Pearson

Mae gan Blackboard bartneriaeth gyda Pearson i ddarparu mynediad syml at gynnwys digidol MyLab, Mastering neu REVEL yn uniongyrchol o fewn eich cwrs Blackboard Learn, gan wneud cyflwyno'ch cwrs yn haws ac yn fwy cyfleus, a fydd yn arbed amser ichi ac yn eich helpu i greu profiad gwell fyth ar eich cwrs ar gyfer eich myfyrwyr.

Mwy ar MyLab a Mastering

Mwy ar REVEL


Nodweddion a manteision

  • Mynediad difwlch: Mae mewngofnodi unwaith yn unig yn ei wneud yn fwy cyfleus i chi a'ch myfyrwyr fewngofnodi ar gyfer pob adnodd cwrs.
  • Un llyfr graddau y gellir ei ddiweddaru'n hawdd: Mae graddau ar gyfer aseiniadau MyLab a Mastering yn postio'n awtomatig i Ganolfan Raddau Blackboard Learn a gellir cysoni graddau REVEL ar gais, gan roi un lleoliad i chi a'ch myfyrwyr fonitro perfformiad y dosbarth.
  • Llifoedd gwaith cyfarwydd: Mae mynediad i gynnwys Pearson o fewn ardal cynnwys y cwrs yn ei gwneud yn hawdd dod o hyd i gynnwys a’i fabwysiadu yn eich llif gwaith Blackboard Learn brodorol.
  • Preifatrwydd data myfyrwyr: Mae gwybodaeth myfyrwyr yn parhau'n ddiogel trwy gydymffurfio'n llawn â safonau preifatrwydd myfyrwyr, fel Deddf Hawliau a Preifatrwydd Addysg Teuluoedd (FERPA).

Cychwyn arni

Gall eich gweinyddwr Blackboard alluogi MyLab Pearson, Bloc Adeiladu Mastering neu Integreiddiad Partner Cloud REVEL am ddim. Ar ôl gosod a ffurfweddu'r integreiddiad, gallwch ychwanegu Pearson yn hawdd at eich cyrsiau Blackboard Learn. Mewn unrhyw ardal gynnwys, Dewiswch Content Market o ddewislen Cynnwys Partneriaid. Dewiswch Pearson MyLab, Mastering neu REVEL  o'r ddewislen cynnwys sydd ar gael.

Y tro cyntaf i chi ychwanegu cynnwys Pearson, bydd gofyn i chi gofrestru neu fewngofnodi i'ch cyfrif Pearson. Wrth symud ymlaen, bydd y cyswllt hwn yn darparu un lle i fewngofnodi i'r cwrs i chi a'ch myfyrwyr, mynediad uniongyrchol at gynnwys Pearson a chysoniad graddau gyda Chanolfan Raddau Blackboard.

MyLab a Mastering

Adnoddau i gychwyn arni

Fideos

REVEL

Adnoddau i gychwyn arni

Fideos


Cymuned Pearson

Ymunwch â Chymuned Pearson i gael cyngor, rhannu strategaethau, gofyn cwestiynau a chydweithio gyda'ch cyfoedion. Mae aelodau'n gallu rhannu awgrymiadau dysgu, meysydd llafur, nodiadau darlith, deunyddiau cwrs a mwy.

Ewch i'r Pearson MyLab & Mastering Community


Cael cymorth technegol gan Pearson

Cwestiynau am eich cyfrif, cofrestru neu gefnogaeth gyfadran gyffredinol? Mae aelod o dîm cymorth Pearson ar gael i helpu.

Cysylltu â thîm cymorth Pearson


Cysylltu â'ch cynrychiolydd o Pearson

Yn edrych am ragor o wybodaeth am gynnyrch MyLab, Mastering neu REVEL? Mae'ch cynrychiolydd o Pearson ar gael i helpu.

Dewch o hyd i'ch cynrychiolydd o Pearson