniatáu i ddefnyddio'r offeryn, megis hyfforddwyr, myfyrwyr, cynorthwywyr dysgu a graddwyr.
  • Yn weladwy i Ymwelwyr: Mae'r offeryn yn weladwy (darllen yn unig), ond nid oes modd i ddefnyddwyr ei defnyddio pan mae ganddynt ganiatâd i fod yn eich cwrs.
  • Yn weladwy i Arsylwyr: Mae'r offeryn yn weladwy (darllen yn unig) ond ni all arsyllwyr ei ddefnyddio pan fydd caniatâd gan arsyllwyr i fod yn eich cwrs.
  • Ar gael mewn Ardaloedd Cynnwys: Gallwch roi dolen i offeryn mewn un ardal gynnwys neu ragor yn eich cwrs.

Cylch gyda chroeslinell: Mae'ch sefydliad wedi trefnu bod yr offeryn ar gael, neu nid yw ar gael yn y system.

Os yw offer yn cael eu gwneud yn anhygyrch ar ôl cyfnod o fod ar gael, naill ai ar lefel y cwrs gennych chi neu ar lefel y system gan eich sefydliad, does dim cynnwys yn cael ei dileu o'r system. Os yw'r offer yn cael eu rhoi ar gael eto, bydd y cynnwys sydd yno eisoes yn parhau a bydd modd ei gyrchu.

Hidlo'r dangosydd

Dewiswch Hidlo yn ôl i sortio'r tabl yn seiliedig ar statws argaeledd yr offeryn ac ar rôl defnyddwyr mewn cwrs. Mae hidlo'n ei gwneud yn haws gweld pa offer sydd ar gael ac yn weladwy, ac i newid gosodiadau yn seiliedig ar y meini prawf hynny.

Ynglŷn â blociau adeiladu

Os yw'ch sefydliad wedi trwyddedu unrhyw flociau adeiladu, byddant yn ymddangos yn y rhestr o offer ar dudalen Argaeledd Offer.


Gosodiadau e-bost

Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Pan fyddwch yn galluogi'r offeryn E-bost yn eich cwrs, gallwch reoli pa opsiynau anfon sydd ar gael i fyfyrwyr.

Yn y ddewislen wrth ymyl E-bost ar dudalen Argaeledd Offer, dewiswch Gosodiadau E-byst Gallwch benderfynu a oes gan fyfyrwyr y gallu i e-bostio grwpiau penodol o ddefnyddwyr yn eich cwrs, megis hyfforddwyr, cynorthwywyr dysgu neu grwpiau cwrs. Defnyddiwch y gosodiadau hyn i helpu pobl rhag camddefnyddio e-byst yn eich cwrs.

Ni fydd myfyrwyr sydd wedi optio allan o e-byst yn eu Gosodiadau Preifatrwydd yn derbyn e-byst gan fyfyrwyr eraill, hyd yn oed os caniateir yr opsiynau Pob Defnyddiwr, Defnyddwyr Penodol, neu Grwpiau Penodol.

Nid yw'r gosodiadau ddewiswch yma'n effeithio ar eich gallu i anfon e-byst mewn cwrs. Gall eich sefydliad gyfyngu ar yr opsiynau sydd ar gael. Dangosir opsiynau nad sydd ar gael yn y rhestr, ond maen nhw'n ymddangos yn llwyd ac mae'r blwch ticio wedi'i analluogi.