Blackboard a Wiley
Mae Blackboard wedi llunio partneriaeth â Wiley i ddarparu mynediad hwylus i gynnwys digidol WileyPLUS a WileyPLUS Learning Space trwy’ch cwrs ar Blackboard Learn. Mae hyn yn golygu y bydd addysgu’ch cwrs yn haws ac yn fwy cyfleus, a fydd yn arbed amser ichi ac yn eich helpu i greu cynnwys hyd yn oed yn well i’ch myfyrwyr.
Bydd yr integreiddiad hwn yn gweithio ar fersiwn Blackboard Learn 9.1 SP 10 a fersiynau hŷn.
Nodweddion a manteision
- Mynediad difwlch: Mae mewngofnodi unwaith yn unig yn ei wneud yn fwy cyfleus i chi a'ch myfyrwyr fewngofnodi ar gyfer pob adnodd cwrs.
- Un llyfr graddau, a gaiff ei ddiweddaru’n awtomatig: Caiff graddau pob aseiniad ac asesiad WileyPLUS eu postio’n awtomatig ar Ganolfan Raddau Blackboard Learn, sy’n golygu y bydd gennych chi a’ch myfyrwyr siop un stop i fonitro perfformiad y dosbarth.
- Dolenni uniongyrchol i gynnwys: Mae dolenni uniongyrchol yn galluogi hyfforddwyr i greu dolenni i gynnwys Wiley sy’n diwallu anghenion penodol eu cwrs, gan sicrhau bod gan fyfyrwyr fynediad hwylus i’r adnoddau priodol ar yr adeg iawn.
- Llifoedd gwaith cyfarwydd: Mae mynediad i gynnwys WileyPLUS o fewn ardal cynnwys y cwrs yn ei gwneud yn hawdd dod o hyd i gynnwys a’i fabwysiadu yn eich llif gwaith Blackboard Learn brodorol.
- Preifatrwydd data myfyrwyr: Mae gwybodaeth myfyrwyr yn parhau'n ddiogel trwy gydymffurfio'n llawn â safonau preifatrwydd myfyrwyr, fel Deddf Hawliau a Preifatrwydd Addysg Teuluoedd (FERPA).
Cynhyrchion Wiley integredig
- WileyPLUS: Amgylchedd ar lein sy’n seiliedig ar ymchwil ar gyfer addysgu a dysgu effeithiol, sydd hefyd yn cynnig adnoddau dysgu a chynnwys digidol ar gyfer nifer o ddisgyblaethau. Mae WileyPLUS yn meithrin hyder myfyrwyr gan ei fod yn gwneud astudio yn haws, a hynny trwy rhoi cyfarwyddiadau clir am beth i’w wneud a sut i’w wneud a thrwy roi gwybod i’r myfyrwyr a ydynt wedi gwneud eu gwaith yn iawn ai peidio.
- WileyPLUS Learning Space: Platfform digidol sy’n cymell myfyrwyr i ddysgu’n gyflymach yn annibynnol, ac sy’n rhoi dulliau effeithlon i hyfforddwyr o ddatrys problemau, hwyluso ymgysylltiad a mesur canlyniadau mewn amser real, a hynny er mwyn sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd eu llawn botensial.
Dechrau arni
Gall eich gweinyddwr lawrlwytho a gosod y Bloc Adeiladu Partner Cloud sy’n cynnwys integreiddiad WileyPLUS, a hynny yn rhad ac am ddim. Ar ôl gosod y Bloc Adeiladu Partner Cloud, ac ar ôl ffurfweddu integreiddiad WileyPLUS, gallwch chi ychwanegu cynnwys WileyPLUS at eich cyrsiau ar Blackboard Learn. Mewn ardal gynnwys, dewiswch Content Market o'r ddewislen Cynnwys Partneriaid. Dewiswch Wiley.
Y tro cyntaf y byddwch yn ceisio ychwanegu cynnwys WileyPLUS, gofynnir ichi gofrestru neu fewngofnodi i’ch cyfrif Wiley er mwyn cysylltu’ch cwrs WileyPLUS â’ch cwrs Blackboard Learn. Ar ôl hynny, bydd modd ichi fewngofnodi i WileyPLUS a Blackboard ar yr un pryd, bydd gennych fynediad uniongyrchol o gynnwys WileyPLUS a chaiff graddau eu cysoni â Chanolfan Raddau Blackboard.
Cychwyn arni gydag integreiddiad Wiley
Cael cymorth technegol gan Wiley
Cwestiynau am eich cyfrif, cofrestru neu gefnogaeth gyfadran gyffredinol? Bydd aelod o dîm cymorth Wiley ar gael i helpu.
Cysylltu â thîm cymorth technegol Wiley
Cysylltu â’ch cynrychiolydd o Wiley
Angen cymorth i ddod o hyd i'r deunyddiau cwrs iawn? Bydd eich cynrychiolydd o Wiley ar gael i’ch helpu.