Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Eich cwrs chi, eich arddull chi.

Mae gan bob hyfforddwr arddull addysgu gwahanol. Yn strwythurau cyrsiau, gallwch sefydlu eich cwrs yn seiliedig ar eich arddull dysgu.

Ynglŷn â strwythurau cyrsiau

Hyd yn oed os ydych yn newydd i addysgu ar-lein, bydd strwythurau cyrsiau yn eich galluogi i greu cwrs mewn amser byr. Defnyddiwch ddolenni dewislen strwythur cwrs, cyfarwyddiadau ac esiamplau o gynnwys i roi hwb i drefn eich cwrs a chreu profiad dysgu ystyrlon i fyfyrwyr.

Ar ôl i chi gwblhau tri cham sylfaenol, bydd eich cwrs yn barod ar gyfer y myfyrwyr.


Dewiswch strwythur cwrs

Cyn i chi ddechrau, gallwch allgludo neu archifo'ch cwrs cyn i chi ychwanegu strwythur cwrs i sicrhau bod gennych fersiwn gwreiddiol.

Mwy am allgludo ac archifo cyrsiau

Mae cynnwys strwythur cwrs dewisedig yn cael ei ychwanegu at eich cwrs ac nid yw'n disodli eitemau dewislen a chynnwys presennol yn eich cwrs. Gallwch ddileu eitemau diangen.

Dewiswch strwythur cwrs ar y dudalen Arddull Addysgu.

Os nad yw'r adran Dewis Strwythur y Cwrs yn weladwy, mae eich sefydliad wedi'i hanalluogi.

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Arddull Addysgu.
  2. Ar y dudalen Arddull Addysgu, yn yr adran Dewis Strwythur y Cwrs, mae'r golofn ar y chwith yn dangos yr holl strwythurau cwrs mewn rhestr. Dewiswch strwythur cwrs i bori trwy ei ddisgrifiad a chael rhagolwg o'i ddewislen cwrs Yn y rhagolwg, gallwch ddewis dewislen cwrs er mwyn dysgu diben yr eitem honno yn strwythur y cwrs.
  3. Dewiswch strwythur cwrs a dewiswch Defnyddio'r Strwythur Hwn. Nodir strwythur y cwrs a ddewisir gennych gan nod gwirio gwyrdd ar ben yr offeryn dewis strwythur cwrs.

    I fynd yn ôl, dewiswch Dewislen Gyfredol yn rhestr y strwythurau cyrsiau a dewiswch Defnyddio'r strwythur hwn. Ni wneid unrhyw newidiadau i'ch cwrs.

  4. Wedi i chi ddewis strwythur cwrs, dangosir y blwch ticio Cynnwys esiamplau o gynnwys. Dewiswch y marc tic i ychwanegu eitemau cynnwys a chyfarwyddiadau yn ogystal â dolenni dewislen i'r strwythur y cwrs. Os na fyddwch yn cynnwys enghreifftiau o gynnwys, dim ond dolenni dewislen a gaiff eu hychwanegu at eich cwrs.
  5. Dewiswch Cyflwyno i fewngludo strwythur y cwrs ac enghreifftiau cynnwys dewisol i'ch cwrs. Dewiswch Canslo i adael heb wneud newidiadau i'ch cwrs.

Neu, dewiswch strwythur cwrs yn y naidlen Canllaw Gosod Cyflym. Os yw'ch sefydliad wedi ei galluogi, bydd y ffenestr naid yn ymddangos bob tro i chi fynd i mewn i'ch cwrs tan i chi ei analluogi ar waelod y ffenestr. Gallwch hefyd gyrchu'r ffenestr naid drwy ddefnyddio'r camau hyn:

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch y Canllaw Gosod Cyflym.
  2. Ehangwch yr adran Dewis Strwythur y Cwrs. Mae'r golofn ar y chwith yn arddangos pob strwythur cyrsiau mewn rhestr. Dewiswch strwythur cwrs i bori trwy ei ddisgrifiad a chael rhagolwg o'i ddewislen cwrs Yn y rhagolwg, gallwch ddewis dewislen cwrs er mwyn dysgu diben yr eitem honno yn strwythur y cwrs.

    Os nad yw'r adran Dewis Strwythur y Cwrs yn weladwy, mae eich sefydliad wedi'i anablu.

  3. Dewiswch strwythur cwrs a dewiswch Defnyddio'r Strwythur Hwn. Nodir strwythur y cwrs a ddewisir gennych gan nod gwirio gwyrdd ar ben yr offeryn dewis strwythur cwrs.

    I fynd yn ôl, dewiswch Dewislen Gyfredol yn rhestr y strwythurau cyrsiau a dewiswch Defnyddio'r Strwythur hwn. Ni wneid unrhyw newidiadau i'ch cwrs.

  4. Wedi i chi ddewis strwythur cwrs, dangosir y blwch ticio Cynnwys esiamplau o gynnwys. Dewiswch y marc tic i ychwanegu eitemau cynnwys a chyfarwyddiadau yn ogystal â dolenni dewislen i'r strwythur y cwrs. Os na fyddwch yn cynnwys enghreifftiau o gynnwys, dim ond dolenni dewislen a gaiff eu hychwanegu at eich cwrs.
  5. Dewiswch Defnyddio'r Newidiadau i fewngludo strwythur y cwrs ac enghreifftiau cynnwys dewisol i'ch cwrs. Dewiswch Canslo i adael heb wneud newidiadau i'ch cwrs.

Os byddwch yn pori ac yn dewis strwythur cwrs gwahanol o'r rhestr ar ôl dewis Defnyddio'r strwythur hwn ac optio i Cynnwys esiamplau o gynnwys nid yw'r ymaddrodd Cynnwys esiamplau o gynnwys ar gyfer yn diweddaru nes y caiff strwythur cwrs newydd ei gymhwyso.

Ychwanegu un strwythur yn unig at gwrs. Gall ychwanegu mwy nag un strwythur cwrs at yr un cwrs achosi dyblygu cynnwys ac eitemau dewislen y cwrs. I atal hyn, crëwch neu gofynnwch am gwrs gwag er mwyn arbrofi gyda strwythurau cwrs.

Mwy am ddewis strwythur cwrs


Cynnwys esiamplau o gynnwys -NEU- dechrau o'r dechrau

Mae cynnwys esiamplau o strwythur cwrs yn llenwi'ch cwrs gydag eitemau sy'n briodol i fath o strwythur y cwrs. Mae eitemau cynnwys wedi'u bwriadu i chi eu golygu at eich defnydd eich hun ac maen nhw wedi'u dylunio i ysbrydoli hyfforddwyr profiadol a newydd ar Blackboard Learn.

Cynnwys sampl
Cynnwys Samplau o Gynnwys Cynhwyswyd Cynnwys
Ydy Os byddwch yn penderfynu cynnwys enghreifftiau o gynnwys, bydd eich cwrs yn cynnwys:
  • Gwybodaeth bedagogaidd
  • Cyfarwyddiadau cam wrth gam
  • Syniadau addysgu da
  • Dolenni i sesiynau tiwtorial a phynciau Blackboard Help
  • Deunydd Cwrs: eitemau cynnwys, offer, aseiniadau, profion, arolygon, cyhoeddiadau, dolenni gwe, a chyfuniadau.
Nid yw enghreifftiau o'r cynnwys ar gael i fyfyrwyr ac mae iddynt arddull weledol hynod a gaiff ei dileu'n awtomatig pan sicrheir bod eitem ar gael. Ar gyfer y rhan fwyaf o strwythurau cwrs, defnyddir pwnc eigioneg. Mae'r eitemau sampl yn dangos sut y gallwch ddefnyddio eitemau ac offer gyda'ch dull addysgu. Mae gennych yr opsiwn i olygu'r eitemau hyn a'u gwneud ar gael fel bod myfyrwyr yn gallu eu gweld -NEU- eu dileu a chreu eitemau newydd.

Mae defnyddwyr sy'n gyfarwydd gyda Blackboard Learn yn gallu cynnwys esiamplau o gynnwys i weld samplau o ddeunyddiau cwrs ac archwilio offer a nodweddion newydd.

Pan fyddwch yn ychwanegu strwythur cwrs at eich cwrs, caiff ffolder o'r enw "sample_content" ei hychwanegu at gronfa storio eich cwrs - Ffeiliau'r Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys. Mae'r ffolder yn cynnwys y ffeiliau a ddefnyddir yn esiamplau strwythur y cwrs. Os bydd gennych ffolderi eisoes yn Ffeiliau'r Cwrs neu'r Casgliad o Gynnwys, bydd y ffolder "sample_content" yn ymddangos mewn ffolder "ImportedContent". Os byddwch yn ychwanegu strwythurau cwrs lluosog at yr un cwrs, bydd ffolderi "ImportedContent" ychwanegol yn ymddangos.

Nac ydy Os oes gennych brofiad o ddefnyddio'r nodweddion yn Blackboard Learn a'ch bod yn gyfforddus yn adeiladu gwahanol fathau o ddeunydd yn eich cwrs, gallwch eithrio esiamplau o gynnwys.

Os na fyddwch yn cynnwys enghreifftiau o gynnwys, caiff dolenni at ddewislen cwrs strwythur y cwrs eu hychwanegu, ond bydd mannau gwag lle y gallwch greu cynnwys.

Os byddwch eisiau cynnwys enghreifftiau o gynnwys enghreifftiau strwythur y cwrs, dewiswch y blwch ticio Cynnwys esiamplau o gynnwys. Os oes gennych gynnwys yn eich cwrs, mae cynnwys strwythur y cwrs yn ymddangos hefyd.


Creu cynnwys

Ar ôl i chi ddewis strwythur cwrs, gallwch addasu eich cwrs. Mae'r rhestr nesaf yn darparu'r tasgu hanfodol ar gyfer paratoi eich cwrs i'r myfyrwyr.

Newidiwch Modd Golygu i YMLAEN er mwyn datgelu nodweddion golygu.

Rhowch drefn ar ddewislen y cwrs

Gallwch ailenwi, aildrefnu, dileu, cuddio, ac ychwanegu dolenni dewislen cwrs fel y bo angen. Mae dileu dolen maes cynnwys o ddewislen y cwrs yn ffordd gyflym i ddileu maes cyfan yn ogystal â'r eitemau o'i fewn. Fodd bynnag, dilëir y maes cynnwys a phob eitem o'i fewn yn barhaol. Mae'r weithred hon yn derfynol. Os byddwch yn ansicr, cuddiwch y maes cynnwys yn lle hynny.

Os na fydd dolen offer ar ddewislen y cwrs yn gweithio, nid yw'r teclyn wedi'i alluogi. Gallwch ddileu'r ddolen neu ofyn i'ch sefydliad ei alluogi.

Os na wnaethoch gynnwys enghreifftiau o gynnwys, bydd dolenni at ddewislen cwrs strwythur y cwrs yn darparu mannau gwag lle y gallwch greu cynnwys.

Mwy am ddewislen y cwrs

Crëwch eitemau cynnwys, dolenni at offer, a ffeiliau

Ar ôl trefnu eich dewislen cwrs, gallwch lwytho ffeiliau i fyny o'ch cyfrifiadur, golygu cynnwys cyfredol, a chreu cynnwys a dolenni offer newydd. Mae defnyddio amrywiaeth eang o fathau o gynnwys ac offer yn darparu profiad dysgu cyfoethog a rhyngweithiol ar gyfer eich myfyrwyr.

Mwy o wybodaeth am greu cynnwys mewn maes cwrs

Golygu, symud, copi a dileu cynnwys

Pan fyddwch yn ychwanegu strwythur cwrs gydag enghreifftiau o gynnwys at eich cwrs presennol, bydd yr enghreifftiau o gynnwys yn ymddangos yn ogystal â'r cynnwys presennol ac nid ydynt ar gael i'r myfyrwyr. Gallwch olygu, symud, copïo neu ddileu unrhyw eitem o gynnwys.

Wrth i chi adeiladu eich cwrs, os ydych yn datblygu rhai o'r cynnwys o hyd neu os nad ydych chi eisiau i fyfyrwyr ei weld, sicrhewch nad yw ar gael.

Mwy o wybodaeth am reoli a golygu meysydd a chynnwys y cwrs

Rhagwyliwch eich cwrs fel myfyriwr

Fel hyfforddwr, rydych am deimlo'n hyderus bod eich cwrs wedi ei gynllunio'n dda ac yn gweithredu fel a fwriadwyd - cyn i'ch myfyrwyr ei weld. Defnyddiwch ragolwg myfyrwyr i adolygu cynnwys y cwrs a dilysu ymddygiadau'r cwrs, megis y sawl sy'n rheoli argaeledd cynnwys y cwrs neu sy'n gofyn am ryngweithiad penodol gan y myfyriwr er mwyn ei sbarduno.


Cwestiynau Cyffredin am Strwythurau Cyrsiau

Mae'r casgliad hwn o gwestiynau cyffredin yn darparu atebion i gwestiynau cyffredin am strwythurau cyrsiau. Mae hefyd yn rhoi dolenni i wybodaeth fwy manwl sydd ar gael yn Blackboard Help.

A ddylwn i gynnwys enghreifftiau o gynnwys?

Mae enghreifftiau cynnwys yn cynnwys gwybodaeth bedagogaidd, cyfarwyddiadau, ac eitemau cwrs. Hyd yn oed os oes gennych brofiad o weithio yn Blackboard Learn, gall y wybodaeth bedagogaidd a'r enghreifftiau cynnwys roi syniadau i chi am offer neu ddulliau newydd.

Nid yw esiamplau o gynnwys ar gael i fyfyrwyr, a gallwch eu golygu, symud, copïo neu ddileu.

Sut byddaf i'n gwybod beth mae'r myfyrwyr yn ei weld neu ddim yn ei weld yn fy nghwrs?

Fel hyfforddwr, byddwch eisiau bod yn hyderus bod eich cwrs wedi ei ddylunio’n dda a’i fod yn gweithio fel y dylai weithio - cyn i’ch myfyrwyr ei weld. Defnyddiwch ragolwg myfyrwyr i adolygu cynnwys y cwrs a dilysu ymddygiadau'r cwrs, megis y sawl sy'n rheoli argaeledd cynnwys y cwrs neu sy'n gofyn am ryngweithiad penodol gan y myfyriwr er mwyn ei sbarduno.

Beth os ydw i eisoes wedi paratoi rhai cynnwys ar-lein?

Caiff strwythurau cwrs eu hychwanegu at eich cwrs ac nid ydynt yn cymryd lle eich cynnwys presennol. Cynhwyswch enghreifftiau o gynnwys pan fyddwch yn ychwanegu strwythur i'ch cwrs a dewch o hyd i ffyrdd newydd o gyflwyno'r cynnwys rydych eisoes wedi'i ddatblygu.

Sut ydw i'n cyfyngu ar nifer yr offer ar gael i fy myfyrwyr?

Gallwch reoli pa offer sy'n ymddangos i fyfyrwyr pan fyddant yn cael mynediad at y dudalen Offer. Er enghraifft, os na fyddwch yn bwriadu defnyddio teclyn negeseuon y cwrs, sicrhewch nad yw ar gael. Ni all neb ei weld neu gael mynediad ato, gan eich cynnwys chi, nes y bydd ar gael eto. Os na fydd offeryn ar gael, ni chaiff cynnwys presennol ei ddileu, Pan fydd yr offeryn ar gael eto, daw'r cynnwys ar gael.

Os hoffech chi bennu pa offer sydd ar gael i fyfyrwyr ar eich cwrs, defnyddiwch y camau hyn:

  1. Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Argaeledd yr Offer.
  2. Ar y dudalen Argaeledd Offer, addaswch yr argaeledd sy'n ofynnol.
    1. Er mwyn rhoi teclyn ar gael, dewiswch flwch ticio'r teclyn.
    2. Er mwyn peidio â rhoi teclyn ar gael, dilëwch y tic ym mlwch ticio’r teclyn.
  3. Dewiswch Cyflwyno.

Os na fydd blwch ticio dewis yn ymddangos ar gyfer offeryn, cafodd ei ddiffodd gan eich sefydliad. Nid oes gan offer gyda chysylltnod (-) mewn colofn osodiadau argaeledd yn y system y gellir eu newid.

Sut ydw i'n copïo neu symud eitemau o gynnwys?

Gallwch gopïo a symud eitemau cynnwys i aildrefnu eich deunyddiau cwrs. Er enghraifft, os yw maes cynnwys yn cynnwys nifer fawr o eitemau, symudwch nhw i mewn i ffolderi i helpu defnyddwyr i lywio.

Mae gan rai eitemau cynnwys gyfyngiadau copïo a symud. Er enghraifft, gallwch gopïo neu symud dolen cwrs, ond i ardal arall o fewn yr un cwrs yn unig. Ni allwch gopïo aseiniadau, profion, ac arolygon, ond gallwch eu symud o fewn yr un cwrs.

  • Nid yw copïo cynnwys yn ei ddileu o'r lleoliad gwreiddiol yn eich cwrs.
  • Mae symud cynnwys yn ei dynnu o'i leoliad gwreiddiol yn eich cwrs.

Ar gyfer eitemau na ellir eu copïo, ni yw'r opsiwn Copïo yn ymddangos yn newislen yr eitem.

Os bydd maes cwrs yn cynnwys na ellir eu symud i gwrs arall, megis prawf, ni fydd yr opsiwn i'w symud i gwrs arall yn ymddangos ar y dudalen Symud.

  1. Newidiwch Modd Golygu i YMLAEN ac ewch i faes cynnwys neu ffolder sy'n cynnwys yr eitem i'w gopïo neu ei symud.
  2. Ewch i ddewislen gyd-destunol yr eitem a dewiswch Copïo neu Symud. Os nad yw Copïo neu Symud ar gael ar gyfer eitem, nid yw'n ymddangos yn y ddewislen.
  3. Ar y dudalen Copïo neu Symud, dewiswch y Cwrs Derbyn o'r ddewislen. Y rhagosodiad yw'r cwrs cyfredol. Dim ond cyrsiau lle mae gan hyfforddwr rôl caniatáu copïo cynnwys sy'n ymddangos ar y rhestr. Ar gyfer eitemau na ellir eu symud allan o'r cwrs presennol, mae Cwrs Derbyn wedi'i rhestru eisoes fel y cwrs presennol ac ni fydd y ddewislen yn ymddangos.
    • Dewiswch Pori i ddewis y Ffolder Derbyn.
    • Dewiswch Cyflwyno.

Beth os oes gennyf i feysydd ar fy nghwrs sy'n "cael eu creu" ac nid ydynt yn barod i'r myfyrwyr?

Cynllunio yw un o agweddau pwysicaf datblygu'ch cwrs. Datblygwch amlinell o'r hyn rydych am ei gynnwys yn eich cwrs. Yna, adeiladwch eich cynnwys, a'i brofi, a chael adborth am eich dulliau addysgu.

Weithiau, ni allwch gael eich holl gynnwys wedi ei baratoi a'i brofi erbyn diwrnod cyntaf y dosbarth. Ystyriwch baratoi a phrofi cynnwys ar gyfer wythnosau cyntaf eich dosbarth, a rhoi’r cynnwys hwn yn unig i’ch myfyrwyr. Cuddiwch bob maes cynnwys rydych yn gweithio arnynt. Gallwch ddatblygu a phrofi'r rhan nesaf o gynnwys wrth i fyfyrwyr weithio ar y deunydd rydych wedi ei ryddhau.