Y ffordd orau o greu cynnwys sy’n addas i ddyfeisiau symudol yw rhoi cynnig ar ddefnyddio eich cwrs ar ddyfais symudol.
Mae ap Blackboard yn gallu ymdopi â llawer o’r mathau o gynnwys a gyflwynir yn eich cwrs Blackboard Learn, ond nid yw wedi’i gynllunio i ymdopi â phob math o gynnwys sy’n bosibl. Gallwch olygu cynnwys eich cwrs fel bydd yn trosi’n dda i ddyfais symudol.
Rhagolwg o’ch cwrs ar yr ap symudol
Crëwch gyfrif myfyriwr ffug neu gofynnwch am gyfrif gan weinyddwr Blackboard eich ysgol. Cofrestrwch y myfyriwr ffug yn eich cyrsiau. Bydd ap Blackboard yn dangos cyrsiau rydych chi wedi cofrestru fel myfyriwr arnynt yn unig.
Gwiriwch y wedd symudol wrth i chi greu cynnwys y cwrs fel gallwch chi wneud gwelliannau yn ystod y broses.
Cychwyn arni gydag apiau Blackboard
Defnyddio mathau o ffeiliau a gefnogir
Mae apiau symudol Blackboard yn caniatáu defnyddio’r rhan fwyaf o ffeiliau testun a chyfryngau cyffredin. Ni chefnogir rhai mathau o ffeiliau oherwydd nad yw systemau gweithredu penodol yn eu cefnogi.
Bydd popeth a welir yn yr ap yn cael ei weld o un sgrîn. Er enghraifft, ni all myfyrwyr weld dau atodiad ar unwaith.
Rhagor ynghylch ffeiliau y gellir eu defnyddio mewn apiau symudol
Lleihau nifer yr eitemau mewn cwrs
Gall cyrsiau sy’n cynnwys nifer fawr o eitemau arwain at amseroedd llwytho araf i ddefnyddwyr apiau symudol. Rhowch eitemau mewn grwpiau fel y cânt eu cyflwyno ar draws sawl maes cynnwys neu ffolder, yn hytrach na rhoi holl gynnwys y cwrs mewn un ffolder.
Teitlau byr
Mae teitlau byr ar gyfer ffolderi a chynnwys yn ddefnyddiol ar sgrîn fach. Byddant hefyd yn sicrhau fod gwedd porwr gwe eich cwrs yn haws i’w sgimio.
Rhyngweithio rheolaidd
Bydd myfyrwyr yn rhyngweithio â’u dyfeisiau symudol yn rheolaidd. Gallwch sicrhau fod eich cwrs yn rhan o’r presenoldeb hwnnw ym mywydau beunyddiol myfyrwyr.
- Sicrhewch fod eich cwrs yn dod yn fyw! Bydd digwyddiadau megis profion newydd neu raddau yn anfod hysbysiadau i’r ap, felly bydd eich myfyrwyr yn ystyried fod eich cwrs yn lle diddorol i ddysgu.
- Gofynnwch am byst trafodaethau byrrach ond mwy rheolaidd y gellir eu cwblhau tra bydd myfyrwyr yn defnyddio dyfeisiau symudol.
- Cynhwyswch ddelweddau a fideos y gellir eu gweld ar y we.
- Defnyddiwch Collaborate i gysylltu â myfyrwyr mewn sesiynau amser real.
- Bydd cyhoeddiadau cyrsiau yn ymddangos yn yr ap ar gyfer cyrsiau gwreiddiol.
Ni ellir gweld hysbysiadau ar gyfer cyrsiau Ultra yn yr ap ar hyn o bryd.
Dyddiadau Cyflwyno
Ychwanegu dyddiadau cyflwyno i aseiniadau a phrofion. Mae ap Blackboard yn defnyddio’r nodwedd Dyddiadau Dyledus a hysbysiadau gwthio i hysbysu myfyrwyr am y dyddiadau cyflwyno a bennir gennych chi.
Strwythur cwrs
Ydych chi'n trefnu cyrsiau yn ôl wythnos, uned, pennod neu gan ddefnyddio dull arall? Sicrhewch fod y strwythur yn hawdd ei lywio yng ngwedd y we a gwedd ap symudol eich cyrsiau.
Dewislen y cwrs mewn cyrsiau Gwreiddiol
Gostyngwch nifer dolenni dewislen cwrs i gyfyngu ar sgrolio ar ddyfais symudol. Defnyddiwch ardaloedd cynnwys i ddal eitemau cysylltiedig ac i roi trefn a strwythur i'ch cwrs. Bydd meysydd cynnwys yn ymddangos fel ffolderi yn y dudalen Cynnwys y Cwrs yn yr ap.
Bydd cynllunio gofalus yn eich helpu chi a’ch myfyrwyr yn y dyfodol:
- A hoffech chi greu ffolderi, meysydd cynnwys neu fodiwlau dysgu?
- Pa offerynnau wnewch chi sicrhau eu bod ar gael i’ch myfyrwyr? A ydynt wedi’u cynllunio’n benodol i’w defnyddio yn yr ap?
Tudalen cynnwys y cwrs mewn cyrsiau Ultra
Gallwch bennu uchafswm ar nifer y ffolderi ac eitemau ar dudalen Cynnwys y Cwrs er mwyn lleihau'r sgrolio ar ddyfais symudol. Defnyddiwch ffolderi i ddal eitemau cysylltiedig ac i roi trefn a strwythur i'ch cwrs.
Nodweddion penodol yr ap
Byddwch yn ymwybodol o nodweddion ac offer cyrsiau sydd wedi’u cynllunio’n benodol i’w defnyddio yn yr ap a pha nodweddion fydd yn agor yn y wedd we.
Pan fyddwch yn defnyddio offer neu gynnwys nas cefnogir, cofiwch roi gwybod i fyfyrwyr am hynny.
Rhagor am gynnwys cyrsiau y gellir ei ddefnyddio mewn apiau symudol a HTML y gellir ei ddefnyddio yn yr apiau
Mwy o adnoddau
Canllaw ar gyrsiau sy'n addas ar gyfer dyfeisiau symudol (PDF ar gael yn Saesneg yn unig)