Gweld beth mae eich myfyrwyr yn ei weld. Cael apiau symudol Blackboard.
Gall unrhyw un lawrlwytho a gosod ap Blackboard neu Blackboard Instructor ar ddyfais symudol. Fodd bynnag, gallwch weld eich cyrsiau Blackboard Learn os yw eich ysgol wedi galluogi mynediad symudol yn unig. Gallwch chwilio am eich ysgol ar y sgrin mewngofnodi yn yr apiau. Os ydych dal yn ansicr os oes gan eich ysgol alluoedd symudol, gofynnwch i weinyddwr Blackboard eich ysgol.
Gosodwch ap Blackboard ac ewch ar daith o'ch cyrsiau.
Ap Blackboard Instructor
Defnyddiwch ap Blackboard Instructor i weld cynnwys cyrsiau, i raddio aseiniadau, i gysylltu â myfyrwyr mewn trafodaethau, ac i anfon cyhoeddiadau.
Mae Blackboard Instructor yn dangos y cyrsiau rydych wedi ymrestru arnynt fel hyfforddwr, cynorthwyydd dysgu, adeiladwr cwrs neu rôl bersonol arall yn unig.
Ap Blackboard i Fyfyrwyr
Gallwch ragweld cynnwys yn Blackboard Instructor, ond ar gyfer y profiad myfyriwr llawn mae’n ddefnyddiol gweld eich cynnwys fel ffug fyfyriwr yn yr ap Blackboard ar gyfer myfyrwyr.
Mae ap Blackboard yn dangos y cyrsiau rydych wedi ymrestru arnynt fel myfyriwr yn unig.
Ar ôl i chi osod ap Blackboard, sefydlwch ffug fyfyriwr.
- Crëwch gyfrif myfyriwr ffug neu gofynnwch am gyfrif gan weinyddwr Blackboard eich ysgol.
- Cofrestrwch y myfyriwr ffug yn eich cyrsiau.
- Mewngofnodwch i ap Blackboard fel eich ffug fyfyriwr, nid gyda'ch manylion hyfforddwr.
Bydd graddau ffug fyfyriwr yn gynwysedig yng nghyfrifiadau gradd eich cwrs Gwreiddiol, oni bai i chi eithrio'r radd neu glirio'r ymgais. Ar gyfer cyrsiau Ultra, bydd graddau ffug fyfyriwr yn gynwysedig yng nghyfrifiadau'r cwrs oni bai i chi ddileu'r graddau.
Cymharu
Ar ôl i chi fewngofnodi i un o'r apiau symudol, gallwch gymharu'r cyrsiau yn yr ap i borwr gwe ar gyfrifiadur bwrdd gwaith. Gwneud addasiadau i'ch cwrs er mwyn gwella'r profiad symudol.