Peidiwch â cholli dim byd!

Nid yw'n hawdd jyglo cyfrifoldebau cystadleuol. Mae'r calendr yn arddangos gwedd gyfun o holl ddigwyddiadau calendr eich sefydliad, cwrs, cyfundrefn, a phersonol. Gallwch edrych ar ddigwyddiadau yn ôl diwrnod, wythnos, neu fis. Gallwch edrych ar a threfnu digwyddiadau sydd i ddod a'r rhai yn y gorffennol i mewn i gategorïau.

Gallwch ddefnyddio'r calendr cwrs i roi dyddiadau i fyfyrwyr ar gyfer digwyddiadau sy'n gysylltiedig â'r cwrs. Mae digwyddiadau calendr cwrs yn ymddangos i bob aelod o’r cwrs. Mae cofnodion cyffredin yn cynnwys profion sydd ar ddod, dyddiadau cyflwyno ar gyfer aseiniadau, neu ddarlithoedd arbennig. Mae eitemau cwrs sydd â dyddiadau cyflwyno yn ymddangos yn awtomatig yng nghalendr y cwrs. Hyfforddwyr yn unig sy’n gallu creu digwyddiadau calendr cwrs.

Mae gan ranbarthau gwahanol o'r byd fformatau calendr gwahanol, gan gynnwys pa ddiwrnod sy’n cael ei ddangos fel diwrnod cyntaf yr wythnos. Mae’r calendr yn dangos y fformat mwyaf cyffredin am ddiwrnod cyntaf yr wythnos yn seiliedig ar yr iaith mae’r defnyddiwr wedi’i dewis. Gallwch newid eich iaith ym mhroffil y defnyddiwr. Gall gweinyddwyr bersonoli diwrnod cyntaf yr wythnos ar gyfer eu pecyn iaith os ydynt yn dewis gwneud hynny.

Nid yw eitemau nad ydynt yn cael eu graddio sydd â dyddiadau cyflwyno, fel tasgau, yn ymddangos yn y calendr yn awtomatig. Bydd yn rhaid ichi ychwanegu'r digwyddiadau hyn yn uniongyrchol i galendr y cwrs er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn eu gweld.


Chwilio a llywio'r calendr

Gallwch gyrchu'r calendr o'ch cwrs, o'r panel Offer ar dab Fy Sefydliad, neu o ddewislen Fy Blackboard.

  1. Edrychwch ar ddigwyddiadau yn ôl diwrnod, wythnos, neu fis.
  2. Defnyddiwch y saethau i lywio i fis arall.
  3. Dewiswch y plws (+) i greu digwyddiad newydd. Gallwch hefyd ddewis dyddiad er mwyn creu digwyddiad. Pennwch y digwyddiad i'r calendr priodol, dewiswch y dyddiad ac amser, ac ychwanegwch ddisgrifiad.

    Gall myfyrwyr greu digwyddiad ar galendr cwrs a chalendr y sefydliad.

  4. Dewiswch ddigwyddiad i'w reoli. Gallwch hefyd ddewis a llusgo digwyddiad i newid y dyddiad.
  5. Dangoswch y calendrau rydych am eu dangos, fel sefydliad, personol, neu gwrs. Yn ôl rhagosodiad, mae'r holl galendrau'n weladwy. Gallwch newid lliw pob calendr i gyd-fynd â'ch dewisiadau ac er mwyn gweld yn hawdd pa ddigwyddiadau sy'n cyd-fynd â pha galendr.

    Mae pob digwyddiad sefydliad yn ymddangos yng nghalendr y sefydliad. Mae pob digwyddiad cwrs, fel aseiniadau sydd i'w cyflwyno, yn ymddangos yng nghalendr y cwrs. Bydd unrhyw gyrsiau y byddwch yn eu cuddio ym modiwl Fy Nghyrsiau ar dudalen Fy Sefydliad hefyd yn gudd yn y rhestr Calendrau.

  6. Cael URL iCal i fewngludo eich calendr Blackboard Learn i mewn i raglen galendr allanol, fel Google Calendar. Ar ôl i URL iCal Learn gael ei gosod mewn calendr allanol, fe'i diweddarir yn ddeinamig gyda digwyddiadau calendr Learn newydd.

    Efallai bydd digwyddiadau yn cymryd hyd at 24 awr cyn ymddangos yn eich calendr allanol. Nid oes modd mewngludo calendrau allanol i galendr Blackboard Learn.


Dewis eich gwedd

Gallwch ddewis diwrnod cyntaf eich wythnos yn eich gosodiadau personol yn Fy Blackboard. Gallwch hefyd ddewis o bedwar dull arddangos calendr:

  • Gregoraidd yn unig
  • Ar fformat Gregoraidd gyda throsiad dyddiad Hijri mewn cromfachau
  • Hijri yn unig
  • Ar fformat Hijri gyda throsiad dyddiad Gregoraidd mewn cromfachau

Creu digwyddiad

  1. Dewiswch y botwm plws (+) neu dewiswch ddyddiad penodol i greu digwyddiad.
  2. Teipiwch Enw'r Digwyddiad Newydd.
  3. Dewiswch galendr i gyd-fynd â'r digwyddiad, megis eich calendr personol.

    Hyfforddwyr a gweinyddwyr yn unig all ychwanegu digwyddiadau at galendrau'r cwrs a sefydliad.

  4. Dewiswch yr amserau Dechrau a Gorffen.
  5. Teipiwch Disgrifiad Digwyddiad. Mae gan ddisgrifiadau digwyddiadau derfyn o 4,000 nod.
  6. Dewiswch Cadw.

Gwneud digwyddiad sy'n ailadrodd

Ticiwch y blwch Ailadrodd er mwyn creu digwyddiad sy'n ailadrodd. Mae'r opsiynau hyn yn disgrifio pryd mae'r digwyddiad yn ailadrodd.

Digwyddiadau sy'n ailadrodd a gefnogir
Ailadrodd Opsiynau Disgrifiad
Dyddiol Digwyddiad sy'n gorffen ar ôl nifer penodol o droeon -NEU- ar ddyddiad penodol.
Ailadrodd Wythnosol Mae'n ailadrodd digwyddiad ar ddiwrnod yr wythnos. Digwyddiad sy'n gorffen ar ôl X tro -NEU- ar ddyddiad penodol.
Ailadrodd Misol Mae'n ailadrodd digwyddiad ar ddyddiad o'r mis (1-31) neu ddydd o'r wythnos (Sul gyntaf, ail Lun, ac ati) a gefnogir. Digwyddiad sy'n gorffen ar ôl X tro -NEU- ar ddyddiad penodol.
Ychwanegu mewn Swmp (Cyfres) Crëwch gyfres gyda'r opsiynau ailadrodd.
Dileu mewn Swmp (Cyfres) Dilëwch y gyfres gyfan a grëwyd gan ddefnyddio'r opsiynau ailadrodd.
Golygu Enghraifft Golygwch enghraifft o'r gyfres. Os ydych yn newid dyddiad/amser yr achlysur, mae gan yr achlysur penodol hwnnw eicon "wedi torri" i ddangos nad yw'n cydymffurfio â rheolau'r gyfres wreiddiol bellach.

Nid yw newid enw neu ddisgrifiad achlysur yn torri'r achlysur o'r gyfres.

Golygu Cyfres (Cyfyngiad Hysbys) Ar adeg hwn, ni allwch olygu'r gyfres. Ar ôl i chi greu cyfres, gallwch swmp-ddileu neu wneud newidiadau i achlysur unigol.

Golygu neu ddileu digwyddiad

Newid neu ddileu digwyddiad:

  1. Dewch o hyd i'r digwyddiad yn y brif wedd calendr.
  2. Dewiswch y digwyddiad i'w olygu neu ddileu.
  3. Dewiswch a llusgo digwyddiad i ddyddiad arall yn y brif wedd er mwyn newid dyddiad y digwyddiad. Mae amser y digwyddiad a'r calendr sydd wedi’i gysylltu ag ef yn aros yr un peth.
  4. Gallwch hefyd ddewis a llusgo digwyddiad o'r brif wedd i ddyddiad arall ar y wedd fisol lai er mwyn newid y dyddiad.