Mae'r wybodaeth hon yn berthnasol i'r profiad Gwreiddiol yn unig. Eich sefydliad sy'n rheoli pa offer sydd ar gael.

Offeryn integreiddio cynhyrchiant ar gyfer Blackboard Learn yw Qwickly sy'n caniatáu i ddefnyddwyr uwchlwytho ffeiliau Dropbox, Google Drive, OneDrive a Box i Blackboard Learn trwy fodiwlau neu offer cwrs. Ar gyfer cyfadrannau, mae modiwl Qwickly yn eich caniatáu i wneud cyrsiau ar gael, anfon e-byst, postio cyhoeddiadau, a phostio cynnwys i gyrsiau lluosog ar yr un pryd. Mae Qwickly yn cysylltu myfyrwyr, gan hwyluso rhyngweithio rhwng grwpiau.

Gallwch ddefnyddio Qwickly i wneud tasgau cyffredin cyrsiau ac i uwchlwytho cynnwys o'r cwmwl. Gallwch hefyd greu aseiniadau a chaniatáu i fyfyrwyr gyflwyno'u gwaith gan ddefnyddio gwasanaethau'r cwmwl megis Google Docs.

Mwy ar sut mae myfyrwyr yn defnyddio Qwickly


Defnyddio'r modiwl

Os yw Qwickly wedi'i alluogi fel offeryn, rhaid i chi ddewis y ddolen i agor modiwl Qwickly. Mae'r swyddogaethau hyn ar gael ym modiwl Qwickly:

  • Argaeledd Cyrsiau: Dewis argaeledd cwrs. Caiff y rhestr o gyrsiau ei reoli gan weinyddwr y system.
  • Postio Cyhoeddiad: Postio cyhoeddiadau i gyrsiau a mudiadau.
  • Anfon E-byst: Anfon e-byst am gyrsiau a mudiadau.
  • Postio Cynnwys: Postio dogfennau neu ddolenni i ardaloedd storio ar y cwmwl mewn cyrsiau a mudiadau.
  • Postio Dolen: Postio URL i gyrsiau a mudiadau.
  • Creu Aseiniad: Creu aseiniadau cwmwl mewn cyrsiau a mudiadau.
  • Eitemau sydd angen eu graddio: Mae hwn yn dangos nifer yr eitemau a gyflwynwyd sydd heb eu graddio eto.

Yn seiliedig ar sawl ymgais rydych yn eu caniatáu, bydd y rhif hwn naill ai'n adlewyrchu ardal Angen Graddio'r cwrs neu beidio.


Defnyddio'r modiwl i ychwanego ffeil o'r cwmwl

  1. Ym modiwl Qwickly, dewiswch Postio Cynnwys.
  2. Bydd ffenestr newydd yn agor lle gallwch deipio enw a disgrifiad ar gyfer y ffeil.
  3. Dewiswch y lleoliad lle gedwir y ffeil, naill ai mewn darparwr storio ar y cwmwl neu ar eich cyfrifiadur.
    • Os byddwch yn dewis darparwr ar y cwmwl, teipiwch eich enw defnyddiwr a chyfrinair.
  4. Dewiswch ffeil a lle rydych eisiau iddi ymddangos yn eich cwrs.
  5. Dewiswch Cyflwyno.

Ychwanegu ffeil o'r cwmwl at gwrs

  1. Mewn cwrs, ewch i'r ardal gynnwys lle rydych eisiau i'r ffeil ymddangos.
  2. Dewiswch Adeiladu Cynnwys > Uwchlwytho Cynnwys o'r Cwmwl yn Gyflym.
  3. Teipiwch enw a disgrifiad ar gyfer y ffeil.
  4. Dewiswch y lleoliad lle gedwir y ffeil, naill ai mewn darparwr storio ar y cwmwl neu ar eich cyfrifiadur.
  5. Dewiswch ffeil.
  6. Dewiswch a ydych am ddangos y ffeil nawr neu beidio, ac a ydych am olrhain y nifer sy'n edrych ar y ffeil.
  7. Dewiswch Cyflwyno.

Ar ôl i chi gyflwyno'r eitem, bydd dolen yn ymddangos yn yr ardal gynnwys.


Creu aseiniad gyda Qwickly

Gallwch greu aseiniad mewn dwy ffordd gyda Qwickly mewn cwrs Blackboard Learn.

Mae aseiniad cwmwl yn defnyddio'ch dogfen ar y cwmwl fel yr eitem mae myfyrwyr yn ei dethol mewn ardal gynnwys. Rydych yn creu aseiniadau cwmwl ar dudalen Aseiniad Cwmwl Qwickly. Nod aseiniadau cwmwl yw bod myfyrwyr hefyd yn cyflwyno'u gwaith fel ffeiliau cwmwl. Mae myfyrwyr hefyd yn gallu uwchlwytho ffeiliau o'u cyfrifiaduron, ond nid oes ganddynt fynediad at y golygydd i gyflwyno cynnwys ychwanegol i gyd-fynd â'u haseiniadau. Mae aseiniadau cwmwl yn ymddangos mewn ardal gynnwys gydag eicon cwmwl er mwyn dynodi i'r myfyriwr eu bod wedi'u storio y tu allan i'r cwrs.

Pan fyddwch yn creu aseiniad yn uniongyrchol o fewn cwrs Blackboard Learn gan ddefnyddio tudalen Creu Aseiniad, rydych yn creu aseiniad brodorol. Golyga hynny eich bod wedi defnyddio meddalwedd Blackboard i ychwanegu cynnwys a phennu'r gosodiadau. Gyda Qwickly, gallwch mewnosod ffeiliau cwmwl i olygydd aseiniad, ond mae'n ymddangos fel dolen y mae'n rhaid i fyfyriwr ei dethol yn hytrach na lansio'n awtomatig. Mae aseiniadau brodorol yn ymddangos yn yr ardal gynnwys fel eitemau normal gydag eiconau i ddangos y math o gynnwys.

Creu aseiniad cwmwl

  1. Mewn ardal gynnwys, dewiswch Aseiniad Cwmwl Qwickly yn newislen Asesiadau.
  2. Teipiwch enw a chyfarwyddiadau.
  3. Dewiswch fan cadw'r ffeil rydych eisiau ychwanegu at yr aseiniad hwn.
  4. Dewch o hyd i'r ffeil a'i hychwanegu.
  5. Dewiswch osodiadau'r aseiniad, megis uchafswm y pwyntiau posib a'r dyddiad dyledus.
  6. Dewiswch Cyflwyno i gadw'r aseiniad.

Mae myfyrwyr yn gallu cyflwyno aseiniadau gan ddefnyddio'r modiwl neu trwy ddewis dolen yr aseiniad cwmwl yn yr ardal gynnwys. Rhad iddynt ddewis eu ffeil cwmwl eu hunain a'i hatodi fel eu cyflwyniad ar gyfer yr aseiniad.

Creu aseiniad brodorol

Gallwch ddefnyddio offeryn cyfuniadau yn y golygydd i ychwanegu eitemau cwmwl at eich aseiniadau Blackboard Learn brodorol.

  1. Agorwch ddewislen Cyfuniadau yn y golygydd i weld yr holl opsiynau.
  2. Dewiswch Llwytho Ffeil o'r Cwmwl gyda Qwickly.
  3. Yn y ffenestr a fydd yn agor, dewiswch le mae'r ffeil wedi'i chadw a dewch o hyd i'r ffeil.
  4. Teipiwch destun ar gyfer y ddolen i'r ffeil.
  5. Dewiswch Cyflwyno er mwyn mewnosod y ddolen yn y golygydd.

Bydd eich ffeil yn ymddangos yn yr ardal gyflwyno aseiniadau os ydych yn ei defnyddio fel dolen at aseiniad cwmwl. Yn yr un modd, os yw myfyrwyr eisiau cyflwyno ffeiliau cwmwl fel rhan o aseiniad Blackboard Learn brodorol, bydd rhaid iddynt ddefnyddio'r modiwl neu offeryn cyfuniadau o fewn y golygydd.