Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r Wedd Cwrs Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Mae priodoleddau'n rheoli gosodiadau swyddogaethol eich cwrs. Er mwyn cael mynediad at briodoleddau cwrs, newidiwchModd Golygu i YMLAEN, ac ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Priodweddau.

Rhowch enw a disgrifiad

Gallwch newid enw a disgrifiad eich cwrs. Mae'r enw hwn yn ymddangos fel enw'r cwrs a arddangosir trwy Blackboard Learn i gyd. Mae’r disgrifiad yn ymddangos yng nghatalog y cwrs.


Defnyddiwch ddosbarthiad y cwrs

Gallwch anwybyddu'r meysydd hyn yn ddiogel. Nid yw dosbarthiad cwrs yn rhan o neu'n ymwneud â chategoreiddio cwrs ar gyfer catalog y cyrsiau. Pan fyddwch yn creu pob cwrs, rhestrir gwerth dosbarthiad diofyn. Cafodd y meysydd hyn eu defnyddio mewn fersiynau blaenorol o Blackboard Learn ond maent yn bodoli nawr dim ond i sicrhau ôl-gysondeb â blociau adeiladu neu ategion eraill.


Gosodwch argaeledd y cwrs

Gallwch osod cyrsiau i fod ar gael neu heb fod ar gael. Os yw cwrs ar gael, bydd pob defnyddiwr sy’n cymryd rhan yn y cwrs yn gallu ei agor. Os nad yw cwrs ar gael, y rôl cwrs sy'n pennu'r mynediad. Gall hyfforddwyr, adeiladwyr cyrsiau, cynorthwywyr addysgu a graddwyr weld a chael mynediad at gyrsiau nad ydynt ar gael o'r tab Fy Nghyrsiau a rhestr y cyrsiau, ond maent wedi'i marcio fel nad ydynt ar gael. Ni all myfyrwyr gael mynediad at gyrsiau nad ydynt ar gael beth bynnag yw hyd y cwrs. Nid yw cyrsiau nad ydynt ar gael yn ymddangos yng nghatalog y cyrsiau.


Gosodwch hyd y cwrs

Mae hyd cwrs yn diffinio’r cyfnod pan all myfyrwyr ryngweithio â chwrs:

  • Parhaus: Mae’r cwrs ar gael bob amser.
  • Dewiswch ddyddiadau Mae’r cwrs ar gael yn ôl dyddiadau penodol. Mae’n bosibl bod dyddiad dechrau gan gyrsiau, ond nid dyddiad gorffen. Mae'r amseroedd dechrau a gorffen yn cael eu gosod yn awtomatig yn amser lleol crëwr y cwrs. Os mai amser lleol crëwr y cwrs yw cylchfa amser y Dwyrain, gosodir yr amser yn ôl cylchfa amser y Dwyrain. Bydd y cwrs yn dechrau'n syth ac yn gorffen am 11:59:59.  Ar ôl y dyddiad gorffen, ni fydd cyrsiau ar gael i fyfyrwyr, ond fel arall, ni fyddant wedi newid.
  • Diwrnodau ers y Dyddiad Cofrestru: Rhowch derfyn amser ar gyrsiau a gyfrifir o ddyddiad cofrestru myfyriwr. Defnyddiwch yr opsiwn hwn ar gyfer cyrsiau y mae’r myfyrwyr yn eu gwneud wrth eu pwysau eu hunain.

Defnyddiwch dymhorau i osod argaeledd a hyd

Os bydd eich sefydliad wedi cysylltu tymor gyda chwrs - er enghraifft Semester y Gwanwyn 2013 neu Sesiwn y Gaeaf 2013 - gallwch osod cwrs i ddefnyddio'r dyddiadau sydd wedi'u rhagosod.

Pan fydd cymorth ar gael ar gyfer cwrs, bydd opsiynau'n ymddangos gyda Gosod Argaeledd a Gosod Hyd y Cwrs:

  • Defnyddio Argaeledd y Tymor: Mae'r cwrs ar gael yn ystod dyddiadau'r tymor, ond nid yw ar gael cyn neu ar ôl hynny. Rhestrir enw'r tymor.
  • Defnyddio Hyd y Tymor: Cynhelir y cwrs am hyd y tymor cyfan, gan gychwyn ar ddyddiad cyntaf y tymor a gorffen ar yr un olaf. Rhestrir yr union ddyddiadau ar gyfer y tymor cysylltiedig.

Categoreiddio'r cwrs

Mae’r catalog cyrsiau yn rhestru’r cyrsiau sy’n cael eu cynnig drwy’r system ac mae’r gweinyddydd yn trefnu bod y catalog ar gael i ddefnyddwyr o'ch sefydliad. Mae’r categorïau yng nghatalog y cyrsiau hefyd yn cael eu creu a’u cynnal gan eich sefydliad. Gallwch ychwanegu'ch cwrs i un categori neu'n fwy sydd yn ymddangos yn y catalog cwrs.

Dewiswch gategori catalog a defnyddiwch yr offer saethau i symud y categori i'r blwch Eitemau Dewisedig. Gallwch ddewis mwy nag un categori. Ailadroddwch y broses i ychwanegu categori arall. Bydd y cwrs yn ymddangos dan y categorïau a ddewiswyd.Mae Gwrth-droi'r Detholiadyn dewis categorïau nad ydynt wedi'u dewis ac yn clirio categorïau a ddewiswyd. Defnyddiwch hwn i eithrio un neu ddau gategori heb orfod dewis yr holl gategorïau eraill.


Dewiswch becyn iaith

Mae pecynnau iaith yn newid iaith botymau, teitlau a thestun arall y mae’r system yn ei gyflenwi. Mae dewisiadau’r pecyn iaith yn cael eu diffinio ar lefel y system, y cwrs a’r defnyddiwr.

Ar lefel y system, mae eich sefydliad yn diffinio un pecyn iaith fel rhagosodiad y system. Dyma’r pecyn iaith sy’n ymddangos pan nad oes unrhyw becyn iaith arall yn cael ei bennu ar lefel y cwrs nac ar lefel y defnyddiwr.

Ar lefel y cwrs, gallwch osod pecyn iaith sy’n wahanol i’r un diofyn, fel bod pob defnyddiwr ar gwrs yn gweld yr un pecyn iaith. Er enghraifft, newidiwch y pecyn iaith i gydweddu â chwrs a ddyluniwyd i addysgu'r iaith honno.

Ar lefel y defnyddiwr, caiff unigolion ddewis y pecyn iaith o'u dewis, oni bai bod pecyn iaith wedi ei ddewis drostynt a'i gorfodi eisoes.

Ni chaiff enwau personoledig ar feysydd cynnwys ac adnoddau eu newid wrth osod pecyn iaith newydd. Mae'r gwerthoedd hyn yn aros yr un peth ar gyfer pob pecyn iaith. Caiff yr enwau diofyn yn y system eu cyfieithu ac maen nhw'n ymddangos yn wahanol ym mhob pecyn iaith.

Mwy o wybodaeth am ddewis pecyn iaith


Gosod opsiynau ffeiliau cwrs

Mae'r nodweddion hyn ond ar gael os bydd gan eich sefydliad fynediad at y nodweddion rheoli cynnwys:

  • Cyfeiriadur Diofyn Ffeiliau Cwrs: Teipiwch neu porwch i gael y cyfeiriadur i gynnwys y ffeiliau ar gyfer y cwrs hwn. Mae'r cyfeiriadur hwn yn lleoliad diofyn lle y caiff ffeiliau eu cadw ar gyfer y cwrs ac nid yw'n gwrthdaro â gosodiad Hafan y Casgliad o Gynnwys.
  • Dangos: Mae gan bob eitem yn y Casgliad o Gynnwys ddewislen sy'n rhoi mynediad at y gweithredoedd sydd ar gael. Pan fyddwch yn gweithio yn y maes ffeiliau cwrs ar y Panel Rheoli , bydd yr opsiwn a ddewiswyd yn ffurfweddu'r ddewislen i ddangos pob opsiwn y Casgliad o Gynnwys sydd ar gael pan fyddwch yn gweithio yn nhab y Casgliad o Gynnwys neu'r opsiynau sy'n benodol i'r cwrs yn unig.

Rhagor am y Casgliad o Gynnwys