Pryd bynnag y mae atodi ffeiliau ar gael yn eich cwrs, gallwch ddefnyddio'r swyddogaeth Pori Cwrs i ddewis ffeil o Ffeiliau Cwrs. Os oes gan eich sefydliad fynediad at yr offeryn rheoli cynnwys, byddwch yn pori am ffeiliau yn y Casgliad o Gynnwys ac yn defnyddio'r swyddogaeth Pori'r Casgliad o Gynnwys.

Mae'r ffenestri Pori Cwrs a Pori’r Casgliad o Gynnwys yn cynnwys tabiau a swyddogaethau fel y gallwch bori a chwilio am ffeiliau'n fwy hwylus.

A yw fy sefydliad yn defnyddio Ffeiliau Cwrs neu’r Casgliad o Gynnwys


Pori Ffenestr Cwrs

  1. Tabiau Pori, Uwchlwytho, a Chwiliad Uwch:
    • Porwch am ffolderi mae gennych fynediad atynt. Os oes gennych Ffeiliau Cwrs, mae gennych fynediad dim ond ar gyfer y cwrs rydych ynddo. Gyda'r Casgliad o Gynnwys, efallai y bydd modd i chi gyrchu ffolderau eraill fel Fy Nghynnwys, Cynnwys y Cwrs, a Cynnwys y Sefydliad.
    • Uwchlwytho un ffeil, ffeiliau lluosog, neu becyn a sipiwyd.
    • Gwnewch chwiliad uwch. Gallwch chwilio enwau ffeil a ffolder, metadata, cynnwys ffeil, sylwadau ffeil, lleoliad, maint, biniau ailgylchu, dyddiad creu, ac awdur.
  2. Gweld Rhestr a Gweld Mân-luniau: Edrychwch ar ffeiliau a ffolderi fel rhestr o enwau ffeil neu fel eiconau mân-lun. Dewiswch y dolenni ar frig y dudalen i newid eich gwedd.
  3. Bar cyfeiriadaeth: Llywiwch i ffolderi eraill gan ddefnyddio'r dolenni ar y bar cyfeiriadaeth.
    • Defnyddiwch y saeth i lawr nesaf at enw ffolder i gyrchu a llywio i'w his-ffolderi.
    • Dewiswch yr eicon ticio i ddewis y ffolder presennol i'w gysylltu â'ch cwrs. Ar ôl ei ddewis, bydd y tic yn troi'n wyrdd.
    • Defnyddiwch yr eicon saeth i fyny i symud un ffolder i fyny i'r rhiant ffolder, os yw'n bodoli.
  4. Chwilio Cynnwys: Gwnewch chwiliad sylfaenol ar gyfer enwau ffeil a ffolder. Nid yw'r chwiliad yn cynnwys opsiynau i chwilio metadata. Gallwch ddewis chwilio yng nghynnwys ffeiliau. Teipiwch y meini prawf chwilio a dewiswch Ewch.
  5. Defnyddiwch y blychau ticio i ddewis ffeiliau a ffolderau i gynnwys yn eich eitem gynnwys. Gallwch ddewis blwch ticio'r pennyn i ddewis pob eitem weladwy. Pan fyddwch yn cysylltu â ffolder, byddwch yn ofalus gan fod myfyrwyr yn derbyn y caniatâd darllen yn ôl rhagosodiad ar holl gynnwys y ffolder. Mae caniatâd darllen yn caniatáu i fyfyrwyr edrych ar yr holl ffeiliau ac is-ffolderi yn y ffolder. Gallwch ddewis teitl pennyn i ddidoli'r golofn.
  6. Dewis Eitemau: Mae'r ffeiliau a'r ffolderi rydych yn eu dewis yn ymddangos yn y maes hwn. Dewiswch y swyddogaeth Dangos Rhestr, sydd wedi'i gynrychioli gan sgwâr lawn, i agor yr ardal Dewis Eitemau i weld eich detholiadau. Pan fyddwch yn agor y maes, mae eicon y sgwâr yn cwympo. I ddileu ffeil neu ffolder dewisedig, dewiswch yr X.