Wedi ei chynllunio ar gyfer sefydliadau addysg uwch a rhaglenni estyn, mae Discovery Education Higher Ed yn darparu cynnwys digidol o'r radd flaenaf sydd wedi ei alinio i'r cyrsiau lefel-coleg mwyaf cyffredin. Mae Discovery Education Higher Ed yn cynnig i gyfadrannau a myfyrwyr, amrywiaeth o adnoddau dysgu deinamig sy'n gwella cyfarwyddiadau a gwneud y mwyaf o gyflawniad myfyrwyr, gan gynnwys delweddau, sain, canllawiau dysgu, ac awgrymiadau ysgrifennu. Yn ogystal, mae Discovery Education yn rhoi cyfleoedd datblygu proffesiynol i addysgwyr i gefnogi'r broses o weithredu ac integreiddio cyfryngau a thechnoleg ddigidol barhaus yn effeithiol yn yr ystafell ddosbarth.


Discovery Education Higher Ed a Blackboard Learn

Mae integreiddio llwyfan Discovery Education Higher Ed gyda Blackboard Learn yn ei gwneud yn hawdd i hyfforddwyr ddod o hyd i'r adnoddau perthnasol a'u hymgorffori i mewn i gyrsiau.

Mae integreiddiad Partner Cloud Discovery Education Higher Ed ar gael i gleientiaid sydd ar hyn o bryd â thrwydded Blackboard Learn 9.1, Pecyn Gwasanaeth 10 a hwyrach. Gall eich gweinyddwr lawrlwytho a gosod Bloc Adeiladu Partner Cloud sy’n cynnwys integreiddio â Discovery Education Higher Ed, yn rhad ac am ddim. Fodd bynnag, rhaid prynu trwydded i hyfforddwyr a myfyrwyr gyrchu'r cynnwys a ddarperir gan Discovery Education.

Dysgu mwy am Discovery Education Higher Ed yn https://www.discoveryeducation.com/.


Nodweddion a manteision

Mae nodweddion integreiddio'n cynnwys:

  • Cynnwys digidol o ansawdd uchel o Discovery
  • Cynnwys a ddarperir ar gyfer 23 o'r cyrsiau Addysg Uwch lle ceir y cofrestriadau mwyaf.
  • Wedi eu halinio i gynnwys cwrs traws-gwricwlaidd
  • Diweddariadau cynnwys parhaus
  • Wedi eu hoptimeiddio i weithio gyda phob dyfais, gan gynnwys tabledi.
  • Mynediad i amrywiaeth o adnoddau dysgu ychwanegol i wella cyfarwyddiadau gan gynnwys delweddau, sain, canllawiau dysgu, ac awgrymiadau ysgrifennu.

Peidiwch â cholli'r botwm Rhannu â Blackboard ar gatalog cynnwys ar-lein Discovery Education Higher Ed, sy'n ei gwneud yn hawdd i hyfforddwyr integreiddio'r adnoddau y maent yn eu dewis beth bynnag yw'r amgylchedd y maent ynddo.