Beth yw storfa cwmwl?
Gallwch uwchlwytho ffeiliau i apiau gwe sydd yn cael eu cynnal ar y “cwmwl” ac nid ar eich cyfrifiadur, megis OneDrive®.
Storir eich ffeiliau ar weinyddion diogel ar-lein sydd wedi'u diogelu rhag damweiniau a firysau. Os bydd rhywbeth yn digwydd i’ch cyfrifiadur neu ffôn, ni fydd yn rhaid i chi ofni colli’r ffeiliau sydd wedi eu cadw arnyn nhw. Gallwch gael mynediad at eich ffeiliau a storir ar y cwmwl ar unrhyw ddyfais sydd wedi ei gysylltu â’r rhyngrwyd.
Yn eich cyrsiau, gallwch chi a'ch myfyrwyr gysylltu â sawl ap gwe lle storir eich ffeiliau yn syth bin. Mae Blackboard Learn yn defnyddio gwasanaeth integreiddio’r cwmwl sy’n sicrhau mynediad rhwydd at sawl ap gwe mewn un man.
Cysylltu â storfa cwmwl am y tro cyntaf
Pan fyddwch yn cael mynediad at eich storfa ar y cwmwl am y tro cyntaf, bydd yn rhaid i chi ddewis yr ap gwe rydych am gysylltu ag ef:
- OneDrive
- Blwch
- OneDrive ar gyfer Business
Os oes gennych gyfrif OneDrive sefydliadol, defnyddiwch OneDrive for Business.
- Dropbox
- Google Drive™
Nesaf, mewngofnodwch i’r ap a chaniatewch i wasanaeth integreiddio’r cwmwl gysylltu â’ch ap gwe.
Gallwch ddefnyddio eich cyfrif sefydliad yn ogystal â chyfrifon personol i fewngofnodi i'r gwasanaeth ac uwchlwytho ffeiliau. Ond, ni chefnogir 'cyfrifon wedi'u storio' yn Learn bellach. Rydym yn parhau i gefnogi cyfrifon OneDrive for Business a chyfrifon Google Workspace (Google GSuite yn flaenorol).
Yn ffenestr naid y storfa cwmwl, byddwch yn gweld eich ffeiliau ar gyfer yr ap gwe a ddewiswyd. Gallwch:
- Dad-ddewis ffeiliau, Canslo neu ddewis y botwm X yn y gornel dde uchaf i ganslo a mynd yn ôl i'r rhestr o wasanaethau sydd ar gael.
- Dewis ffeil o'r ffolderi sydd ar gael.
- Allgofnodi.
Pan fyddwch yn dewis ffeil o'r rhestr drwy ddewis y blwch ticio o'i blaen, bydd y botwm Dewis yn ymddangos. Mae'r rhif ar y botwm yn cynrychioli'r nifer o ffeiliau a ddewiswyd. Dewiswch y botwm hynny i gadarnhau eich dewis.
Bydd rhagolwg o'r ffeil rydych wedi'i dewis, a gallwch ddewis Mewngludo i gadarnhau eich dewis ac ychwanegu'r ffeil at eich eitem o gynnwys, neu gallwch ddewis y botwm Canslo i fynd yn ôl i'r ffeil ffolder. Gallwch ganslo eich dewis drwy ddewis eicon X yng nghornel dde uchaf y ffeil.
Ar ôl mewngludo'r ffeil, bydd yn ymddangos fel rhan o'r eitem o gynnwys rydych yn ei chreu neu ei golygu, a gallwch fwrw ymlaen i greu'r eitem.
Cael mynediad at storfa cwmwl yn eich cwrs
Gallwch gyrchu'ch ffeiliau mewn storfa cwmwl yn y meysydd cwrs hyn:
- Atodiadau ac yn y golygydd ar gyfer aseiniadau
- Atodiadau ac yn y golygydd ar gyfer eitemau cynnwys
Os na allwch gael mynediad at storfa'r cwmwl yn eich cwrs, cysylltwch â'ch gweinyddwr. Mae'n bosibl na fydd storfa'r cwmwl ar gael yn eich fersiwn o Blackboard Learn.
Gall myfyrwyr gyrchu eu ffeiliau storfa cwmwl wrth gyflwyno aseiniadau.
Cael mynediad at storfa cwmwl mewn aseiniad
Mewn aseiniad, yn yr adran Atodi Ffeiliau, dewiswch Pori Gwasanaeth y Cwmwl.
Gallwch hefyd gael mynediad at storfa cwmwl o'r eicon Ychwanegu Cynnwys yn y golygydd, drwy ddewis Mewnosod o Wasanaeth y Cwmwl
Ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl
Pan fyddwch yn ychwanegu ffeiliau o storfa cwmwl, bydd y system yn gwneud copïau o'r ffeiliau yn eich cwrs. Nid yw'r ffeiliau wedi eu cysylltu. Ni fydd unrhyw newid a wnewch i ffeil o fewn eich cwrs yn berthnasol i'r ffeil yn y storfa cwmwl.
- Yn yr adran Atodi Ffeiliau, dewiswch Pori Gwasanaeth y Cwmwl.
- Yn ffenestr naid y storfa cwmwl, dewiswch raglen gwe o'r ddewislen a dewiswch un ffeil neu ragor. Neu, cliciwch ar deitl ffolder i weld ei gynnwys a’i ddewis. Gallwch ddewis ffeil ZIP — pecyn o ffeiliau cywasgedig. Bydd ffeiliau ZIP yn parhau i fod yn ffeiliau cywasgedig ar ôl i chi eu hychwanegu. Mae myfyrwyr yn dewis y ffeil ZIP i'w lawrlwytho i'w cyfrifiaduron ac yn ei dadsipio i gyrchu'r cynnwys.
- Bydd y botwm Dewis yn dangos y nifer o ffeiliau a ddewiswyd (e.e. Dewis 2) i chi a bydd yn caniatáu i chi fwrw ymlaen â'r broses.
- Bydd rhagolwg o'r ffeiliau a ddewiswyd yn ymddangos. Dewiswch Mewngludo i ychwanegu'r ffeiliau at yr eitem o gynnwys fel atodiadau.
Storfa cwmwl a chyfrifiaduron a rennir
Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur sydd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan eraill, dilëwch eich cwcis a data gwefannau ar ôl i chi allgofnodi. Trwy wneud hyn, ni all defnyddwyr eraill gael mynediad at ffeiliau sydd wedi eu cadw ar eich storfa cwmwl.