Defnyddiwch fodiwlau dysgu i integreiddio cynnwys a gweithgareddau cysylltiedig.

Mae modiwl dysgu yn gynhwysydd ar gyfer cynnwys sy’n cadw casgliad trefnedig o ddeunydd sydd wedi’i gyflwyno gan ddefnyddio tabl cynnwys. Mae myfyrwyr yn nodweddiadol yn cyrchu modiwlau dysgu mewn meysydd cynnwys. Byddwch yn ychwanegu ac yn rheoli cynnwys mewn modiwl dysgu yn union fel y gwnewch chi mewn ardal gynnwys. Gallwch ychwanegu eitemau cynnwys, atodiadau ffeil, dolenni i wefannau, profion, aseiniadau, a chynnwys amlgyfrwng.

Rhagor am ardaloedd cynnwys

Defnyddiwch fodiwl dysgu i ategu amcan cwrs, cysyniad neu thema. Er enghraifft, gallwch greu modiwl dysgu sy'n cyflwyno'r cysyniad o feysydd magnetig cyn disgrifio sut mae seinyddion a microffonau'n gweithio. Mae'n ofynnol deall y cysyniad cyntaf ar gyfer deall yr ail gysyniad.

Fel arall, gallwch ganiatáu i fyfyrwyr archwilio cynnwys modiwl dysgu mewn unrhyw drefn a phan fydd hynny’n gyfleus iddynt. Er enghraifft, defnyddiwch fodiwl dysgu i gyflwyno cyfres o ddelweddau a disgrifiadau o anifeiliaid amrywiol sy’n rhan o genws. Gall myfyrwyr weld y delweddau a’r disgrifiadau mewn unrhyw drefn, oherwydd nid oes angen unrhyw drefn er mwyn deall y cyfanrwydd.


Creu modiwl dysgu ac ychwanegu cynnwys

Sicrhewch fod y Modd Golygu YMLAEN er mwyn i chi allu cael mynediad at holl swyddogaethau hyfforddwr.

Yn gyffredinol, byddwch yn creu modiwl dysgu mewn maes cynnwys > Adeiladu Cynnwys > Modiwl Dysgu. Teipiwch enw, disgrifiad dewisol, a dewiswch yr opsiynau priodol ynghylch argaeledd, olrhain, a dyddiadau dangos. Ni wnaiff dangos dyddiadau effeithio ar argaeledd modiwl, dim ond pan fydd yn ymddangos.

Byddwch yn dewis a fydd myfyrwyr yn gweld cynnwys y modiwl dysgu yn ddilyniannol. Os byddwch yn gorfodi gweld cynnwys yn ddilyniannol, bydd yn rhaid i fyfyrwyr edrych ar y cynnwys yn y drefn a ragnodir. Byddwch hefyd yn pennu a fydd myfyrwyr yn gweld tabl cynnwys. Gallwch ddewis pa labeli i’w defnyddio ar gyfer eitemau yn y tabl cynnwys: rhifau, llythrennau, rhifolion Rhufeinig, neu gymysg. Os byddwch yn dewis Dim, ni labelir yr eitemau.

Mae tudalen modiwl cwrs a grëir o'r newydd yn gynhwysydd gwag. Dewiswch y modiwl dysgu yn y maes cynnwys i’w gyrchu ac i greu cynnwys. Gallwch newid trefn yr aseiniadau gan ddefnyddio'r swyddogaeth llusgo a gollwng neu offeryn aildrefnu hygyrch y bysellfwrdd.

Yn ogystal ag ychwanegu eitemau cynnwys, ffeiliau a phrofion, gallwch ychwanegu gweithgareddau ac offerynnau sy’n annog dysgu rhyngweithiol a chydweithio.

Er enghraifft, gallwch ychwanegu aseiniadau neu brosiectau ar gyfer grwpiau i roi cyfle i fyfyrwyr ddefnyddio’r hyn maent wedi’i astudio mewn modiwl dysgu. Neu, gallwch chi ychwanegu offerynnau cydweithio, megis sesiynau sgwrsio a fforymau byrddau trafod ble gall myfyrwyr danio syniadau a rhannu eu syniadau ynghylch y pynciau a gyflwynir.

Pan fyddwch yn ychwanegu cynnwys newydd yn y modiwl dysgu gyda dyddiad Dangos ar ôl wedi'i osod yn y 20 munud nesaf, dewiswch yr eicon 'Adnewyddu' yng nghornel dde uchaf dewislen y cwrs. Trwy wneud hyn, bydd modd i'ch myfyrwyr gael mynediad at y cynnwys newydd ar yr amser a drefnwyd.

Rhagor am ychwanegu cynnwys

Rhagor ynghylch y mathau o gynnwys y gallwch eu hychwanegu


Dysgu sut i lywio o amgylch y modiwl

  1. Defnyddiwch y saethau i fynd drwy dudalennau’r cynnwys yn ddilyniannol.
  2. Mae'r tabl cynnwys yn arddangos yr eitemau a ychwanegoch at y modiwl dysgu. Defnyddiwch yr eiconau i symud y tabl cynnwys i’r gwaelod, ei ehangu, ei gwympo, neu ei symud o’r golwg.
  3. Defnyddiwch y briwsion bara i lywio i’r rhannau o’r cwrs y gwnaethoch chi ymweld â hwy yn flaenorol.
  4. Amlygir y tudalen cynnwys presennol rydych yn edrych arno yn y ffrâm gynnwys yn y tabl cynnwys ac mae'r tudalennau sydd ar gael yn ddolenni.

Ychwanegu ffolderi i fodiwlau dysgu

Gallwch ychwanegu ffolderi at fodiwl dysgu i drefnu cynnwys yn y tabl cynnwys.

Mae pob ffolder ei hun yn dudalen yn y modiwl dysgu. Gallwch chi ddarparu disgrifiad o ffolder fel na fydd y dudalen yn ymddangos yn wag i fyfyrwyr sy’n llywio trwy’r modiwl dysgu.

Gallwch roi ffolderi o fewn ffolderi i ddarparu ffordd i arddangos sawl lefel o gynnwys. Cofiwch fod yn rhaid i fyfyrwyr lywio trwy’r cynnwys yn ei drefn os byddwch chi’n pennu y dylid gweld y cynnwys yn ddilyniannol. Bydd rhaid i fyfyrwyr lywio trwy bob ffolder, pob ffolder nythol, a’r cynnwys sydd ynddynt cyn gallant gyrchu’r eitem nesaf.

Pan fyddwch yn cuddio eitemau mewn tabl cynnwys, cuddir pob ffolder o fewn ffolder hefyd. Er enghraifft, os byddwch yn cuddio ffolder, yna nid oes dim o'i chynnwys yn weledol chwaith.