A fydd cynnwys fy nghwrs yn arddangos yn yr ap Blackboard?

Canfyddwch a yw eich cynnwys cwrs Blackboard Learn yn cael ei gefnogi yn yr ap Blackboard i fyfyrwyr. Gall hyfforddwyr greu cynnwys sy'n ystyried dyfeisiau symudol er mwyn i fyfyrwyr gael y profiad symudol gorau.

Mae'r wybodaeth hon hefyd yn berthnasol i gefnogaeth cynnwys cwrs yn yr ap Blackboard Instructor. Mae'r rhan fwyaf o'r nodweddion a restrir wedi'u cynnwys yn Blackboard Instructor, ac eithrio hysbysiadau gwthio a phrif nodweddion dewislen megis dyddiadau dyledus a ffrwd gweithgarwch.

Mathau o gynnwys

Mae mathau cynnwys sy'n cael eu cefnogi'n frodorol yn dangos o fewn yr ap Blackboard yn hytrach na lansio mewn tudalen we. Mae nodweddion a gefnogir yn frodorol yn rhoi'r profiad gorau i fyfyrwyr yn yr ap Blackboard.

Lansir mathau o gynnwys nas cefnogir yn frodorol ym mhorwr mewnol ap Blackboard. Er enghraifft, mae Blogiau’r cwrs gwreiddiol yn ymddangos mewn golwg porwr yn yr ap yn hytrach na phorwr ChromeTM neu Safari® ar wahân. Collaborate yw'r eithriad i hyn, gan ei fod yn agor mewn ffenestr newydd yn y porwr bob amser.

Mae’r tabl hwn yn rhestru nodweddion Blackboard Learn a’r lefel o gymorth sydd yn yr ap Blackboard.

Mathau o Gynnwys a Gefnogir mewn apiau Blackboard
Math o Gynnwys Cefnogaeth
Ffrwd Gweithgarwch Cefnogaeth frodorol. Mae'r ffrwd gweithgarwch yn ymddangos yn yr ap ar gyfer systemau Blackboard ar y profiadau Gwreiddiol ac Ultra.

Rhagor am y ffrwd gweithgarwch yn yr ap Blackboard

Cyhoeddiadau Cefnogaeth frodorol.

Cyhoeddiadau yn ap Blackboard

Aseiniadau Cefnogaeth frodorol.

Aseiniadau yn ap Blackboard

Sain Cefnogaeth frodorol. Mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais.
Tudalen Wag Dim cefnogaeth frodorol. Mae tudalennau gwag yn lansio mewn tudalen we. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Blogiau Dim cefnogaeth frodorol. Mae'r offeryn hwn yn lansio mewn tudalen we. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Calendr Cefnogaeth rannol. Nid oes gan ap Blackboard dudalen calendr, ond gall myfyrwyr gyrchu Dyddiadau Cyflwyno a'r Ffrwd Gweithgarwch yn y llywio sylfaenol i weld gwybodaeth wedi'i chyfuno ar draws eu holl gyrsiau.

Dyddiadau cyflwyno yn ap Blackboard

Collaborate Dim cefnogaeth frodorol. Gallwch lansio sesiynau Blackboard Collaborate Ultra o apiau symudol Blackboard os ddarparwyd dolen o fewn cwrs. Fe’ch cyfeirir at borwr gwe i ymuno â'r sesiwn. Ni chefnogir Collaborate gyda’r profiad Gwreiddiol ar borwr symudol.

Rhagor am Collaborate ac apiau symudol Blackboard

Ffolder Cynnwys Cefnogaeth frodorol. Nid yw disgrifiadau yn cael eu harddangos.
Sgyrsiau Dim cefnogaeth frodorol. Nid yw sgyrsiau dosbarth ar brofion, aseiniadau a dogfennau cwrs Ultra yn cael eu cefnogi yn yr ap.
Dolenni Cwrs Cefnogaeth frodorol. Nid yw disgrifiadau yn cael eu harddangos. Bydd mathau o gynnwys a gefnogir yn frodorol hefyd yn lansio’n frodorol pan fyddant yn cael eu cyrchu o ddolen cwrs. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Negeseuon Cwrs Dim cefnogaeth frodorol. Nid yw negeseuon cwrs yn ymddangos yn yr hysbysiadau app neu app. <642> Nodweddion golygydd cynnwys Mae'r app Blackboard yn cefnogi amrywiol nodweddion HTML a CSS oddi wrth y golygydd cynnwys Blackboard Learn ar draws llwyfannau iOS, Android a Windows. <648> Rhestr fanwl o tagiau HTML a lleoliadau app a gefnogir I fod yn siŵr nad yw eich fformatio yn newid wrth edrych ar yr app Blackboard, defnyddiwch atodiad fel PPT, DOC, neu PDF.
Tudalen Offer Cwrs Dim cefnogaeth frodorol. Mae’r dudalen offer cwrs yn cynnwys dolenni i bob math o offer sydd ar gael mewn cwrs. Nid yw dolenni dewislen cwrs i’r dudalen offer cwrs yn ymddangos yn yr ap. Bydd unrhyw lywio dolen gwrs i’r dudalen offer cwrs yn lansio yn y porwr mewn-ap. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Trafodaethau Cefnogaeth frodorol.

Trafodaethau yn ap Blackboard

Ffeiliau Cefnogaeth frodorol. Mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais.
Graddau Cefnogaeth frodorol.

Gradddau mewn apiau Blackboard

Grwpiau Dim cefnogaeth frodorol. Ni chefnogir grwpiau, gan gynnwys fforymau trafod grŵp ac aseiniadau grŵp.
Delwedd Cefnogaeth frodorol. Mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais.
Eitem Cefnogaeth frodorol. Cefnogir atodiadau ffeil mewn eitemau, ond mae'r mathau a gefnogir yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais.
Dyddlyfrau Dim cefnogaeth frodorol. Mae'r offeryn hwn yn lansio mewn tudalen we. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Modiwlau Dysgu Cefnogaeth rannol (cyrsiau Gwreiddiol). Mae gan fodiwlau dysgu cyrsiau Gwreiddiol ymarferoldeb rhannol yn yr apiau symudol. Ni all defnyddwyr weld tabl o gynnwys y modiwl fel y gallant ei wneud mewn porwr borwr gwe. Rhestrir y cynnwys yn debyg i ffolder cynnwys.

Cefnogaeth lawn (cyrsiau Ultra). Cefnogir modiwlau dysgu cyrsiau Ultra yn llawn yn yr apiau symudol ac mae ganddynt ymarferoldeb uwch a dangosyddion cynnydd.

Modiwlau dysgu yn ap Blackboard

Cynlluniau Gwersi Cefnogaeth frodorol. Rhestrir y cynnwys yn debyg i ffolder cynnwys. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Lleoleiddio Cefnogaeth frodorol.

Rhagor am leoleiddio yn ap Blackboard

Offer LTI Cefnogaeth rannol. Mae'r ddolen yn lansio yn y porwr mewn-app ac mae seilwaith ar waith i gynnal sesiwn y defnyddiwr yn y lansiad. Fodd bynnag, efallai na fydd y porwr mewn-ap yn cefnogi'r holl dechnolegau sydd eu hangen i drin y cynnwys fel y disgwyliwyd.

Nid ydym yn gwarantu y bydd offer trydydd parti, gan gynnwys blociau adeiladu neu addasiadau Blackboard Learn, yn gweithredu fel y dymunir yn yr ap Blackboard.

Tudalen y Modiwl Dim cefnogaeth frodorol. Mae tudalennau'r Modiwl yn lansio mewn tudalen we. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Offer Partner Cloud Cefnogaeth frodorol. Mae offer a chynnwys cwmwl partneriaid yn lansio yn yr apiau.
Hysbysiadau Gwthio Cefnogaeth frodorol.

Hysbysiadau gwthio yn yr apiau symudol

Cyfarwyddiadau Cefnogaeth frodorol. Gall myfyrwyr weld cyfarwyddiadau yn yr ap ar gyfer aseiniadau (y ddwy wedd cwrs) a thrafodaethau a raddir (cyrsiau Gwreiddiol yn unig). Mae rhaid i fyfyrwyr gyrchu'r cwrs mewn porwr gwe bwrdd gwaith i weld y gyfarwyddyd wedi'i chwblhau, os yw'r hyfforddwr yn trefnu ei bod ar gael. Nid yw cyfarwyddiadau ar gael yn yr ap ar gyfer cwestiynau prawf neu offer nad ydynt ag offer brodorol megis blogiau, dyddlyfrau a wikis.

Rhagor am aseiniadau yn ap Blackboard

Rhagor am drafodaethau yn yr ap Blackboard

SCORM Cefnogaeth rannol. Mae pecynnau SCORM yn lansio ym mhorwr mewnol yr ap ar gyfer cyrsiau Ultra a Gwreiddiol. Mae diweddariadau yn Learn Q4 2017 ac yn yr apiau symudol (Blackboard 4.5 a Blackboard Instructor 2.10) yn rhoi gwelliant sylweddol i gefnogaeth SCORM ar gyfer yr apiau symudol. Mae dyddiadau cyflwyno SCORM ar gael yn yr apiau ar gyfer cyrsiau Ultra. Bydd dyddiadau cyflwyno ar gael ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol gyda diweddariad B2 sydd ar y gweill*.

Awgrymiadau ar gyfer cynnwys SCORM

Arolygon Dim cefnogaeth frodorol. Mae arolygon yn lansio mewn tudalen we, ond nid yw hwn yn ddull a gefnogir yn swyddogol ar gyfer cyflwyno. Ar gyfer arolygon sy'n cael eu lansio mewn tudalen we, rydym yn argymell eich bod yn cyrchu eich cwrs ar borwr gwe bwrdd gwaith. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Maes llafur Dim cefnogaeth frodorol. Mae math cynnwys y maes llafur yn lansio mewn tudalen we. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.
Profion Cefnogaeth frodorol. Gellir cwblhau a chyflwyno profion o'r ap. Mae mathau o brofion nas cefnogir yn dangos manylion yn unig a gofynnir i ddefnyddwyr agor y prawf mewn porwr gwe bwrdd gwaith yn hytrach nag ar ddyfeisiau symudol.

Profion yn yr ap Blackboard

Fideo Cefnogaeth frodorol. Mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais.
Dolenni Gwe Cefnogaeth frodorol. Ni ddangosir disgrifiadau ac atodiadau ffeil. Bydd y myfyriwr yn cyrraedd y wefan yn uniongyrchol. Efallai caiff ymarferoldeb y wefan darged ei heffeithio gan system weithredu'r ddyfais a chyfyngiadau'r porwr mewn-ap.
Wikis Dim cefnogaeth frodorol. Mae'r offeryn hwn yn lansio mewn tudalen we. Mae’r nodwedd hon ar gael ar gyfer y Wedd Cwrs Wreiddiol yn unig.

Nodweddion y golygydd

Mae ap Blackboard yn cefnogi gwahanol nodweddion HTML a CSS oddi wrth y golygydd Blackboard Learn ar draws llwyfannau iOS, Android a Windows.

Rhestr fanwl o tagiau HTML a lleoliadau ap a gefnogir

Gall hyfforddwyr ddefnyddio atodiad megis PPT, DOC, neu PDF i fod yn siŵr na fydd y fformatio yn newid pan gaiff ei weld yn yr ap Blackboard.

Fformatio mewn cyfarwyddiadau asesu

Ar hyn o bryd, rydym yn argymell y dylai hyfforddwyr ac adeiladwyr cyrsiau ddefnyddio testun plaen mewn cyfarwyddiadau profion ac aseiniadau i sicrhau'r arddangosiad gorau i fyfyrwyr yn ap Blackboard. Nid yw rhywfaint o fformatio sy'n cael ei gefnogi ar gyfer mathau eraill o gynnwys yn dangos i fyfyrwyr mewn cyfarwyddiadau asesu.


Rhyddhau addasol, argaeledd amodol. a statws adolygu

Nid yw'r ap Blackboard yn cefnogi nodwedd Marc Adolygwyd cyrsiau Gwreiddiol ar hyn o bryd. Mae angen i fyfyrwyr gyrchu cwrs mewn porwr gwe bwrdd gwaith i ddefnyddio'r nodwedd hon os trefnodd yr hyfforddwr ei bod ar gael ar gyfer eitem cynnwys.

Mae'r ap Blackboard yn cefnogi Rhyddhau Addasol (cyrsiau Gwreiddiol) ac Argaeledd Amodol (cyrsiau Ultra) o gynnwys, lle gall hyfforddwyr ryddhau cynnwys dim ond i fyfyrwyr sy'n bodloni meini prawf penodol.

Rhagor am ryddhau cynnwys i fyfyrwyr


Cyfryngau a chyfuniadau wedi’u plannu

Mae Flickr®, Slideshare, YouTube™ ac offer cyfuniad eraill yn gweithio orau pan ychwanegir fel cyfuniad wedi’i blannu o fewn y golygydd. Dylai hyfforddwyr wirio sut mae cynnwys amlgyfrwng yn arddangos yn yr ap a gwneud addasiad os oes angen.

Camau ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol:

  1. O'r ddewislen Adeiladu Cynnwys, dewiswch Eitem. Peidiwch â dewis o'r adran Cyfuniadau y ddewislen.
  2. Defnyddiwch y nodwedd Cyfuniadau yn y golygydd.

Cyfryngau nis chefnogir

  • Ni chefnogir cyfryngau Kaltura sy’n defnyddio’r offeryn Kaltura B2 a Chyfuniad ar yr adeg hon.
  • Nid yw ffeiliau cyfryngau wedi'u mewnblannu o fewn ffeiliau cysylltiedig yn gweithio. Er enghraifft, mae atodiad MP4 yn gweithio, mae atodiad HTML yn gweithio, ond nid yw ymgorffori cyfeiriad mp4 o fewn atodiad ffeil HTML yn gweithio.
  • Mae gwasanaethau fideo trydydd parti eraill yn cynhyrchu canlyniadau anghyson gan ddibynnu ar fformatio.
  • Ni chefnogir pecynnau ffeil sy'n defnyddio index.html â bwndel ffeil asedau.

Cyfryngau a gefnogir

  • Cefnogir fideo LTI gan ddarparwyr trydydd parti, megis Kaltura, fel dolenni i’r offeryn LTI.
  • Gellir hefyd mewnblannu fideo LTI gan ddarparwyr trydydd parti mewn dogfennau ac asesiadau cyrsiau Ultra. Cefnogir hyn yn yr ap Blackboard yn unig ac nid yn yr ap Blackboard Instructor ar yr adeg hon.
  • Cefnogir offer cwmwl partneriaid yn yr apiau symudol.

Cynnwys SCORM

Mae pecynnau SCORM yn lansio ym mhorwr mewnol yr ap ar gyfer cyrsiau Ultra a Gwreiddiol. Gall hyfforddwyr ddefnyddio’r awgrymiadau hyn ar gyfer y profiad defnyddiwr gorau â chynnwys SCORM yn yr apiau.

  • Golygu dewisiadau datblygedig chwaraewr SCORM i sicrhau bod y chwaraewr SCORM ar gyfer y pecyn wedi'i ffurfweddu i wneud y cynnwys yn y fframset ac nid mewn ffenestr newydd.
  • Diweddarwch y pecyn SCORM i sicrhau ei fod wedi'i gynllunio'n ymatebol ar gyfer dyfeisiau a sgriniau llai.
  • Lleihewch y defnydd o JavaScript ac ieithoedd sgriptio eraill i gael y gefnogaeth fwyaf posibl. Mae pecynnau SCORM mwy sylfaenol, â dim ond HTML a CSS, yn fwy tebygol o weithredu fel y disgwylir.
  • Profwch gynnwys SCORM yn yr ap cyn i chi drefnu ei fod ar gael i fyfyrwyr.

Mae diweddariadau yn Learn Q4 2017 ac yn yr apiau symudol (Blackboard 4.5 a Blackboard Instructor 2.10) yn rhoi gwelliannau sylweddol i gefnogaeth SCORM ar gyfer yr apiau symudol.

Dyddiadau cyflwyno SCORM

Mae dyddiadau cyflwyno SCORM ar gael yn yr apiau ar gyfer cyrsiau Ultra. Bydd dyddiadau cyflwyno ar gael ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol gyda diweddariad B2 sydd ar y gweill*.

  • Wedi’i gefnogi yn Blackboard Learn SaaS 3600.0.0+
  • Mae angen diweddariad B2 sydd ar y gweill* ar amgylcheddau SHMH i gefnogi'r gwelliannau diweddaraf yn llawn. Cyn y diweddariad B2, bydd cynnwys SCORM yn ymddwyn yn y moddau hyn:
    • Trinnir SCORM wedi’i raddio fel SCORM heb ei raddio
    • Nid yw eitemau SCORM yn dangos yn Dyddiadau Cyflwyno o fewn cyrsiau unigol
    • Ni ellir clicio ar eitemau SCORM yn Dyddiadau Cyflwyno ar y brif ddewislen ar gyfer pob cwrs

Profion

Cefnogir profion yn frodorol yn ap Blackboard. Mae rhaid i brawf gynnwys mathau o gwestiynau a gosodiadau prawf a gefnogir ar ddyfeisiau symudol yn unig er mwyn agor yn frodorol yn ap Blackboard. Os yw prawf yn cynnwys cwestiynau neu osodiadau nas chefnogir, mae'r ap yn ymdrin â'r sefyllfa'n wahanol gan ddibynnu ar fersiwn y bloc adeiladu a osodwyd yn Blackboard Learn.

  • Gwasanaethau Gwe Symudol B2 94.9.11 neu B2 bwndel cyfatebol ac yn uwch: Os na chefnogir prawf yn yr ap, mae defnyddwyr yn gweld neges bod y prawf yn cael ei rwystro rhag lansio yn yr ap a bod rhaid ei gyrchu o borwr gwe bwrdd gwaith. Mae'r newid hwn yn sicrhau profiad asesu cyson a gefnogir yn yr ap ac yn atal cynnwys heb ei gefnogi rhag achosi problemau annisgwyl mewn ymgais prawf symudol.

    Rhaid cwblhau profion nad ydynt yn cael eu cefnogi'n frodorol ar borwr gwe bwrdd gwaith.

  • Cyn Gwasanaethau Gwe Symudol B2 94.9.11 neu B2 bwndel cyfatebol: Os na chefnogir prawf yn yr ap, mae'r prawf yn agor ym mhorwr mewnol yr ap ar y ddyfais. Fodd bynnag, mae'n well cymryd y mathau hyn o brofion ar borwr gwe bwrdd gwaith er mwyn cael y profiad gorau.

Rhagor ar gefnogaeth porwr

Rhagor am floc adeiladu Gwasanaethau Gwe Symudol

Rydym yn argymell eich bod yn diffodd yr offeryn Prawf sy’n Gydnaws â Ffonau Symudol ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol gan nad yw’n berthnasol i alluoedd asesu a gefnogir yn ap Blackboard.

Cwestiynau a nodweddion a gefnogir

Mae’r ap Blackboard yn cefnogi’r cwestiynau a’r nodweddion prawf hyn:

  • Gwir/Gau
  • Amlddewis
  • Ateb Byr
  • Traethawd
  • Naill ai/Neu
  • Arddangosiad cwestiynau ar hap
  • Blociau ar hap
  • Profion a ddiogelir gan gyfrinair

Opsiynau profion

Mae rhai o'r opsiynau sydd ar gael wrth greu prawf ond yn gweithio'n gywir pan fydd myfyrwyr yn cymryd y prawf ar borwr gwe bwrdd gwaith.

Nis chefnogir ar ddyfeisiau symudol, methu â chwblhau'r prawf yn yr ap

NI chefnogir profion gyda'r gosodiadau hyn ar ddyfeisiau symudol ac ni ellir eu cwblhau yn yr ap. Yn yr ap, bydd defnyddwyr yn gallu gweld manylion y prawf yn unig. Pan fydd defnyddwyr yn Cychwyn Ymgais neu'n Parhau â'r Ymgais, bydd neges naid yn cyfeirio defnyddwyr i agor y prawf mewn porwr bwrdd gwaith.

  • Cyflwyniad un cwestiwn ar y tro
  • Asesiad Wedi’i Amseru ag Awto-Gyflwyno = I FFWRDD
  • Profion ac asesiadau grŵp

Wedi’i gefnogi ar ddyfeisiau symudol, methu â gweld yr ymgais yn yr ap

Gellir cwblhau profion gyda'r gosodiadau hyn yn yr ap a bydd y sgorau'n dangos, ond nid yw defnyddwyr yn gallu gweld yr ymgeisiau a gwblhawyd yn yr ap. Pan fydd defnyddwyr yn tapio ar ymgais a gyflwynwyd, bydd neges naid yn eu cyfeirio i edrych ar yr ymgais ar borwr bwrdd gwaith yn hytrach nag ar ddyfais symudol.

  • Adborth gan y graddiwr ar gyfer cwestiynau unigol
  • Dangos sgôr fesul cwestiwn I FFWRDD
  • Dangos cwestiynau anghywir I FFWRDD (dyma'r gosodiad diofyn)

Opsiynau prawf eraill

  • Setiau o Gwestiynau a Blociau Ar Hap: Cefnogir y rhain yn frodorol yn ap Blackboard cyhyd â bod pob un o'r cwestiynau yn y gronfa’n cael cefnogi’n frodorol gan yr ap. Bydd un math o gwestiwn heb ei gefnogi yn y gronfa’n achosi i bob cais lansio yn y porwr mewn-ap hyd yn oed os na chyflwynir y cwestiwn hwnnw heb gefnogaeth ar gyfer pob cais.
  • Hidlo IP: Bydd traffig o'r ap Blackboard yn ymddangos i ddeillio o’r cyfeiriadau IP cwmwl mBaaS. I ddysgu rhagor, gweler Rhestr Caniatáu’r Mur Cadarn i Ganiatáu Traffig Symudol. Nid yw presenoldeb y gosodiad hwn o reidrwydd yn golygu na chefnogir y prawf ar ddyfeisiau symudol, ond bydd lansio'r asesiad yn methu oni bai fod cyfeiriadau IP mBaaS wedi'u cynnwys yn y rheolau CANIATÁU.

Trefnu bod ymgeisiau profion ar gael i fyfyrwyr

Mae'r gosodiadau prawf diofyn dan Dangos canlyniadau ac adborth profion i fyfyrwyr yn galluogi myfyrwyr i weld sgorau eu hasesiadau yn yr ap, ond nid eu hymgeisiau. Defnyddiwch y gosodiadau prawf hyn i alluogi myfyrwyr i weld eu hymgeisiau yn yr ap:

  1. Dangos sgôr fesul cwestiwn YMLAEN (dyma'r gosodiad diofyn).
  2. Mae Dangos cwestiynau anghywir YMLAEN (NID y gosodiad diofyn yw hyn).

Dangos

  • Dangosir disgrifiadau a chyfarwyddiadau profion os yw’r hyfforddwr yn eu darparu wrth greu'r prawf. Bydd disgrifiadau prawf yn weladwy i fyfyrwyr cyn iddynt gychwyn ymgais a bydd cyfarwyddiadau prawf yn weladwy i fyfyrwyr ar ôl iddynt gychwyn ymgais.
  • Nid yw rhywfaint o fformatio'n ymddangos i fyfyrwyr mewn cyfarwyddiadau prawf. Ar yr adeg hon, rydym yn argymell y dylai hyfforddwyr ac adeiladwyr cyrsiau ddefnyddio testun plaen mewn cyfarwyddiadau prawf er mwyn sicrhau'r arddangosiad gorau i fyfyrwyr.
  • Nid yw delweddau mewn cwestiynau prawf yn cael eu harddangos.

Aseiniadau

Cefnogir aseiniadau'n frodorol yn ap Blackboard.

Dangos

  • Bydd y cyfarwyddiadau mae hyfforddwyr yn eu teipio ar gyfer aseiniad mewn cwrs Gwreiddiol yn ymddangos yn yr ap ar ôl i fyfyrwyr gychwyn ymgais.
  • Nid yw rhywfaint o fformatio yn arddangos i fyfyrwyr mewn cyfarwyddiadau aseiniad. Ar hyn o bryd, rydym yn argymell y dylai hyfforddwyr ac adeiladwyr cyrsiau ddefnyddio testun plaen mewn cyfarwyddiadau aseiniad i sicrhau'r arddangosiad gorau i fyfyrwyr.

Cefnogir atodiadau ffeil. Mae mathau o ffeiliau a gefnogir yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais. Mae terfyn maint ffeil o 250 MB ar gyfer cyflwyniadau i aseiniadau.

Ni chefnogir cyflwyniadau portffolio yn yr ap ac maen nhw'n ymddangos i fyfyrwyr yn yr un modd â chyflwyniadau aseiniadau arferol ar hyn o bryd.

Mae integreiddio â storio cwmwl yn caniatáu i fyfyrwyr uwchlwytho ffeiliau o'u cyfrifon storio cwmwl ar gyfer aseiniadau.

Rhagor am storio ffeiliau cwmwl yn yr ap

Derbynebau cyflwyno

Mae ap Blackboard yn cofnodi dyddiad ac amser pob ymgais pob aseiniad. Gall myfyrwyr weld rhestr o ymgeisiau yn yr ap trwy dapio ar Gradd Bresennol a dewiswch eitem a raddir.

Gall myfyrwyr wedi nifer y derbynebau cyflwyno ar gyfer ymgeisiau mewn cyrsiau mewn porwr gwe ar fwrdd gwaith. O Fy Ngraddau, dewiswch dab Cyflwynwyd, a dewiswch Derbynebau Cyflwyno. Caiff y cadarnhad o'r niferoedd ei greu ar gyfer pob ymgais aseiniad a gyflwynwyd naill ai yn yr ap neu ar borwr gwe ar fwrdd gwaith. Nid yw rhifau cadarnhau a hysbysiadau e-bost ar gyfer derbynebau cyflwyno ar gael ar yr ap.

Rhagor am dderbynebau cyflwyno aseiniadau


Trafodaethau

Cefnogir trafodaethau yn frodorol yn ap Blackboard. Cefnogir y gweithrediadau hyn yn ap Blackboard.

  • Ychwanegu atodiad yn nhrafodaethau cwrs
  • Disgrifiad fforwm
  • Gradd uchaf posib a chyfarwyddyd ar gyfer fforwm (dangosir cyfarwyddiadau ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol yn unig)
  • Gweld a chreu edeifion *
  • Ateb i edeifion *
  • Ateb i atebion *
  • Gweld adborth hyfforddwyr a graddau ar gyfer fforymau
  • Gweld atodiadau ffeil i bostiadau; mae cefnogaeth ffeiliau yn dibynnu ar system weithredu’r ddyfais
  • Gweld testun cyfoethog a chynnwys amlgyfrwng ym mhostiadau; ar gael ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol yn unig ar yr adeg hon
  • Golygu postiad; os alluogwyd gan hyfforddwr yn y fforwm
  • Dileu post; os yw hyfforddwr yn ei alluogi yn y fforwm
  • Cyfrif heb eu darllen
  • Mae trafodaethau yn ymddangos yn Dyddiadau Cyflwyno ar y brif ddewislen ac o fewn cyrsiau.

*yn cynnwys postiadau dienw

Ni chefnogir y gweithrediadau hyn yn ap Blackboard ar hyn o bryd.

  • Ychwanegu atodiad yn nhrafodaethau cwrs Ultra
  • Golygu trywydd
  • Dileu edefyn
  • Marciwch fel y'i darllenwyd ar gyfer edefyn, post, ateb
  • Cyfrif heb eu darllen (dyfeisiau Windows yn unig)
  • Ychwanegu tagiau neu faner
  • Mae diweddariadau yn ymddangos ar y ffrwd gweithgarwch
  • Tanysgrifio i edefyn
  • Cyfarwyddiadau yn nhrafodaethau wedi’u graddio cyrsiau Ultra

Cuddio trafodaethau ar apiau symudol

I drefnu na fydd trafodaethau cwrs ar gael i ddefnyddwyr ap symudol a defnyddwyr gwedd we, gallwch ddefnyddio'r dulliau hyn:

  • Fforwm Unigol: Ar y Cylch Trafod, agorwch ddewislen fforwm. Dewiswch Golygu a newidiwch yr argaeledd.
  • Cylch Trafod Cyfan: Ar y Panel Rheoli, ehangwch yr adran Addasu a dewiswch Argaeledd yr Offer. Cliriwch y blwch ticio ar gyfer Cylch Trafod. Bydd defnyddwyr ar yr ap yn gweld yr offeryn Trafodaethau, ond bydd yn wag.

Nid yw cuddio'r ddolen i’r Cylch Trafod ar ddewislen y cwrs neu dudalen offer yn gwahardd defnyddwyr apiau symudol neu defnyddwyr y wedd we rhag cael mynediad at yr offeryn.


Hysbysiadau gwthio

Ap Blackboard

Bydd y math o hysbysiadau gwthio a gynhyrchwyd yn dibynnu ar a oes gan eich sefydliad y profiad Gwreiddiol Blackboard Learn neu'r profiad Ultra Blackboard Learn.

Gall myfyrwyr newid pa ddigwyddiadau sy’n anfon hysbysiadau gwthio at eu dyfeisiau o’r ap neu yng ngwedd we Blackboard Learn gyda'r profiad Ultra.

Rhagor am hysbysiadau gwthio ap Blackboard

Blackboard Instructor

Mae hysbysiadau gwthio’n ymddangos ar ddyfeisiau hyfforddwyr ar gyfer y digwyddiadau dilynol yng nghyrsiau Ultra yn unig.

  • Cynnwys a thrafodaethau newydd a ychwanegwyd
  • Ymatebion trafodaethau newydd

Rhagor am hysbysiadau gwthio Blackboard Instructor

Gall hyfforddwyr newid pa ddigwyddiadau sy’n anfon hysbysiadau gwthio at eu dyfeisiau o’r ap neu yng ngwedd we Blackboard Learn gyda'r profiad Ultra.

  • Ym mhrif ddewislen yr ap, tapiwch Gosodiadau. Dewiswch Hysbysiadau Gwthio a gosodwch eich dewisiadau. Adlewyrchir newidiadau a wnaed yn yr ap yng ngwedd we Blackboard Learn ac i'r gwrthwyneb.

Cyhoeddiadau

Yn yr ap Blackboard, ymddengys cyhoeddiad cwrs o fewn cyrsiau unigol.

Efallai dangosir rhybuddion o'r ysgol hefyd yng nghyrsiau Gwreiddiol os dewisodd yr anfonwr opsiwn i ddangos y cyhoeddiad mewn cyrsiau a mudiadau.

Mae'r holl gyhoeddiadau cwrs a chyhoeddiadau system wedi'u cynnwys yn Ffrwd Gweithgarwch yr ap Blackboard. Mae cyhoeddiadau system wedi'u labelu fel Rhybuddion.

Yn y ffrwd gweithgarwch, pan fydd myfyriwr yn gwrthod cyhoeddiad cwrs, nid yw bellach yn hygyrch ar yr ap ar unrhyw ddyfais. Pan fydd myfyriwr yn gwrthod cyhoeddi system, nid yw bellach yn hygyrch ar yr ap ar y ddyfais benodol lle gwrthododd y myfyriwr gyhoeddiad y system.

Mae cyhoeddiadau yn cefnogi gweld testun cyfoethog a chynnwys amlgyfrwng yn yr ap. Fodd bynnag, gall hyfforddwyr ond greu cyhoeddiadau gyda thestun cyfoethog a chynnwys amlgyfrwng yn y profiad gwe ar yr adeg hon. Yn yr ap, gall hyfforddwyr greu cyhoeddiadau testun plaen.


Modiwlau dysgu

Ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol, mae gan fodiwlau dysgu ymarferoldeb rhannol yn yr apiau symudol. Ni all defnyddwyr weld tabl o gynnwys y modiwl fel y gallant ei wneud mewn porwr borwr gwe. Rhestrir y cynnwys yn debyg i ffolder cynnwys.

Yng nghyrsiau Ultra, mae modiwlau dysgu yn dangos cynnydd ac yn cefnogi argaeledd amodol a gweld dilyniannol. Gall myfyrwyr weld pob eitem modiwlau dysgu, gan gynnwys y rhai hynny nad ydynt ar gael, fel bod ganddynt ddarlun llawn o'r gwaith sydd i ddod.

Rhagor am fodiwlau dysgu yn yr ap Blackboard

Rhagor am fodiwlau dysgu yn yr ap Blackboard Instructor


Dyddiadau Cyflwyno

Eitemau â dyddiadau cyflwyno

Mae'r eitemau o gynnwys hyn yn ymddangos yn Dyddiadau Cyflwyno ar gyfer cyrsiau:

  • Profion
  • Aseiniadau
  • Trafodaethau
  • Blogiau
  • Dangosir Wikis yn adran Dyddiadau Cyflwyno y brif ddewislen ond nid oes modd clicio arnynt. Bydd angen i chi fynd i’r cwrs yn yr ap i gael mynediad at wikis. Ni ddangosir dyddiadau cyflwyno Wikis yn y rhestr Dyddiadau Cyflwyno mewn cwrs.
  • Dyddlyfrau
  • Arolygon
  • SCORM

Nid yw’r eitemau o gynnwys hyn yn ymddangos yn Dyddiadau Cyflwyno ar gyfer cyrsiau:

  • Hunanasesiadau ac asesiadau gan gyfoedion

Graddau

Caiff y graddau eu cefnogi'n frodorol yn yr ap Blackboard. O Graddau ar y brif ddewislen, gall myfyrwyr weld graddau cwrs a graddau eitemau unigol sydd ag adborth hyfforddwyr.

Cefnogir colofnau gradd cudd. Nid yw colofnau'r Ganolfan Raddau sydd wedi'u cuddio rhag myfyrwyr yn cael eu harddangos i fyfyrwyr mewn porwr gwe bwrdd gwaith neu yn yr ap Blackboard.

Nid yw’r wybodaeth raddau ddilynol ar gael ar hyn o bryd yn yr ap Blackboard.

  • Ffeiliau sydd wedi'u hatodi i adborth
  • Nid yw sylwadau graddio mewnol (anodiadau Bb Annotate) ar gael yng nghyrsiau Gwreiddiol ond maent ar gael ar gyfer cyrsiau Ultra.
  • Nid yw adborth am atebion unigol i gwestiynau yn weladwy yn yr ap. Dyma adborth mae hyfforddwyr yn ei greu yn ystod creu cwestiwn neu wrth ddarparu cwestiynau traethawd mewn cyrsiau Gwreiddiol. Gall hyfforddwyr ddewis opsiynau i ddangos y math hwn o adborth yn awtomatig i fyfyrwyr pan fyddant yn edrych ar ymgeisiau, ond mae angen i fyfyrwyr fynd at eu cwrs ar borwr bwrdd gwaith er mwyn ei gweld.

Tudalen Graddau

Pan fydd myfyrwyr yn tapio ar Graddau ar y brif ddewislen, byddant yn gweld pob un o’u cyrsiau. Mae graddau cwrs yn arddangos ar gyfer cyrsiau Gwreiddiol. Mae graddau cwrs hefyd yn arddangos ar gyfer cyrsiau Ultra os yw’r hyfforddwr yn gosod graddau cyffredinol.


Bb Annotate

Bb Annotate yw’r offeryn graddio mewnol mae hyfforddwyr yn ei ddefnyddio i roi adborth a nodiadau mewn ffeiliau aseiniadau a gyflwynir. Gall hyfforddwyr ddefnyddio Bb Annotate yng ngwedd we Blackboard Learn ar gyfer cyrsiau Ultra a chyrsiau Gwreiddiol. Ar hyn o bryd, mae ap Blackboard Instructor ond yn cefnogi aseiniadau yng nghyrsiau Gwreiddiol.

Cefnogaeth ar gyfer Bb Annotate mewn apiau symudol

Gwedd graddio mewnol yn yr ap i fyfyrwyr

Gwedd graddio mewnol yn yr ap i hyfforddwyr


Golygu gosodiadau cynnwys

Mae hyfforddwyr yn creu pob darn o gynnwys cwrs yng ngwedd porwr gwe cwrs, nid yn ap Blackboard Instructor. Yn yr ap, gall hyfforddwyr addasu gosodiadau neu ddileu eitemau. Adlewyrchir newidiadau a wnaed yn yr ap yng ngwedd porwr gwe cwrs.

Dysgu rhagor am osodiadau cynnwys yn Blackboard Instructor


*Mae datganiadau parthed ein mentrau datblygu cynnyrch, yn cynnwys cynnyrch newydd ac uwchraddiadau cynnyrch, diweddariadau neu welliannau yn y dyfodol yn cynrychioli ein bwriadau presennol, ond gellir eu haddasu, oedi neu adael heb rybudd blaenorol ac nid oes unrhyw sicrwydd y bydd cynnig, uwchraddiad, diweddariad neu swyddogaeth o’r fath ar gael oni bai a nes eu bod wedi eu darparu i’n cwsmeriaid.